– Senedd Cymru am 7:16 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch. Symudwn yn awr at eitem 11, sef y ddadl fer a drefnwyd ar gyfer heddiw, a galwaf ar Neil Hamilton i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis.
Diolch, Lywydd dros dro, ac rwy'n falch iawn o fod yn ôl yn y Siambr am y tro cyntaf ers mis Mawrth, er fy mod yn ymddiheuro i fy hen gyd-aelod seneddol, y Gweinidog, am ei gadw yma mor hwyr yn y dydd. Ond rwy'n falch iawn o'i weld, ac ni allaf feddwl am neb gwell i ateb y ddadl hon.
Mae'r ddadl hon yn codi, fel y mae pawb yn sylweddoli mae'n siŵr, o'r ymgyrch wleidyddol gan gefnogwyr y grŵp pwyso Marcsaidd Mae Bywydau Du o Bwys i gael gwared ar gerflun Syr Thomas Picton o Neuadd y Ddinas Caerdydd, a'r obelisg coffa o Deras Picton, neu gerllaw Teras Picton yng Nghaerfyrddin. Nid yw'r ymgyrch hon yn ddim llai nag ymgais i ddileu rhan bwysig o hanes Cymru. Yn fy marn i, byddai dileu'r naill neu'r llall o'r henebion hyn yn weithred o fandaliaeth ddiwylliannol a chelfyddydol. Mae'r ddwy wedi'u rhestru a'u diogelu gan Cadw fel henebion o arwyddocâd hanesyddol, artistig a phensaernïol. Mae'r cerflun yn Neuadd y Ddinas yn strwythur rhestredig gradd I, ac mae'r obelisg yn strwythur rhestredig gradd II. Mae'r cerflun yn Neuadd y Ddinas yn rhan annatod o'r 11 cerflun o arwyr Cymreig sydd yn y neuadd farmor, ac mae'r neuadd farmor hefyd yn adeilad rhestredig gradd I. Ac mae'r ensemble—y neuadd a'r cerfluniau gyda'i gilydd—hefyd yn strwythur rhestredig gradd I ac felly'n arwyddocaol iawn. Yn wir, fel yr esbonia gwefan Neuadd y Ddinas Caerdydd ei hun, gwahoddwyd awgrymiadau ar gyfer testunau'r cerfluniau hyn 100 mlynedd yn ôl o bob rhan o Gymru, ac mae pob cerflun yn waith gan gerflunydd gwahanol. Ac arwr o'r ugeinfed ganrif, David Lloyd George, a oedd bryd hynny'n Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel, ond a fyddai'n dod yn Brif Weinidog yn fuan wedi hynny, a ddadorchuddiodd y cerfluniau, ac arddangosir paentiad o'r seremoni honno yn y neuadd. Dewiswyd 11 arwr Cymru—a chasgliad amrywiol iawn ydynt—gan y Cymry mewn cystadleuaeth agored, cystadleuaeth a gynhaliwyd gan y Western Mail, ac nid y trethdalwyr a dalodd am y cerfluniau; talwyd amdanynt drwy rodd haelionus gan yr Arglwydd Rhondda.
Nawr, mae casgliad o bobl ddibwys sydd wedi'u cymell yn wleidyddol ar Gyngor Dinas Caerdydd eisiau fandaleiddio'r cysyniad artistig hwn drwy gael gwared ar gerflun Picton. Mae'r arwyr eraill yn cynnwys Buddug a Harri VII, ac nid wyf yn credu bod yr un ohonynt, yn ôl yr hyn a wyddys yn gyffredinol, yn rhyddfrydwr 'woke' o'r ugeinfed ganrif, ac yn wir, roedd y ddau'n lladd eu gwrthwynebwyr yn ddiwahân. Felly, pa mor hir fydd hi cyn i'r bobl ddibwys hyn symud ymlaen atynt hwy i godi cerflun eu harwr, George Floyd, yn eu lle, un a wnaeth yrfa o droseddu a rhywun oedd yn delio cyffuriau? Pam y gwnaeth y Cymry ddewis mewn pleidlais rydd i goffáu Syr Thomas Picton fel un o'r 11 arwr? Wel, ef oedd y swyddog uchaf i gael ei ladd ym mrwydr Waterloo. Roedd yn is-gadfridog, ac fel roedd adroddiad Wellington ar y pryd yn ei gofnodi,
Syrthiodd yn llawn golud wrth arwain ei adran i frwydr â'u bidogau, lle cafodd un o'r ymosodiadau mwyaf difrifol a wnaed gan y gelyn ar ein safle ei drechu.
Roedd Picton yn ddyn dewr ac eofn, a'i eiriau olaf wrth arwain ei ddynion i'r frwydr oedd, 'Charge, charge, hurrah, hurrah'. Yn rhyfeddol, ddeuddydd cyn hynny, yn y frwydr bwysig arall cyn Brwydr Waterloo, yn Quatre Bras, roedd wedi cael ei saethu yn ei glun gan belen fysged ac roedd mewn cryn boen. Ond fe guddiodd hynny. Yr unig berson a hysbysodd am y clwyf oedd ei was. Ni cheisiodd unrhyw gymorth meddygol o gwbl, rhoddodd rwymyn ar y clwyfau a pharhau i ymladd.
Yn y blynyddoedd cyn y dewrder a ddangosodd yn Waterloo, chwaraeodd ran ganolog yn y ffordd i Waterloo, drwy Sbaen, yn y rhyfel y Penrhyn. Ac rwy'n meddwl ei fod yn elfen arwyddocaol iawn wrth orfodi'r Ffrancwyr allan o Sbaen, lle roedd Napoleon, wrth gwrs, wedi gosod ei frawd yn frenin. Ac mae'r brwydrau y chwaraeodd Picton ran mor bwysig ynddynt yn cael eu coffáu ar yr obelisg yng Nghaerfyrddin: brwydrau Bussaco, Fuentes de Oñoro, Badajoz—a oedd yn frwydr ofnadwy iawn; cafodd ei glwyfo'n ddifrifol yno hefyd. Ond nid oedd am adael y rhagfur, a'r diwrnod wedyn, ar ôl etifeddu ffortiwn ychydig cyn hynny ar ôl ennill y frwydr, rhoddodd gini i bob un o'i ddynion a lwyddodd i oroesi, swm sylweddol yn y dyddiau hynny. Yna, aeth adref o'r fyddin wedi'i anafu, ond dychwelodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ymladd brwydrau Victoria, ac i ymladd drwy'r Pyreneau. Roedd hyn yn rhan bwysig iawn o orfodi Napoleon yn ôl i Waterloo a'i ddinistr ei hun yn y pen draw. Dyfarnwyd y KCB i Picton a daeth yn Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Penfro.
Ar ôl iddo gael ei ladd yn Waterloo, cafodd ei gorff ei gludo adref gan gatrawd o filwyr a gymerodd dros wythnos i fynd o Deal, lle gwnaethant lanio, i Lundain, lle cafodd ei gladdu yn gyntaf yn eglwys Sant Siôr, Sgwâr Hanover, ond codwyd heneb gyhoeddus drwy orchymyn y Senedd yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul. Pan fu farw Wellington yn 1852, penderfynwyd datgladdu Picton o eglwys Sant Siôr, Sgwâr Hanover, a chafodd ei gladdu eilwaith yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, lle mae'n gorwedd hyd heddiw.
Wrth gwrs, roedd yna agweddau dadleuol yn perthyn i'w fywyd, ac roeddent yn hysbys ar y pryd, pan oedd yn Llywodraethwr Trinidad. Ond ei amddiffyniad i'r cyhuddiadau yn ei erbyn oedd ei fod yn gweithredu dan orchmynion ei uwch swyddog, Abercromby, a ddywedodd fod yn rhaid iddo weinyddu'r gyfraith yn ôl cyfreithiau Sbaen wedi i Brydain gipio Trinidad oddi wrthi ychydig cyn hynny.
Ond mae hanes fel bwrdd gwyddbwyll, ac mae'n rhaid inni dderbyn y da gyda'r drwg—y sgwariau du yn ogystal â'r sgwariau gwyn. Enillodd Guy Gibson Groes Fictoria am ysbail y 'dambusters', ond fel y gŵyr pawb, roedd ganddo gi o'r enw Nigger, ac a fyddai hynny'n ei wahardd, yn yr un modd, rhag cael ei goffáu heddiw? Wel, nid wyf yn meddwl hynny. Nid oes neb yn cymeradwyo defnyddio geiriau fel hynny mwyach, ond rhaid inni gydnabod bod y dynion hyn yn perthyn i'w hoes, yn eu gwahanol ffyrdd, a chredaf fod rhaid derbyn hynny.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn inni goffáu arwyr Cymreig a Phrydeinig, oherwydd mae hanes cenedl yn diffinio'r genedl honno, ac nid yw rhwygo pob cyfeiriad y teimlwn ei fod yn anghyfleus heddiw i'n hanes a'n treftadaeth wych yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo yn fy marn i. Dylid barnu hanes bob amser yn ei gyd-destun ei hun, a dylid trin cymhellion y rhai sy'n barnu hanes yng nghyd-destun heddiw gydag amheuaeth, oherwydd yn amlach na pheidio, fel yn yr achos hwn, cymhellion i gyflawni rhyw fath o nod gwleidyddol fyddant, nid i ddiwygio naratif hanesyddol.
Mae'r rhain yn bobl wych sy'n cael eu coffáu am y pethau gwych a wnaethant yn ystod eu hoes, ac ni fydd cael gwared ar gerfluniau problemus yn dileu cyfnodau poenus ein gorffennol wrth gwrs. Mae'n ymddangos nad oes unrhyw gerflun yn ddiogel. Rwyf wedi siarad am Picton, a pharadocs Picton yw bod y dyn yr oedd yn ymladd yn ei erbyn, Napoleon, wedi ailgyflwyno caethwasiaeth i India'r Gorllewin yn 1802, wedi iddo gael ei ddiddymu'n wreiddiol gan Lywodraeth y Chwyldro yn 1794. Ac felly, yn y pen draw, buddugoliaeth Waterloo, y chwaraeodd Picton ei hun ran arwyddocaol ynddi, oedd yn gyfrifol am ddiddymu caethwasiaeth yn India'r Gorllewin. Ac felly, onid yw hwnnw'n rheswm arall pam y dylem goffáu Syr Thomas Picton?
Mae'r gwrthgyferbyniad â Ffrainc yn arwyddocaol iawn, wrth gwrs. Er bod gennym bobl yn y wlad hon sydd am gael gwared ar henebion i Picton, mae Napoleon yn dal i orwedd yn gyhoeddus yn yr Hôtel des Invalides, ac fe'i hystyrir yn un o'r Ffrancwyr mawr, er iddo geisio caethiwo Ewrop gyfan.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi targedu Winston Churchill fel rhywun sydd efallai'n broblemus—y dyn a ymladdodd yn erbyn hiliaeth a ffasgaeth ar ffurf Natsïaeth ac yr ysbrydolodd ei areithiau mawr yn 1940 a wedyn y wlad i sicrhau llwyddiant yn y pen draw a dinistr Natsïaeth. Yr Arglwydd Nelson, hefyd. Mae yntau'n gocyn hitio, er nad oedd ganddo unrhyw gysylltiadau ystyrlon â chaethwasiaeth a llwyddodd i barlysu tra-arglwyddiaeth forol Ffrainc a Sbaen yn Trafalgar. Newidiodd y tri ffigur hanesyddol hyn yn unig dirwedd Prydain a heb eu buddugoliaethau yn y rhyfeloedd Napoleonaidd a'r ail ryfel byd, byddai Prydain wedi syrthio dan bwerau unbenaethol milwriaethus Ewropeaidd.
Mae Llafur Cymru, yn fy marn i—ac nid Llafur Cymru yn unig, ond hwy yw'r Llywodraeth, wrth gwrs—yn creu problemau gweladwy yn y gymdeithas heddiw gyda'u harchwiliad o'r cerfluniau hyn. Nid yw'n syndod fod 55 y cant o oedolion y DU mewn arolwg diweddar yn credu bod Mae Bywydau Du o Bwys wedi cynyddu tensiynau hiliol, a bod 44 y cant o leiafrifoedd ethnig hefyd yn credu bod Mae Bywydau Du o Bwys wedi cynyddu tensiynau hiliol. Ac mae hyn yn bwydo i mewn i'r diwylliant canslo ehangach sy'n goresgyn y gymdeithas orllewinol, fel y mae Brendan O'Neill, golygydd y cylchgrawn Spiked, yr arferwn danysgrifio iddo pan gâi ei alw'n Living Marxism, yn ei ddisgrifio fel hyn: 'Mae'r elîtiaid 'woke' wedi cychwyn rhyfel neo-Maoaidd ar y gorffennol.' Rydym wedi gweld mynegiant eithaf hynny, wrth gwrs, yn Cambodia, lle gwnaethant droi'r cloc yn ôl i'r flwyddyn sero, a chanlyniad hynny oedd y caeau lladd. Wel, nid wyf yn cymharu uchelgeisiau'r rhai sydd am gael gwared ar y cadfridog Picton â Pol Pot yn Cambodia, ond serch hynny, rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig y dylid ei ystyried.
Ceir diwylliant gwenwynig a gyflwynwyd gan syndrom Mae Bywydau Du o Bwys, os caf ei roi felly, sydd wedi golygu na all pobl fynegi eu barn yn ddiogel ar-lein mwyach. Maent yn peryglu eu swyddi yn syml am eu bod yn ymfalchïo yn eu treftadaeth neu'n sefyll dros eu treftadaeth. Gallaf roi un enghraifft i chi. Roedd yna ddyn yn chwifio baner 'White Lives Matter' uwchben clwb pêl-droed Burnley. Collodd ei swydd o ganlyniad. Tynnodd Manx Radio Stu Peters oddi ar yr awyr ar ôl iddo gwestiynu'r syniad o fraint pobl wynion. Rwyf wedi cael pobl yn ysgrifennu ataf wedi iddynt gael eu bygwth â chamau disgyblu yn y gwaith am rannu cynnwys ar-lein, pobl o bleidiau gwleidyddol prif ffrwd, ar bwnc protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys pan gafodd cofebau rhyfel eu fandaleiddio.
Mae'r adolygiad hwn o gerfluniau, strydoedd ac enwau adeiladau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gychwyn yn ymwneud yn llwyr â Mae Bywydau Du o Bwys. Roeddent yn cydnabod hynny wrth gyhoeddi'r archwiliad. Mae hwn yn gorff cynhenid Farcsaidd, sy'n dymuno dinistrio ein ffordd o fyw, a dyna pam eu bod yn ymosod ar ein hanes a'n treftadaeth. Eu nod penodol yw, ac rwy'n dyfynnu o'u gwefan, 'datgymalu cyfalafiaeth', 'dadariannu'r heddlu', 'diddymu carchardai', a 'chael gwared ar ffiniau'. Ai dyma'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn credu ynddo mewn gwirionedd? Wel, mae'n rhaid i unrhyw un sydd â dealltwriaeth o hanes sylweddoli ei bod yn gwbl amhriodol dwyn pobl o'r gorffennol i gyfrif yn ôl safonau heddiw. Cawsom funud o dawelwch yn y lle hwn i George Floyd. Pan ofynnais, yn fuan wedyn, a ddylid coffáu'r tri o bobl a lofruddiwyd mewn parc cyhoeddus yn Reading gan eithafwr Islamaidd a gafwyd yn euog ychydig wythnosau yn ôl am y llofruddiaethau hynny, ni chefais ateb, ac yn sicr ni chefais un cadarnhaol.
Wel, rwy'n credu bod hon yn ffordd anffodus o fwrw ymlaen. Ond rwy'n credu bod gwybodaeth hanfodol am orffennol Prydain yn cael ei disodli gan bynciau gwleidyddol gywir yn rhai o'n sefydliadau addysgol, ac mae rhai o'r digwyddiadau hanesyddol dylanwadol pwysicaf yn cael eu hanwybyddu neu eu bychanu—pethau fel rhyfel cartref Lloegr, y chwyldro diwydiannol, erchyllterau'r Undeb Sofietaidd ac yn y blaen. Os nad yw plant yn cael eu haddysgu am eu hanes, ni allant fod yn gwbl hyddysg ynddo, ac o ganlyniad mae perygl y bydd cenedlaethau'r dyfodol wedi'u gwahanu hyd yn oed yn fwy oddi wrth eu hynafiaid ac yn y pen draw, oddi wrth eu gwlad yn ei chyfanrwydd.
Dywedodd yr athronydd a'r awdur mawr o Ffrainc, Alexis de Tocqueville, unwaith:
pan fydd y gorffennol wedi peidio â bwrw ei oleuni ar y dyfodol, mae meddwl dyn yn crwydro mewn tywyllwch.
Ac rwy'n credu bod cael gwared ar gerfluniau'n cyfleu neges lom y dylid anghofio ffigurau hanesyddol Prydain a greodd y Brydain a welwn heddiw. Ac na foed i ni anghofio mai ni oedd y wlad gyntaf i ddiddymu'r fasnach gaethwasiaeth, ar adeg pan oedd caethwasiaeth yn gyffredin o gwmpas y byd. Roedd llwythi Affricanaidd yn caethiwo'i gilydd. Roedd yr Ottomaniaid yn caethiwo tiriogaethau a feddianwyd ganddynt, ac yn y blaen. Dylem fod yn falch mai ni oedd y wlad gyntaf i wahardd y fasnach gaethwasiaeth. Yn 1808, sefydlasom Sgwadron Gorllewin Affrica i blismona'r moroedd er mwyn dileu unrhyw weddillion o'r fasnach gaethwasiaeth. Fe wnaethom gipio 1,600 o longau caethweision a rhyddhau 150,000 o gaethweision Affricanaidd. Wel, pam na ddylid eu coffáu hwy? Yn hytrach na dymchwel cerfluniau, dylem fod yn codi mwy ohonynt i arwyr eraill, na chafodd eu coffáu'n briodol.
Felly, galwaf ar y Llywodraeth i roi'r gorau i'w hymgyrch i ddymchwel y rhannau hanfodol hyn o'n treftadaeth. Ond nid yw'r cyhoedd, wrth gwrs, yn llyncu'r naratif. Yn achos obelisg Caerfyrddin, yr wythnos hon cafodd y pwyllgor diwylliant dystiolaeth o'r ymgynghoriad roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'i gynnal ac mae'r cyhoedd yn gryf yn erbyn cael gwared ar yr obelisg, o ddau i un. Ac ymhlith tri grŵp oedran gwahanol, lle cawsant eu grwpio—16 i 24 oed, 25 i 54 oed a dros 55 oed—yn gyson ar draws y cenedlaethau, mae'r mwyafrif sy'n gwrthwynebu tynnu'r obelisg yr un fath.
Mae eich amser bron ar ben nawr.
Rwy'n dirwyn i ben. Rhaid inni ddod i delerau â'n treftadaeth ac felly rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn gyfle inni allu dechrau'r broses o gymhathu ein gorffennol mewn ffordd y gallwn ymfalchïo ynddi, ond heb guddio'r rhannau ohono y mae angen gwybod amdanynt ac na fyddem yn eu hystyried yn dderbyniol heddiw mwyach.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl—Dafydd Elis-Thomas.
A gaf i yn gyntaf gydnabod y rhyfeddod o araith a glywsom ni—un o'r rhai mwyaf rhyfeddol, mae'n sicr, yn hanes y Senedd hon? Ond dwi ddim yn synnu, oherwydd, fel y cyfeiriodd Neil Hamilton yn garedig iawn, roeddem ein dau yn Aelodau o Senedd arall yn San Steffan ar yr un pryd. Dwi ddim am geisio ymateb i'r cynfas eang rhyngwladol ac athronyddol a ddewisodd o i'w ddilyn. Ond fe wnaf i yn gyntaf osod gerbron beth yw'r drefn ar gyfer cael gwared â cherfluniau, ac mae hyn yn hollol glir a chyfreithlon: os yw cerfluniau neu henebion wedi'u rhestru, yna mae'n rhaid cael caniatâd adeilad rhestredig cyn eu symud ymaith neu eu dymchwel.
Nawr, gwnaf i ddim gwneud sylw ar yr achosion unigol y mae e wedi sôn amdanyn nhw, oherwydd pe byddai yna gais i ddadrestru yn digwydd yn ystod y pedwar mis nesaf, byddai'n dod i mi, fel y Gweinidog cyfrifol. Ond mae'n bwysig fy mod i'n dweud bod y broses yma yn cael ei gweinyddu gan awdurdodau cynllunio lleol ac mi fydd yna ystyriaeth arbennig i ba mor dymunol fyddai diogelu strwythur rhestredig, o ran ei leoliad neu unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, cyn penderfynu a ddylid ei symud ymaith neu ei ddymchwel.
Fe all ystyriaeth hanesyddol arbennig fod yn berthnasol iawn yn y drafodaeth hon, oherwydd nid proses a reolir gan y gorffennol mo hanes; mae hanes yn wyddor sy'n cael ei ddeall a'i ddarllen yn y presennol, gobeithio gyda golwg ar y dyfodol, neu o leiaf fel yna cefais i fy nysgu mewn sawl prifysgol yn yr Alban ac yng Nghymru. Ac felly, dwi am ei gwneud hi'n hollol glir: yn fy meddwl i, os oes gan unrhyw Aelod o’r Senedd hon yr awydd i symud unrhyw gerfluniau neu heneb, mae'n rhaid i’r cais hwn fynd drwy broses briodol. Cadw, ar ran Gweinidogion Cymru—corff dwi'n gyfrifol amdano—sy'n argymell pa adeiladau y dylid cael eu rhestru neu eu dadrestru, sy'n rheswm arall pam na allaf i ymateb i'r achosion unigol y mae Neil Hamilton wedi cyfeirio atyn nhw. Ond dim ond yng ngoleuni tystiolaeth newydd y byddai unrhyw gais i ddadrestru unrhyw strwythur yn cael ei ystyried a rhaid i'r dystiolaeth yna ymwneud â diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
Ac, wrth gwrs, os ydy rhywun yn derbyn mai hermeniwteg hanesyddol yw'r unig ffordd i ddeall hanes, yna mae'n bosib ein bod ni yn deall hanes yn wahanol erbyn hyn i'r ganrif yn ôl pan godwyd rhai o'r cofebau sydd wedi'u cyfeirio atyn nhw. Ac felly, mae hi yn bosib—a dwi ddim yn dweud pa un ai ydy hi'n ddymunol neu'n annymunol—i wneud cais i sicrhau bod cofebau yn cael eu symud. A dyw Neil Hamilton ddim wedi bod yn deg â dinas Caerdydd yn yr achos yma. Fel dwi'n deall—a dwi ddim wedi bod yna i edrych yn fanwl—dydy'r gofeb arbennig roedd o'n cyfeirio ati ddim wedi cael ei dileu na'i symud; mae hi wedi cael ei gosod mewn bocs. Ac os yw llywodraeth dinas a sir Caerdydd yn penderfynu bod yr agwedd hanesyddol ar Thomas Picton wedi newid i feddwl y dylid ei rhoi o mewn bocs, yna mater i ddinas a sir Caerdydd yw hynny. A dwi ddim yn mynd i fynegi—[Torri ar draws.] Ie, yn gyfreithiol, os nad oes yna rywun yn mynd i arwain proses yn gofyn yn wahanol.
Fe wnaeth Neil Hamilton hefyd gyfeirio yn benodol at Bywydau Du o Bwys. Mae'n rhaid i mi ddweud, er ei fod o yn defnyddio'r term 'Marcsaidd', sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio fel term i gyhuddo pobl sydd ar y chwith o fod yn arddel syniadau comiwnyddol—. Ces i unwaith fy ngalw 'y Marcsydd o Feirionnydd'. Wel, dwi'n sicr yn dod o Feirionnydd yn deuluol, ond fuaswn i ddim yn arddel athroniaeth Farcsaidd ddireswm mewn unrhyw ysytyr yn fy mywyd cyhoeddus nac yn fy mywyd academaidd cyn hynny. Ac felly, mae'n bryd inni gael dealltwriaeth well, os gwelwch chi'n dda, o'r syniad yma am y dyfodol a'r gorffennol. Mae cael gwared ar gerfluniau yn gyfreithlon, ond mae'n rhaid i'r broses honno gael ei dilyn. Nid drwy godi dadl rethregol yn y Senedd na rhyw fath o ddarlith academaidd fer gan y Gweinidog diwylliant mae gwneud hynny.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.