Cymorth Iechyd Meddwl

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y capasiti sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ledled Cymru? OQ56351

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:36, 2 Mawrth 2021

Diolch i Dr Lloyd am y cwestiwn. Llywydd, mae'r capasiti i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl yng Nghymru yn dibynnu'n fawr ar ddull aml-asiantaeth. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r cymorth wedi cynyddu o fewn y gwasanaeth iechyd a hefyd drwy'r trydydd sector ac awdurdodau lleol.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynna, Prif Weinidog. Nawr, 'digynsail' yw'r gair o ran COVID—rydym ni wedi ei glywed lawer gwaith. 'Digynsail' yw'r gair o ran iechyd meddwl hefyd—mae gennym ni lefelau digynsail o ofid meddwl ymhlith ein pobl heddiw, gyda straen anhygoel a rhestrau aros maith, a chyda staff iechyd meddwl yn cael eu defnyddio ar sail frys mewn mannau eraill, a chyda'u problemau iechyd eu hunain ac yn ynysu eu hunain. Gallwn sôn am gynllunio'r gweithlu, ond mae'r argyfwng iechyd meddwl yn digwydd nawr. Rwyf i wedi codi o'r blaen yr angen i ddefnyddio pawb sydd ar gael i fynd i'r afael â'r her enfawr hon, ac, yn ogystal â'r hyn yr ydych chi wedi ei amlinellu, yn enwedig i ddefnyddio cwnselwyr a therapyddion annibynnol—therapi ymddygiad gwybyddol ac eraill—a'u cynnwys yn y GIG i gynyddu'r capasiti hwnnw. Mae gennym ni weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sydd wedi eu hyfforddi'n broffesiynol nad ydyn nhw'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan y GIG heddiw. Ac mae'r Gweinidog, Eluned Morgan, wedi datgan yn y gorffennol ei bod hi'n agored i'r syniad o weithio gyda byrddau iechyd ar yr agenda hon. Felly, cyfnod digynsail, atebion creadigol ar gyfer nawr—a ydych chi'n cytuno?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:37, 2 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno yn llwyr â Dr Lloyd y bydd angen atebion creadigol i ganiatáu i ni ymateb i natur ddigynsail yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Ac fel y dywedodd ef, mae Eluned Morgan, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl, wedi nodi bod Llywodraeth Cymru yn agored i ddefnyddio'r ystod ehangaf o gymorth medrus, proffesiynol ac achrededig sydd ar gael i bobl wrth i ni geisio ysgogi gwahanol fathau o gymorth iddyn nhw ymateb i effaith y 12 mis diwethaf ar iechyd a llesiant meddwl. Dyna pam, yn ogystal â'r arian sydd gennym ni yn uniongyrchol yn y flwyddyn ariannol hon i gryfhau gwasanaethau'r GIG, yr ydym ni wedi dod o hyd i bron i £3 miliwn i gryfhau cyfraniad y trydydd sector, yn enwedig at wasanaethau haen 1 a haen 0, i sicrhau eu bod nhw ar gael i bobl gymaint â phosibl.

Ac mae'r bobl hynny sydd ag arbenigedd mewn therapi ymddygiad gwybyddol wedi bod yn rhan o'r daith honno hefyd, yn enwedig o ran darparu deunydd ar-lein, lle gall pobl, yn eu hamser eu hunain ac mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw, fanteisio ar y mathau o ddulliau, ymarferion a ffyrdd o ymateb i anghenion iechyd meddwl y gallwn ni fanteisio arnyn nhw erbyn hyn. Felly, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Dr Lloyd—i ymateb i'r amgylchiadau digynsail yr ydym ni ynddyn nhw, bydd dychymyg, creadigrwydd a pharodrwydd i fanteisio ar yr holl gapasiti sydd ar gael yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n ail-lunio ein gwasanaethau iechyd ar gyfer y dyfodol.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 1:39, 2 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, galwodd y Sefydliad Iechyd Meddwl am strategaeth draws-Lywodraeth Cymru newydd ar atal problemau iechyd meddwl, gan gynnwys mynediad ehangach at ragnodi cymdeithasol, fel prosiectau celfyddydol, prosiectau rhwng cymheiriaid a mynediad at natur, a chamau i roi sylw i iechyd meddwl gwledig. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i nifer o etholwyr sydd wedi ymddeol a anfonodd e-bost ataf yr wythnos diwethaf yn dweud,

Rydym ni'n dechrau dioddef problemau iechyd oherwydd y cyfyngiadau symud erbyn hyn. Yn feddyliol, allwn ni ddim cymryd llawer mwy. Mae'r lonydd lle'r ydym ni'n byw yn gul, ond yn heb gyfyngiad arnynt, yn beryglus, ac mae traffig yn symud yn gyflym iawn. Yn sicr, nid ydyn nhw'n ddiogel i gerdded arnyn nhw. Hyd yn hyn, roeddem ni'n deall y rhesymau dros beidio â chaniatáu swigod. Ar hyn o bryd, mae hynny yn teimlo yn anobeithiol iawn. Nid yw pobl fel ni yn gweld unrhyw un, yn siarad ag unrhyw un ac yn dechrau cael problemau iechyd oherwydd yr ynysu hwn. A wnewch chi apelio ar Lywodraeth Cymru os gwelwch yn dda, gan fynegi pryderon pobl fel ni, gan fod llawer iawn ohonyn nhw yn y Gymru wledig? Y cwbl yr ydym ni'n ei ofyn yw am reol teithio estynedig i wahanol draethau neu fannau agored lleol a'n swigod fel y gallwn ni siarad, crio a chefnogi?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:41, 2 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, dywedais ar ddiwedd yr adolygiad tair wythnos diwethaf fy mod i'n gobeithio mai'r adolygiad tair wythnos presennol fyddai'r un olaf pryd y byddai'n rhaid i ni ofyn i bobl gynnal dull aros gartref o ymdrin â'r pandemig. O gofio bod y niferoedd yn parhau i ostwng a bod brechu yn parhau i gael ei gyflwyno yn llwyddiannus yng Nghymru, rwy'n dal yn obeithiol, ar ddiwedd y cylch tair wythnos hwn, y bydd modd cynnig mwy o gyfleoedd i bobl, o dan yr amgylchiadau y mae Mark Isherwood wedi eu disgrifio, gael yr ymarfer corff y maen nhw ei eisiau, ac o bosibl i ddod o hyd i fwy o gyfleoedd i bobl gyfarfod yn ddiogel yn yr awyr agored. Bydd hyn i gyd, Llywydd, fodd bynnag, yn cael ei wneud yn bennaf o fewn yr heriau iechyd cyhoeddus parhaus sy'n ein hwynebu oherwydd y feirws hwn.

Rwy'n siŵr na fyddai'r bobl sydd wedi cysylltu â Mr Isherwood—yr etholwyr sydd wedi ymddeol y cyfeiriodd atyn nhw—yn dymuno i ni wneud unrhyw beth a fyddai'n peryglu'r tir y gweithiwyd yn galed i'w ennill y maen nhw ac eraill yng Nghymru wedi ei sicrhau drwy'r ymdrechion yr ydym ni wedi eu gwneud gyda'n gilydd. Mae'r ymdrechion hynny yn dwyn ffrwyth a, chyn belled â'u bod nhw'n parhau i wneud hynny, rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa i ymateb i'r mathau o negeseuon y mae'r Aelod wedi eu cyfleu i ni y prynhawn yma.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 1:42, 2 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, bythefnos yn ôl roeddem ni'n falch o gynnal digwyddiad byw ar Facebook yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr, o dan y teitl 'Mental Health—It's Good to Talk', ac mae'n bleser gen i ddweud bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl yn bresennol, yn ogystal â Megan o Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, Mental Health Matters, Siediau Dynion lleol a llawer o sefydliadau ac unigolion eraill sydd â phrofiad o lygad y ffynnon o heriau iechyd meddwl hefyd. Ymhlith y materion niferus a godwyd, roedd dwy thema yn flaenllaw. Y cyntaf oedd yr angen i barhau i gynyddu'r buddsoddiad cyffredinol mewn cymorth a gwasanaethau iechyd meddwl o'r buddsoddiad i fyny'r gadwyn, yr ydych chi wedi sôn amdano, Prif Weinidog, drwodd i therapïau a'r gwasanaethau acíwt. A'r ail oedd yr angen i fuddsoddi mewn iechyd meddwl amenedigol i'r ddau riant, rhywbeth a godwyd yn arbennig gan yr ymgyrchydd o Fro Ogwr, Mark Williams. A diolchaf i'r Gweinidog, gyda llaw, am wahodd Mark i gyfarfod dilynol gydag eraill, o fewn diwrnodau, i drafod hyn. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi pa ymrwymiad y gallwch chi ei roi i barhau i hybu'r buddsoddiad mewn cymorth a gwasanaethau iechyd meddwl drwyddi draw ac i iechyd meddwl amenedigol y ddau riant, a hefyd i helpu i ddileu'r stigma ynghylch materion iechyd meddwl—gan roi gwybod i bobl ei bod wir yn dda iawn i siarad am iechyd meddwl?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:44, 2 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, diolchaf i Huw Irranca-Davies am y cwestiynau ychwanegol yna. O ran buddsoddi ymlaen mewn iechyd meddwl, bydd yn gwybod gosodwyd y gyllideb ddrafft gerbron y Senedd rai wythnosau yn ôl, ac yn y gyllideb derfynol a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach heddiw, byddwn yn buddsoddi £42 miliwn arall mewn iechyd meddwl. Mae'r swm unigol mwyaf o arian yn ein cyllideb iechyd yn cael ei neilltuo i iechyd meddwl, a bydd hwn yn fuddsoddiad ychwanegol sylweddol yn y flwyddyn ariannol nesaf o ran cynnal y gwasanaethau hynny, a fydd, fel y dywedodd Dr Lloyd, mor angenrheidiol yn y misoedd i ddod. 

O ran  gwasanaethau amenedigol, rwy'n falch o allu cadarnhau i'r Aelodau ein bod ni'n dal i fod ar y trywydd iawn i wahodd y cleifion cyntaf i'r gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol preswyl newydd sy'n cael ei greu yn Ysbyty Tonna, nid nepell o etholaeth yr Aelod ei hun. Roedd hwnnw yn ymrwymiad a roddwyd gan fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething, y byddem ni'n creu cyfleuster newydd i gleifion mewnol ym maes iechyd meddwl amenedigol, a bydd hynny yn cael ei gyflawni cyn yr etholiadau, er gwaethaf yr heriau sylweddol iawn y mae coronafeirws wedi eu hachosi i'r adeiladwyr, sy'n gweithio yn galed iawn i wneud yn siŵr y gellir cwblhau popeth yn Ysbyty Tonna mewn pryd i groesawu'r cleifion cyntaf hynny.

Ac yn olaf, hoffwn longyfarch yr Aelod ar y digwyddiad a drefnwyd ganddo. Mae cael gwared ar stigma ym maes iechyd meddwl yn ymdrech gyson, onid yw? Nid yw'n frwydr yr ydym ni'n mynd i'w hennill drwy un digwyddiad neu un ymgyrch yn unig. Mae'n dal yn her wirioneddol i bob un ohonom ni, a gwn fod Aelodau ar draws y Siambr wedi chwarae eu rhan yn hyn i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i egluro i bobl bod siarad am iechyd meddwl, bod yn agored am brofiadau, cael y cymorth a all ddilyn oddi wrtho wedyn, dyna'r ffordd yr ydym ni'n erydu'r stigma parhaus y mae'r rhai sy'n dioddef o salwch meddwl yn parhau i'n hysbysu amdano, yn anffodus.