Y Defnydd O'r Iaith Gymraeg Yng Ngharchar Berwyn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 23 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:27, 23 Chwefror 2021

Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg at yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar 16 Chwefror i fynegi pryder am yr honiadau am brofiadau siaradwyr Cymraeg yng ngharchar y Berwyn, ac yn gofyn am eglurder am yr amserlen i weithredu mesurau i wella'r sefyllfa.