7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Datgarboneiddio trafnidiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:32, 2 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor, roeddwn am ddweud ychydig eiriau, gan fy mod yn credu bod y materion a godwyd yn yr adroddiad o ddiddordeb i bob un ohonom. Mae'r busnes yma yn y Siambr ar hyn o bryd wrth gwrs yn canolbwyntio ar COVID, yn ddealladwy felly, ac efallai mai mynd i'r afael â'r pandemig yw'r pryder uniongyrchol. Ond y tu hwnt i'r pandemig, dros y tymor hwy, mae mynd i'r afael â newid hinsawdd yn parhau i fod yn her allweddol, a gellid dadlau mai dyna her allweddol ein hoes, a rhaid i ddatgarboneiddio fod wrth wraidd hyn. 

Mae'r argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad yn amlygu'r angen am fwy o gapasiti yn y rhwydwaith ynni, os ydym am gyflawni'r uchelgais o newid i gerbydau trydan dros yr ychydig ddegawdau nesaf. Mae cerbydau trydan yn fwy effeithlon a glanach, fel y gwyddom, ond wrth gwrs, mae angen trydan i'w rhedeg, yn hytrach na phetrol neu ddiesel, ac mae'n rhaid cynhyrchu hwnnw rywsut, o ynni adnewyddadwy yn ddelfrydol, i'n hatal rhag gwneud dim mwy na symud y broblem allyriadau o'n trefi a'n dinasoedd i'n gorsafoedd pŵer.  

Ac yna, wrth gwrs, down yn ôl at gwestiwn oesol y seilwaith gwefru trydan, mater rydym yn ei drafod dro ar ôl tro yn y Siambr hon a'r tu allan. Nodir hynny yn argymhelliad 2. Yn amlwg, mae'r seilwaith presennol yn annigonol ar gyfer y fflyd ceir trydan presennol yng Nghymru, heb sôn am fod yn addas i'r diben ar gyfer ehangu yn y dyfodol. Mae gwir angen inni weld newid sylweddol yn y ffordd y darperir y seilwaith gwefru, a bydd hynny'n galw am weithio ar draws portffolios, gan gynnwys newidiadau i'r system gynllunio.

Flwyddyn neu ddwy yn ôl yn unig, gwrthodwyd cais cynllunio ar gyfer gorsaf wefru cerbydau trydan arloesol gerllaw'r A40 yn Nhrefynwy yn fy etholaeth, ar sail torri canllawiau nodyn cyngor technegol 15 ar lifogydd. Nawr, rwy'n derbyn bod meddwl da y tu ôl i lawer o'r canllawiau hyn, ond ar yr un pryd, mae angen inni sicrhau bod hyblygrwydd yn y system os ydym am gael unrhyw obaith o gyrraedd y math o nifer o orsafoedd gwefru sydd eu hangen. 

Ac mae'n ymwneud â mwy na cheir. Gan droi at fysiau, mae Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr y DU wedi awgrymu bod y targedau allyriadau ar gyfer bysiau yn uchel iawn—yn rhy uchel—ac na ellir eu cyflawni heb fuddsoddiad sylweddol. Maent yn gofyn, 'Ble mae'r costau? Ble mae'r manylion?' Fel y dywedodd y Gynghrair Werdd, mae costeffeithiolrwydd trydaneiddio'r fflyd fysiau a'r seilwaith cysylltiedig yn y depo yn dibynnu ar duedd ar i fyny yn y defnydd o fysiau—tuedd nad yw yno ar hyn o bryd yn ystod y pandemig yn sicr, a gellid dadlau nad oedd yno yn y cyfnod cyn hynny ychwaith. Felly, mae yna ffactorau sy'n cymhlethu ar gyfer y diwydiant bysiau hefyd.

Sylwaf ar dudalen 30 yr adroddiad fod James Price, ar ran Trafnidiaeth Cymru, wedi dweud bod modelu trafnidiaeth a'r agenda integreiddio yn allweddol i ddatrys yr holl faterion hyn. Wel, unwaith eto, mae integreiddio yn y system trafnidiaeth gyhoeddus yn rhywbeth y buom yn sôn amdano cyhyd ag y gallaf gofio yn y Siambr hon. Mae'n syniad gwych mewn egwyddor. Cofiaf yn ôl i'r adeg pan ddaeth James Price i'r—pan oeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf, ac fe ddaeth, ac ni allaf gofio pa dyst ydoedd, ond dywedodd un ohonynt fod integreiddio'n syniad gwych mewn egwyddor, ond yn drybeilig o anodd ei gyflawni'n ymarferol. Wel, dyma ni, rai blynyddoedd ar ôl hynny, ac nid ydym wedi cyflawni'r integreiddio hwnnw o hyd, y system debyg i Oyster sydd ganddynt yn Llundain y buom yn edrych arni yma unwaith. Gobeithio, un diwrnod, y byddwn yn llwyddo i integreiddio. Mae'n amlwg o ddarllen yr adroddiad hwn fod hynny'n hanfodol, ac yn rhan o'r ateb er mwyn llwyddo i ddatgarboneiddio a datrys problem newid hinsawdd.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rhaid inni ymdrechu i integreiddio, ynghyd â thrydaneiddio trafnidiaeth breifat a thrafnidiaeth gyhoeddus—sy'n allweddol i ddatgarboneiddio. Rwy'n falch iawn fod yr adroddiad hwn wedi'i gyflwyno i'r Siambr heddiw ac rwyf am ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor a'r pwyllgor am y gwaith a wnaethant ar hyn. Mae wedi bod yn ddeunydd darllen diddorol fel un nad yw'n aelod o'r pwyllgor. Mae llawer o bethau diddorol yma sy'n rhaid eu gwthio ymlaen os ydym am gyflawni ein nodau, cyrraedd targedau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a sicrhau dyfodol glanach, gwyrddach a mwy cynaliadwy.