Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Hyd yn hyn, mae pawb wedi siarad cryn dipyn am COVID a'r hyn y mae wedi'i ddweud wrthym, ond nid oes neb wedi sôn am yr eliffant yn yr ystafell, sef diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd, sy'n digwydd mewn llai na mis. Yn yr amser byr hwnnw, mae'n bosibl y byddwn yn wynebu'r chwyldro mwyaf aruthrol yn ein cadwyni cyflenwi bwyd, a fydd yn gwneud i giwiau archfarchnadoedd mis Mawrth edrych fel te parti mewn cymhariaeth.
Felly, rwy'n glir fod cynllun gweithredu diwedd cyfnod pontio Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod ffrwythau a llysiau yn debygol o gael eu tarfu—rydym yn hoffi meddwl am Brydain fel gwlad werdd a dymunol, ond caiff y rhain eu mewnforio'n bennaf o'r UE, yn enwedig yn y gaeaf. Ni fyddwn yn newynu, ond bydd y dewis yn gyfyngedig, mae prisiau bron yn sicr o godi, ac ysbytai, cartrefi gofal ac ysgolion, yn ogystal â'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned, sydd hefyd wedi cael eu heffeithio waethaf gan y pandemig, yw'r rhai sy'n debygol o ddioddef fwyaf o brinder bwyd ffres.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gorau glas i weithio gyda busnesau bwyd i osgoi argyfwng, dywedir wrthym, ac rwy'n siŵr yr hoffem wybod llawer mwy am hynny. Rwyf wedi ceisio cael gwybodaeth gan y pedair archfarchnad fwyaf yn y wlad, ond dywedant fod cyfrinachedd masnachol—neu dyna mae Tesco yn ei ddweud o leiaf—yn eu hatal rhag dweud wrthym beth yn union yw eu cynlluniau, o gofio nad yw eu model 'mewn union bryd' yn mynd i weithio yn y senario hon o gwbl.
Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi rhybuddio, er bod cynnydd wedi bod yn adrannau Llywodraeth y DU, ei bod yn dal yn debygol y bydd tarfu eang yn digwydd o 1 Ionawr. Mae Tŷ'r Arglwyddi wedi rhybuddio yn yr un modd; mae cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd y DU wedi rhybuddio hyn. Llywodraeth y DU a benderfynodd beidio â gofyn am estyniad i'r cyfnod pontio, oherwydd ei bod yn ymddangos bod y Maöyddion yn Llywodraeth y DU yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r newid mwyaf yn ein perthynas fasnachu yn yr amgylchiadau mwyaf anffodus, yng nghanol y gaeaf ac yng nghanol pandemig. Y brwdfrydedd hwnnw dros yr hyn y maent yn ei alw'n 'doriad glân' yw'r hyn a allai eu gweld eto'n mynd â ni dros ymyl y dibyn i adael yr UE heb gytundeb.
Gyda phedair wythnos i fynd cyn diwedd y cyfnod pontio, mae masnachwyr a darparwyr logisteg yn dal i aros am lawer o'r wybodaeth ac eglurder gan y Llywodraeth, ac maent wedi'u syfrdanu lawn cymaint ynglŷn â'r diffyg cysondeb ym mholisi'r Llywodraeth. Mae Duncan Buchanan, cyfarwyddwr polisi'r Gymdeithas Cludo Nwyddau, wedi dweud ei fod, o fis Ionawr ymlaen, yn disgwyl rhywbeth 'rhwng arswydus a thrychinebus.' Gallai gymryd hyd at wyth wythnos i nwyddau ddod i mewn ar lorïau pan fyddwn yn adfer rheolaeth ar ein ffiniau, ac mae'r holl dystiolaeth yn dynodi y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio beio pawb ond eu hunain am y sefyllfa hon.
Mae llythyr a ddatgelwyd yn answyddogol gan Weinidog Swyddfa'r Cabinet, Michael Gove, at sefydliadau logisteg, yn rhoi'r bai arnynt hwy ac yn dweud mai'r cwmnïau sydd ar fai am giwiau o hyd at 7,000 o lorïau drwy beidio â bod wedi paratoi. Mae'n tybio, pan fydd cerbydau nwyddau trwm yn sylweddoli y bydd yn rhaid iddynt gydymffurfio â'r rheoliadau newydd, y bydd y ciwiau'n diflannu dros amser. Mae'n siŵr mai dyna pam y maent yn adeiladu parc lorïau 27 erw yng Nghaint.
Mae'r rhybuddion hyn wedi dod gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach. Disgrifiodd un arbenigwr bwyd wrthyf, 'Nid oes dim yn barod, ni fydd dim yn gweithio. Disgwylir y bydd system gyfan mewnforio ac allforio'n chwalu, ac ar ben tywydd gwael a COVID, bydd yn drychineb a grewyd gennym ni ein hunain.'
Felly, mae'n rhaid canolbwyntio ar hyn nawr. Mae rhai awgrymiadau rhagorol yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan y WWF, ond rhaid inni wneud rhywbeth nawr. Rhaid inni sicrhau ein bod yn cynyddu ein garddwriaeth yn aruthrol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grantiau bach o rhwng £3,000 a £12,000 i wneud hynny, ac mae Gweinidog yr economi wedi darparu dros £400,000 o grant economi sylfaenol ar gyfer tyfu mewn amgylchedd rheoledig, a elwir hefyd yn hydroponeg. Mae'n ymddangos i mi mai dyna'r union fath o beth sydd angen i ni ei ddatblygu nawr.
Mae angen inni atal awdurdodau lleol rhag gwerthu ffermydd sirol, sy'n un o'r ffyrdd y down o hyd i newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth, oherwydd mae arnaf ofn fy mod yn anghytuno â Janet Finch-Saunders y gallwn ddal ati gyda'r un hen system sydd gennym ar hyn o bryd, a sicrhau na all pobl fod mewn unrhyw ffordd—. Mae angen iddynt—. Mae angen i ffermwyr gynnal cynhyrchiant; ni allwn danseilio hynny. Mae'n rhaid i ni newid y ffordd rydym yn gwneud pethau, oherwydd ein hargyfwng natur heb sôn am unrhyw beth arall, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym fwyd lleol i bobl leol, er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr enillion iechyd cyhoeddus y mae angen i ni eu gweld yn ystod y cyfnod nesaf.
Felly, bydd y materion hyn yn cael eu trafod ymhellach yn y grŵp trawsbleidiol ar fwyd yfory, ac yn amlwg, byddwn yn awyddus iawn i weld unrhyw un ohonoch sy'n gallu dod draw, a sicrhau bod gennym bolisi bwyd gwell ar gyfer ymdrin â'r materion hyn yn y chweched Senedd.