2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 27 Ionawr 2021.
2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch hawliau gweithwyr ers diwedd y cyfnod pontio? OQ56180
Rydym wedi dweud yn gyson wrth Lywodraeth y DU, drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ac mewn trafodaethau dwyochrog, fod yn rhaid i'r DU ymrwymo i gadw at y safonau a'r hawliau cyflogaeth presennol. Mae'n rhaid i'r DU gadw at y rhwymedigaethau y mae wedi cytuno iddynt yn y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng yr UE a'r DU.
Diolch, Weinidog, ac a gaf fi groesawu amddiffyniad cadarn y Prif Weinidog o hawliau gweithwyr mewn ymateb i gwestiynau yn y Senedd ddoe, oherwydd ni ddylai'r newyddion fod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn bwriadu ymosod ar hawliau gweithwyr unwaith eto fod yn syndod i neb? Gwyddom ein hanes, a gwyddom y pris a dalwyd i sicrhau a gwella hawliau gweithwyr, a dylai wneud pobl yn ddig a'u paratoi i wrthsefyll, gobeithio, drwy eu hundebau llafur.
Weinidog, mae llai na 100 diwrnod nes etholiadau'r Senedd a gallwn weld yn glir yn awr fod hawliau gweithwyr ar y papur pleidleisio. Felly, er mwyn osgoi rhagor o addewidion toredig y Torïaid, addewidion sydd bellach mor ddrewllyd â'r pysgod sy'n pydru yn ein porthladdoedd, a gaf fi ofyn ichi fy sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru, a'r blaid a gynrychiolwn yma yn y Senedd hon, yn herio unrhyw ymgais gan y Torïaid i aberthu hawliau gweithwyr ar allor eu dogma marchnad rydd?
Diolch i Dawn Bowden am y cwestiwn atodol hwnnw, ac am ei chefnogaeth hirsefydlog i achos undebaeth lafur hefyd. Credaf y bydd gweithwyr ledled Cymru a'r DU yn gwbl siomedig fod Llywodraeth y DU, ar anterth pandemig ac argyfyngau economaidd, yn credu ei bod yn briodol mewn unrhyw fodd o gwbl i ystyried torri amddiffyniadau sylfaenol ar amser gweithio a hawliau tâl gwyliau. Rydym eisiau i waith fod yn decach ac yn fwy diogel, a byddwn yn llwyr wrthwynebu ffantasi'r Ceidwadwyr a chefnogwyr Brexit sy'n honni bod ein dyfodol yn gorwedd mewn gweithle camfanteisiol wedi'i ddadreoleiddio. Dywed Llywodraeth y DU ei bod wedi ymrwymo i gynnal amddiffyniadau sy'n bodoli eisoes, ac os yw hynny'n wir, pam y mae'n cynnal adolygiad? Rwy'n cytuno â Dawn Bowden—yn wyneb Llywodraeth y DU sy'n ymddangos fel pe bai'n benderfynol o ddileu eu hawliau yn y gwaith, mae'n bwysicach nag erioed fod gweithwyr yn ymuno ag undeb llafur, a byddwn yn defnyddio pob dull o liniaru effaith niweidiol unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i wanhau hawliau ac amddiffyniadau gweithwyr. Boed hynny drwy bŵer pwrs y wlad neu ein dull partneriaeth gymdeithasol, rydym wedi ymrwymo'n llwyr, fel Llywodraeth Cymru dan arweiniad y Blaid Lafur, i gyfiawnder yn y gweithle ac i arferion gwaith teg.