– Senedd Cymru am 5:39 pm ar 24 Chwefror 2021.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 11, sef yr ail ddadl fer y prynhawn yma, a galwaf ar Llyr Gruffydd i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Llyr.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer yma ar ddyfodol y diwydiant pysgota môr yng Nghymru, a dwi wedi cytuno rhoi munud o fy amser i Janet Finch-Saunders i gyfrannu i'r ddadl yma hefyd.
Cyn dechrau'r drafodaeth yma ar ddyfodol y diwydiant pysgota yng Nghymru, mi hoffwn i gymryd ennyd fach jest i gofio am y tri pysgotwr o ogledd Cymru sydd yn parhau ar goll heddiw, a'u teuluoedd nhw sydd mewn galar. Fe ddiflannodd Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath, ynghyd â'u cwch y Nicola Faith, ym mis Ionawr oddi ar arfordir gogledd Cymru, ac mi hoffwn i estyn fy nghydymdeimlad i, ac rwy'n siŵr, y Senedd yma, i'w teuluoedd a nodi ein bod ni yn meddwl amdanyn nhw yn eu galar.
Mae gan Gymru, wrth gwrs, hanes hir a balch o bysgota ar y môr. Mae'r traddodiad yn mynd yn ôl sawl milenia, gyda bwyd o'r môr wedi bod yn rhan ganolog o ddeiet pobl yn y rhan yma o'r byd ar hyd y canrifoedd hynny. Mae gwaith archeolegol yn dangos pentyrrau o gregyn pysgod a fwytawyd yn mynd yn ôl i'r oes Mesolithig ym Mhrestatyn, a dŷn ni'n gwybod am drapiau pysgod hynafol ar hyd a lled arfordir Cymru, fel sydd i'w gweld ar lan yr afon Menai. Felly, mae pysgota a bwyd y môr wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad Cymru, a heddiw, mae'r sector yn parhau i wneud cyfraniad pwysig, yn economaidd, yn amgylcheddol, yn gymdeithasol, ac yn ddiwylliannol hefyd. Mae yna gannoedd o gychod bach o dan 10 metr yn pysgota allan o borthladdoedd Cymru, ac yn cynnal bywoliaeth yn uniongyrchol i filoedd o bobl a'u teuluoedd, ac yn anuniongyrchol, wrth gwrs, i filoedd yn rhagor. Ac mae'r bobl yma sydd yn y diwydiant yn gweld eu hunain fel stiwardiaid i'n moroedd ni a'r cyfoeth o fwyd sydd yn y moroedd hynny sy'n amgylchynu Cymru. Fel ffermwyr ar y tir, mae'r pysgotwyr yma yn adnabod gwely'r môr, a sut mae patrymau'r tymhorau yn effeithio ar y gwahanol ardaloedd hynny.
Felly, beth yw dyfodol y sector hanesyddol a phwysig yma? Wel, fel pob sector, wrth gwrs, maen nhw'n wynebu amryw o heriau, ond mae yna dair brif her sydd yn bygwth pysgotwyr morol Cymru, a'r dair yma, wrth gwrs, yn heriau sy'n wynebu cymdeithas yn ehangach heddiw yn ogystal, sef, yn y lle cyntaf, newid hinsawdd, Brexit hefyd wedi dod â heriau, ynghyd, wrth gwrs, â COVID-19. Mae newid hinsawdd wedi golygu bod y moroedd wedi mynd yn llawer mwy tymhestlog yn ystod y gaeafau. Rŷn ni'n gweld stormydd llawer cryfach, a nifer mwy o stormydd na'r hyn efallai sydd wedi ei weld yn y gorffennol, ac mae hyn yn fygythiad go iawn, yn enwedig, wrth gwrs, gan gofio mai cychod bychain yw'r cychod sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Mae Brexit yn golygu bod un o'r prif farchnadoedd y mae'r sector wedi dibynnu arno fe dros y 40 mlynedd ddiwethaf wedi newid dros nos, wrth i rai mathau o bysgod oedd yn cael eu hallforio yn ddyddiol, fel y cregyn gleision wrth gwrs, gael eu hatal gan nad yw'r wladwriaeth yma bellach o fewn ffiniau yr Undeb Ewropeaidd. Ac yna, mae COVID-19 wedi dod â'r sector lletygarwch i stop, sector, wrth gwrs, yr oedd y diwydiant yn ddibynnol arno fe am werthu eu cynnyrch adref yma yn y farchnad ddomestig. Felly, dyna rai o'r heriau sy'n wynebu'r sector.
Yr her COVID yw'r un amlwg sy'n pwyso fwyaf efallai yn y tymor byr ar y diwydiant. Droeon, rŷn ni'n clywed llefarwyr ar ran y Llywodraeth yn datgan sut mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth mwy hael i fusnesau yma yng Nghymru nag unrhyw Lywodraeth arall yn y Deyrnas Gyfunol, ond nid dyna yw barn y pysgotwyr dwi wedi siarad â nhw, y rhai sy'n teimlo eu bod nhw bron iawn wedi cael eu hanwybyddu yn ystod yr argyfwng yma. Nawr, mae yna un taliad, wrth gwrs, grant o hyd at £10,000 i'r cwch wedi ei gynnig, a hynny'n seiliedig ar gyfartaledd y costau penodol—yr average fixed costs, ac mae hynny i'w groesawu, wrth gwrs ei fod e. Ond dyna’r oll, wrth gwrs. Mewn blwyddyn gyfan. Ac mae'n wir dweud fod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi cyfrannu rhai miliynau yn fwy diweddar i allforwyr bwyd môr, ond dylai hynny ddim golygu nad oes gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i wrando ar lais y sector ac i ymateb i'r hyn maen nhw'n ei glywed er mwyn sicrhau nad yw'r sector yn crebachu yn sgil yr argyfwng presennol.
Mae Llywodraethau'r Alban, Gogledd Iwerddon, ac Ynys Manaw wedi cynnig cymorth ychwanegol i'r sector, ond nid felly fan hyn yng Nghymru. Felly, un galwad dwi am ei wneud yn y ddadl hon heddiw yw gofyn i Lywodraeth Cymru gynnig cymorth ychwanegol i'r sector yma, yn enwedig, wrth gwrs, oherwydd yr amgylchiadau presennol, a dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb yn bositif i hynny wrth ymateb i'r ddadl yma.
Yna, wrth gwrs, mae effaith Brexit. Yn hanesyddol, dim ond dau gwch o'r Undeb Ewropeaidd oedd yn pysgota moroedd Cymru, er bod gan hyd at 10 yr hawl i wneud hynny. Ond o dan awdurdod dynodi sengl newydd y Deyrnas Gyfunol, y single issuing authority, yr awgrym yw y bydd hyd at 76 o gychod nawr yn cael caniatâd i bysgota ym moroedd Cymru. Wrth gwrs, mae hyn yn codi cwestiynau mawr ynghylch cynaliadwyedd pysgota ein moroedd ni ar yr un llaw, heb sôn, wrth gwrs, am y posibilrwydd y bydd y diwydiant cynhenid yma yng Nghymru yn cael ei wasgu allan o'n moroedd ymhellach. A ydy hyn wir yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? Ydy e'n gydnaws â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016? Felly, dwi eisiau clywed y prynhawn yma pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i sicrhau na fydd hyn yn digwydd. Pa drafodaethau mae'r Llywodraeth wedi eu cael gyda Llywodraeth San Steffan, gan sicrhau bod llais y diwydiant yng Nghymru yn cael ei glywed yng nghoridorau Llywodraeth y Deyrnas Unedig?
Rŷn ni oll, bellach, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r llanast y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi'i wneud wrth ymdrin â'r diwydiant pysgod cregyn. Does dim angen ailadrodd yr hanes trist yna, ond mae e yn effeithio, wrth gwrs, yn andwyol ar hyfywedd y sector yma yng Nghymru. Cyn Brexit, byddai pysgotwyr pysgod cregyn Cymru yn gallu allforio eu cynnyrch i'r Iseldiroedd, dyweder, er mwyn iddyn nhw gael eu paratoi yno ar gyfer y brif farchnad, sef gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. O dan y gyfundrefn newydd, wrth gwrs, dyw hynny ddim yn bosib. O ganlyniad, mae un o brif farchnadoedd y sector wedi crebachu bron yn llwyr, a hynny dros nos. Mae'n rhaid, felly, inni ddatblygu marchnad newydd ar gyfer y cynnyrch yma, sydd yn cyfrannu degau o filiynau o bunnoedd i'r economi Gymreig bob blwyddyn ac yn cynnal miloedd o swyddi a theuluoedd y rheini, wrth gwrs, sy'n gweithio yn y sector hefyd. Mae'n rhaid edrych i hyrwyddo a hybu y cynnyrch yn y farchnad ddomestig Brydeinig, ond hyd yma does dim arwydd fod y Llywodraeth yn cymryd y camau ychwanegol rhagweithiol yna sydd eu hangen er mwyn gwireddu hynny.
Fel rhan o hynny, mae angen, wrth gwrs, cynyddu y gallu i brosesu'r bwyd yma. Mae'n rhaid cael mwy o gynnyrch i mewn i fwydydd parod ac ar silffoedd y farchnad yma ar ein stepen drws ni yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Mae yna botensial aruthrol i ddatblygu'r sector. Ydy, mae'r sector ar hyn o bryd yn gymharol fychan, ond er gwaethaf ei maint, neu efallai oherwydd hynny, fe all Cymru arwain a dod yn enghraifft o sut fath o beth yw pysgodfeydd sy'n cael eu rheoli yn gynaliadwy, ond mewn ffordd sy'n gweithio i'r amgylchedd, ond hefyd yn gweithio i bysgotwyr. Oherwydd mae pysgodfeydd cynaliadwy yn allweddol i ddiwydiant pysgota cynaliadwy. Mae adroddiad gan Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar bysgodfeydd yn cynnig rhai syniadau ac yn rhoi rhyw fath o lasbrint inni, efallai, ar sut y gellir datblygu gwaith a pholisïau'r Llywodraeth yn y maes yma. Ond pa waith sydd wedi cael ei wneud gan y Llywodraeth i ystyried rhai o'r cynigion yma gyda'r sector? Ac mae'r adroddiad ei hun, wrth gwrs, yn dweud yn glir bod yn rhaid cael cydweithrediad gyda'r sector os yw unrhyw gynlluniau am lwyddo.
Os caf i orffen gydag un ystadegyn reit frawychus a dweud y gwir a rannwyd gyda mi gan Gymdeithas Pysgotwyr Cymru, byddai mantolen o economi Cymru yn dangos bod y sector yma'n werth tua £250 miliwn i'r economi, ac mae'r gwerth diwylliannol a chymdeithasol llawer yn fwy, wrth gwrs, ond mae'n anodd adlewyrchu hynny ar fantolen mewn ffordd, efallai, sy'n gwneud cyfiawnder â'r cyfraniad hwnnw. Ond fe ddylem ni edrych y tu hwnt i'r ffigur moel yna, wrth gwrs, oherwydd amcangyfrifir bod tua 83,000 o dunelli o gynnyrch yn cael ei lanio o foroedd Cymru bob blwyddyn, ond dim ond tua 10 y cant o hwnnw—rhwng 5,000 a 10,000 tunnell y flwyddyn—sy'n cael ei lanio gan bysgotwyr Cymru. Nawr, mi wnes i sôn mewn cyfraniad arall ddoe i'r Senedd am sut mae dros hanner llaeth Cymru yn mynd dros y ffin i gael ei brosesu, a sut mae'r colli lladd-dai wedi arwain, dros y blynyddoedd, at fwy a mwy o gig yn cael ei brosesu y tu allan i Gymru. Wel, mae ein heconomi fwyd ni yn economi echdynnol—yn extractive economy.
Wel, fe allwn ni ychwanegu bwyd o'r môr i'r rhestr honno hefyd, wrth gwrs. Mae economi Cymru yn colli allan ar 90 y cant o'r cynnyrch sy'n dod o foroedd Cymru. Mae hyn yn amlygu'r potensial aruthrol sydd, wrth gwrs, oddi ar ein harfordir ni i greu diwydiant hyfyw yng Nghymru ac i dyfu cyfraniad y sector hwnnw yn aruthrol. Petai'r addewidion gafodd eu gwneud yn ystod y ddadl ar Brexit wedi'u gwireddu, a bod gennym ni fwy o reolaeth ar ein moroedd—'take back control' oedd y gri, wrth gwrs—yna mi fyddai cyfle i adeiladu dyfodol gwahanol iawn. Ond breuddwyd gwrach oedd hynny, wrth gwrs, a chytundeb trychinebus Boris Johnson yn gwneud y sefyllfa yn fawr gwell.
Yn wir, yn lle'r addewid o fedru lleihau faint o bysgod sy'n cael eu tynnu allan o'r môr gan bysgotwyr tramor, tra ar yr un pryd yn sicrhau bod y sector gynhenid yn cael mwy o reolaeth o'r moroedd—rhywbeth fyddai wedi bod yn well i'n hamgylchedd morol ni, efallai, ac i'r economi yng Nghymru—yr hyn gawsom ni yw sefyllfa nawr fydd yn arwain at ddifrodi'r amgylched morol yng Nghymru a thanseilio ein heconomi ni, a dwi ddim yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ddigonol i'r sefyllfa honno, nac wedi dangos digon o awydd nac uchelgais i wneud unrhyw beth adeiladol ynglŷn â hynny, a dyna pam dwi wedi dod â'r ddadl fer yma gerbron y Senedd y prynhawn yma. Mae'n gyfle i'r Gweinidog a'r Llywodraeth i ddangos yr uchelgais y mae'r sector yn awchu i'w glywed—yn wir, yr uchelgais sydd yn rhaid ei gael erbyn hyn er mwyn sicrhau bod y sector yn goroesi: buddsoddi yn y sector, creu seilwaith ar gyfer prosesu, ac adeiladu marchnad ddomestig newydd, ynghyd, wrth gwrs, â datrys yr heriau a fydd yn sicrhau bod mynediad ar gael i farchnadoedd tramor yn y dyfodol. Hyd yn oed heb argyfwng hinsawdd, heb Brexit a heb COVID-19, mi fyddai achos cryf i'r Llywodraeth yma droi pob carreg i greu dyfodol mwy cynaliadwy i'n sector bysgota ar y môr yma yng Nghymru. Yn lle bodloni ar weld y cyfoeth hwnnw'n llifo allan o Gymru, mae angen sicrhau bod y llanw'n troi a bod y cyfoeth hwnnw yn llifo yn ôl i'n cymunedau arfordirol. Diolch.
Diolch i Llyr am gyflwyno'r ddadl fer hon ar fater mor bwysig. A hoffwn adleisio ei eiriau caredig iawn a'i gydymdeimlad â theuluoedd Carl, Alan a Ross yn yr amgylchiadau trist a thrasig iawn hyn. Ac wrth weithio'n agos gyda'r teulu yn awr, mae angen inni ddarganfod yn union beth a ddigwyddodd ar y diwrnod ofnadwy hwnnw pan aethant ar goll.
Nawr, Weinidog, fel y gwyddoch o bosibl, o dan yr is-ddeddfau arfaethedig a gyflwynwyd ar gyfer ymgynghori yn eu cylch gan Sefydliad Rheoli Morol Prydain, byddai treillrwydo môr-waelodol, sy'n llusgo rhwydi a phwysau dros wely'r môr, wedi'i wahardd mewn pedair ardal forol warchodedig yn Lloegr. Ystyrir bod gweithredu o'r fath yn gosod cynsail yn awr i'r gweinyddiaethau datganoledig. Felly, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â chyfyngu ar, neu wahardd treillrwydo môr-waelodol oddi ar arfordir Cymru?
A chan droi at bysgod cregyn, er fy mod yn siŵr y byddwch i gyd yn ymuno â mi i groesawu'r newyddion fod Llywodraeth y DU wedi ehangu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y gronfa £23 miliwn i dargedu busnesau sy'n dal a dyframaethu pysgod cregyn, o fewn y diwydiant maent yn teimlo bod camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i'r afael â chraidd y broblem. A wnewch chi archwilio i weld a ellir cynnal adolygiad o ddosbarthiadau dŵr er mwyn sefydlu a ellir categoreiddio ardaloedd yn rhai 'A'? Oherwydd mae'n destun gofid fod y dyfroedd hynny, yn afon Menai, yn rhai 'A' yn flaenorol a'u bod bellach yn rhai 'B', ac felly fod angen eu puro. Pa gynlluniau sydd gennych ar gyfer datblygu gallu puro yma yng Nghymru? Fe siaradaf â chi eto wedi'r ddadl hon ynglŷn â chael uned buro, ond mae cynigion yn cael eu cyflwyno gan gwmni sydd am symud ymlaen, gan weithio gyda chi. Hoffwn feddwl y gallai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU ar y pwynt olaf hefyd, yn enwedig gan y bydd sector pysgota a bwyd môr y DU hefyd yn elwa o fuddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth, gyda chronfa o £100 miliwn i helpu, er enghraifft, i foderneiddio'r diwydiant prosesu pysgod.
Fel cefnogwr Brexit brwd, credaf ein bod mewn sefyllfa dda yn awr i fanteisio ar Brexit a symud ymlaen gyda'n gilydd gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Diolch, a diolch, Llyr.
Diolch. Galwaf ar Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Llyr, am gyflwyno'r pwnc hwn i'w drafod yn y ddadl fer heddiw. A hoffwn innau hefyd, unwaith eto, gydymdeimlo â theuluoedd criw'r Nicola Faith ar yr adeg anodd hon.
Wrth sôn am ddyfodol y diwydiant pysgota morol, mae'n amhosibl anwybyddu'r problemau sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd. Mae ein diwydiant bwyd môr wedi cael ei daro'n ddifrifol ar nifer o lefelau o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r effeithiau i'w teimlo ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan yng Nghymru, ac rwy'n falch bod Llywodraeth y DU bellach wedi gwrando o'r diwedd ar fy ngalwadau niferus i sicrhau bod y sector cyfan yn cael cymorth ariannol. Mae'n anffodus ei bod wedi cymryd chwe wythnos ers i mi ysgrifennu gyntaf a chyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig cyn iddo weithredu. Fy ngobaith yw y bydd y cymorth hwn yn cyrraedd busnesau mewn angen cyn ei bod yn rhy hwyr.
Mae hefyd yn destun gofid nad yw Llywodraeth y DU yn dangos unrhyw barch at y setliad datganoli wrth ddewis gweinyddu'r cynllun yn uniongyrchol yn hytrach na chyllido yn y ffordd arferol, gyda symiau canlyniadol perthnasol ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig. Fel y dangoswyd gan ein grant pysgodfeydd yng Nghymru, gwyddom y gallwn weinyddu arian i bysgotwyr yn gyflym, yn effeithlon ac yn effeithiol. Rhaid i Lywodraeth y DU wneud yr un peth yn awr neu gallai pysgotwyr Cymru wynebu caledi pellach, wedi'i sbarduno gan oedi ac anfedrusrwydd.
Nos Lun, mewn cyfarfod gyda George Eustace, ailadroddais ei bod yn ymddangos ei fod bellach yn benderfynol o erydu blynyddoedd o ffyrdd cydweithredol da o weithio rhwng pob gweinyddiaeth pysgodfeydd yn y ffordd y mae wedi ymateb i'r cytundeb masnach a chydweithredu ers dechrau'r flwyddyn hon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant ac yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau eraill i ddod o hyd i atebion, lle bo modd, i'r problemau presennol. Fodd bynnag, mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn llai o lawer na'r hyn a addawodd Llywodraeth y DU, ond rydym yn ceisio gwneud y gorau ohono a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i'n pysgotwyr. Rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ei bod yn hanfodol fod pysgotwyr Cymru yn cael eu cyfran deg o'r cwota ychwanegol cymedrol a ddarperir gan y cytundeb masnach a chydweithredu.
Rydym yn parhau i ymateb i anghenion uniongyrchol y diwydiant, ac er ei bod yn amlwg fod Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni ei haddewidion niferus ar bob lefel i'n pysgotwyr am fôr o gyfleoedd i'r diwydiant, gallwn ni yng Nghymru ddatblygu dyfodol disglair i'r diwydiant—un sy'n seiliedig ar ecosystemau, sydd â chynaliadwyedd yn ganolog iddo, ac sy'n seiliedig ar ddull rheoli addasol, wedi'i gydgynllunio â'r diwydiant.
Rydym wedi ymrwymo i gyflawni polisi pysgodfeydd ôl-UE i Gymru, wedi'i gynllunio gyda rhanddeiliaid i adlewyrchu anghenion sector pysgodfeydd modern Cymru, ac i reoli'r effaith ar yr amgylchedd. Wrth wraidd hyn ceir polisi pysgodfeydd sy'n cydnabod yr angen i gael mwy o fudd i'n cymunedau arfordirol, gan sicrhau ar yr un pryd y gall ein stociau barhau i ddarparu manteision i genedlaethau'r dyfodol, gan feithrin cydnerthedd yn awr ac ar gyfer y dyfodol. Rhaid inni edrych tua'r dyfodol, nid yn unig er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rheoli ein stociau'n gynaliadwy, ond hefyd i feithrin cryfder a gwydnwch yn ein diwydiant a'r marchnadoedd sydd ar gael iddynt. Mae hyn mor bwysig ag erioed, wrth inni helpu'r diwydiant i wella o effeithiau pandemig COVID-19, yn ogystal ag effeithiau gadael yr UE.
Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi y llynedd, ac mae'r canlyniadau a'r safbwyntiau yn ymgynghoriad 'Brexit a'n Moroedd' yn dal i fod mor ddilys a phwysig ag erioed. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli ein pysgodfeydd mewn ffordd gynaliadwy, darparu ar gyfer diwydiant pysgota ffyniannus, yn ogystal â chynnal bioamrywiaeth ein moroedd ac ystyried effeithiau newid hinsawdd. Mae'r angen i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth gadarn yn glir hefyd. Yn ogystal â physgodfeydd sy'n cael eu rheoli'n dda, mae angen inni edrych hefyd ar ba seilwaith sydd ei angen i gefnogi ein diwydiant a helpu i wella mynediad at farchnadoedd i'n bwyd môr gwych yng Nghymru, yma yn y DU ac yn rhyngwladol. O ystyried y problemau y mae'r diwydiant yn eu profi ar hyn o bryd, mae hyn yn bwysicach nag erioed er mwyn diogelu ac adeiladu gwydnwch i'n diwydiant yn y tymor hir.
Wrth i ni symud ymlaen gyda chamau nesaf ein polisi pysgodfeydd yn y dyfodol, fel y dywedais eisoes, bydd cydgynhyrchu â rhanddeiliaid yn egwyddor graidd. Rwy'n awyddus i sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael cyfle i helpu i lunio'r dyfodol rydym am ei weld ar gyfer ein diwydiant pysgota yng Nghymru, ac yn bwysig, y modd y byddwn yn ei gyflawni. Ar lefel y DU, bydd y cyd-ddatganiad pysgodfeydd yn nodi polisïau ar gyfer cyflawni neu gyfrannu at gyflawni amcanion y pysgodfeydd fel yr amlinellir yn Neddf Pysgodfeydd 2020. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r amcanion—dyna yw conglfeini rheolaeth fodern ar bysgodfeydd. Maent yn gosod cynaliadwyedd ar y blaen ac yn y canol, ac ynghyd â'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, maent yn rhoi cyfeiriad clir inni ar gyfer rheoli ein pysgodfeydd yn gynaliadwy. Bydd y cyd-ddatganiad pysgodfeydd hefyd yn nodi ein defnydd arfaethedig o gynlluniau rheoli pysgodfeydd, sy'n arf pwysig i gyflawni'r amcanion. Gallwn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor drwy gydbwyso'r holl amcanion. Gan adlewyrchu ein hymrwymiad i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid ar y cyd-ddatganiad pysgodfeydd, sefydlwyd cymuned fuddiant ledled y DU, ac rwy'n croesawu cyfraniad cadarnhaol rhanddeiliaid o Gymru hyd yma i helpu i lywio datblygiad y datganiad.
Rydym wedi cymryd y camau cyntaf tuag at bolisi pysgodfeydd i Gymru yn y dyfodol, ond rwyf am fod yn glir: nid ateb cyflym yw hwn; nid yw'n bolisi y gellir ei ddatblygu dros nos. Bydd yn cymryd amser ac ymdrech i gyrraedd lle rydym am i'n sector fod, ac mae angen inni fod yn glir fod yn rhaid i ni ganolbwyntio yn awr ar argyfwng deublyg COVID-19 a gadael yr UE. Ond yn amlwg, mae dyfodol pysgota yng Nghymru yn gadarnhaol, ac mae gennym gyfle i ddatblygu ein sector yn un ffyniannus, cynaliadwy sy'n cefnogi ein cymunedau arfordirol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn. Diolch.