Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ac rwy'n siŵr y byddai wedi croesawu'r archwiliad a gynhaliwyd, o dan arweiniad Gaynor Legall, yn edrych ar yr henebion hynny a hefyd enwau strydoedd, ac yn cydnabod hefyd nid yn unig bod yn rhaid i ni roi sylw i'r materion hyn, ond hefyd mae'n rhaid i ni edrych ar sut y gallwn ni ddathlu'r rhai sydd wedi chwarae rhan mor bwysig—yn enwedig o ran pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y gymuned, ac yn wir o ran safbwyntiau hanesyddol. Ond rwyf i hefyd yn falch iawn y bydd ein pwyllgor diwylliant ein hunain yn cynnal ei ymchwiliad ei hun ac yn gwneud gwaith dilynol ar yr adolygiad hwnnw.