3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 10 Chwefror 2021.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y gallai myfyrwyr fod wedi syrthio ar ei hôl hi yn ystod pandemig COVID-19? OQ56281
Mae'r tarfu ar ysgolion wedi effeithio'n sylweddol ar gynnydd, iechyd a llesiant a hyder dysgwyr. Mae wedi effeithio ar rai yn fwy nag eraill, yn enwedig carfannau arholiadau, y blynyddoedd cynnar, a'n dysgwyr difreintiedig. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu dull cynaliadwy a gwydn o hyrwyddo dysgu yn y blynyddoedd i ddod a mynd i'r afael â'r ymyriadau.
Ie, diolch am y gwerthusiad hwnnw. Mae'n sefyllfa anodd. Mae'n ymddangos i mi fod y profiad o ddysgu gartref wedi amrywio'n aruthrol, rhywbeth y dylem fod wedi'i ddisgwyl, mae'n debyg. Cyn y gallwn fynd i'r afael â sut i ddal i fyny ag addysg goll plant oedran ysgol wrth inni ddod allan o'r argyfwng COVID, bydd angen rhywun arnom i asesu'n awdurdodol ble yn union rydym arni. O ystyried hynny, a ydych yn rhagweld y bydd gan Estyn rôl fawr yn asesu ein sefyllfa, a beth yw eich barn ar hyn o bryd ynglŷn ag ailddechrau arolygiadau ysgolion yng Nghymru?
Wel, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod y bydd pob plentyn wedi cael profiad o COVID a tharfu ar eu dysgu, ac felly, bydd angen dull gweithredu arnom sy'n cefnogi ein holl ddysgwyr, ond rydym hefyd yn cydnabod y bydd gan rai rhannau o'r garfan heriau penodol, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, ac yn wir bydd gan rai plant unigol heriau y bydd angen i ni eu cefnogi.
Yn y lle cyntaf, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau addysg lleol, gwasanaethau rhanbarthol gwella ysgolion, yr addysgwyr eu hunain, i ddatblygu rhaglen ymyrraeth barhaus i gefnogi dysgwyr yn y tymor byr, y tymor canolig ac yn hirdymor, a byddwn yn disgwyl i Estyn chwarae rôl fel arfer, fel rhan o deulu addysg Cymru. Gobeithio y gall arolygiadau fynd rhagddynt yn ôl y bwriad, ond yn amlwg, rydym yn parhau i adolygu'r holl faterion hyn wrth inni ymdrin â chanlyniadau effaith y pandemig ar addysg.
Weinidog, a allwch ein sicrhau y bydd yr asesiad cymwysterau yn ystyried y gwahanol gyfleoedd y mae myfyrwyr wedi'u cael i ddysgu'n effeithiol gartref?
Gallaf, yn wir, David. Ddoe, cyhoeddodd CBAC ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd graddau'n cael eu dynodi gan ysgolion a cholegau. Fe'i cynlluniwyd i fod mor hyblyg â phosibl, ac i sicrhau y gellir rhoi cyfrif digonol am y gwahanol brofiadau a gaiff plant yn y broses honno. Felly, os caf roi enghraifft i chi: nid yw'n dynodi, er enghraifft, faint o ddarnau o waith sy'n angenrheidiol i allu gwneud asesiad, gan gydnabod y bydd pob myfyriwr unigol wedi cael profiad gwahanol iawn.