Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 2 Mawrth 2021.
Ar hyn o bryd, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol bod elfen orfodol addysg cydberthynas a rhywioldeb yn, ac rwy'n dyfynnu, 'briodol i ddatblygiad'. Ond, wrth gwrs, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Pe byddai'n dod yn gyfraith, byddai'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn nodi themâu a materion i'w cynnwys yn elfen orfodol addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghymru. Ond mae fy ngwelliant 41 i yn gosod gofynion ar wyneb y Bil o ran cynnwys y cod hwnnw er mwyn sicrhau bod yn rhaid i blant a disgyblion ddysgu am y pethau canlynol: yn gyntaf, natur cydberthynas hirdymor, gan gynnwys priodas, a'i phwysigrwydd i fywyd teuluol a magu plant—ac, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth sy'n efelychu yn union beth sydd eisoes yn Neddf Addysg 1996—ac yna, yn ogystal â hynny, pwysigrwydd diogelwch wrth ffurfio a chynnal cydberthynas, nodweddion cydberthynas iach, sut y gall cydberthynas effeithio ar iechyd a lles corfforol a meddwl, sut y mae gwerthoedd yn dylanwadu ar agwedd pobl at ryw a chydberthynas a phwysigrwydd parchu gwerthoedd pobl eraill o ran rhyw a chydberthynas.
Mae'r rhain i gyd yn bethau y mae siaradwyr eraill wedi sôn amdanyn nhw yn y ddadl hon, felly nid oes anghytuno rhyngom. Rwyf i'n dymuno sicrhau bod gan bobl berthynas iach â'i gilydd, a dyna pam rwyf i'n credu ei bod yn bwysig bod y pethau hyn ar wyneb y Bil. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi cyfeirio at y pethau hyn hefyd yn Siambr y Senedd, ac, yn wir, yn y pwyllgor pan ofynnwyd amdanyn nhw. Nid yw'r un o'r rhain yn ddadleuol, ac mae'r Gweinidog ei hun wedi awgrymu y dylai cod addysg cydberthynas a rhywioldeb effeithiol gynnwys cyfeiriadau at bob un ohonyn nhw. Ond, wrth gwrs, ar ddiwedd y tymor Senedd hwn, efallai na fydd hi yma i fod yn Weinidog, ac mae hynny'n golygu y bydd rhywun arall yn etifeddu'r swydd weinidogol a'r cyfrifoldeb am ddatblygu'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac efallai y bydd gan yr unigolyn hwnnw agweddau gwahanol i rai y sawl un ohonom sydd wedi ei ethol yn y Senedd hon yn awr. Dyna pam rwyf i'n credu ei bod yn ddoeth i bob un ohonom roi'r pethau hyn ar wyneb y Bil ynglyn â'r cod.
Mae fy ngwelliant 42 yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghymru ystyried cefndiroedd crefyddol a diwylliannol disgyblion. Mae hyn yn wir ar hyn o bryd yng Nghymru ac yn Lloegr oherwydd Deddf Addysg 1996, ond mae Llywodraeth Cymru yn ceisio datgymhwyso'r gofyniad hwn yng Nghymru gyda'r Bil newydd hwn. Rwyf i'n credu bod hynny yn gam yn ôl. Mae'n gam yn ôl mewn cymdeithas fel Cymru fodern, cenedl sy'n dyheu am fod yn oddefgar ac yn barchus tuag at bobl o bob ffydd a diwylliant. Rwy'n credu y bydd cyflwyno'r amddiffyniadau hyn yn cryfhau'r Bil ac yn cryfhau ein hymrwymiad yma yng Nghymru i roi gwybodaeth i blant am berthnasoedd sy'n parchu eu magwraeth, yn parchu eu diwylliant a'u ffydd.
Dywed y Gweinidog y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, nad oes neb, wrth gwrs, wedi ei weld eto, yn rhoi rhywfaint o eglurder a hyder i rieni ynglŷn â'r hyn y bydd ac na fydd yn cael ei addysgu, ond gan nad ydym ni wedi ei weld, ni allwn gael yr hyder hwnnw, ac oherwydd nad yw rhieni wedi ei weld, nid ydyn nhw wedi cael yr hyder hwnnw. Dyna'r hyn sydd wedi arwain, yn fy marn i, at rywfaint o'r wybodaeth anghywir y mae Lynne Neagle a Jenny Rathbone wedi cyfeirio ati. Rwyf i'n credu os gallwn ni roi mwy o wybodaeth ar wyneb y Bil am gynnwys y cod, fe fydd yn rhoi'r hyder hwnnw y mae angen i rieni ei weld.
Gan symud ymlaen yn fyr at fy ngwelliannau 20, 21 a 22, mae'r gwelliannau hyn yn ychwanegu adrannau newydd at y Bil i roi'r hawl i rieni dynnu eu plant yn ôl o wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb os ydyn nhw o'r farn ei bod yn amhriodol ar eu cyfer. Mae'r hawliau hyn i rieni, wrth gwrs, yn bodoli yma yng Nghymru ar hyn o bryd, ond bydd y Bil yn eu dileu ac yn tanseilio'r egwyddor bwysig mai rhieni, nid y wladwriaeth, yw prif addysgwyr eu plant. Mae methu â chynnwys hawl i rieni dynnu plant allan o wersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb hefyd yn ymddangos fel pe bai'n mynd yn groes i adran 9 o Ddeddf Addysg 1996, sy'n dweud bod plant i gael eu haddysgu yn unol â dymuniadau eu rhieni.
Bydd y ddarpariaeth benodol honno yn Neddf Addysg 1996 yn dal i fod yn gyfraith yng Nghymru hyd yn oed os daw'r Bil sydd ger ein bron heddiw yn Ddeddf. Ni fydd y Bil yn gwneud unrhyw beth i ddileu erthygl 2 o brotocol 1 y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol ychwaith, sydd, wrth gwrs, wedi'i ymgorffori yng nghyfraith y DU gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae'r protocol hwnnw yn datgan bod yn rhaid i'r wladwriaeth barchu hawliau rhieni i gael addysg i'w plant sy'n cyd-fynd â'u hargyhoeddiadau crefyddol ac athronyddol. Bydd fy ngwelliannau, pe cytunir arnyn nhw, yn ceisio sicrhau bod y Bil hwn yn gydnaws â darpariaethau Deddf Addysg 1996 a'r Ddeddf Hawliau Dynol, sydd eisoes ar y llyfr statud.
Mae rhieni wedi bod â'r hawl ers tro byd i gael tynnu eu plant allan o'r ddau bwnc sy'n ennyn cwestiynau am farn teuluoedd yn y byd, sef wrth gwrs addysg rhyw ac addysg grefyddol. Mantais y defnydd posibl o'r hawl hon i dynnu'n ôl yw ei bod yn gymhelliant i ysgolion ymgysylltu'n rhagweithiol â rhieni ynglŷn ag addysg eu plant drwy ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr ysgolion eistedd a gwrando ar bryderon rhieni er mwyn lleihau'r achosion hynny o dynnu'n ôl. Ac, wrth gwrs, anaml iawn y maen nhw wedi eu harfer ledled Cymru dros y blynyddoedd lawer y maen nhw wedi bod ar waith, oherwydd yr ymgysylltiad mawr y maen nhw wedi'i arwain. Felly, Dirprwy Lywydd, anogaf yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliannau yn y grŵp hwn.