3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 23 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:11, 23 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Diolch i chi am y datganiad ac, unwaith eto, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd â rhan yn yr ymdrech gwbl ryfeddol i frechu ym mhob rhan o Gymru. Mae'r mater cyntaf yr wyf i'n awyddus i'w godi'n ymwneud â chyfathrebu. Fe ddywedodd y Prif Weinidog, wythnos yn ôl, ar raglen Today Radio 4, fod pobl dros 50 oed ar fin cael eu gwahodd ar gyfer eu brechlynnau. Fe ddywedodd ef, ac rwy'n dyfynnu,-

Fe fydd pobl dros 50 oed yn dechrau cael eu hapwyntiadau nhw wythnos nesaf... a bydd y rhain yn cael eu brechlynnau o ddydd Llun ymlaen.

Fe wyddom nad yw hynny wedi digwydd. Nid ydym wedi cyrraedd y grŵp yn eu 50au i raddau helaeth eto. Bydd y grwpiau blaenoriaeth yn cael eu trin yn eu tro. Nawr, rwy'n siŵr nad oedd y Prif Weinidog yn ceisio camarwain unrhyw un, ond achosodd dipyn o ddryswch, felly a gawn ni fod yn fwy gofalus gyda'n cyfathrebu?

Fe hoffwn i droi at y posibilrwydd o ehangu'r categorïau blaenoriaeth ar gyfer brechu. Unwaith eto, rwyf i wedi galw'n barhaus am gynnwys rhai sy'n gweithio mewn swyddi allweddol, mewn ysgolion, ym maes trafnidiaeth gyhoeddus, yr heddlu, gwasanaethau brys eraill ac yn y blaen ar y rhestrau blaenoriaeth. Mae eich Llywodraeth chi wedi dweud yn gyson, 'Na, rydym am lynu wrth gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu'. Ond a gaf i bwyso arnoch chi i ystyried dull gwahanol o weithredu? Nid oes dim o'i le o gwbl ar restrau blaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu; os ydych chi'n hŷn neu'n fregus eich iechyd, rydych chi mewn mwy o berygl fel unigolyn—rwy'n credu bod hynny'n ddigon amlwg. Ond mae yna ffactor risg arall, sef pa mor debygol yr ydych chi o fod mewn cysylltiad â'r feirws. Bwriwch fod gennych chi ddau unigolyn 45 oed, sy'n iach, heb fod yn y naw prif grŵp blaenoriaeth. Mae'r un sy'n mynd i lanhau neu i ddysgu neu i gynorthwyo mewn dosbarthiadau mewn ysgol sy'n llawn disgyblion a staff eraill yn wynebu mwy o risg o ddod i gysylltiad â'r feirws na'r unigolyn 45 oed sy'n gweithio, dywedwch, mewn swydd weinyddol ac o gartref. Yn fy marn i, mae'n gwneud synnwyr pur y dylid blaenoriaethu rhywfaint ar y cyntaf dros yr olaf.

Yn ogystal â hynny, a gaf i bwyso unwaith eto am newid yn fuan iawn yn y rheolau ynglŷn â brechu pobl ag anableddau dysgu? Rydym yn clywed sibrydion cadarnhaol. Rydym yn sôn am bobl a allai fod yn agored i niwed nid yn unig yn gorfforol ond yn agored i niwed o ran y gallu i ymdopi â dioddef COVID; mynnwch eu bod nhw'n cael mynd drwy'r system frechu, os gwelwch chi fod yn dda.

Ac o ran gofalwyr di-dâl hefyd, fe geir dryswch o hyd ynglŷn â hyn. Ydym, rydym ni'n gwybod bod gofalwyr di-dâl yng ngrŵp 6 ar y cyfan erbyn hyn, ond rydym yn awyddus iawn i gael y canllawiau cenedlaethol clir hynny fel bod pobl yn gwybod ble maen nhw'n sefyll.

Ac yn olaf, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â pherchennog cartref gofal heddiw. Roedd yntau'n disgrifio twll yn y mur sy'n diogelu cartrefi gofal, gyda 6,000 o weithwyr gofal heb eu brechu, ac mae hynny'n destun gofid yn sicr. Ond y pwynt yr oedd ef yn awyddus i'w wneud gyda mi oedd bod tri o'i staff ef wedi cael gwybod na allan nhw gael eu brechu am nifer o wythnosau—mae hynny'n rhywbeth y byddaf i'n ei godi gyda'r bwrdd iechyd—ond mae e'n pryderu am nifer o'r staff nad ydyn nhw'n dymuno cael eu brechu oherwydd eu bod nhw wedi credu rhai o'r chwedlau gwrth-frechlyn sy'n frith mewn rhannau o'r cyfryngau cymdeithasol. Fe wn i eich bod chi'n pryderu am hyn hefyd. Fe ofynnais ichi'r wythnos diwethaf yn ystod sesiwn friffio pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyfathrebu gwybodaeth i danseilio'r chwedlau hynny, felly tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith sy'n cael ei wneud yn y maes hwnnw. Diolch.