1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Rhagfyr 2020.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r brechlyn COVID-19 ym Merthyr Tudful a Rhymni? OQ56023
Diolch i Dawn Bowden am hynna. Mae cynlluniau ar waith i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddefnyddio'r brechlyn ar unwaith, yn unol â'r amserlen ar gyfer darparu brechlynnau a chyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Cyn i mi symud ymlaen at y brechlyn, a gaf i ddiolch unwaith eto i'r rhai a gymerodd ran yn her logistaidd enfawr y rhaglen arbrofol profi torfol ym Merthyr Tudful? Mae'r profion hyd yma wedi nodi tua 22,000 neu fwy o bobl asymptomatig drwy'r rhaglen brofi, a nodwyd oddeutu 280 o achosion positif—pobl na fyddan nhw yn y gymuned yn lledaenu'r feirws mwyach. Felly rydym ni'n credu bod hynny tua 50 y cant o'r boblogaeth gymwys, ac yn fy marn i, mae hynny'n dangos bod y cynllun arbrofol hwn wedi bod yn llwyddiant mawr.
Ond wrth i ni symud ymlaen at gyflwyno'r brechlyn, roeddwn i eisiau pwysleisio pa mor bwysig yw dysgu o'r gorffennol ym maes gofal iechyd a bod angen i ni, wrth gyflwyno'r brechlyn, osgoi'r hyn yr ydym ni'n cyfeirio ato'n aml fel 'y ddeddf gofal gwrthgyfartal'. Nawr, er ei bod yn iawn i flaenoriaethu staff iechyd a gofal rheng flaen a dinasyddion agored i niwed ledled y wlad yn nhonnau cyntaf y brechiadau, byddwn yn symud ymlaen i'r boblogaeth gyffredinol wedyn. Rwy'n gobeithio yn y rhaglen frechu y cydnabyddir bod angen rhoi sylw arbennig i'r ardaloedd hynny, fel fy etholaeth i, sydd wedi cael eu taro galetaf gan COVID, o ran nifer yr achosion, ond hefyd o ran effaith economaidd. Felly, a wnewch chi gadarnhau y rhoddwyd ystyriaeth i hyn yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno'r brechlyn ac a wnewch chi sicrhau na fydd y rhaglen yn mynd yn groes i'r ddeddf gofal gwrthgyfartal?
Llywydd, diolchaf i Dawn Bowden am hynna. A gaf innau, hefyd, ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymdrech wych honno ym Merthyr o ran y profion torfol, ond hefyd y prynhawn yma, Llywydd, yn arbennig, hoffwn i ddiolch i'r holl bobl hynny yn ein gwasanaeth iechyd sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglen frechu? Mae gwaith enfawr wedi ei wneud yn gyflym iawn dros yr wythnosau diwethaf i ddarparu'r cymorth logistaidd, y cludiant, y man storio, y ddarpariaeth ymlaen o'r brechlyn, a heddiw rydym yn gweld ffrwyth hynny ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr ac o bell heddiw yn dymuno diolch i'r rhai sydd wedi gwneud hynny'n bosibl.
Diolchaf i Dawn Bowden am godi'r pwynt pwysig hwnnw am y ddeddf gofal gwrthgyfartal. Bydd hi'n gwybod mai brechu yw un o rannau cymharol brin y byd iechyd sydd â nodweddion gwrthgyferbyniol i'r ddeddf gofal gwrthgyfartal. Rwy'n cofio pan oeddwn i'n Weinidog Iechyd, a'r Aelod yn cynrychioli gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd, cyflwynwyd y brechlyn HPV gennym ar gyfer menywod ifanc 14 oed a hŷn. Roedd y niferoedd mwyaf a fanteisiodd arno yng Nghymru gyfan ym Merthyr Tudful a'r niferoedd isaf oll yn Sir Fynwy. Ac, yn rhyfedd iawn, mae'r ffigurau hynny yn parhau hyd heddiw. Yn sir Fynwy mae 77 y cant yn manteisio ar HPV ac mae 91 y cant yng Nghwm Taf Morgannwg yn manteisio ar HPV. Felly, mae brechu yn un o'r pethau cymharol brin hynny lle nad yw'n ymddangos bod y ddeddf gofal gwrthgyfartal yn berthnasol. Mae'n bwysig iawn nad yw'n berthnasol o ran y brechlyn hwn. Mae'r ffaith bod amserlen y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar gyfer cyflwyno'r brechlyn yn canolbwyntio ar oedran a bregusrwydd clinigol yn golygu, rwy'n credu, y caiff yr effaith ei theimlo gyflymaf yn y rhannau hynny o Gymru lle mae gennym ni grynodiadau uwch o boblogaethau hŷn, tlotach a mwy sâl. Ac mae hynny'n golygu, gobeithio, y byddwn ni'n gweld niferoedd uwch o'r poblogaethau hynny, gan gynnwys yn yr etholaeth a gynrychiolir gan Dawn Bowden—y byddan nhw'n gweld mantais y brechlyn hwn yn gyntaf. Ac, o gofio'r nodweddion, ac o gofio cyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, dyna ddylai ddigwydd hefyd.
Diolch i'r Prif Weinidog.