Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 26 Ionawr 2021.
Hoffwn i ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon gyda dyfyniad gan gadeirydd pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Martyn Jones: 'Y tu ôl i'r ystadegau mae pobl go iawn sydd â phrofiadau byw o wahaniaethu ac anghydraddoldeb. Mae angen i ni daflu goleuni ar y cyfraniad cadarnhaol a wneir gan bob grŵp mewn cymdeithas o ddydd i ddydd. Rhaid inni newid y naratif o un o faich a negyddoldeb i un sy'n grymuso unigolion i fod yr hyn y maent am fod waeth beth fo'u hoedran, eu rhyw neu eu cefndir economaidd-gymdeithasol. Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin ag urddas a pharch.'
Byddem ni ym Mhlaid Cymru yn cytuno. Rydym ni eisiau i Gymru fod yn gymdeithas deg a chyfiawn lle mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal ac yn mwynhau'r un hawliau, waeth beth fo'u rhywedd, ethnigrwydd, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae'n rhaid cydnabod profiadau byw go iawn o wahaniaethu ac anghydraddoldeb wrth lunio polisïau ar draws holl adrannau'r Llywodraeth. Dyna pam rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i rym ym mis Mawrth 2021, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn arwain at ddull traws-Lywodraeth o leihau anghydraddoldeb a thlodi drwy fodel canlyniadau cenedlaethol. Mae'r cynnydd da hwn yn wahanol i'r Torïaid yn San Steffan, sy'n ymddangos yn benderfynol o danseilio hawliau dynol, ac mae honno'n ddadl gref o blaid ceisio'r cyfrifoldeb dros ddatganoli deddfwriaeth cydraddoldeb i Gymru.
Er i'r rhan fwyaf o'r gwaith sydd wedi'i amlygu yn yr adroddiad hwn gael ei wneud cyn pandemig y coronafeirws, ni allwn ni anwybyddu'r cyd-destun presennol o safbwynt cydraddoldeb. Mae COVID wedi effeithio'n anghymesur ar bobl hŷn a phobl anabl, ac mae'r effeithiau yn cynnwys marwolaethau, bod wedi'u hynysu o deulu a ffrindiau, yn ogystal ag effeithiau sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol. Mae llai o ofal ar gael ac mae cyflwyno mesurau ynysu wedi arwain at bron i 200,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu di-dâl ers dechrau'r pandemig.
Mae tua chwarter poblogaeth oedolion Cymru—700,000 o bobl—yn gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind ar hyn o bryd. Rwyf i eisiau gweld y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i roi cydraddoldeb wrth wraidd gwaith cynllunio adfer o'r pandemig Llywodraeth Cymru, datblygu polisi a gweithredu, gan gynnwys asesu'r effaith ar gydraddoldeb a chyhoeddi'r asesiadau hyn. Dylai cymunedau a grwpiau sydd wedi'u heffeithio gael eu hannog a'u galluogi i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae gennym ni gyfle i gydraddoli ar ôl COVID. Gadewch i ni wneud yr hyn a allwn ni i gyflawni hynny.