1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 19 Ionawr 2021.
Nid wyf i'n gallu gweld Neil Hamilton ar y sgrin o'm blaen, felly symudaf ymlaen at gwestiynau gan arweinyddion y pleidiau, a'r arweinydd cyntaf y prynhawn yma yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Tachwedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru chwe chyfarfod Cabinet, ac eto yn y cofnodion cyhoeddedig trafodwyd amrywiaeth o faterion, fel strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru, y Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau a hyd yn oed ehangu swyddogaeth diffoddwyr tân. Fodd bynnag, nid oes yr un eitem ar frechlynnau na brechiadau wedi'i gyflwyno na'i godi i'w thrafod. O ystyried pwysigrwydd datblygu strategaeth frechu yn barod ar gyfer defnyddio brechlynnau, pam na wnaeth Llywodraeth Cymru hyd yn oed drafod y mater yn ystod mis Tachwedd i gyd? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pryd, fel Cabinet, y gwnaethoch chi drafod y defnydd o frechlynnau?
Llywydd, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gofnodi, o flaen y Senedd, yr hyn y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd, eisoes wedi ei ddweud. Y brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon a'r brif flaenoriaeth i'r GIG yng Nghymru yw brechu cynifer o bobl yng Nghymru cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl, ac mae'r cynllun a gyflwynwyd gennym ni ar gyfer gwneud hynny yn cael ei gyflawni, ac rydym ni ar y trywydd iawn i wneud yr hyn yr ydym ni wedi addo i bobl Cymru y byddwn ni'n ei wneud. Nid yw'r ffaith nad yw'r Aelod yn darllen yn y cofnodion holl fanylion yr hyn a drafodir yn y Cabinet yn golygu, wrth gwrs, nad yw materion yn cael eu trafod. Trafodwyd brechu, a phob agwedd arall ar yr argyfwng coronafeirws, y tu mewn i Lywodraeth Cymru gydag uwch swyddogion a rhwng Gweinidogion drwy gydol mis Tachwedd i gyd, fel y'u trafodwyd ers cynnal cyfarfod cyntaf ein grŵp i gynllunio ar gyfer brechu ym mis Mehefin eleni.
Wel, rwy'n awgrymu i chi, Prif Weinidog, y dylai rhywbeth mor bwysig â chyflwyno'r brechiadau fod wedi cael ei drafod ar lefel y Cabinet ac y dylai fod wedi cael ei gofnodi, byddwn i wedi meddwl. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael misoedd i ddatblygu strategaeth sy'n sicrhau bod pobl mewn grwpiau blaenoriaeth ledled Cymru yn cael eu brechu. Ac yn hytrach, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw darpariaeth afreolaidd ac anghyson gyda gwahanol lefelau o gynnydd mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ac mae'n destun pryder mawr clywed eich bod chi'n amddiffyn eich polisi o wneud pethau yn araf i atal brechwyr rhag sefyll o gwmpas heb ddim i'w wneud pan ddylai Llywodraeth Cymru fod yn cyflymu'r broses o roi brechlynnau ledled Cymru yn sylweddol, ac mae'r pryderon hynny, wrth gwrs, wedi cael eu hadleisio gan BMA Cymru, sydd, fel yr ydym ni eisoes wedi clywed yn gynharach y prynhawn yma, wedi dweud y dylid rhoi'r gorau i gadw cyflenwadau yn ôl a bwrw ati. Nawr, tra bod rhannau eraill o'r DU wedi dechrau brechu pobl yn y categori dros 70 oed, yma yng Nghymru, mae pobl yn eu 80au a rhai hyd yn oed yn eu 90au yn fy etholaeth i yn dal i aros am eu brechlynnau. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau â'i dull o wneud pethau yn araf drwy gydol y cyfnod brechu? Ac os felly, pa mor ffyddiog ydych chi y bydd pobl mewn grwpiau blaenoriaeth yn cael eu brechlyn cyntaf erbyn canol mis Chwefror?
Llywydd, polisi Llywodraeth Cymru yw brechu cymaint o bobl â phosibl cyn gynted a phosibl yma yng Nghymru. Nid oes polisi arall. Dyma ein prif flaenoriaeth a dyma brif flaenoriaeth y bobl hynny sy'n gweithio'n galed iawn yn ein gwasanaeth iechyd sydd, ar ben popeth arall yr ydym ni'n ei ofyn ganddyn nhw, yn gweithio'r oriau maith hynny i wneud yn siŵr bod 1,000 o bobl mewn cartrefi gofal yn cael eu brechu bob dydd yma yng Nghymru, ac y bydd erbyn diwedd yr wythnos hon, 70 y cant, o leiaf, o bobl dros 80 oed a phobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal wedi cael eu brechu yng Nghymru. Pan siaradais yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, Llywydd, dywedais mai ein gobaith oedd y byddai gennym ni 100 o feddygfeydd teulu yn brechu erbyn diwedd yr wythnos diwethaf—rhagorwyd ar hynny; y byddai gennym ni 250 o feddygfeydd teulu erbyn diwedd y mis—byddwn yn rhagori ar hynny; y byddai gennym ni 35 o ganolfannau brechu torfol—bydd gennym ni 45. Nid yn unig y mae GIG Cymru yn gwneud popeth yr ydym ni wedi ei ofyn ganddo, mae'n gwneud hyd yn oed mwy bob dydd, ac mae hynny yn golygu y gallwn ni fod yn ffyddiog y byddwn ni'n darparu brechiad i'r pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf hynny, yn unol â'n cynllun, erbyn canol mis Chwefror. Mae hynny yn wir diolch i'r ymdrechion enfawr hynny, yr wyf i'n credu y bydd pawb yn y Senedd hon eisiau eu cefnogi.
Wel, Prif Weinidog, os mai eich polisi chi yw cael y brechlynnau i freichiau pobl cyn gynted â phosibl, pam ar y ddaear y dywedasoch chi eich bod chi eisiau cyflwyno'r brechlynnau dros gyfnod o amser? Oherwydd mae honno yn neges sy'n achosi dryswch. A, Llywydd, er efallai fod Llywodraeth Cymru yn hapus gyda'i dull o wneud pethau'n araf, mae pobl Cymru ymhell o fod yn hapus; maen nhw eisiau gweld gweithredu ac maen nhw eisiau ei weld nawr. Yn y cyfamser, mae pobl ledled Cymru yn cael eu dal yn garcharorion i'r feirws hwn. Ni chaiff pobl gyfarfod â'u hanwyliaid, mae plant yn gorfod bod heb ddysgu wyneb yn wyneb ac mae rhieni yn ei chael hi'n anodd rheoli'r gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd o weithio gartref ac addysgu eu plant gartref. Y cwbl y mae cynnydd araf Llywodraeth Cymru o ran brechu pobl yn ei wneud yw cynyddu rhwystredigaeth a dicter pobl ar adeg pan ddylai Llywodraeth Cymru fod yn rhoi gobaith iddyn nhw a gwneud popeth posibl i hwyluso'r broses o ddarparu'r brechlyn.
Prif Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym ni pam mae Cymru wedi bod ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill y DU o ran cyflwyno'r brechlyn i'r rhai sydd ei angen fwyaf yma yng Nghymru? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflymu o ddifrif y broses o ddarparu brechlynnau i grwpiau blaenoriaeth yng Nghymru, fel y gall y rhai sydd ei angen fwyaf gael eu brechlyn cyn gynted â phosibl?
Wel, Llywydd, dywedodd llefarydd iechyd y Blaid Geidwadol yn gynharach y prynhawn yma ei fod eisiau gweld y rhaglen frechu yn llwyddo. Nid yw'n helpu i sicrhau ei bod yn llwyddo pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn bychanu ymdrechion y bobl hynny sy'n gweithio mor galed i gyflymu'r brechlyn yma yng Nghymru, a hynny yn ymwybodol ac yn fwriadol, trwy ei ddisgrifio drwy'r amser fel polisi gwneud pethau'n araf.
Gadewch i mi ddweud eto, oherwydd dywedodd y gallai fod yn ddryslyd; ni fyddai angen iddo fod yn ddryslyd pe byddai wedi gwrando ar y ddau ateb cyntaf yr wyf i wedi eu rhoi iddo. Gadewch i mi roi'r ateb iddo unwaith eto ac yna ni fydd angen iddo fod yn ddryslyd eto yn y dyfodol: polisi Llywodraeth Cymru yw brechu cynifer o bobl yng Nghymru cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl. Dyna sut yr ydym ni wedi brechu 162,000 o bobl eisoes yma yng Nghymru. Dyna pam y bydd cyflymder y brechiad yn cyflymu unwaith eto yr wythnos hon. Y ffactor sy'n cyfyngu ar y gyfradd o ran brechu yng Nghymru yw'r un a esboniwyd gan y Gweinidog iechyd, wrth ateb y cwestiwn brys. Cyfradd cyflenwi'r brechlyn yw hwnnw. Rydym ni wedi cael 25,000 dos o frechlyn Rhydychen ar gael i ni dros bob un o'r ddwy wythnos ddiwethaf. Rydym ni'n disgwyl bod ag 80,000 dos ar gael i ni yr wythnos hon, a byddwn yn defnyddio pob un ohonyn nhw. A byddwn ni'n defnyddio pob diferyn o frechlyn Pfizer hefyd cyn i'r dosbarthiad nesaf o'r brechlyn hwnnw gyrraedd yma yng Nghymru. Dyna yw ein penderfyniad, dyna y mae pobl yn y GIG yn gweithio mor galed i'w gyflawni, a gwn yr hoffen nhw gael cefnogaeth arweinydd yr wrthblaid yn hytrach na'i feirniadaeth barhaus ohonyn nhw.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Prif Weinidog, os mai cyflenwad yw'r ffactor sy'n cyfyngu ar y gyfradd—ac mae'r Gweinidog iechyd newydd ddweud bod hynny yn wir ar draws yr holl wledydd—yr hyn y mae'n ei esbonio wedyn yw'r gyfradd wahaniaethol o frechu yng Nghymru o'i chymharu, fel yr ydym ni wedi ei glywed, â'r DU yn ei chyfanrwydd, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn arbennig. Os yw'r un gyfradd gyflenwi yn bodoli ar draws y gwledydd hyn, pam ydym ni felly yn gweld cyfradd wahaniaethol, bwlch rhwng y gyfradd frechu yng Nghymru? Nid ydym ni wir wedi clywed, yn fy marn i, ateb cydlynol, eglur i'r cwestiwn hwnnw. Felly, a allwch chi ei roi i ni nawr?
Wel, Llywydd, y ras yn erbyn y feirws yw'r ras yr ydym ni ynddi yng Nghymru. Mae'r ras rhwng heintiad a chwistrelliad; nid yw'n ras gyda gwledydd eraill. Rydym ni'n gwneud ein gorau glas i frechu cynifer o bobl mor gyflym ag y gallwn ni, gyda'r cyflenwad o frechlynnau sydd gennym ni, a dyna yr ydym ni'n canolbwyntio arno. Bydd y ffigurau rhwng gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig yn amrywio dros amser, fel y maen nhw o ran pob agwedd arall ar y coronafeirws. Y ffigurau sy'n bwysig i bobl yng Nghymru yw'r ffigurau brechu sy'n digwydd yma, a'n penderfyniad a'n ffydd yn y cynllun sydd gennym ni, sydd yr un cynllun ag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, yw cwblhau'r broses o frechu'r pedwar prif grŵp blaenoriaeth erbyn canol mis Chwefror. Rydym ni ar y trywydd iawn i wneud hynny, a dyna lle'r ydym ni'n canolbwyntio ein hymdrechion.
Prif Weinidog, nid ydych chi wedi rhoi sylw i fy nghwestiwn i, ac mae'n gwestiwn rhesymol i mi ei ofyn i chi, ac, yn wir, mae'n gwestiwn y mae fy rhieni oedrannus fy hun yn ei ofyn i mi, oherwydd maen nhw yn y sefyllfa—dydyn nhw ddim wedi cael dyddiad o gwbl; y ddau ohonyn nhw yn eu 80au. Mae gan fy nhad, cyn-löwr 85 oed, glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint; mae mewn grŵp sy'n agored i niwed yn glinigol, ac eto nid yw wedi cael unrhyw gyfathrebiad hyd yma i esbonio iddo pryd y bydd yn cael brechiad. Mae gennym ni deulu, fel llawer o bobl yng Nghymru, ar draws gwahanol rannau o'r DU; mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu brechu, ac maen nhw wedi cael dyddiad ar gyfer brechiad. Felly, cwestiwn rhesymol i mi ei ofyn i chi unwaith eto, Prif Weinidog, yw: beth sy'n esbonio'r bwlch? Mae'n bwysig i ni wybod, oherwydd os oes problem yn y fan honno, yna gallwn ni ei datrys. A yw'n wir—? Clywsom y Gweinidog yn cyfeirio at y ffaith bod gan Gymru gyfrannau uwch o boblogaeth yn rhai o'r grwpiau blaenoriaeth—yn sicr. Mae gennym ni niferoedd uwch o bobl sy'n hŷn na 80 oed. Mae gennym ni gyfran sylweddol uwch o bobl sy'n hŷn na 65 oed. Felly, onid oes dadl dros ddychwelyd at y cwestiwn a ddylem ni fod yn cael cyfran sy'n fwy na'n poblogaeth oherwydd y lefel uwch hon o angen?
Wel, Llywydd, trafodais yr union fater hwnnw gyda Phrif Weinidogion yr Alban, Gogledd Iwerddon a chyda Michael Gove yn Swyddfa'r Cabinet yn ein cyfarfod ddydd Mercher yr wythnos diwethaf. Fe'i harchwiliwyd gennym gyda'r gwas sifil uchaf sy'n gyfrifol am sicrhau a dosbarthu cyflenwadau o frechlynnau ledled y Deyrnas Unedig. Cydnabuwyd y pwynt am ein strwythur oedran yn y sgwrs honno, ac mae camau yn cael eu cymryd i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei gymryd i ystyriaeth yn y cyflenwadau o frechlyn, a fydd yn cynyddu yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.
Bydd ffigurau yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig a'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, fel y dywedais, yn newid o wythnos i wythnos. Yr hyn yr ydym ni'n canolbwyntio arno yw gwneud y defnydd cyflymaf a mwyaf effeithlon o bob diferyn o frechlyn sy'n dod yma i Gymru. Rydym ni wedi defnyddio'r brechlyn Rhydychen sydd wedi dod i ni dros y pythefnos diwethaf; byddwn ni'n defnyddio'r 80,000 dos sydd gennym ni yr wythnos hon, ac yn cyflymu niferoedd y tu hwnt i hynny. A byddwn ni'n defnyddio'r holl frechlyn Pfizer sydd gennym ni cyn i ni gael dosbarthiad arall ohono yma yng Nghymru. A'r ffigurau a fydd bwysicaf i bobl—ac rwy'n deall yn iawn fod pobl sy'n dal i aros i rywun gysylltu â nhw. Mae ein rhaglen yn nodi y byddem ni'n cynnig y brechlyn i bawb erbyn canol mis Chwefror; yn anochel, mae rhai pobl a fydd yn dal i aros. Rwy'n deall yn iawn y byddan nhw'n bryderus ac yn aros i rywun gysylltu â nhw. Y ffigurau a fydd bwysicaf iddyn nhw yw'r ffigurau ynghylch sut y mae'r brechlyn yn cael ei ddefnyddio yma yng Nghymru, ac mae'r ffigurau a ddarparwyd y prynhawn yma, gan y Gweinidog iechyd a minnau, yn dangos ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r hyn a addawyd gennym, yn unol â'r hyn sy'n digwydd ledled y Deyrnas Unedig.
Mae'n iawn, wrth gwrs, i ni beidio â bod yn blwyfol yn unig, os hoffech chi, a chymharu ein hunain gyda gwledydd eraill yn yr ynysoedd hyn, ond cymharu ein hunain â rhai o'r goreuon yn y byd. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, erbyn dydd Sul, bod Israel wedi brechu 20 y cant o'i phoblogaeth—rwy'n credu ei fod wedi cyrraedd 28 y cant erbyn hyn. Disgwylid yn wreiddiol y byddai eu rhaglen hwythau yn arafu hefyd wrth i ddosau Pfizer redeg yn isel, ond sicrhaodd Llywodraeth Israel ymrwymiad gan y cwmni i wneud danfoniadau cynharach ar y sail y bydden nhw'n rhannu data ystadegol, yn gyfnewid am roi astudiaeth achos i wyddonwyr i ddadansoddi effaith cyflwyniad y brechlyn. Mae hynny'n golygu eu bod nhw ar y trywydd iawn i frechu eu holl ddinasyddion dros 16 oed o fewn dau fis. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i gysylltu â Pfizer i archwilio llwybrau i Gymru ddod i gytundeb tebyg, neu os na ellir gwneud hynny, a wnewch chi gyflwyno sylwadau i Brif Weinidog y DU i ddilyn llwybr tebyg, fel y gallwn ni sicrhau mai'r cyfyngiadau symud hyn yr ydym ni'n mynd drwyddyn nhw nawr yw'r cyfyngiadau symud olaf?
Wel, Llywydd, fel yr esboniodd y Gweinidog iechyd, rydym ni mewn cysylltiad uniongyrchol â chyflenwyr y brechlyn, ond nid yw hynny'n ymwneud â'r contract sy'n cael ei gytuno a nhw—mae hynny'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU ar ran y pedair gwlad. Byddaf yn codi'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud yn fy nghyfarfod nesaf gyda Llywodraeth y DU yfory, ond mae'r trafodaethau y maen nhw'n eu cynnal ar ein rhan wedi llwyddo i sicrhau ar gyfer y Deyrnas Unedig, ac felly ar gyfer Cymru, cyflenwadau o frechlyn sy'n golygu bod y Deyrnas Unedig, a Chymru fel rhan ohoni, fel y clywsoch y Gweinidog iechyd yn esbonio, ar flaen y gad o ran brechu ar lwyfan y byd. Daw'r ffydd sydd gennym ni yn y cyflenwadau hynny o'n gallu i gyfuno ein hanghenion a'n hadnoddau a chael y rheini wedi eu dosbarthu wedyn ledled y Deyrnas Unedig mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein poblogaeth a strwythur y boblogaeth honno.