– Senedd Cymru am 5:26 pm ar 19 Ionawr 2021.
Eitem 6 ar yr agenda yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ger ein bron heddiw.
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 yn sicrhau bod yn rhaid i deithwyr sy'n dod i Gymru o wledydd a thiriogaethau tramor ynysu am 10 diwrnod, a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain. Fel arfer, caiff diwygiadau i'r rheoliadau hynny eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol; gan fod y rheoliadau hyn wedi diwygio'r cyfyngiadau teithio rhyngwladol a'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 ar wahân a mwy cyffredinol, maen nhw, yn yr achos hwn, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.
Bydd aelodau'n ymwybodol o amrywiolyn newydd o COVID-19 a ganfuwyd yn ddiweddar yn Ne Affrica. Mae hwn yn wahanol i amrywiolyn y DU, ond gall rannu nodweddion tebyg o ran bod yn haws ei drosglwyddo. Ers 24 Rhagfyr, mae'n ofynnol felly i bob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru o Dde Affrica ynysu am 10 diwrnod ac ni fyddant ond yn cael gadael y lleoliad lle maen nhw'n hunanynysu mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, ac nid oes unrhyw eithriadau o ran sector. Er bod y rhan fwyaf o ymwelwyr o Dde Affrica yn cyrraedd drwy Loegr, mae cyfyngiadau pellach yn golygu na fydd llongau ac awyrennau teithwyr yn uniongyrchol o Dde Affrica a nwyddau gyda gyrwyr yn cael glanio na docio ym mhorthladdoedd Cymru. Yn unol â'r dull sy'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraethau eraill ledled y DU, gan gynnwys yn Lloegr, mae'r rheoliadau hyn hefyd yn darparu mesurau cyfatebol i wledydd eraill yn Affrica, gan gynnwys y Seychelles a Mauritius. Bydd yn ofynnol i bob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru, sydd wedi bod yn y gwledydd hyn yn ystod y 10 diwrnod blaenorol, ynysu am 10 diwrnod, a dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y bydd yn cael gadael lleoliad ei hunanynysu. Mae'r cyfyngiadau tynnach hyn hefyd yn golygu y bydd gofynion ynysu yn berthnasol i bob aelod o'u cartref.
Yn dilyn y newidiadau hyn, dros y penwythnos, rydym ni wedi atal pob coridor teithio. Mae hyn, unwaith eto, yn cyd-fynd â'r camau tebyg sy'n cael eu gweithredu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd angen i'r rhai sy'n dymuno teithio i Gymru nawr ddarparu prawf negyddol cyn teithio, a bod mewn cwarantin am 10 diwrnod. Bydd y cyfyngiadau ychwanegol ar deithio o wledydd penodol, fel y rhai yr ymdrinnir â nhw gan y rheoliadau sy'n cael eu trafod heddiw, yn parhau i fod yn berthnasol. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, sydd, rwy'n credu, yn rhan hanfodol o'r gwaith i helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn fore ddoe ac mae ein hadroddiad wedi'i gyflwyno yn y Swyddfa Gyflwyno er mwyn cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Mae ein hadroddiad yn cynnwys un pwynt adrodd technegol, yn ogystal â phedwar pwynt adrodd rhinwedd.
O ran yr un pwynt technegol, fe wnaethom ni sylwi ar anghysondebau rhwng y testun Cymraeg a Saesneg yn rheoliad 8(7), sy'n ymdrin â diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Roedd yr anghysondeb hwn yn bwysig gan fod y rhestr o safleoedd a gaewyd o ganlyniad i'r rheoliadau yn wahanol, yn dibynnu ar ba fersiwn iaith o'r rheoliadau yr edrychir arni. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn ein cyfarfod fore ddoe, ac, fel y dywedodd y Gweinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â'r mater hwn yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau Teithio a Rhyngwladol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021, a wnaed ddydd Gwener diwethaf.
Bydd rhai o'r pwyntiau rhinwedd yn ein hadroddiad yn gyfarwydd i'r Aelodau. Unwaith eto, rydym ni wedi cydnabod cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros ymyrraeth bosib â hawliau dynol. Rydym ni hefyd yn cydnabod na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau hyn ac nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gynnal ychwaith.
Mae ein pedwerydd pwynt rhinwedd, a'n un terfynol, yn tynnu sylw at wallau teipograffyddol yn y troednodiadau i'r rheoliadau, sy'n cael sylw. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch, Gweinidog, am gynnig y rheoliadau y prynhawn yma. Byddwn yn cefnogi'r rheoliadau hyn. Yn amlwg, rydym ni wedi cael gwybodaeth ychwanegol wrth i'r wythnos diwethaf fynd rhagddi am fathau newydd eraill o amrywiolion y feirws o Frasil a De America. Yr wythnos diwethaf, gofynnais y cwestiwn penodol ichi ynghylch a oedd gennych chi unrhyw bryderon am wledydd eraill ac a fyddai'n rhaid gosod amodau neu gyfyngiadau eraill. Bryd hynny, dydd Mawrth, nid oeddech chi yn gallu tynnu sylw at unrhyw bryderon, ond, o fewn 24 awr, cawsom wybod am fath arall ym Mrasil a chyfyngiadau ychwanegol y gallai fod angen eu cyflwyno. Rwy'n sylweddoli nad yw'r cyfyngiadau hyn yr ydym ni'n pleidleisio arnyn nhw y prynhawn yma yn cyfeirio at hynny, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol pe baech chi, wrth gloi'r rhan hon o'r ddadl, yn dal sylw ar y y modd y caiff Llywodraeth Cymru wybod am y sefyllfa sy'n esblygu o ran mwtantiaid o'r feirws, oherwydd, fel y mae'r nos yn dilyn y dydd, yn sicr bydd mwtantiaid ychwanegol ar draws cyfandiroedd eraill yn codi, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn ceisio deall sut y gwneir y penderfyniadau hyn ynghylch cyfyngiadau teithio fel y gallwn ni gael sicrwydd bod Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan lawn wrth wneud y penderfyniadau hynny.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sydd wedi gofyn am gael siarad. Felly, galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Unwaith eto, rwy'n diolch i'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder am eu gwaith craffu. Mae'n ein helpu i sicrhau bod ein rheoliadau'n gyson, ac rydym yn sylwi ar wallau drafftio posib y mae'r pwyllgor yn sylwi arnyn nhw, felly, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am y gwaith y maen nhw'n parhau i'w wneud i sicrhau bod deddfwriaeth yn addas i'r diben.
O ran sylwadau llefarydd yr wrthblaid, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, byddwn yn ei gwneud hi'n gwbl glir ein bod ni yn cael cyfarfod wythnosol rheolaidd rhwng y pedair Llywodraeth yn y DU i adolygu materion teithio. Yn y cyfarfodydd rheolaidd hynny, rydym ni'n ystyried newidiadau i'r amgylchedd, i gyfraddau achosion mewn rhannau eraill o'r byd. Dyna lle yr ydym ni'n arwain at ddiweddaru cyfraddau achosion yn gyffredinol, ac, a bod yn deg, y rhan fwyaf o'r amser nid yw'r rheini'n ddewisiadau dadleuol mwyach, ac, y rhan fwyaf o'r amser, mae'r pedair Llywodraeth yn gweithredu ar yr un cyflymder.
Mae Brasil yn enghraifft wahanol, serch hynny, oherwydd daeth hynny o'r dystiolaeth am amrywiolyn newydd, amrywiolyn sy'n destun pryder, oherwydd, fel y byddwch chi wedi clywed gan y dirprwy brif swyddog meddygol ac eraill dro ar ôl tro, mae pob feirws yn mwtadu ac yn newid. Mae'n rhan o'r rheswm pam y mae'n rhaid i ni gael ymgyrch ffliw tymhorol, oherwydd ceir gwahanol amrywiolion o'r ffliw sy'n cylchredeg bob blwyddyn a all achosi gwahanol raddau o niwed. Nid yw'r rhan fwyaf o'r amrywiolion newydd yn amrywiolion sy'n peri pryder. Yr hyn sydd yn digwydd yw pan fo un, fel sy'n wir am amrywiolyn Caint yn haws ei drosglwyddo, mae hynny'n amrywiolyn o bryder, oherwydd mae'n newid yr ymddygiad mewn ffordd sy'n rhoi mantais gystadleuol iddo ac a allai olygu y bydd yn achosi mwy o niwed. Rydym ni wedi gweld hynny gyda'r trosglwyddo yn Ne Affrica. Rydym ni wastad yn pryderu am amrywiadau eraill sy'n ymffurfio.
Rydym yn cael ein hysbysu yng Nghymru gan ein cysylltiadau â chydweithwyr eraill yn Iechyd Cyhoeddus Lloegr, fel yn wir y mae rhannau eraill o'r DU, am eu gwaith gwyliadwriaeth rhyngwladol a'r gwaith a wneir yn gyffredinol yn y DU a thu hwnt ar ddilyniannu genomau a dealltwriaeth o amrywiolion sy'n peri pryder. Rwy'n gobeithio ar draws y Siambr hon y bydd rhywfaint o falchder gwirioneddol yn swyddogaeth Cymru o ran deall a chyfrannu at ddilyniannu genomau. Rydym ni yn gwneud yn dda iawn o ystyried ein maint, nid yn unig yn rhyngwladol, ond yn y DU hefyd, o ran faint yr ydym yn ei wneud i ddeall y gwahanol amrywiolion hynny o'r feirws. Felly, mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r gwaith a wnawn ein hunain, yn rhannol am y gwaith a wnawn gyda rhannau eraill o'r DU ac yn rhyngwladol. A gobeithio y caiff Aelodau sicrwydd ynglŷn â'r ffaith y caiff yr wybodaeth honno ei rhannu'n agored ac yn dryloyw rhwng holl asiantaethau iechyd cyhoeddus y DU, pob un o'n prif swyddogion meddygol a chynghorwyr gwyddonol, ac, yn wir, Gweinidogion, o ran gwneud penderfyniadau. Dyna pam y mae'r dewisiadau yr ydym ni'n eu gwneud heddiw yn rhai sy'n cael eu gwneud yn gyson mewn rhannau eraill o'r DU hefyd, a dyna pam, pan fyddwn ni'n dod i drafod y mesurau newydd a weithredwyd ar fyrder ym Mrasil a gwledydd tebyg, fe welwch chi fod rhannau eraill o'r DU wedi gweithredu ar fyrder ac yn unol ag amserlen debyg. Rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb cwestiynau'r Aelod ac yn rhoi'r sicrwydd i bobl rwy'n gwybod eu bod yn chwilio amdano. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.