Paratoadau Brexit

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith paratoadau Brexit ar Ferthyr Tudful a Rhymni? OQ56011

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:53, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd gadael y cyfnod pontio, hyd yn oed gyda chytundeb, yn arwain at oblygiadau dwfn i fusnesau a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys Merthyr Tudful a Rhymni. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth i baratoi, ac mae ein cynllun gweithredu ar gyfer diwedd y cyfnod pontio yn nodi'r materion a wynebwn a'r camau rydym yn eu cymryd i gefnogi Cymru. Byddwn yn annog pawb yng Nghymru i ymweld â gwefan Paratoi Cymru i gael cyngor ar sut i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Ac ers cryn dipyn o amser, rydym i gyd wedi bod yn aros am fanylion hanfodol bwysig cytundeb parod i'w bobi y Prif Weinidog, nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd, fel y mae pawb ohonom yn gwybod bellach. Ac fel y nodwyd eisoes, rydym yn dal i aros am fanylion ynglŷn â sut y bydd Cymru'n elwa'n benodol o'r gronfa ffyniant gyffredin ddi-ddal.

Yn fy etholaeth i, fel llawer o rai eraill yng Nghymru, mae gennyf gyflogwyr mawr sy'n masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd. Maent yn dibynnu ar gyflenwadau sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd i Ferthyr Tudful a Rhymni. Wrth i 2020 ddirwyn i ben, a fyddech yn cytuno nid yn unig ein bod yn wynebu sefyllfa draed moch, ond dyfodol ansicr iawn hefyd i lawer o swyddi yn ein cymunedau, oherwydd bod Prif Weinidog y DU wedi dweud celwydd wrth bobl y wlad hon? Ac a allwch chi ddweud wrthyf beth yw'r sylwadau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i helpu i sicrhau nad yw etholaethau fel fy etholaeth i yn cael eu gadael ar ôl yn llanastr Brexit?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:54, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Credaf fod cwestiwn Dawn Bowden yn mynd i wraidd y mater yma. Rydym yn wynebu sefyllfa heddiw, lai na mis cyn diwedd y cyfnod pontio, pan nad oes yr un ohonom yn y Siambr hon yn gwybod ar ba sail y byddwn yn cynnal ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr. Gwn fod busnesau a sefydliadau'n gweiddi am y sicrwydd hwnnw yn ei hetholaeth a ledled Cymru, ac yn ofni'r canlyniad, yn arbennig, o adael heb unrhyw fath o berthynas fasnachol. Yr aflonyddwch enfawr a'r niwed economaidd a ddaw yn sgil hynny; mae'n anodd goramcangyfrif y risgiau y byddwn yn eu hwynebu. Bydd cyflogwyr yn ei hetholaeth, yn fy etholaeth i, ac mewn etholaethau eraill yn gwybod eisoes y byddant yn wynebu costau ychwanegol am ddatganiadau tollau, gwaith papur tollau a biwrocratiaeth newydd, ond maent yn aros i gael gwybod a fydd yn rhaid iddynt dalu tariffau nawr, sut y caiff eu cynnyrch ei drin, sut y bydd rhannau cydrannol yn y cadwyni cyflenwi y soniodd amdanynt yn cael eu trin, a sut y caiff safonau eu trin yn eu trefniadau masnach rhyngwladol. Mae'r rheini i gyd yn hanfodol i'r ffordd y mae busnesau'n ymddwyn ac yn hollbwysig, yn gosod costau sylweddol ar y ffordd y mae busnesau a chyflogwyr yn masnachu. Felly, rwy'n gwybod y byddai'n gobeithio, fel finnau, y gellir cytuno ar berthynas fasnachu, ond bydd hefyd yn gwybod, fel y gwn i, na fydd y berthynas fasnachu honno o'r ansawdd sydd ei angen ar y pwynt hwn i roi cyflogwyr ac allforwyr yng Nghymru yn y sefyllfa orau bosibl.