3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 27 Ionawr 2021.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi trigolion a gafodd eu symud o'u cartrefi yn Sgiwen yn dilyn llifogydd a achoswyd gan ddŵr sy'n deillio o hen safle glofaol? TQ534
Diolch, David. Hoffwn gofnodi eto fy niolch i'r awdurdod lleol a'r gwasanaethau brys, sy'n gweithio mor galed i gefnogi'r bobl ledled Cymru y mae storm Christoph a digwyddiadau tywydd garw eraill wedi effeithio arnynt. Rwy'n sicr yn cydnabod yr effaith ar y rhai a gafodd eu symud o'u cartrefi yn Sgiwen, yn enwedig yn ystod y pandemig presennol. Ac rwy'n falch iawn o gadarnhau y bydd y rhai y bu'n rhaid iddynt adael eu cartrefi am fwy na 24 awr yn cael eu cefnogi yn yr un modd â deiliaid tai a ddioddefodd lifogydd yn eu cartrefi yn ystod y cyfyngiadau symud cynharach.
Diolch ichi am hynny, Weinidog. Ac a gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i weithwyr yr awdurdod lleol ac asiantaethau eraill a weithiodd yn ddiflino yn ystod y llifogydd ddydd Iau ac ers hynny? A gaf fi hefyd gofnodi fy ngwerthfawrogiad i'r gymuned, sydd wedi dod at ei gilydd yn Sgiwen i helpu trigolion y bu'n rhaid iddynt adael eu cartrefi, gan weithio gyda Byddin yr Iachawdwriaeth a'r cynghorydd lleol, Mike Harvey, sydd wedi bod yn rhagorol yn ystod hyn?
Fe ddywedoch chi y bydd y cyllid ar gyfer llifogydd ar gael i bawb—a allwch gadarnhau mai i bawb a gafodd eu symud o'u cartrefi a olygwch, nid yn unig i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd? Oherwydd cafodd nifer o breswylwyr eu symud oherwydd ofnau diogelwch, ond ni wnaethant ddioddef llifogydd yn sgil hyn, ac efallai na chaiff rhai ohonynt ddychwelyd i'w cartrefi am wythnosau. Felly, mae'n bwysig ein bod yn edrych ar hynny.
A allwch ddweud wrthym hefyd sut rydych yn trafod cyllid ychwanegol i'w helpu gyda'r awdurdod lleol? Oherwydd maent yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu cefnogi drwy'r gwasanaethau cymdeithasol a ffyrdd eraill, gan eu bod yn dal—mae rhai allan o'u cartrefi ac mae rhai'n mynd yn ôl i'w cartrefi heddiw, ond maent yn wynebu difrod yn eu tai, maent yn cael eu hasesu, ni fyddant yn gallu aros yn eu cartrefi oherwydd peth o'r difrod sydd wedi'i achosi. Felly, mae'n bwysig inni edrych ar sut rydym yn cefnogi'r awdurdod lleol gyda'r agenda honno.
A allwch ddweud wrthym sut y byddwch yn edrych ar y rhai sydd heb yswiriant? Nid oedd pawb wedi'u hyswirio, ac mae nifer o gartrefi heb eu hyswirio a byddant yn wynebu cyfnod difrifol o anodd, yn enwedig yn ystod y pandemig, gan na allant fynd i leoedd eraill a bydd dod o hyd i lety'n anodd hefyd.
A allwch ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r Awdurdod Glo ynglŷn â'u cyfrifoldeb a'u rhwymedigaeth i ariannu agweddau ar hyn? Gwn eu bod wedi gwneud ymdrech aruthrol i atgyweirio'r pwll sy'n llawn dŵr a'r camau gweithredu—. Ond mae hynny'n mynd i gymryd hyd at chwe mis. Ond mae cartrefi pobl wedi cael eu dinistrio, a'u bywydau wedi'u troi wyneb i waered yn y broses, ac mae angen inni wybod sut y byddant yn cael eu helpu, a phwy sy'n gyfrifol, a phwy sy'n atebol am agweddau ariannol y cymorth hwnnw. Ac mae angen i'r trigolion wybod hynny nawr, ac mae angen iddynt wybod hynny yn y dyfodol. Maent am allu cael hyder eu bod yn gwybod yn union pwy fydd yn eu helpu a sut y daw'r cymorth hwnnw.
Diolch, David. Rwy'n falch iawn o ddweud y bydd yr holl breswylwyr yn cael eu cynnwys. Nid oes raid i chi fod wedi dioddef llifogydd, ond mae'n rhaid i chi fod wedi gorfod gadael eich cartref am 24 awr i gael y cyllid. Ac fel y dywedwch yn gywir, bydd llawer o'r trigolion wedi cael eu heffeithio am gyfnodau llawer hwy na hynny.
Rydym hefyd yn gweithredu taliad ychwanegol i bobl sydd heb yswiriant. Rwy'n gwybod bod yna ddadl wedi'i gwneud y gallai hyn annog pobl i beidio â chael yswiriant, ond taliad o £500 ydyw a gallaf sicrhau unrhyw un sy'n poeni nad yw hynny'n ddigon i dalu am eich colledion sydd heb eu hyswirio, ond mae'n help i gael pobl yn ôl ar eu traed o dan amgylchiadau eithafol y diwrnod cyntaf neu fwy allan o'u cartrefi.
Mewn amgylchiadau eithriadol o'r fath, oherwydd yr holl bwysau ar gynghorau ar hyn o bryd, bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn talu'r holl gost gymwys o ymateb i lifogydd yn ystod cyfyngiadau haen 4 o dan amodau ein cronfa galedi bresennol ar gyfer llywodraeth leol. Mae cronfa ychwanegol o £6.5 miliwn ar gael o hyn tan 31 Mawrth i gynghorau ar gyfer y costau hynny. Mae nifer o leoedd ledled Cymru mewn sefyllfaoedd tebyg. Felly, rwy'n falch o ddweud bod honno, wrth gwrs, yn gronfa ar gyfer Cymru gyfan i bawb yr effeithiwyd arnynt.
Ar fater yr Awdurdod Glo, rydym wedi cael cyfres o drafodaethau gyda'r Awdurdod Glo a Llywodraeth y DU. Fel y dywedodd David yn gywir, mae ymchwiliadau'n cael eu cynnal gan yr Awdurdod Glo i benderfynu beth yn union a ddigwyddodd yn Sgiwen yr wythnos diwethaf, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at eu canfyddiadau. Ac mae'r Prif Weinidog yn cynnal uwchgynhadledd gyda Gweinidogion y DU a phartneriaid allweddol i helpu i sicrhau na chaiff digwyddiad dinistriol o'r fath ei ailadrodd, a phan gawn yr adroddiad gan yr Awdurdod Glo, byddwn yn gwybod sut i fwrw ymlaen ar hynny. Bydd honno'n uwchgynhadledd benodol ar y broblem yn Sgiwen, ond mae cyfres o sgyrsiau gyda'r Awdurdod Glo a Llywodraeth y DU yn digwydd yn sgil y ffaith nad yw'r cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli i Gymru. Dylai'r Awdurdod Glo ysgwyddo cyfrifoldeb am ran helaeth o'r pyllau glo. Fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, sydd â'r cyfrifoldeb am hynny wrth gwrs, ond rwy'n rhan o'r grŵp trafod y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnull ar ddiogelwch pyllau glo.
Weinidog, bydd y ffaith y bydd yn cymryd o leiaf chwe mis i unioni'r hyn a achosodd y gorlif yn golygu y bydd angen cymorth hirdymor ar breswylwyr, yn enwedig os ceir digwyddiadau tywydd garw eraill. Pa gymorth ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r awdurdod lleol sydd eisoes yn ymdrin â chanlyniadau sgil-effeithiau eraill o orffennol glofaol y rhanbarth? O dirlithriadau i lifogydd, mae perchnogion tai yn fy rhanbarth yn cael eu rhoi mewn perygl. A pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau nad oes unrhyw gartrefi neu fywydau eraill yn cael eu bygwth o ganlyniad i weithgarwch mwyngloddio blaenorol? Diolch.
Ddirprwy Lywydd, fel rwyf newydd ei ddweud yn fy ateb i David Rees, roeddem yn rhoi £6.5 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol drwy'r gronfa galedi i hawlio costau ychwanegol yn sgil y digwyddiadau tywydd eithafol hyn. Bydd digwyddiad Sgiwen yn cael ei gynnwys yn hynny, ond ein bod yn aros am ymchwiliad yr Awdurdod Glo i weld beth arall y gallai fod angen ei wneud yn fwy hirdymor. Mae gennym gyfres barhaus o drafodaethau, fel y dywedais hefyd yn fy ateb i David Rees, gyda'r Awdurdod Glo a Llywodraeth y DU, i fynd at wraidd a chanfod maint yr anawsterau yng Nghymru, ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol, fel y gallwn sicrhau bod ein holl drigolion yn ddiogel.
A gaf fi ategu sylwadau David Rees a'r diolch a roddodd? Rwy'n credu ein bod i gyd wedi rhyfeddu at yr ymateb i hyn, yn enwedig gan y gymuned. Mae unrhyw un sydd wedi bod drwy brofiad o lifogydd yn gwybod pa mor ofidus ydyw, a phan fydd gennych gymaint o ddŵr brwnt, mae'n wirioneddol dorcalonnus. Mae'r awdurdod lleol hwn, wrth gwrs, wedi gorfod ymdrin â llifogydd Aberdulais y llynedd, a ddwy flynedd yn ôl. Maent wedi gorfod ymdrin â llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf er gwaethaf toriadau i gyllideb yr amgylchedd ym Mae Caerdydd. Ond er bod angen cymorth ar unwaith yn Sgiwen nawr wrth gwrs, tybed a allwch ddweud wrthyf naill ai pa bwerau deddfwriaethol sydd gennych, neu ychydig mwy am y sgyrsiau rydych yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau bod tirfeddianwyr y mae eu seilwaith yn methu, ddywedwn ni, oherwydd nid mater sy'n ymwneud â'r Awdurdod Glo yn unig yw hwn; rydym yn sôn am berchnogion tir lle ceir dyfrffyrdd er enghraifft, a beth y gellir ei wneud i sicrhau eu bod nid yn unig yn cydnabod eu cyfrifoldeb a'u rhwymedigaethau, ond eu bod yn cael eu hariannu'n briodol i gyflawni'r rhwymedigaethau hynny? A oes unrhyw beth y gallwch ei ddweud wrthym ar hyn o bryd a all roi rhywfaint o sicrwydd inni ar y pwynt hwnnw? Rwy'n falch iawn o glywed y bydd Castell-nedd Port Talbot yn cael arian brys i dalu costau uniongyrchol y sefyllfa yn Sgiwen.
Wel, fel y dywedais, mae'r gronfa'n agored i bob awdurdod sydd â phreswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan dywydd eithafol. Mae'r un yn Sgiwen, wrth gwrs, yn fater penodol a achosir gan gwymp mwynfeydd, ac fel rydym eisoes wedi dweud sawl gwaith, mae'r Awdurdod Glo ar hyn o bryd yn ymchwilio i union achos hynny, ond mae'n siŵr ei fod wedi'i waethygu gan lefelau glawiad arbennig o uchel.
Rydym wedi cael ein gwasanaethu'n dda iawn gan y bartneriaeth dda rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol drwy gydol y pandemig, ond mae'r syniad fod eu cyllid yn cael ei gyfyngu gan Fae Caerdydd ar ôl 10 mlynedd o gyni'r Ceidwadwyr yn hyfdra y credaf fod gwir angen i'r Ceidwadwyr roi'r gorau iddo, oherwydd gwelir mai'r hyn y mae 10 mlynedd o doriadau i wasanaethau swyddfa gefn fel y'u gelwir y teimla pobl eu bod yn ddiangen yn ei olygu mewn gwirionedd yw'r union swyddogion cynllunio a swyddogion iechyd yr amgylchedd sy'n peryglu eu bywydau drwy fynd allan yn y math hwn o dywydd i sicrhau bod pobl yn cael eu gwasanaethu'n dda. Felly, nid wyf yn mynd i oddef y math hwnnw o sylw.
Rydym wedi cael cyfres o drafodaethau helaeth gyda'r Awdurdod Glo a Llywodraeth y DU. Pan gaeodd y diwydiant glo ar ddechrau'r 1990au, trosglwyddodd Deddf y Diwydiant Glo 1994 gyfrifoldeb am byllau segur i Lywodraeth y DU. Ar yr un pryd, sefydlwyd yr Awdurdod Glo i ysgwyddo cyfrifoldeb am reoli effeithiau hen weithfeydd glo ac i ymdrin â'r llu o broblemau'n ymwneud â'r amgylchedd a diogelwch a etifeddwyd yn sgil y diwydiant glo. Ac er bod ymateb y gwasanaethau brys, yr awdurdod lleol a'r gymuned leol wedi bod yn gwbl ragorol, mae angen i Lywodraeth y DU a'r Awdurdod Glo ysgwyddo eu cyfrifoldebau. Fel y dywedais, mae'r Prif Weinidog yn cynnull uwchgynhadledd i sicrhau bod hyn yn digwydd yn yr achos penodol hwn, ond rydym wedi cael cyfres o sgyrsiau parhaus gyda'r Awdurdod Glo a Llywodraeth y DU am yr angen am gyllid priodol i'r Awdurdod Glo yng Nghymru, ac mae'n amlwg na all hynny fod yn rhan o unrhyw setliad i lywodraeth ddatganoledig o ystyried pa mor helaeth yw'r gwaith, a'r ffaith nad yw wedi'i ddatganoli i'r DU. Mae fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, yn arwain y trafodaethau hynny ar y cyd â'r Prif Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd cyfleoedd i Aelodau ei holi'n fwy eang am hynny yn y dyddiau i ddod.