3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru ar 24 Chwefror 2021.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag anghenion iechyd meddwl a lles gweithwyr y sector cyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56327
Rydym yn ystyried bod iechyd a llesiant ein gweithlu yn hollbwysig ac yn annog cyflogwyr i ddarparu ystod o gymorth ychwanegol yn ystod y pandemig. Rydym yn monitro'r effaith yn ofalus ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymorth ychwanegol ar unwaith i ymateb i anghenion iechyd meddwl newidiol pobl.
Rwyf wedi gwrando gyda diddordeb ar eich sylwadau wrth ateb Jayne Bryant a David Melding, rwy'n credu. Mae'n ymwneud ag iechyd meddwl a sut y gallwn gadw ein llygaid ar agor am bobl sy'n dioddef. Fe wyddoch gystal â mi fod sefydliadau fel Mind wedi cynnal arolygon diddiwedd sy'n dangos bod gweithwyr y sector cyhoeddus yn dioddef yn anghymesur, yn cymryd mwy o amser i ffwrdd o'r gwaith, a bod ganddynt fwy o broblemau iechyd meddwl, a hynny ledled Cymru. Rwyf wedi cael nifer o negeseuon e-bost gan weithwyr y sector cyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn dweud pa mor anodd yw hi i ddod i ben yn ystod cyfyngiadau symud, i ymdopi â hwy, fel cynifer ohonom. Roeddwn yn meddwl tybed a oes unrhyw raglenni y gallwn eu rhoi ar waith neu a oes unrhyw ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru annog sefydliadau'r sector cyhoeddus i geisio cyrraedd y rhai sy'n gweithio ar eu pen eu hunain, wedi'u hynysu gartref neu efallai mewn cartref prysur iawn lle maent yn ei chael hi'n anodd iawn gwneud eu gwaith oherwydd yr holl sŵn o'u cwmpas. Efallai fod ganddynt blant ifanc gartref nad ydynt yn yr ysgol a bod y sefyllfa yn mynd yn drech na hwy. Oherwydd os oes gennych berson o'ch blaen neu yn y swyddfa drws nesaf, gallwch gael syniad llawer gwell o sut y maent yn teimlo. Mae'n anodd iawn dweud pan fyddwch ar alwad Zoom gyda rhywun unwaith yr wythnos. A oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn rhagweithiol i helpu cyflogwyr y sector cyhoeddus i ofalu am y gweithwyr hynny?
Yn sicr. Nid wyf am sôn am gymorth i weithwyr iechyd proffesiynol, oherwydd mae honno'n rhaglen benodol sydd gennym ar waith, ond mae gennym Cymru Iach ar Waith, wrth gwrs, sy'n rhaglen y mae llawer o sefydliadau'r sector cyhoeddus eisoes wedi ymrwymo iddi. Rwy'n gwybod bod pob un o'r saith bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyn, a llawer o awdurdodau lleol, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys. Felly, mae llawer o sefydliadau eisoes wedi ymrwymo i honno. Cafwyd cyngor cryfach o fewn y rhaglen honno er mwyn deall cyd-destun newydd y pandemig. Yr hyn sy'n bwysig hefyd yw bod nifer o raglenni a sefydliadau yn ardal Hywel Dda yn gallu helpu yn hyn o beth. Mae gennym lawer o wahanol raglenni, gan gynnwys y gronfa iach ac egnïol. Os gallwn gael pobl i ddeall y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a gweithgarwch corfforol, credaf ei bod yn bwysig iawn inni annog pobl i wneud hynny, a gwn fod prosiectau ar draws y gorllewin Cymru'n ddefnyddiol yn yr ystyr honno. Felly, mae digon o leoedd y gall pobl fynd i gael cyngor. Y peth cyntaf i'w wneud, rwy'n credu, yw mynd ar wefannau'r byrddau iechyd. Rydym bellach wedi gofyn iddynt ddiweddaru eu cyngor ar y rheini i'w gwneud yn llawer mwy hygyrch, yn llawer haws i'w darllen, ac mae pob un o'r byrddau iechyd bellach wedi gwneud hynny. Dylai fod yn haws i bobl eu defnyddio yn awr a dylent gael y cyngor lleol a allai fod yn addas ar gyfer eu hardal.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Rhun ap Iorwerth, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog.