Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolch, Gweinidog. Darllenais adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen o dan arweiniad Gaynor Legall gyda diddordeb. Gan fod henebion perthnasol wedi eu nodi erbyn hyn, mae gen i ddiddordeb mewn clywed eich cynlluniau ar gyfer y camau nesaf, a'ch asesiad o sut y bydd y camau hynny yn effeithio ar gydlyniant cymunedol yn fy rhanbarth i, ac yng ngweddill Cymru yn wir. Diolch.