– Senedd Cymru am 4:36 pm ar 10 Chwefror 2021.
Felly, y grŵp nesaf i'w drafod yw grŵp 2, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â'r broses ar gyfer cynnig gohirio o dan adran 5. Gwelliant 3 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Gareth Bennett i gynnig y gwelliant ac i siarad i'r grŵp. Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Fe fyddaf yn gryno, gan fod y ddau welliant gan fy mhlaid—Diddymu—yn eithaf syml yn eu bwriad. Gwelliant 3 yw'r gwelliant o sylwedd, tra bod gwelliant 4 yn ganlyniad i welliant 3. Felly, os na chefnogir gwelliant 3, ni fyddaf yn cynnig gwelliant 4.
Mae'r gwelliannau'n ymwneud ag etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu, sydd i fod i gael eu cynnal yng Nghymru ar 6 Mai. Nid yw'r etholiadau hyn yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth Cymru na'r Senedd hon, felly mae'r penderfyniad i'w cynnal ar 6 Mai yn benderfyniad a fydd yn cael ei wneud gan Lywodraeth y DU. Ein gwybodaeth ddiweddaraf, sy'n eithaf diweddar, yw mai bwriad datganedig Llywodraeth y DU yw bwrw ymlaen â'r etholiadau hyn ar 6 Mai. Nawr, rydym mewn sefyllfa gyfnewidiol wrth gwrs. Gallai sefyllfa iechyd y cyhoedd waethygu, ac mae'n bosibl na fydd etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu'n digwydd wedi'r cyfan, ond hyd y gwyddom, fel y dywedais, mae'r etholiadau hyn yn mynd rhagddynt. O ystyried hynny, mae ein gwelliant 3 yn ceisio atal Llywodraeth Cymru rhag gohirio etholiadau'r Senedd tan ddyddiad wedi 6 Mai os cynhelir etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu ar y dyddiad hwnnw. Y nod yw arbed arian cyhoeddus trethdalwyr. Ein safbwynt ni yw: os cynhelir etholiad ar 6 Mai beth bynnag, sut y gellid cyfiawnhau bod Lywodraeth Cymru yn gohirio etholiad y Senedd? Teimlwn y byddai canlyniad o'r fath yn amlwg yn wastraff amser ac arian, ac yn waeth, byddai'n ymestyn tymor y Senedd hon heb unrhyw reswm ymarferol. Dyna unig fwriad ein gwelliant 3: arbed arian cyhoeddus a sicrhau na chaiff etholiad y Senedd ei ohirio heb reswm da. Nawr, os yw etholiad y comisiynwyr heddlu a throseddu yn mynd rhagddo, gallwn fod yn sicr y bydd unrhyw ohiriad i etholiad y Senedd yn digwydd heb reswm da.
Fel y dywedais yn gynharach, gwelliant technegol yn unig yw gwelliant 3, ac mae'n ganlyniad—mae'n ddrwg gennyf, gwelliant technegol yn unig yw gwelliant 4 ac mae'n ganlyniad i welliant 3. Yr unig beth yr hoffwn ei ychwanegu yw bod gwelliant Plaid Cymru yn y grŵp hwn yn ymddangos yn un cwbl synhwyrol, ac rydym yn cefnogi hwnnw hefyd. Diolch am wrando, a gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein gwelliannau synhwyrol ac adeiladol. Diolch.
Byddwn yn cefnogi gwelliannau 3 a 4, ond ni allwn gefnogi gwelliant 16 Plaid Cymru. Byddai'n ymddangos yn rhyfedd iawn gorfodi'r Prif Weinidog i egluro ei resymau dros beidio â gwneud rhywbeth. Mae hyn yn gwbl ddigynsail ac nid yw'n rhywbeth y credaf fod neb, fel y dywedais ddoe mewn cyd-destun gwahanol, yn galw amdano'n fwriadol. Os credwch y dylid cynnal yr etholiad, ni chredwn y dylid llusgo'r Prif Weinidog i mewn i'r Cyfarfod Llawn i egluro pam nad yw'n mynd i dorri ar draws y broses ddemocrataidd, yn hytrach nag esbonio, fel y credwn ni, pam y dylai wneud hynny pe bai'r sefyllfa'n codi.
Felly, rwy'n cynnig gwelliannau 6 a 7 yn fy enw i, ac ar ôl gwrando ar y ddadl yn ystod Cyfnod 2 y Bil hwn ddoe, mae ein gwelliant 6 yn gyfaddawd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyflwyno rheoliadau drwy'r weithdrefn gadarnhaol i nodi'r meini prawf ar gyfer sbarduno cais i'r Senedd i ohirio'r etholiad o fewn 14 diwrnod wedi i'r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol. Mae gwelliant 7 hefyd yn welliant cyfaddawd a fyddai ond yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r meini prawf sydd i'w defnyddio gan y Prif Weinidog ar gyfer penderfynu a yw'n angenrheidiol neu'n briodol gohirio'r etholiad o fewn 14 diwrnod wedi i'r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol.
Rwyf wedi mynegi pryder dro ar ôl tro nad yw Llywodraeth Cymru wedi dweud pa sefyllfa y mae angen i'r pandemig fod ynddi cyn i'r Prif Weinidog ofyn yn ffurfiol am ohirio etholiad cyffredinol Cymru. Os yw eu hewyllys ddemocrataidd i gael ei gohirio dros dro, mae angen i bobl Cymru fod yn hyderus y bydd ganddynt hawl i wybod pam. Oni bai bod y ddeddfwriaeth hon yn cynnwys trothwy clir, gwrthrychol, mesuradwy i'r Prif Weinidog ofyn yn ffurfiol am ohirio etholiad cyffredinol Cymru sydd i'w gynnal ar 6 Mai, bydd yn amhosibl iddo osgoi honiadau o oportiwnistiaeth wleidyddol a gwrthdaro buddiannau pe bai'n gwneud hynny. Diolch.
Rydw i'n siarad i welliant 16 yn y grŵp yma. Eto, yn achos y gwelliant yma, fel yn y ddau ddiwethaf, mae yna drafodaethau adeiladol wedi gallu digwydd rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ac mae'r gwelliant sydd o'n blaenau ni fan hyn yn gyfaddawd positif iawn, rydw i'n credu. Bwriad y gwelliant ydy rhoi dyletswydd ar y Prif Weinidog i wneud datganiad rhagweithiol i'r Senedd yn dweud naill ffordd neu'r llall erbyn 24 Mawrth ydy o'n bwriadu gwneud cynnig i ohirio'r etholiad ai peidio.
Mi drechwyd ein gwelliannau ni ddoe oedd yn galw am point of no return cadarn fyddai wedi golygu bod yn rhaid i'r Prif Weinidog ddechrau'r broses o wneud cais i ohirio'r etholiad erbyn dechrau'r cyfnod cyn diddymu ar yr hwyraf—7 Ebrill fyddai hynny wedi bod yn achos etholiad 6 Mai. Fel y soniais i ddoe, mae unrhyw beth ar ôl hynny yn mynd yn rhy hwyr yn ein tyb ni, o ystyried y bydd ymgeiswyr yn ymgeiswyr cyfreithiol erbyn hynny, o ystyried y bydd y cyfnod gwariant etholiadol wedi dechrau ac yn y blaen. Dan y cyfaddawd yma, er na chawn ni wybod yn gwbl bendant erbyn 7 Ebrill, bydd gennym ni fwy o sicrwydd erbyn 24 Mawrth a phenderfyniad hefyd, oni bai bod rhywbeth mawr iawn ac annisgwyl iawn yn newid, a fydd yr etholiad yn mynd yn ei flaen ai peidio.
Yn sgil pasio ein gwelliant ni ddoe oedd yn creu dyletswydd ar y Llywodraeth i gynnal adolygiad o'r paratoadau ar gyfer cynnal etholiad yn ystod pob un o'r adolygiadau tair wythnosol o'r cyfyngiadau COVID, a chyfathrebu canfyddiadau'r adolygiadau hynny, mi ddylai fod gennym ni ddarlun clir, rydw i'n credu, erbyn 24 Mawrth o'r cyfeiriad rydyn ni'n mynd iddo fe o ran y pandemig a'i effaith tebygol o ar y gallu i gynnal etholiad. Mi ddylai fod y Prif Weinidog mewn sefyllfa, felly, i wneud penderfyniad erbyn y dyddiad hwnnw. Y rheswm dros y dyddiad yna ydy mai hwnnw ydy'r diwrnod olaf mae disgwyl i'r Senedd eistedd cyn dechrau'r toriad Pasg fydd yn arwain i mewn i'r cyfnod cyn etholiadol, ac mae yna resymeg felly yn y ffaith bod y penderfyniad yn cael ei ddatgan i'r Senedd tra mae'r Senedd yn dal yn eistedd, fel y gallwn ni graffu ar y penderfyniad.
I ateb rheswm y Ceidwadwyr dros yr hyn glywsom ni, eu bod nhw'n mynd i bleidleisio yn erbyn hwn, gaf i eich hatgoffa chi bod hwn yn Fil nid yn unig i ganiatáu gohirio etholiad ond i ddangos ac i ganiatáu'r etholiad gael ei gynnal mewn ffordd ddiogel ar 6 Mai? Rydyn ni i gyd yn gobeithio mai dyna fydd y sefyllfa. Rydyn ni'n gofyn i'r Prif Weinidog amlinellu yn ei ddatganiad o i'r Senedd sut allwn ni gael sicrwydd y byddai parhau efo etholiad dan gysgod y cyfyngiadau COVID yn galluogi cael ymgyrch lawn a theg, a hynny er tegwch i bob ymgeisydd sy'n sefyll, boed yn ariannog neu ddim, ond hefyd er tegwch i bawb sy'n gymwys i bleidleisio, fel y gallan nhw gael mynediad er gwaetha'r cyfyngiadau tebygol at wybodaeth, sydd mor bwysig er mwyn gallu gwneud penderfyniad o ran i ble y dylen nhw fwrw eu pleidlais. Felly, mae'n bwysig iawn, dwi'n meddwl, bod hwn yn cael ei gynnwys yn y Bil wedi ei wella.
Gair am welliannau 3 a 4. Rydyn ni yn erbyn y gwelliannau yma, gafodd eu cyflwyno gan Gareth Bennett efo cefnogaeth Mark Reckless, sy'n ceisio cyfyngu gallu'r Prif Weinidog i gynnig gohirio'r etholiad oni bai bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud yr un peth ar gyfer etholiadau'r comisiynwyr heddlu. Cydnabyddwch mai dyma ein hetholiad cyffredinol ni yma yng Nghymru. Mae'r dyddiad rydyn ni'n ei osod a'r rheolaeth sydd gennym ni dros y dyddiad hwnnw yn hollbwysig i ddemocratiaeth Cymru.
At welliannau 6 a 7, rydyn ni'n cefnogi ysbryd y gwelliannau yma gan y Ceidwadwyr. Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn ei gwneud hi'n glir beth ydy'r trothwy ar gyfer gohirio. Mi allwn ni weld rhinwedd yng ngwelliant 7 yn enwedig, a allai atgyfnerthu'r adran newydd a gafodd ei chefnogi'n unfrydol ddoe o ran adrodd fesul tair wythnos am ba mor debygol ydy gohirio'r etholiad. Mi fyddai'r gwelliannau yma yn ffurfioli'r meini prawf sy'n sail i hynny, er mi fyddwn i'n rhoi'r cafeat na fuasem ni am weld cyfyngu ar y mathau o ffactorau fyddai angen eu pwyso a mesur wrth ddod i benderfyniad.
Y Gweinidog i gyfrannu at y ddadl—Julie James.
Rwy'n gwrthwynebu gwelliannau 3 a 4 yn gryf, gan mai effaith y gwelliannau hyn fyddai gwneud ein penderfyniad i ohirio etholiad y Senedd yn ddibynnol ar benderfyniad Llywodraeth y DU ynghylch etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU wrth gwrs i geisio sicrhau'r cysondeb priodol rhwng yr etholiadau, ond byddwn yn gwrthod yn gryf y farn fod etholiad y Senedd rywsut yn israddol i etholiadau'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Nodaf fod y rhain eisoes wedi cael eu gohirio am flwyddyn, rhywbeth y credaf y byddem ni a'r rhan fwyaf o'r Aelodau o'r Senedd hon yn credu ei fod yn gwbl annerbyniol yn achos etholiad cyffredinol Cymru.
Er y bydd y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU ynglŷn ag etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu ac etholiadau eraill yn Lloegr yn amlwg o bwys wrth inni ystyried a allwn gynnal etholiad y Senedd yn ddiogel, mae'n eithaf posibl y bydd y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud yng ngoleuni amgylchiadau mewn perthynas â'r pandemig a allai fod yn berthnasol i rannau o Loegr ond nid yma yng Nghymru. Rhaid inni fod yn rhydd i weithredu i ddiogelu'r etholiad hwnnw pe baem yn wynebu sefyllfa lle mae gallu pleidleiswyr i gymryd rhan yn ddiogel dan fygythiad. Gallai'r gwelliant hwn atal y Senedd rhag gwneud penderfyniad sydd er budd pleidleiswyr ynghanol argyfwng cenedlaethol. Mae hynny'n gwbl annerbyniol. Yn y pen draw, dylid gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl Cymru yma yng Nghymru.
Rwy'n cefnogi gwelliant 16 ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y gwaith a wnaethom gyda'n gilydd arno. Fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, y gofyniad yw i'r Prif Weinidog wneud datganiad erbyn diwrnod y Cyfarfod Llawn diwethaf cyn y toriad yn dweud a yw o'r farn ei bod yn ddiogel bwrw ymlaen â'r etholiad a pham.
Byddai gwelliant 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu'r meini prawf i'w defnyddio gan y Prif Weinidog wrth arfer y pŵer o dan adran 5(1). Mae hwn yn gam diangen mewn proses sydd eisoes yn galw am uwchfwyafrif o Aelodau i gytuno i ohirio a gallai ein cau mewn cornel yn gwbl ddiangen. Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod cryfder y teimladau ymhlith yr Aelodau ynglŷn â'r angen am dryloywder ynghylch y meini prawf sydd i'w defnyddio gan y Prif Weinidog wrth iddo wneud ei benderfyniad, felly fe gefnogaf welliant 7 yr Aelod, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r meini prawf hynny gael eu cyhoeddi.
Gareth Bennett i ymateb i'r ddadl.
Diolch, bawb, am gyfrannu at y ddadl ar y grŵp hwn. Credaf fod Mark Isherwood wedi gwneud sylwadau adeiladol ac ymarferol. Credaf yn anffodus fod Rhun a Julie wedi ildio i rethreg bleidiol. Mae eu gwrthwynebiadau fel y'u nodwyd i beidio â gadael i ddyddiad etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu lywio'u gweithredoedd yn gwbl ffug, oherwydd mae Rhun yn dweud bod yn rhaid gwneud y penderfyniad ar ddyddiad yr etholiad yng Nghymru, yn y Senedd, ac mae Julie yn dweud rhywbeth tebyg. Dywedodd na ddylai ein hetholiadau fod yn israddol i etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu, ac wrth gwrs mae hi'n iawn, ac ni awgrymais erioed eu bod mewn unrhyw ffordd yn israddol i etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu. Yr holl reswm pam y cafodd etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu eu gohirio tan 6 Mai, does bosibl, yn rhannol o leiaf, oedd oherwydd ein bod yn cael etholiad yma ar 6 Mai ac felly byddent yn cyd-fynd ag etholiadau ein Senedd. Roedd dyddiad yr etholiadau ar 6 Mai ar gyfer y Senedd eisoes wedi'i gymryd, ac nid oedd yn israddol mewn unrhyw fodd i benderfyniad ynglŷn ag etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu. Felly, rhaid imi ddweud bod eu dadleuon yn ymddangos braidd yn ffug a braidd yn denau. Ond beth bynnag, rwy'n gorffen yn y fan honno, oherwydd mae'n amlwg y bydd gan bawb eu barn; mynegwyd y safbwyntiau'n glir gan bawb o'r pleidiau, a diolch iddynt am eu cyfraniadau. Gyda'ch cymorth chi, Lywydd, gobeithio y gallwn symud ymlaen i'r bleidlais ar y grŵp hwn.
Y cwestiwn, felly, yw a ddylid derbyn gwelliant 3. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly symudwn i bleidlais ar welliant 3. Cyn inni wneud hynny, mae angen inni gymryd seibiant i baratoi ar gyfer y bleidlais hon, gan mai dyma'r bleidlais gyntaf yn y gyfres hon o drafodion Cyfnod 3. Felly, fe gymerwn seibiant.
Dyma'r bleidlais, felly, ar welliant 3 yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais ar welliant 3. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 3 wedi'i wrthod.