9. Dadl Fer: Pam nad ydym yn caru ieithoedd rhyngwladol?

– Senedd Cymru am 5:11 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:11, 3 Chwefror 2021

Un eitem o fusnes yn weddill, a'r eitem hynny yw'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Suzy Davies. Suzy Davies.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Hoffwn roi munud yr un i Mike Hedges a Laura Jones.

Bythefnos yn ôl, roeddwn yn awyddus i ymuno â'r Gweinidog ac eraill yn arddangosiad cenhadaeth ddinesig Prifysgolion Cymru, ac rwy'n eithaf sicr, Weinidog, yn eich ymateb, y byddwch yn cytuno ei fod yn hafan o faeth a phositifrwydd pan fo cynifer ohonom wedi bod yn rhwym wrth heriau COVID. A'r uchafbwynt i mi oedd clywed am ddau brosiect mentora: un oedd y prosiect mentora ffiseg, sy'n gosod myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig hyfforddedig mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru, i fentora myfyrwyr blwyddyn 10 ac 11, hyrwyddo cymwysterau ffiseg ac ysbrydoli ffisegwyr y dyfodol; ond cynllun mentora ieithoedd tramor modern llwyddiannus, sefydledig oedd y llall, cynllun sydd wedi ennill gwobrau, ac sydd hefyd yn gydweithrediad rhwng nifer o'n prifysgolion, ac at hwnnw rwyf am dynnu sylw'r Aelodau heddiw.

Nawr, bydd rhai ohonoch yn gwybod bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod ag ymrwymiad hirsefydlog i greu Cymru dairieithog, gan gyflwyno trydedd iaith i blant yn yr ysgol gynradd ochr yn ochr â'n dwy iaith genedlaethol. Ac mae'r cynllun y byddaf yn sôn amdano y prynhawn yma yn cefnogi uchelgais yr hyn a oedd gennym mewn golwg, ond mae wedi fy helpu i ddeall yn well sut y gellid cyflawni hynny'n well. Mae hefyd yn cefnogi'r cwricwlwm newydd yn ei uchelgais i ddal sylw plant a'u denu i fyd o ryfeddodau, sef byd ieithoedd, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld sut y bydd hyn yn datblygu. Oherwydd nid oes amheuaeth yn fy meddwl fod byw mewn gwlad Saesneg bron â bod wedi diffodd chwilfrydedd yn y byd hwnnw o ryfeddodau dros y blynyddoedd, ac mae'n ein gwneud ni i gyd yn dlotach o'r herwydd. Ac fe fyddwch yn dweud, 'Rydym yn lwcus, nid dim ond Saesneg a siaradwn, rydym yn byw mewn rhan o'r DU lle mae mwy a mwy o'n plant yn ddigon ffodus i gael dwy iaith—dwy iaith genedlaethol'. Mae gan rai o'n dinasyddion fwy na dwy wrth gwrs.

Dywedir wrthym yn ddigon aml fod bod yn ddwyieithog yn eich gwneud yn well mewn ieithoedd eraill, ac rwy'n mynd i fod yn ddadleuol ac anghytuno â hynny. Ac rwy'n mynd i anghytuno am na wnaeth fy mhlant dwyieithog i erioed ymrwymo i'w gwersi Ffrangeg yn yr ysgol. Mae'n ddigon posibl y byddai'n sylw mwy cywir os ydym yn mynd ati'n weithredol i ddysgu ein hiaith genedlaethol arall, ond nid oes llawer o bobl yn astudio ieithoedd rhyngwladol ar lefel fawr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ysgolion a all gynnwys llawer o ddysgwyr o gefndiroedd di-Gymraeg hefyd wrth gwrs. Ac rwy'n anghytuno am nad ydym bellach yn archwilio ac yn dysgu sut y mae ein mamieithoedd yn gweithio, ac mae'n fy nharo ein bod yn dysgu ieithoedd eraill mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar ein dewisiadau dysgu fel unigolion, ac mae'n debyg ei fod yn gymysgedd o ddulliau i ni i gyd.

Cymraeg yw fy ail iaith, ac mae ymhell o fod yn berffaith, ond rwyf wedi'i dysgu drwy ddod i gysylltiad â hi'n eithaf aml a thrwy fod yn y Senedd hon, i raddau helaeth. Fodd bynnag, rwy'n credu fy mod wedi gallu ei dysgu fel hynny, mewn rhyw fath o ddull trochi lefel isel, am fy mod yn hyddysg mewn rheolau a strwythurau gramadeg hen ffasiwn, y math hwnnw o ddysgu, nid yn unig mewn tair iaith arall yn yr ysgol ond yn fy iaith gyntaf hefyd. A gwn fod hynny'n swnio braidd yn ddiflas, ond mewn gwirionedd, nid dim ond eistedd wrth ein desgiau'n rhestru rhediadau berfau y byddem yn ei wneud. Rwy'n dal i allu canu'r gân bop Ladin a gyfansoddwyd gennym, os ydych am i mi wneud hynny. Neu gallaf eich cyfareddu â realaeth hud fy stori am Mozart yr hipopotamws, a daflwyd at ei gilydd oherwydd bod gennyf lwyth o eirfa ar gyfer sw a dim ar gyfer bywyd y cyfansoddwr enwog.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:15, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Nawr, yr hyn y mae siarad â Lucy Jenkins, yr arian byw sy'n arwain y prosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern, wedi'i wneud yw gwneud imi ddeall yn well beth oedd fy mhrofiad fy hun mewn gwirionedd yr holl flynyddoedd yn ôl. Ac mae'r ddwy enghraifft honno'n dangos beth oedd hynny, sef cael y ddawn i chwarae gydag ieithoedd, i weld y cysylltiadau ac i allu dyfalu beth yw ystyr rhywbeth, i gymryd peth risg a gwneud cymaint o gamgymeriadau ag y dymunwch. Ac yn wahanol i fathemateg, lle mae'r sicrwydd yn ei wneud mor foddhaol, yr anghysonderau a'r annisgwyl sy'n eich llonni gydag iaith. Ac rwy'n siŵr fod fy arholwr CBAC wedi cael andros o hwyl yn darllen fy narn byr ar hela, lle roeddwn yn drysu dro ar ôl tro rhwng yr Almaeneg am 'saethu' a'r Almaeneg am 'ysgarthu'. Ac i mi, fflyrtio hapus gydag ieithoedd Eidalig ac Almaenig yw hyn, ond gallaf ymroi i hynny oherwydd fy mhrofiad ysgol. Mae'n rhaid i ddysgwyr heddiw geisio efelychu'r creadigrwydd hwn ac archwilio drwy dechnegau lled-drochi mewn gwersi unwaith yr wythnos, neu unwaith bob pythefnos hyd yn oed, mewn ysgolion sydd, at ei gilydd, wedi bod yn ceisio codi eu sylfaen wyddoniaeth am y ddau ddegawd diwethaf. Felly, a allwn ddweud gyda'n llaw ar ein calon fod gennym naratif cenedlaethol sy'n dweud ein bod yn gweld gwerth ieithoedd rhyngwladol? A allwn wneud hynny? Ac mae'n debyg y byddwn yn ychwanegu yma, os caf, os rhywbeth, fod llawer o gywair sylfaenol ein perthynas ddiweddar â'r UE wedi cyfrannu at wneud inni eu gwerthfawrogi'n llai. 

Ac er ein bod yn tueddu i siarad am ddiffyg athrawon ffiseg—wyddoch chi, fod llai na deg ohonynt—pa mor aml y gresynwn at y prinder o athrawon ieithoedd tramor modern? Hynny yw, mae llai na deg ohonynt hwythau hefyd bron iawn. A beth a wnaethom i gyflwyno ieithoedd eraill sy'n bwysig yn fyd-eang? Adoro l'italiano ma forse dovrei pensare di piú a imparare l'arabo o il mandarino. A dyma reswm arall dros fy mrwdfrydedd ynglŷn â'r prosiect mentora hwn: maent yn sôn am ieithoedd nad ydym yn eu dysgu hefyd.

Nawr, gan weithio ar draws prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe, mae'r prosiect hwn, a ariennir drwy Dyfodol Byd-eang, yn canolbwyntio ar newid agweddau a chanfyddiadau o ieithoedd drwy hyfforddi myfyrwyr i fentora blynyddoedd wyth a naw—dysgwyr ysgol uwchradd—i weld gwerth a manteision dysgu iaith. Ac nid yng Nghymru'n unig y mae'n digwydd—mae'r tîm hwn wedi bod yn cyflwyno'r fenter hon yn Swydd Efrog ers dwy flynedd, neu fenter debyg iawn a grëwyd yn Lloegr, prosiect mentora cyfunol, yn sgil cyllid gan yr Adran Addysg. A'r model sydd wedi'i dreialu'n fwyaf llawn yw system fentora wyneb yn wyneb unwaith yr wythnos dros gyfnod o chwe wythnos, wedi'i dilyn gan seremoni wobrwyo yn y brifysgol sy'n ei chynnal. Fodd bynnag, mae ganddynt fersiwn gyfunol hefyd ac mae cynllun peilot cwbl ddigidol yn cael ei gyflwyno drwy Hwb, sydd, wrth gwrs, yn amserol iawn.

Mae'r grŵp hefyd wedi dyfeisio rhaglen adfer ôl-16 ar-lein i helpu i oresgyn effeithiau COVID. A phrif ddangosydd perfformiad allweddol y prosiect oedd cael mwy o ddysgwyr i ddewis astudio iaith dramor fodern ar lefel TGAU, a'i ddysgwyr targed yw'r rhai sy'n dweud 'annhebygol' a 'na', y dysgwyr sy'n eithaf sicr nad ydynt eisiau gwneud hynny. Nid yw hyn yn ymwneud ag enillion hawdd. Ac mae ei lwyddiant—wel, rwy'n crynhoi llawer o dystiolaeth pan ddywedaf hyn, ond mae i bob pwrpas wedi dyblu'r nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern yn yr ysgolion lle mae'r cynllun yn weithredol. Felly, yn y chwe wythnos hynny'n unig, mae wedi troi rhai o'r myfyrwyr sydd â'r lleiaf o ddiddordeb yn fyfyrwyr TGAU iaith, yn ogystal â chynnau'r tân mewn rhai nad oeddent yn siŵr o gwbl. Ac er bod hyn yn gwneud rhyfeddodau i forâl athrawon iaith yn yr ysgolion hyn, wyddoch chi beth? Yn anad dim, y dysgwyr o ardaloedd dan anfantais economaidd sydd wedi elwa fwyaf o'r cyswllt personol uniongyrchol hwn â myfyrwyr prifysgol sydd wedi cael profiad diweddar o fyw mewn gwlad dramor, ac sydd, mae'n debyg, yn ymgorffori ystod ehangach o brofiadau ac opsiynau.

Nawr, Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch am siarad am Erasmus+ yn eich ymateb i'r ddadl hon, ond rwy'n awyddus iawn i chi siarad am y cynllun hwn, sy'n cydweddu lawn cymaint â Turing ag y mae ag Erasmus+, ac mae hynny'n cyd-fynd â phrif nod Turing, sy'n ymwneud â chyrraedd yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd. A gawn ni drafod Erasmus yn erbyn Turing ar ryw ddiwrnod arall, a mwynhau llwyddiant y prosiect mentora am heddiw, gan dderbyn mai un o'r prif resymau pam y mae'r cynllun hwn mor llwyddiannus yw'r cysylltiad rhwng ein disgyblion blwyddyn wyth a naw a'n myfyrwyr prifysgol yn y wlad hon sydd wedi cael profiad diweddar o fyw dramor, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn dal i fod eisiau i hynny ddigwydd?

Ond y newyddion gwych yw nad oes prinder myfyrwyr sydd eisiau bod yn fentoriaid. Mae mwy'n ymgeisio nag sy'n cael eu derbyn. Ceir 100 o fentoriaid newydd eleni, wedi'u dewis ar ôl proses recriwtio drylwyr, gan weithio gydag wyth disgybl, ac mewn gwirionedd, mae ychydig yn fwy na hynny, pan fydd yn cynnig y gwaith ar-lein. Rhan o'u gwaith yw goresgyn yr heriau rydym yn gwybod amdanynt ac y clywsom amdanynt yn ddigon aml gan y British Council: 'Mae'r ieithoedd hyn yn anodd'; 'Mae'n ddiflas'; 'Mae dysgwyr yn dechrau'n rhy hwyr o gymharu â phynciau eraill'; 'Nid oes digon o le ar yr amserlen'; 'Agweddau rhieni'; ac fe ddywedwn i, diffyg dathlu cenedlaethol. Ac maent yn canolbwyntio ar yr hyn y dechreuais siarad amdano ychydig yn gynharach, sef athroniaeth ieithoedd, sut rydym yn cyfathrebu, iaith fel allwedd i fod yn chwilfrydig, teimlo'n gyfforddus yn chwarae gydag ieithoedd eraill a'u profi, a'r lle diogel i gael pethau'n anghywir. Ac er fy mod yn dal i ddweud bod lle i ddefnyddio ieithoedd i werthu gyrfaoedd a gwerthu Cymru, mae Cymru, wrth gwrs, yn rhan o'r DU lle gallwn ddangos nad oes arnom ofn ieithoedd gwahanol i Saesneg.

Rwy'n credu bod y prosiect hwn yn gwneud rhywbeth diddorol iawn. Mae'n gofyn i'n pobl ifanc—mae'n gofyn iddynt feddwl am bwy a beth ydynt. Felly, a ydynt yn garedig? A ydynt eisiau gwneud i bobl deimlo bod croeso iddynt drwy gynnig cyfle iddynt ddefnyddio eu hiaith eu hunain, i deimlo'n llai agored wrth geisio cyfathrebu â'i gilydd? Meddyliwch am y ffordd rydym i gyd yn teimlo pan fyddwn dramor a bod rhywun yn ddigon caredig i siarad Saesneg â ni. Mae iaith a sut rydym yn ei defnyddio yn bersonol iawn ac yn ein gwneud yn agored iawn, ac mae helpu dysgwyr i weithredu mewn byd sy'n llawer mwy na'r byd y maent yn byw ynddo yn un o ryfeddodau iaith. Ond un arall yw gallu ieithoedd i ffurfio cysylltiadau agos—bach a dynol, ond eto'n enfawr ac yn eang ar yr un pryd. Felly, Weinidog, pan fydd y ddwy ohonom wedi gadael y lle hwn, rwy'n gobeithio y caiff dyfodol y prosiect ei gadarnhau fel nodwedd barhaol o'n cynnig addysg.

Cyn i mi fynd, hoffwn sôn am ddau beth: y cyntaf yw argymell tudalen Facebook i chi. Rwy'n eich annog i edrych am Steve the vagabond and silly linguist—mae ganddo wefan hefyd. Ond os ydych chi eisiau ailddarganfod chwarae gydag ieithoedd, ewch i weld. Ac yna, yn ail, ac ar gyfer diwrnod arall—dyma un ar gyfer y chweched Senedd a Llywodraeth arall yn gyfan gwbl, gan gynnwys Llywodraeth y DU—tybed pam ei bod hi'n ymddangos na allwn ddarparu hyd yn oed un sianel iaith dramor drwy Freeview. Grazie.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:22, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am roi munud i mi yn y ddadl hon a hefyd am y ffordd gyffrous y mae wedi arwain y ddadl hon, dadl rwy'n sicr wedi'i mwynhau, ac rwy'n siŵr fod pobl eraill wedi'i mwynhau hefyd? Yn 2019, adroddodd y BBC fod ieithoedd tramor yn cael eu gwasgu allan o amserlenni ysgolion gan bynciau craidd fel bagloriaeth Cymru. Bu gostyngiad o 29 y cant yn nifer y cofrestriadau TGAU iaith yng Nghymru mewn pum mlynedd—gostyngiad mwy serth nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Bydd gan ddisgybl TGAU mewn ysgol yng Nghymru leiafswm o chwech ac uchafswm o wyth pwnc gorfodol y mae'n rhaid iddynt eu hastudio, gyda rhwng dau a phedwar pwnc dewisol. Ymhlith yr opsiynau hynny, yn ogystal ag ieithoedd, mae ganddynt hanes, daearyddiaeth, TGCh, drama, addysg gorfforol, addysg grefyddol, ac am mai dim ond munud sydd gennyf, ni allaf ddarllen y gweddill ohonynt. Ond mae ystod eang o opsiynau ganddynt, ac mae ganddynt uchafswm o bedwar a lleiafswm o ddau. A yw'n syndod fod ieithoedd tramor modern yn lleihau? Rydych chi'n cystadlu yn erbyn rhai o'r pynciau mwy poblogaidd nad ydynt yn orfodol eu hunain. A oes ateb i hyn? Mae'r ateb yn syml—nid wyf yn disgwyl iddo gael ei wneud, ond mae'n syml—os yw rhywun am wneud dwy iaith dramor fodern, dim ond yr opsiwn gwyddoniaeth unigol sy'n rhaid iddynt ei wneud, yn hytrach nag opsiwn gwyddoniaeth ddwbl. Byddai hynny'n golygu bod disgyblion nad ydynt yn hoffi gwyddoniaeth—a gwn sut beth yw hynny oherwydd roedd gennyf ferch nad oedd yn hoffi gwyddoniaeth o gwbl, ond a oedd yn hoffi ieithoedd—rhowch gyfle iddynt wneud dwy iaith. Nid yw'n mynd i ddigwydd fel arall. Mae gennych ddau i bedwar opsiwn—a ydych yn mynd i ddewis dwy iaith o blith y rheini? Mae'n annhebygol iawn. Os ydym am i ieithoedd tramor gael eu defnyddio, mae'n bwysig iawn nad ydym yn gwneud i bobl wneud gwyddoniaeth ddwbl hefyd.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 5:24, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Suzy, am adael imi gael munud yn eich dadl. Rwyf bob amser wedi ystyried bod dysgu ieithoedd rhyngwladol yn bwysig iawn, ac mae'n destun gofid mawr fod gennym sefyllfa yng Nghymru a'r DU yn system bresennol y wladwriaeth lle nad yw ein system addysg ysgolion cynradd ond yn rhoi sylw wrth fynd heibio iddynt. Mynychais ysgol Montessori rhwng dwy a phedair oed, meithrinfa, lle roeddwn yn siarad Ffrangeg drwy'r amser. Câi popeth ei wneud yn Ffrangeg. Ac nid oedd gennyf syniad fod hynny wedi digwydd nes i mi gyrraedd yr ysgol gyfun ac yna, yn fy ngwers Ffrangeg gyntaf, roeddwn yn deall popeth a ddywedai'r athro ac nid oedd gennyf syniad sut y gwyddwn am beth roedd hi'n siarad. Mae effaith dysgu ieithoedd yn gynnar yn rhyfeddol. Dyna pryd y mae plant yn amsugno ieithoedd, a dyna pam rwy'n gwneud Ffrangeg yn y bath gyda fy mab nawr. Mae'n—. Mae'n—. Mae eu hymennydd eisiau dysgu, dysgu, dysgu, felly dyna'r adeg orau i ddysgu ieithoedd yn fy marn i. 

Rwyf bob amser wedi bod yn hynod falch o fod yn Gymraes a Phrydeiniwr y rhan fwyaf o'r amser, gan ein bod yn arweinwyr y byd yn y rhan fwyaf o bethau, ond mewn ieithoedd rydym yn llusgo ar ôl nid yn unig Ewrop ond gweddill y byd. Mae ieithoedd tramor modern fel Sbaeneg, Mandarin ac yn y blaen—nid wyf yn deall pam nad ydym yn eu dysgu, yn enwedig mewn byd sy'n newid yn barhaus, yn enwedig ar ôl Brexit, pan fyddwn yn naturiol yn sefydlu amrywiaeth o bartneriaethau rhyngwladol yn awr. Byddai o fantais fawr i'n gweithlu yn y dyfodol pe baent wedi'u harfogi gydag ychydig o ieithoedd. Mae'r Gymraeg yn wych—rwy'n gwbl gefnogol iddi—ond nid oes llawer o ddefnydd iddi ar lwyfan rhyngwladol busnes. Ie, Saesneg yw un o brif ieithoedd y byd, ond ni ddylem ddibynnu ar bawb arall i'w siarad fel nad oes rhaid inni ddysgu ieithoedd eraill. Dylem fod yn defnyddio ieithoedd modern yn gystadleuol hefyd, nid yn unig ar gyfer y rhwydweithiau rhyngwladol amlwg rydym yn eu hadeiladu nawr sy'n cynyddu'n barhaus, ond hefyd am fod ieithoedd yn addysgu pobl mewn gwirionedd i ymgysylltu'n fwy sensitif â diwylliannau eraill ac yn hwyluso gwell dealltwriaeth o wahanol fathau o dreftadaeth. 

Rwyf am—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:26, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ddirwyn i ben? Rydych chi wedi cael mwy na munud, mae'n ddrwg gennyf.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

(Cyfieithwyd)

Dyma obeithio y bydd y cwricwlwm newydd—[Anghlywadwy.]

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:27, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi ofyn yn awr i'r Gweinidog Addysg ymateb i'r ddadl? Kirsty Williams.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wel, rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau sydd wedi aros i wrando ar y ddadl fer y prynhawn yma yn cytuno â mi fod penderfyniad Suzy Davies i ymddeol o'r Senedd yn golled wirioneddol—mae'n golled wirioneddol i'n gwaith yma, a hoffwn gofnodi fy niolch i Suzy Davies am ei gwasanaeth, nid yn unig i bobl Gorllewin De Cymru ond i'r gwasanaeth i'w gwlad. Suzy, fel y dywedais, fe welir colli eich cyfraniad yn fawr. Hoffwn ddiolch i chi hefyd am gydnabod yr arddangosiad cenhadaeth ddinesig gwych a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Prifysgolion Cymru. Wrth ddod i'r swydd hon, heriais ein sefydliadau addysg uwch i ailgyfeirio'r ymdeimlad o genhadaeth ddinesig, ac rwyf mor falch eu bod wedi croesawu'r her honno, a dim ond un o'r ffyrdd y mae ein sefydliadau addysg uwch yn gwasanaethu eu myfyrwyr, ac yn ein gwasanaethu ni fel cenedl yn ogystal, yw'r prosiect rydych wedi sôn amdano y prynhawn yma. 

O ystyried mai dyma'r ddadl fer olaf y bydd Suzy Davies, a finnau yn wir, yn ei gwneud yn y Siambr rithwir hon, am unwaith yn unig, Suzy, rwyf am ildio a gadael Turing ar gyfer diwrnod arall. Ond a gaf fi ddiolch yn ddiffuant i chi am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr? Fel y dywed Suzy, mae dysgu ieithoedd nid yn unig yn rhoi cymwysterau i'n pobl ifanc, mae'n rhoi cyfle iddynt ehangu eu gorwelion, dyfnhau dealltwriaeth ddiwylliannol, a darparu sgiliau y gallant eu defnyddio yma ac ar draws y byd. Mae gennyf weledigaeth glir iawn i'n holl ddysgwyr ddod yn ddinasyddion amlieithog, byd-eang. Ac yn y byd rydym ynddo, byddai'n hawdd diystyru'r heriau y mae ieithoedd rhyngwladol yn eu hwynebu fel rhai dibwys o'u cymharu â'r rhai rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn ein hysgolion—ac y gellid neilltuo'r gostyngiad yn nifer y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd tramor modern a'r lleihad yn y ddarpariaeth fel problemau ar gyfer diwrnod arall. Fodd bynnag, fe ddown drwy'r cyfnod hynod heriol hwn, ac rwyf wedi ymrwymo i barhau â'n cymorth i ddysgwyr i ddeall y cyfoeth o gyfleoedd y mae ieithoedd rhyngwladol yn eu cynnig. 

Mae ein cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnig cyfle cyffrous i ddatblygu amgylcheddau a darpariaeth sy'n gyfoethog o ran iaith ledled Cymru, ac mae'n nodi newid diwylliant o un sy'n dweud wrth ysgolion beth i'w wneud a beth i'w addysgu i un sy'n rhoi'r cyfrifoldeb i'r ysgolion am ddatblygu cwricwlwm sy'n gweithio orau i'w holl ddysgwyr, ond o fewn fframwaith cenedlaethol. A bydd yn cyflwyno dysgu ieithoedd rhyngwladol o oedran cynnar iawn, gyda disgwyliadau clir ar gyfer cynnydd dysgwyr tra'u bod yn yr ysgol gynradd. Rwyf wedi defnyddio'r stori hon o'r blaen, rwy'n gwybod, ond mae'n un mor hyfryd, rwy'n mynd i'w defnyddio eto. Ymweliad ag ysgol pob oed yng nghymuned Aberdâr; rwy'n ymweld â'u disgyblion ieuengaf, lle roedd y plant yn darllen Y Lindysyn Llwglyd Iawn, nid yn unig yn Saesneg, ac nid yn unig yn Gymraeg, ond yn dysgu'r ffrwythau a'r eitemau roedd y lindysyn llwglyd yn eu bwyta yn Sbaeneg hefyd. Ac yn union fel y dywedodd Laura, roedd y plant hynny'n anymwybodol eu bod yn dysgu ac yn gwella eu geirfa mewn tair iaith wahanol. Iddynt hwy, cyffro geiriau newydd oedd yn bwysig, ymadroddion newydd, a'r seiniau newydd roeddent yn gwrando arnynt. A mawredd, os gallwn gyflwyno hynny ar draws ein holl ddarpariaeth cyfnod sylfaen, am waddol gwych y byddwn yn ei greu i'r plant hynny. Dylai cael gwared ar ffiniau rhwng pynciau rymuso ysgolion i gynllunio darpariaeth iaith wirioneddol gyfannol a dylai ysgolion deimlo eu bod wedi'u grymuso i fod yn greadigol ac i ddatblygu cyfleoedd dysgu ystyrlon.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:30, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Y llynedd, fel rhan o fy ymrwymiad parhaus i ieithoedd rhyngwladol, cytunais i roi cylch ariannu pellach i'r rhaglen Dyfodol Byd-eang. Mae'r cyllid hwn wedi arwain at ganolfannau rhagoriaeth lle mae ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion a phartneriaid i wella addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern ledled ein gwlad. Mae hefyd yn darparu cyllid i'r consortia rhanbarthol ar gyfer gwella eu cynigion cymorth i ieithoedd tramor modern gan ganolbwyntio'n benodol ar gynorthwyo ysgolion cynradd i ddarparu ieithoedd tramor modern. Mae cyllid Dyfodol Byd-eang yn cynorthwyo ein hathrawon ysgolion cynradd i gymryd rhan yn Athrawon yn Dysgu i Addysgu ieithoedd y Brifysgol Agored—y rhaglen TELT—mewn ysgolion cynradd, sy'n cynnig gwersi i ddechreuwyr yn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Mandarin.

Mae'r rhaglen hefyd yn rhoi arian i brosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern Prifysgol Caerdydd y canolbwyntiodd Suzy arno y prynhawn yma. Fel y dywed, mae'n rhoi israddedigion o brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth mewn ysgolion lleol yng Nghymru i fentora disgyblion blwyddyn 8 a 9 a'u cefnogi yn eu hastudiaethau a'u hannog i ystyried dewis ieithoedd tramor modern ar lefel TGAU. Y llynedd, i gydnabod yr angen i addasu yn y ffordd y maent yn cyflwyno i ysgolion, datblygwyd dull digidol o gefnogi ysgolion o bell ledled Cymru yn gyflym iawn ar yr adeg heriol hon. Mae'r prosiect yn chwarae rhan allweddol yn ehangu gorwelion a dyheadau dysgwyr. Cymerodd dros 115 o ysgolion uwchradd ran yn y prosiect dros y pum mlynedd diwethaf, ac roedd hynny'n golygu cyrraedd 10,000 o ddisgyblion unigol. Mae wedi cael cydnabyddiaeth gwbl briodol y prynhawn yma yn y Siambr, a hefyd fel enillydd Cwpan Threlford yn 2017, ac mae wedi datblygu enw rhagorol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n glod gwirioneddol i'r tîm yn y prifysgolion perthnasol, y myfyrwyr sy'n cymryd rhan fel mentoriaid, a hefyd i'r dysgwyr sy'n cymryd rhan yn eu rhaglen.

Ac mae'n rhaid i mi ddweud, ar ôl ymweld â'r prosiect fy hun mewn ysgol uwchradd yn y Barri, a gweld y mentor yn cyflwyno gwers, ac yn siarad â'r plant yn y wers honno, mae'n mynd gymaint pellach na dysgu ac annog pobl i astudio iaith dramor. Daethom ar draws unigolion nad oeddent erioed wedi ystyried gyrfa mewn addysgu, ond a oedd wedi mwynhau eu hamser gymaint yn gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion fel eu bod bellach yn bwriadu dilyn cwrs TAR i ddod yn athrawon ieithoedd tramor modern eu hunain. Ac i'r bobl ifanc hynny, gyda rhai ohonynt erioed wedi cyfarfod ag unrhyw un a oedd wedi mynychu prifysgol, roedd y cyfle i weithio ochr yn ochr â myfyriwr graddedig a gallu ymweld â phrifysgol eu hunain ar y diwedd—sefydliad roeddent wedi gyrru heibio neu deithio heibio iddo ar fws efallai, ond nad oeddent erioed wedi meddwl am groesi'r trothwy—roedd hynny wedi rhoi golwg newydd a rhagolygon newydd iddynt ar yr hyn y gallent ei gyflawni a sut y gallai prifysgol yn hawdd fod yn lle y gallent hwythau anelu at ei fynychu hefyd. Felly, mae'r manteision yn amlwg mewn amrywiaeth helaeth o ffyrdd.

Mae prifysgolion, ynghyd â'n partneriaid Dyfodol Byd-eang—sy'n cynnwys consortia addysg rhanbarthol, Estyn, sefydliadau iaith, Cymwysterau Cymru a Gyrfa Cymru—i gyd yn darparu arbenigedd a chymorth ar gyfer addysgu a dysgu iaith yn ein hysgolion. A thrwy fy ymrwymiad i genhadaeth ddinesig ein prifysgolion, mae'r dull hwn bellach yn cael ei ariannu a'i ddilyn mewn pynciau eraill, a soniodd Suzy am ein prosiect mentora ffiseg, sydd hefyd yn wirioneddol lwyddiannus ac o bosibl yn rhoi cyfle inni feddwl ble arall y gallwn gyflogi israddedigion disglair, brwd sy'n astudio yn ein prifysgolion i fod yn fodelau rôl go iawn i fyfyrwyr yn ein hysgolion uwchradd.

Wrth inni barhau i symud ymlaen, byddwn yn gweld datblygiadau i feysydd eraill o'r system addysg a luniwyd i gefnogi dysgwyr. Bydd cymwysterau ar gyfer ieithoedd rhyngwladol hefyd yn newid. Fel aelodau o grŵp llywio Dyfodol Byd-eang, mae Cymwysterau Cymru yn cyfranogi'n uniongyrchol o arbenigedd y grŵp wrth iddynt geisio datblygu cymwysterau iaith sy'n diwallu anghenion ein dysgwyr, ac rwy'n credu bod ffocws ar allu ieithyddol a'r gallu i siarad iaith, rwy'n siŵr, yn rhan bwysig iawn o'r gwaith hwnnw.

Rydym hefyd yn cyflwyno fframwaith newydd ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ysgolion sy'n galw am ddefnyddio ystod ehangach o wybodaeth wrth ystyried effeithiolrwydd ysgolion. Bydd y dull hwn yn ffordd well o ddangos cynnydd pob dysgwr a'u profiad dysgu cyfan, yn hytrach nag ystod gul o ganlyniadau arholiadau cyfnod allweddol 4. Yn bwysig, bydd y trefniadau gwerthuso a gwella newydd hyn yn cefnogi ac yn cyd-fynd â gweithredu Cwricwlwm Cymru, fel yr argymhellwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Drwy wneud hynny, byddant yn helpu i leihau'r bwlch cyrhaeddiad ac yn cefnogi'r gwaith o wireddu pedwar diben ein cwricwlwm newydd.

Caf fy nghalonogi bob amser gan gyrhaeddiad rhagorol ein myfyrwyr ieithoedd tramor modern, sy'n dyst nid yn unig i waith caled y dysgwyr, ond hefyd i'r addysgu rhagorol y maent wedi'i gael. Byddwn yn parhau i gydweithio â'n partneriaid Dyfodol Byd-eang i gefnogi ein hysgolion drwy'r cyfnod anodd hwn. Hoffwn gofnodi fy niolch unwaith eto i bawb sy'n rhan o'r gwaith o gyflawni ein prosiect mentora ieithoedd tramor modern. Os nad yw'r Aelodau'n gyfarwydd ag ef, fel y dywed Suzy, mae'n un y dylent fwrw golwg arno. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:36, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:36.