Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 23 Chwefror 2021.
Mae'r cynllun rheoli cynaliadwy yn adfer natur tirwedd gyfan ym mhob rhan o Gymru. Mae hyn yn cynnwys cysylltu ac adfer cynefinoedd twyni, treialu rheoli llifogydd naturiol er mwyn gwella ein cydnerthedd hinsawdd wrth i ni greu coetiroedd a chynefinoedd gwlypdir, adfer cannoedd o hectarau o fewndiroedd, a chysylltu miloedd o bobl â'r tirweddau yn eu hardaloedd drwy greu cyfleoedd gwirfoddoli a hamdden newydd. Mae gan Lywodraeth Cymru rai o alluoedd monitro amgylcheddol mwyaf soffistigedig unrhyw genedl yn Ewrop. Mae eu gwaith yn dangos arwyddion o rywfaint o gynnydd cadarnhaol a wnaed drwy ein cynlluniau amaeth-amgylcheddol, gan gynnwys atal y dirywiad ym mhoblogaethau adar tir fferm yr ucheldir a chynnydd mewn rhywogaethau adar coetiroedd, adferiad cadarnhaol mewn asidedd pridd, gwelliannau cyson yng nghyflwr gorgorsydd, a thwf yn y ddalfa garbon o ddefnydd tir cyffredinol, a oedd yn y ddegawd cyn datganoli, mewn gwirionedd, yn ffynhonnell allyriadau.
Y llynedd, roeddwn yn gallu ail-bwrpasu'r cynllun LEADER i gefnogi cymunedau gwledig i ymateb i effeithiau dinistriol y pandemig. Derbyniodd y grwpiau gweithredu lleol hynny'r her, o gynllun cymorth fferm Conwy, carfan o wirfoddolwyr sy'n cefnogi ffermwyr yr effeithiwyd arnynt gan COVID yn ymarferol, i brosiect Neges Menter Môn, y cefais y fraint o'i weld yn yr haf—gwasanaeth dosbarthu bwyd i sicrhau bod pobl agored i niwed a gweithwyr rheng flaen yn cael eu bwydo yn ystod y pandemig. Dosbarthodd 10,000 o brydau bwyd i staff y GIG a 4,000 o barseli bwyd i bobl sy'n agored i niwed. Mae'r ymdrechion hyn yn enghraifft berffaith o sut mae'r cynllun datblygu gwledig wedi helpu i feithrin cydnerthedd mewn cymunedau gwledig. Roedd gwybodaeth leol ac ystwythder grwpiau LEADER yn golygu eu bod yno pan oedd eu cymunedau eu hangen. Dim ond nifer fach iawn o enghreifftiau yw'r rhain o'r cyflawniadau a gefnogir gan y cynllun datblygu gwledig, a bydd gwerthusiad pellach yn cael ei gwblhau wrth i'r cynllun presennol ddirwyn i ben.
Heddiw, rwy'n gosod rheoliadau cymorth amaethyddol sy'n gwneud darpariaeth i ddiwygio cyfraith wrth gefn yr UE yng Nghymru i sefydlu fframwaith domestig i ariannu cynlluniau datblygu gwledig newydd. Byddai hyn yn dechrau'r cyfnod pontio aml-flwyddyn, cyn cyflwyno'r Bil amaethyddiaeth yn nhymor nesaf y Llywodraeth.
Cyn imi symud ymlaen i sôn am y blaenoriaethau ar gyfer dyfodol datblygu gwledig yng Nghymru, hoffwn gofnodi fy rhwystredigaeth a'm siom fawr a rennir gan lawer yng nghymunedau gwledig Cymru gyda'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu torri eu haddewid i ymrwymo i ddodi rhywbeth yn lle'r cyllid datblygu gwledig yr ydym yn ei golli o ganlyniad i'n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Yn hytrach nac ailosod cyllid yn llawn, maen nhw wedi penderfynu tynnu o gronfeydd newydd y swm yr ydym yn dal i'w gael gan yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â chyfran o'r arian hwnnw a ddefnyddir i gyflawni'r cynllun datblygu gwledig. Mae hyn wedi creu colled o £137 miliwn i economi wledig Cymru yn y flwyddyn ariannol nesaf yn unig.
Mae rhai wedi dadlau, yn hytrach na cheisio adennill yr arian hwn oddi wrth Lywodraeth y DU drwy wrthdroi'r penderfyniad hwn, y dylem yn hytrach gymryd cyllid oddi wrth feysydd eraill, gan gynnwys ein hymateb i COVID-19, er mwyn llenwi'r bwlch a adawyd gan benderfyniad Llywodraeth y DU. Ar wahân i fod yn awgrym gwrthnysig—adfer y colledion i'r economi wledig drwy greu colledion mewn mannau eraill—mae hwn yn fater lle credaf y byddai'r cyhoedd yn disgwyl i'r Senedd siarad ag un llais wrth alw ar Lywodraeth y DU i barchu pwysigrwydd yr economi wledig i Gymru a'r DU, ac i wrthdroi'r penderfyniad niweidiol hwn.
Bwriedir cyflwyno'r cyntaf mewn cyfres o ymgynghoriadau ar gyflawni rhaglen ddatblygu gwledig newydd ar gyfer haf 2021, i'w gyflwyno gan y Llywodraeth newydd yn y Senedd newydd, gyda'r nod o lansio rhaglen ddatblygu gwledig newydd yn 2024. Wrth i ni ddechrau'r cyfnod ymgysylltu hwnnw, credaf fod cyfres glir o flaenoriaethau'n dod i'r amlwg sy'n adlewyrchu'r awydd ymhlith y cyhoedd am ddyfodol sy'n wahanol iawn i'r gorffennol wrth i ni ddod allan o bandemig COVID-19 yng nghyd-destun difrifoldeb cynyddol yr argyfwng hinsawdd a natur. Bydd angen i ddyfodol datblygu gwledig gefnogi cyfiawnder cymdeithasol wrth drosglwyddo i economi net-sero. Bydd angen i'r cynllun datblygu gwledig yn y dyfodol gefnogi sgiliau a chyflogaeth sy'n fodd o wneud diwydiannau gwledig yn fwy gwyrdd gan hyrwyddo cynhwysiant, gwaith teg a defnydd o'r Gymraeg.
Mae angen i economi wledig Cymru yn y dyfodol hefyd fod yn gadarnhaol o ran natur, gan sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. Bydd angen i CDG yn y dyfodol gefnogi arloesedd a all sicrhau mwy o fanteision uniongyrchol i gydnerthedd ecosystemau a'n lles ehangach, gan rannu manteision ein hamgylchedd naturiol yn decach. Mae angen inni gadw ffermwyr Cymru ar y tir drwy gryfhau ymhellach eu henw da am safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel, gan gefnogi'r gadwyn gyflenwi gyfan i gynyddu gwerth y nwyddau y maen nhw'n eu cynhyrchu a chreu mwy o alw domestig a rhyngwladol am gynnyrch gwirioneddol gynaliadwy. Mae angen inni gryfhau bywiogrwydd ein trefi a'n pentrefi gwledig, gan gynnwys drwy gefnogi economi gylchol sy'n cadw mwy o werth yn lleol gan osgoi gwastraff a llygredd, a thrwy fanteisio ar y cyfleoedd i weithio o bell i ddenu mwy o weithgarwch economaidd i ardaloedd gwledig.
Mae angen inni weld twf mawr yn ein gallu cenedlaethol i reoli tir y tu hwnt i ffermio, gan gynnwys meithrin diwydiant coed domestig mwy a all gyflenwi deunyddiau adeiladu carbon isel, a chefnogi datblygiad ein sector cadwraeth natur yng Nghymru gyda dulliau diogel ac amrywiol o gynhyrchu incwm. Bydd y cynnydd a welsom o dan y cynllun datblygu gwledig yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu rhaglen ddatblygu gwledig newydd sy'n canolbwyntio ar gefnogi newid sy'n deg yn gymdeithasol, i economi ddi-garbon a diwastraff, gan reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a rhannu manteision ein treftadaeth naturiol gyfoethog yn decach. Diolch.