Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch am yr ateb yna. O ran y bwlch yn y gyfraith, efallai does dim ots am y semanteg gyda hyn, ond fel roeddech chi'n dweud, mae e'n fater o anghyfiawnder moesol bron, a dwi'n meddwl, oherwydd hynny, hyd yn oed os dyw llywodraeth leol ddim yn colli mas, mae angen gwneud yn siŵr bod hynna ddim yn digwydd, ac mae angen cau'r bwlch yna. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth bydd yn rhaid i'r Llywodraeth nesaf fynd i'r afael ag e lot mwy.
Hoffwn i droi nawr—a dwi'n gobeithio bod y sŵn yn gweithio—at bwnc gwahanol y gwnes i ei godi mewn llythyr diweddar gyda chi, sef y ffaith bod dau gyngor sir wedi derbyn setliad ariannol llawer is na'r gweddill. Mae cynghorau Ceredigion a Wrecsam ond yn cael cynnydd o 2 y cant a 2.3 y cant, sydd ymhell islaw y cyfartaledd o 3.8 y cant. Mae arweinydd cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, wedi rhybuddio y gallai hyn arwain at golli swyddi a thorri gwasanaethau. Byddai hyn yn hollol annheg, dwi'n siŵr byddech chi'n cytuno â fi, ar y gweithwyr, ac ar y cyngor, sydd wedi bod yn gwneud gwaith mor hanfodol yn cadw trigolion lleol yn ddiogel yn ystod y pandemig.
Nawr, rwy'n deall bod eich Llywodraeth yn defnyddio fformiwla er mwyn dyrannu'r arian, ac felly dydy'r penderfyniad yma ddim yn fwriadol i'w tangyllido nhw, ond yn y gorffennol, pan fo gwahaniaeth sylweddol wedi bod yn y setliad, mae'r Llywodraeth wedi gosod llawr cyllido, rhywbeth y mae'r WLGA wedi galw amdano y flwyddyn hon. Dwi'n gwybod, yn y gorffennol, Weinidog, eich bod chi wedi dweud eich bod chi ond wedi dod â'r llawr yna i mewn pan fu rhai cynghorau yn gweld rhywbeth negyddol ac y bydden nhw'n cael llai yn hytrach nag unrhyw gynnydd o gwbl, ond mae'r pandemig yn dod â ni i mewn i sefyllfa dŷn ni byth wedi bod ynddi hi o'r blaen ac mae'r galwadau ar wasanaethau wedi bod cymaint yn uwch. Byddai gweithredu hwn y nawr, gan gynyddu'r codiad i'r ddau gyngor, ond yn costio rhyw £2.4 miliwn. Rŷch chi wedi dweud wrthyf fi y byddech chi'n ystyried popeth, o ran ymateb i'r setliad, yn ofalus cyn cyhoeddi'r setliad terfynol. Felly, allwch chi ddweud wrthym heddiw, os gwelwch yn dda, a wnewch chi weithredu'r llawr cyllido? A dwi'n gobeithio bod y sŵn wedi gweithio.