– Senedd Cymru am 4:24 pm ar 23 Chwefror 2021.
Mae eitem 5 ar ein hagenda yn ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y rhaglen ddatblygu gwledig ddomestig yn y dyfodol. Galwaf ar Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol datblygu gwledig yng Nghymru. Mewn partneriaeth â'r UE, bydd Cymru'n buddsoddi cyfanswm o £834 miliwn yn ein Cynllun Datblygu Gwledig yr UE erbyn diwedd 2023. Mae hyn wedi helpu i sicrhau gwerth a chydnerthedd sylweddol yn ein cymunedau gwledig.
Yn ystod cyfnod y Cynllun Datblygu Gwledig presennol, rydym ni wedi gweld cynnydd eithriadol yn sector bwyd a diod Cymru. Gwnaethom ragori ar ein targed, a osodwyd yn 2014, i dyfu'r sector i drosiant o £7 biliwn erbyn diwedd 2020, gan gyrraedd £7.4 biliwn flwyddyn gyfan yn gynharach nag yr oeddem wedi'i ragweld. Mae twf allforio wedi bod yn sbardun sylweddol i'r llwyddiant hwn, gan gynyddu £160 miliwn ers 2015 i gyrraedd £565 miliwn yn 2019, wedi'i adeiladu ar ein henw da am gynnyrch o'r radd flaenaf gyda safonau lles ac amgylcheddol uchel. Dangosodd gwerthusiad annibynnol diweddar fod ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio wedi chwarae rhan hollbwysig wrth greu'r sylfeini ar gyfer newid, gydag effaith sylweddol ar well sgiliau busnes a thechnegol, a thystiolaeth o fuddion eang o ran bioamrywiaeth ac iechyd anifeiliaid, yn enwedig o ran defnyddio llai o wrthfiotigau a gwrtaith.
Mae'r cynllun rheoli cynaliadwy yn adfer natur tirwedd gyfan ym mhob rhan o Gymru. Mae hyn yn cynnwys cysylltu ac adfer cynefinoedd twyni, treialu rheoli llifogydd naturiol er mwyn gwella ein cydnerthedd hinsawdd wrth i ni greu coetiroedd a chynefinoedd gwlypdir, adfer cannoedd o hectarau o fewndiroedd, a chysylltu miloedd o bobl â'r tirweddau yn eu hardaloedd drwy greu cyfleoedd gwirfoddoli a hamdden newydd. Mae gan Lywodraeth Cymru rai o alluoedd monitro amgylcheddol mwyaf soffistigedig unrhyw genedl yn Ewrop. Mae eu gwaith yn dangos arwyddion o rywfaint o gynnydd cadarnhaol a wnaed drwy ein cynlluniau amaeth-amgylcheddol, gan gynnwys atal y dirywiad ym mhoblogaethau adar tir fferm yr ucheldir a chynnydd mewn rhywogaethau adar coetiroedd, adferiad cadarnhaol mewn asidedd pridd, gwelliannau cyson yng nghyflwr gorgorsydd, a thwf yn y ddalfa garbon o ddefnydd tir cyffredinol, a oedd yn y ddegawd cyn datganoli, mewn gwirionedd, yn ffynhonnell allyriadau.
Y llynedd, roeddwn yn gallu ail-bwrpasu'r cynllun LEADER i gefnogi cymunedau gwledig i ymateb i effeithiau dinistriol y pandemig. Derbyniodd y grwpiau gweithredu lleol hynny'r her, o gynllun cymorth fferm Conwy, carfan o wirfoddolwyr sy'n cefnogi ffermwyr yr effeithiwyd arnynt gan COVID yn ymarferol, i brosiect Neges Menter Môn, y cefais y fraint o'i weld yn yr haf—gwasanaeth dosbarthu bwyd i sicrhau bod pobl agored i niwed a gweithwyr rheng flaen yn cael eu bwydo yn ystod y pandemig. Dosbarthodd 10,000 o brydau bwyd i staff y GIG a 4,000 o barseli bwyd i bobl sy'n agored i niwed. Mae'r ymdrechion hyn yn enghraifft berffaith o sut mae'r cynllun datblygu gwledig wedi helpu i feithrin cydnerthedd mewn cymunedau gwledig. Roedd gwybodaeth leol ac ystwythder grwpiau LEADER yn golygu eu bod yno pan oedd eu cymunedau eu hangen. Dim ond nifer fach iawn o enghreifftiau yw'r rhain o'r cyflawniadau a gefnogir gan y cynllun datblygu gwledig, a bydd gwerthusiad pellach yn cael ei gwblhau wrth i'r cynllun presennol ddirwyn i ben.
Heddiw, rwy'n gosod rheoliadau cymorth amaethyddol sy'n gwneud darpariaeth i ddiwygio cyfraith wrth gefn yr UE yng Nghymru i sefydlu fframwaith domestig i ariannu cynlluniau datblygu gwledig newydd. Byddai hyn yn dechrau'r cyfnod pontio aml-flwyddyn, cyn cyflwyno'r Bil amaethyddiaeth yn nhymor nesaf y Llywodraeth.
Cyn imi symud ymlaen i sôn am y blaenoriaethau ar gyfer dyfodol datblygu gwledig yng Nghymru, hoffwn gofnodi fy rhwystredigaeth a'm siom fawr a rennir gan lawer yng nghymunedau gwledig Cymru gyda'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu torri eu haddewid i ymrwymo i ddodi rhywbeth yn lle'r cyllid datblygu gwledig yr ydym yn ei golli o ganlyniad i'n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Yn hytrach nac ailosod cyllid yn llawn, maen nhw wedi penderfynu tynnu o gronfeydd newydd y swm yr ydym yn dal i'w gael gan yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â chyfran o'r arian hwnnw a ddefnyddir i gyflawni'r cynllun datblygu gwledig. Mae hyn wedi creu colled o £137 miliwn i economi wledig Cymru yn y flwyddyn ariannol nesaf yn unig.
Mae rhai wedi dadlau, yn hytrach na cheisio adennill yr arian hwn oddi wrth Lywodraeth y DU drwy wrthdroi'r penderfyniad hwn, y dylem yn hytrach gymryd cyllid oddi wrth feysydd eraill, gan gynnwys ein hymateb i COVID-19, er mwyn llenwi'r bwlch a adawyd gan benderfyniad Llywodraeth y DU. Ar wahân i fod yn awgrym gwrthnysig—adfer y colledion i'r economi wledig drwy greu colledion mewn mannau eraill—mae hwn yn fater lle credaf y byddai'r cyhoedd yn disgwyl i'r Senedd siarad ag un llais wrth alw ar Lywodraeth y DU i barchu pwysigrwydd yr economi wledig i Gymru a'r DU, ac i wrthdroi'r penderfyniad niweidiol hwn.
Bwriedir cyflwyno'r cyntaf mewn cyfres o ymgynghoriadau ar gyflawni rhaglen ddatblygu gwledig newydd ar gyfer haf 2021, i'w gyflwyno gan y Llywodraeth newydd yn y Senedd newydd, gyda'r nod o lansio rhaglen ddatblygu gwledig newydd yn 2024. Wrth i ni ddechrau'r cyfnod ymgysylltu hwnnw, credaf fod cyfres glir o flaenoriaethau'n dod i'r amlwg sy'n adlewyrchu'r awydd ymhlith y cyhoedd am ddyfodol sy'n wahanol iawn i'r gorffennol wrth i ni ddod allan o bandemig COVID-19 yng nghyd-destun difrifoldeb cynyddol yr argyfwng hinsawdd a natur. Bydd angen i ddyfodol datblygu gwledig gefnogi cyfiawnder cymdeithasol wrth drosglwyddo i economi net-sero. Bydd angen i'r cynllun datblygu gwledig yn y dyfodol gefnogi sgiliau a chyflogaeth sy'n fodd o wneud diwydiannau gwledig yn fwy gwyrdd gan hyrwyddo cynhwysiant, gwaith teg a defnydd o'r Gymraeg.
Mae angen i economi wledig Cymru yn y dyfodol hefyd fod yn gadarnhaol o ran natur, gan sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. Bydd angen i CDG yn y dyfodol gefnogi arloesedd a all sicrhau mwy o fanteision uniongyrchol i gydnerthedd ecosystemau a'n lles ehangach, gan rannu manteision ein hamgylchedd naturiol yn decach. Mae angen inni gadw ffermwyr Cymru ar y tir drwy gryfhau ymhellach eu henw da am safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel, gan gefnogi'r gadwyn gyflenwi gyfan i gynyddu gwerth y nwyddau y maen nhw'n eu cynhyrchu a chreu mwy o alw domestig a rhyngwladol am gynnyrch gwirioneddol gynaliadwy. Mae angen inni gryfhau bywiogrwydd ein trefi a'n pentrefi gwledig, gan gynnwys drwy gefnogi economi gylchol sy'n cadw mwy o werth yn lleol gan osgoi gwastraff a llygredd, a thrwy fanteisio ar y cyfleoedd i weithio o bell i ddenu mwy o weithgarwch economaidd i ardaloedd gwledig.
Mae angen inni weld twf mawr yn ein gallu cenedlaethol i reoli tir y tu hwnt i ffermio, gan gynnwys meithrin diwydiant coed domestig mwy a all gyflenwi deunyddiau adeiladu carbon isel, a chefnogi datblygiad ein sector cadwraeth natur yng Nghymru gyda dulliau diogel ac amrywiol o gynhyrchu incwm. Bydd y cynnydd a welsom o dan y cynllun datblygu gwledig yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu rhaglen ddatblygu gwledig newydd sy'n canolbwyntio ar gefnogi newid sy'n deg yn gymdeithasol, i economi ddi-garbon a diwastraff, gan reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a rhannu manteision ein treftadaeth naturiol gyfoethog yn decach. Diolch.
Diolch ichi am y datganiad, Gweinidog. Er mwyn sicrhau bod y cynllun datblygu gwledig yn y dyfodol yn cyflawni ar gyfer y Gymru wledig, rhaid dysgu gwersi o'r gorffennol ac mae angen gwrando ar y sector amaethyddol. Nid yw eich honiad y bydd y cynnydd a welir o dan y cynllun datblygu gwledig—yr un presennol—yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu rhaglen ddatblygu gwledig newydd yn gwbl gywir.
Fel y gŵyr y Senedd hon yn dda erbyn hyn, mae cynllun datblygu gwledig 2014-2020 wedi'i reoli'n wael, i'r graddau y dyfarnwyd £53 miliwn heb sicrhau unrhyw werth am arian. Felly, ni allwch gyflawni'r sail gref honno heb gytuno i alwadau am gomisiynu adolygiad annibynnol o'r cynllun datblygu gwledig ar frys, i gynnwys dadansoddiad o effeithiolrwydd a gwerth am arian prosiectau a mesurau'r cynllun datblygu gwledig. Felly, a wnewch chi, Gweinidog, wrando, os gwelwch yn dda? Y ffermwyr sy'n dweud hyn wrthyf o bob rhan o Gymru. A wnewch chi gyflawni hyn, os gwelwch yn dda?
Nawr, mae'r cais yn cael ei ategu gan y ffaith bod y data diweddaraf yn dangos bod gan ddyraniad y cynllun grantiau i fusnesau fferm, o fis Tachwedd ymlaen, £453,000 heb ei neilltuo, er gwaethaf y galw enfawr. Dyrannwyd tua £10 miliwn yn llai i'r cynllun hwnnw na'r cynllun galluogi adnoddau naturiol a llesiant, sydd, er gwaethaf dau gylch, heb weld unrhyw geisiadau, a dim ond 50 y cant o'r cyfanswm o £835 miliwn sydd wedi'i wario hyd yma.
Yn amlwg, mae arnom ni angen yr wybodaeth ddiweddaraf heddiw am yr hyn sy'n digwydd gyda'r cynllun galluogi adnoddau naturiol a llesiant. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe baech chi'n egluro nawr sut y byddwch yn sicrhau, er enghraifft, bod system electronig briodol a diogel i gofnodi, cynnal, rheoli ac adrodd am wybodaeth ystadegol am y rhaglen a'i gweithredu, a pham nad yw'r bwrdd cynghori ar ddatblygu gwledig yn un statudol. Pam na wnewch chi ystyried gwneud y bwrdd yn statudol, er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu fel pwyllgor monitro rhaglenni, yn cynnwys ein rhanddeiliaid allweddol, megis Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a'r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad?
Mae gwir angen pwyllgor o'r fath eisoes, oherwydd ar hyn o bryd nid ydych wedi dangos unrhyw gynllun i ni, prin ddim dadansoddiad sefyllfaol, nac unrhyw ddisgrifiad o fesurau, nac unrhyw gynllun gwerthuso, cynllun ariannu, cynllun dangosyddion, cynllun cyfathrebu, strwythur rheoli, gweithdrefnau monitro a gwerthuso, nac unrhyw wybodaeth am gyhoeddi rhaglenni a meini prawf dethol. Nawr, wrth gwrs, rwy'n cydnabod y bydd y cyntaf mewn cyfres o ymgynghoriadau ar gyflwyno rhaglen ddatblygu gwledig newydd yn cael ei gynllunio ar gyfer yr haf hwn yn 2021, ond mae newidiadau a gwarantau y gallem eu cyflawni nawr. Er enghraifft, a wnewch chi anrhydeddu'r ymrwymiad o £40 miliwn y flwyddyn ar gyfer y cynllun datblygu gwledig domestig a gwario'n llawn o dan gynllun datblygu gwledig presennol yr UE? Diolch.
Diolch, Janet Finch-Saunders, am y rhestrau yna o arsylwadau a sylwadau a chwestiynau. Sonioch am gosb ariannol a honiadau yn erbyn prosiectau'r cynllun datblygu gwledig, ac rwyf, yn amlwg, yn ymwybodol o'r rheini. Gwneir gwiriadau priodol a chymesur i sicrhau bod gwariant cymwys yn cael ei ad-dalu, ac mae hynny'n cynnwys adennill taliadau sydd wedi'u gwneud yn ystod oes prosiect, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn i'w ddeall—bod amrywiaeth o gamau yn ystod oes prosiect.
Dylwn ddweud hefyd fod gan Lywodraeth Cymru rwymedigaethau i'r Comisiwn Ewropeaidd—maen nhw'n monitro ac yn goruchwylio pob cynllun datblygu lleol, ac rydym yn cyfarfod ac rydym yn parhau i gyflawni'r rhwymedigaethau hynny, ac mae angen cydnabod hynny, ac mae'r Comisiwn wedi mynegi eu boddhad â'n rhaglen dro ar ôl tro. Ein hanes o ran y gosb ariannol yw'r gorau yn y DU ac mae'n un o'r goreuon yn Ewrop, ac mae'n cymharu'n ffafriol iawn â'r Undeb Ewropeaidd. Credaf fod eu cyfartaledd tua 2.1 y cant, mae cyfartaledd y DU tua 2.4 y cant, a'r gosb ariannol ar ein gwariant yw 0.14 y cant. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i gydnabod hynny. Rwy'n credu ei fod yn ddull naïf iawn o ymdrin ag arian cyhoeddus i awgrymu bod gwerth am arian yn rhywbeth na ellir ond ei asesu ar un cam o brosiect. Mae pob Aelod yma'n gwybod bod yn rhaid asesu gwerth am arian ar gyfer gwariant cyhoeddus ar bob cam o'r prosiect wrth symud ymlaen.
Sonioch am y grantiau galluogi adnoddau naturiol a llesiant, ac mae'r prosiectau hynny'n cael eu datblygu ynghyd â phrosiectau cydweithredol traws-sector ar y raddfa gywir. Mae'n cefnogi prosiectau sy'n gwneud gwelliannau mewn ardaloedd preswyl yn bennaf drwy sicrhau manteision i bobl, i fusnesau, a'u cymuned. Ac eto, mae'n ofynnol i bob prosiect nodi'r manteision lluosog yr ydym yn eu gwneud.
Rwy'n sylweddoli, i rai sefydliadau, fod symud oddi wrth gyllid craidd i fodel sy'n fwy seiliedig ar brosiectau a chanlyniadau yn gyflymach, efallai, nag a ddisgwylid yn wreiddiol, ac achosodd bryder. Ond rydym yn caniatáu amser a chyllid i sefydliadau bontio a gweithredu'r cynllun ymadael y gofynnwyd iddynt ei sefydlu. Mae swyddogion yn parhau i gyfarfod â sefydliadau i egluro'r grant, ac rydym wedi bod yn glir iawn y gellir cynnwys yr hyn a ystyriwyd yn gyllid craidd yn y gorffennol yn y ceisiadau am grantiau yn y dyfodol, ac mae'n rhaid i mi ddweud y bu'r adborth a gafwyd drwy swyddogion a gennyf fi drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gadarnhaol iawn. Dyma ffenestr gyntaf cyllid ENRaW. Mae pob prosiect ar raddfa fawr wedi cael llythyrau 'bwrw ymlaen yn bwyllog', ac roedd yn ofynnol iddynt lunio'r cynlluniau cyflawni manwl hynny y gwnaethoch chi gyfeirio atynt, ac roedd y cynlluniau hynny'n seiliedig ar eu ceisiadau gwreiddiol, ac efallai'n canolbwyntio mwy ar y ddarpariaeth weithredol.
Mae'n hollbwysig ein bod yn gwrando ar randdeiliaid, ac fel y dywedais, wrth symud ymlaen at y Llywodraeth newydd pan fyddant yn bwrw ymlaen â'r cynllun datblygu gwledig yn y dyfodol—mae'n bwysig iawn ein bod yn ceisio dysgu o'r cynllun datblygu gwledig presennol, ac mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn gweithredu yng nghyd-destun ein blaenoriaethau ein hunain yma yn Llywodraeth Cymru. Ac yn sicr mae'n rhaid i'r argyfwng hinsawdd fod yn rhan flaenllaw o hynny. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn siarad ag ystod eang o randdeiliaid, nid dim ond y rhai y cyfeirioch chi atyn nhw, ond hefyd ein bod yn edrych ledled y byd ar arferion gorau i gyflwyno prosiectau newydd a sicrhau mai'r buddsoddiad hwnnw wedi'i dargedu sy'n cael y manteision a'r effaith fwyaf. Soniais am yr argyfwng hinsawdd. Yn amlwg, mae gennym ni argyfwng bioamrywiaeth hefyd. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni Brexit i ymdrin ag ef. Felly, rwy'n credu nad oes modd mynd ati yn ôl yr arfer—nid yw hynny'n ddewis mwyach—ond mae'n rhaid inni ddysgu o'r cynllun datblygu gwledig presennol.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Mae hi, wrth gwrs, yn hanfodol bod yna fframwaith penodol ar gyfer cefnogaeth wledig yng Nghymru, gyda mesurau penodol i gefnogi datblygu gwledig er mwyn cyfrannu at hyfywedd cefn gwlad. Ac wrth wneud hynny, wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig bod approach y Llywodraeth yn delifro ar draws y nodau sy’n cael eu hadlewyrchu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sef, wrth gwrs, y nodau amgylcheddol ond hefyd y nodau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a byddwn i’n gobeithio bod yr RDP yn adlewyrchu'r trawstoriad yna o uchelgais sydd gan bob un ohonom ni, gobeithio, yng Nghymru.
Dwi’n rhannu siom y Gweinidog ynglŷn â’r ffaith bod y Ceidwadwyr wedi torri’u gair ynglŷn ag ariannu. Mae yna ofid—dilys, dwi’n meddwl—bod yna risg y bydd y Llywodraeth yma hefyd yn ffeindio’u hunain ddim yn driw, efallai, i'ch rhan chi o’r fargen ariannu. Mae yna risg yn hynny o beth. Dwi’n croesawu’r ffaith eich bod chi wedi ymrwymo, yn eich datganiad, i wario’r cyfan o gyllideb yr RDP ar gyfer 2014-2020. Dwi’n meddwl ei bod hi’n eironig iawn bod yna Geidwadwr, neu Geidwadwraig, yn y drafodaeth yma, wedi gofyn i chi fod yn driw i’ch lefel chi o ariannu’r RDP ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ond mae hynny yn ofyniad dilys. Mi ddylai Llywodraeth Cymru fod yn cyfrannu, ar gyfartaledd, £40 miliwn, sef beth fyddai wedi bod yn arian cyd-ariannu domestig, yr elfen gyfatebol. Dwi eisiau’ch clywed chi’n dweud yn blwmp ac yn blaen y bydd hynny yn ymrwymiad gan y Llywodraeth, wrth symud ymlaen, oherwydd os nad ydych chi’n gwneud hynny, yna mi ydych chi yn gwneud yr un peth ag y mae’r Ceidwadwyr yn ei wneud drwy sicrhau y bydd Cymru ar ei cholled yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae eich datganiad chi’n dweud y bydd yna werthusiad pellach yn cael ei gwblhau, ac rŷch chi wedi cyfeirio ychydig at hynny, ond dydych chi ddim wedi rhoi dim manylion i ni ynglŷn â beth fydd y gwerthusiad yna, beth fydd e’n ei werthuso. Dwi’n tybio eich ateb chi: fydd e ddim yn werthusiad o effaith a gwerth am arian y rhaglen ddatblygu gwledig cyfan. Efallai mai dim ond edrych ar brosiectau penodol y byddwch chi. Efallai allwch chi roi mwy o wybodaeth inni ynglŷn â hynny. A fydd e’n werthusiad annibynnol neu'n rhywbeth y bydd y Llywodraeth ei hunan yn ei gwblhau? Oherwydd, os ydyn ni yn seilio approach y dyfodol ar fodel y gorffennol, yna mae yn bwysig ein bod ni’n dysgu gwersi, ac mae’n bwysig bod y gwersi hynny yn cael eu hamlygu yn wrthrychol, o’r tu allan i Lywodraeth. A dwi ar y record, wrth gwrs, wedi dweud fy mod i hefyd yn cefnogi adolygiad annibynnol ehangach o’r RDP yn y gorffennol. Felly, mwy o eglurder ynglŷn â beth yw eich bwriad chi yn hynny o beth, os gwelwch yn dda.
Mae’r pwynt ynglŷn â llywodraethiant yn un dilys. Mae gennym ni’r pwyllgor monitro’r rhaglen bresennol ar gyfer yr RDP. Mae yna gonsérn y bydd tryloywder ac atebolrwydd yn cael eu herydu os nad oes yna gorff cyfatebol yng nghyd-destun y cynllun yn y dyfodol. Ac mae’n egwyddor bwysig, dwi’n meddwl, bod rhanddeiliaid yn rhan ganolog ac yn rhan ystyrlon o’r broses o reoli y ffordd y mae’r arian yma yn cael ei weinyddu a’i weithredu.
Rydych chi’n cyfeirio at y ffaith mai hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o ymgynghoriadau’n digwydd yn yr haf. Wel, gobeithio y bydd yn fwy ystyrlon na rhai o’r ymgynghoriadau sydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf, oherwydd rydych chi’n gwybod gyda'r Papur Gwyn ar amaeth, mae nifer o bobl yn teimlo mai bach iawn sydd wedi newid er ein bod ni nawr ar ein trydydd ymgynghoriad. Mi wnaethoch chi ddweud ei bod hi’n bwysig siarad â budd-ddeiliaid; mi fyddwn i’n dweud ei bod hi’n bwysig gwrando ar fudd-ddeiliaid hefyd. Efallai fod angen gwneud ychydig mwy o hynny yn y blynyddoedd i ddod.
Yn olaf, dwi jest eisiau cyfeirio at rywbeth rydych chi’n ei ddweud yn eich datganiad.
Dywedwch yn eich datganiad
'mae angen i ni gadw ffermwyr Cymru ar y tir'—
Ni allwn i gytuno mwy â hynny, wrth gwrs—
'drwy gryfhau ymhellach eu henw da am safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel, gan gefnogi'r gadwyn gyflenwi gyfan i gynyddu gwerth y nwyddau y maent yn eu cynhyrchu.'
Wel, wrth gwrs, un peth y mae'n rhaid iddo fod yn ganolog i hynny yw cynyddu ein capasiti prosesu yma yng Nghymru. Gwyddom fod y rhan fwyaf o'n llaeth yn gadael Cymru i gael ei brosesu. Gwyddom, ar ôl colli lladd-dai dros y blynyddoedd diwethaf, fod gormod o'n cig, hefyd, yn gadael Cymru. Rydym yn dal i fod yn economi echdynnol, hyd yn oed o ran bwyd, un o gonglfeini ein heconomi yma yng Nghymru, ac mae gan y cynllun datblygu gwledig swyddogaeth ganolog o ran gwrthdroi'r duedd honno a chadw mwy o'r gwerth yn y swyddi cysylltiedig o'r sector bwyd yn economi Cymru. Bydd yn byrhau cadwyni cyflenwi ac yn lleihau milltiroedd bwyd hefyd. Felly, a wnewch chi gadarnhau wrthyf eich bod yn cytuno bod yn rhaid i hyn fod yn ganolbwynt i unrhyw raglen ddatblygu gwledig newydd wrth symud ymlaen?
Diolch, Llyr, am y cwestiynau a'r sylwadau yna. Rwy'n credu bod yr hyn yr oeddech yn ei ddweud am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gwbl hanfodol, ac mae'n bwysig iawn bod y cynllun datblygu gwledig yn y dyfodol yn ymateb yn fras iddo, fel y dywedwch, i alluogi cyfleoedd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar draws y sectorau gwledig. A chredaf, yn fy natganiad agoriadol, imi gyfeirio at hynny.
Mae'n rhaid iddo gyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac o wrando ar y datganiad llafar blaenorol gan fy nghyd-Aelod Ken Skates, mae'n bwysig iawn ein bod yn lleihau'r rhwystrau hynny i ddatblygu economaidd sydd yn ein cymunedau gwledig, ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i'n cymunedau gwledig ddenu a chadw swyddi a buddsoddiad. Mae hefyd yn bwysig iawn bod cynllun datblygu gwledig y dyfodol yn parhau i ymateb i ofynion statudol Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 hefyd.
Gofynnoch imi am ymrwymiadau ynghylch ariannu, ac rydych yn rhannu fy mhryderon ynghylch Llywodraeth y DU yn adnewyddu ei hymrwymiad. Yn amlwg, ni allaf ymrwymo cyllid domestig llawn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf—o ble y byddai hynny'n dod? Rwy'n dychwelyd at yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud: mae'n ddigon hawdd, fel y dywedwch, y Ceidwadwyr yn dweud wrthyf fod yn rhaid i mi lenwi bylchau; mewn Llywodraeth, rhaid ichi gyllidebu a sicrhau bod y gyllideb honno'n ymdrin â sawl agwedd. Ble ydych chi'n gwneud y dewisiadau hynny? Felly, wyddoch chi, mae'n amlwg ei bod yn anodd iawn mynd ag ef o rywle arall i sicrhau nad oes gan gymunedau gwledig yn anffodus y bwlch hwnnw, a achosir gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn parhau i gyd-ariannu cynllun datblygu gwledig yr UE; ac rydym yn barod i ymrwymo'r cyllid hwnnw yn y dyfodol.
Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch prosesu, ac yn sicr, cyn COVID-19, roeddem wedi gweld colli rhywfaint o'n gallu prosesu, na allem fforddio ei wneud, ac rwy'n credu bod hwnnw'n faes y bydd angen canolbwyntio arno.
Dydw i ddim yn cytuno â chi nad yw unrhyw ymgynghoriadau yr wyf erioed wedi'i gynnal yn ystyrlon; rwyf bob amser wedi credu ei bod yn gwbl hanfodol bod yr ymgynghoriad yn ystyrlon. Ac, iawn, mae gennym ni drydydd un ynghylch ein cynllun rheoli ffermio cynaliadwy ar y ffordd, ond peidiwch â dweud wrthyf nad ydych chi wedi gweld newidiadau yn yr ymgynghoriadau hynny i adlewyrchu'r ymgynghoriad blaenorol. Rwyf bob amser yn teimlo bod yr ymgynghoriadau wedi cael eu croesawu'n fawr wrth i ni fynd tuag at gael Bil amaethyddol, a byddwch yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi'r Papur Gwyn ym mis Rhagfyr cyn tymor nesaf y Llywodraeth.
Mae'n ddrwg gen i, fe wnes i dawelu fy hun yn y fan yna. Roeddwn yn brysur yn diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Nid oes siaradwyr eraill yn y datganiad hwn.