Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:49, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr y bydd pob cyngor, gan gynnwys Caerffili, fel yr ychwanegwyd gennych, yn edrych ymlaen yn ddisgwylgar at y setliad terfynol.

Yn olaf, hoffwn droi yn awr at y dreth gyngor. Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, i roi mwy o arian i awdurdodau lleol er mwyn osgoi codiadau yn y dreth gyngor ar gyfer eleni, pan fydd llawer o deuluoedd ac unigolion eisoes yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd, ac o gofio'r ffaith—ac mae hyn yn rhywbeth y gwn y byddwch yn cydymdeimlo ag ef—mai treth atchwel yw'r dreth gyngor sy'n taro grwpiau incwm isel galetaf. Nawr, er bod budd-dal y dreth gyngor yn rhoi rhywfaint o ryddhad mawr ei angen i'r rhai sy'n gymwys i'w gael, mae nifer sylweddol o bobl o hyd nad ydynt yn gymwys i'w gael ac sydd eto'n wynebu'r baich enfawr hwn. Nid yw'n gyfrinach fod awdurdodau lleol yn parhau i wynebu heriau ariannol enfawr. Felly, oni bai eich bod yn bwriadu darparu'r arian ar gyfer rhewi'r dreth gyngor yn gyffredinol, a allwch ddweud wrthyf beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau nad yw'r heriau ariannol y mae ein cynghorau yn eu hwynebu yn cael eu trosglwyddo i rai o'r bobl dlotaf yn y gymdeithas ar ffurf codiadau yn y dreth gyngor?