Cymorth i Fusnesau Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 15 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:23, 15 Rhagfyr 2020

Dwi'n cyd-fynd, yn sicr, ar y rhagolygon hynny, yn anffodus. O ran COVID, un sector sydd wedi dioddef yn drwm iawn ydy'r sector lletygarwch a thwristiaeth sy'n cael eu taro'n galed eto gan y cyfyngiadau diweddaraf, wrth gwrs. Mae llawer wedi penderfynu cau yn gyfan gwbl. Yn gyntaf, a all y Prif Weinidog ddweud wrthon ni pa bryd y gallan nhw ddechrau derbyn y taliadau grant diweddaraf? Achos er bod y cwsmeriaid yn gorfod cadw draw, mae'r biliau, wrth gwrs, yn dal angen eu talu.

Mae yna fusnesau eraill sydd ddim wedi gallu gweithredu o gwbl, mwy neu lai, ers mis Mawrth, a dim syniad pryd fyddan nhw'n gallu dechrau chwaith—busnesau mewn digwyddiadau, priodasau, canolfannau awyr agored; mae eraill yn gorfod mynd i gysgu rŵan am y gaeaf. Cwmni cychod cyflym ar y Fenai, er enghraifft, oedd wedi gwerthu nifer dda o docynnau ar gyfer y Nadolig rŵan yn gorfod talu'r arian hwnnw yn ôl. Pa ystyriaeth arbennig sy'n cael ei roi i fusnesau felly sydd mwy neu lai yn mynd i aeafgwsg, neu hibernation, rŵan, hyd y gallwn ni ei rhagweld?

Ac a gaf i hefyd wneud apêl ar ran y busnesau hynny sy'n dal yn disgyn rhwng y craciau am gymorth ariannol? Mae peidio â thalu cyflogau drwy PAYE neu ddim bod wedi cofrestru ar gyfer treth ar werth yn dal yn broblem i lawer. Un arall wedi methu dangos maint ei golledion o, er bod incwm wedi 'collapse-io' yn llwyr, mwy neu lai, eleni—cwmni tripiau cychod ydy hwnnw. A gaf i ofyn sut mae'r Llywodraeth wedi, neu yn mynd i, wneud mwy i adnabod y bylchau mae busnesau'n dal i ddisgyn trwyddyn nhw, a sut gallwn ni fel Aelodau'r Senedd helpu i basio gwybodaeth am y trafferthion mae busnesau yn eu hwynebu o hyd?