Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn, Llywydd. Mae busnesau yn Ynys Môn wedi derbyn gwerth bron i £30 miliwn o grantiau cymorth gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, heb gynnwys cam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd. Bydd difrod economaidd Brexit heb gytundeb lawer yn waeth na'r anawsterau y mae busnesau ar yr ynys yn eu hwynebu yn sgil COVID-19.