– Senedd Cymru am 4:05 pm ar 2 Mawrth 2021.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021. A galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig. Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron. Adolygwyd rheoliadau Rhif 5, fel y gŵyr yr Aelodau, ar 18 Chwefror a daethpwyd i'r casgliad y dylai Cymru gyfan aros ar lefel rhybudd 4. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb barhau i aros gartref. Rhaid i bob lleoliad manwerthu nad yw'n hanfodol, safleoedd lletygarwch, safleoedd trwyddedig a chyfleusterau hamdden aros ar gau. Fodd bynnag, rydym wedi diwygio'r rheoliadau cyfyngu i ganiatáu i uchafswm o bedwar o bobl o ddwy aelwyd wahanol wneud ymarfer corff gyda'i gilydd. Dylai'r rhai sy'n ymarfer gyda'i gilydd o wahanol aelwydydd wneud pob ymdrech i gadw pellter cymdeithasol. Rhaid i bobl barhau i ddechrau a gorffen ymarfer corff o'u cartref ar droed neu ar feic, oni bai bod gan unigolyn anghenion ychwanegol, oherwydd anabledd neu am resymau iechyd eraill. Yn ogystal, diwygiwyd y dynodiad chwaraeon elît yn y rheoliadau i gydnabod pobl sy'n ennill bywoliaeth o chwaraeon a dynodiadau a wneir gan gyrff chwaraeon mewn rhannau eraill o'r DU.
Rydym ni wedi nodi'n glir mai blaenoriaeth gyntaf ein Llywodraeth yw cael cynifer o blant a myfyrwyr yn ôl i ddysgu wyneb yn wyneb cyn gynted â phosibl. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn falch o weld plant y cyfnod sylfaen a'r rhai sy'n sefyll cymwysterau galwedigaethol blaenoriaethol yn dychwelyd ar 22 Chwefror. Mae'r Gweinidog Addysg wedi nodi uchelgais y Llywodraeth ar gyfer yr holl blant ysgol gynradd sy'n weddill a'r rhai sydd i fod i sefyll arholiadau eleni i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb ar 15 Mawrth.
Er gwaethaf cynnydd enfawr o ran cyflwyno brechlynnau a'r gwelliant yn sefyllfa iechyd y cyhoedd, rydym ni i gyd wedi gweld pa mor gyflym y gall y sefyllfa ddirywio. Yn wyneb amrywiolion newydd o'r coronafeirws, ni allwn ni ddarparu cymaint o sicrwydd na rhagweld i'r graddau ag yr hoffem ni. Ein dull o weithredu bydd lliniaru'r cyfyngiadau mewn camau graddol, gwrando ar y cyngor meddygol a gwyddonol, ac asesu effaith y newidiadau a wnawn gydag amser. Nid ydym ni eisiau codi gobeithion a disgwyliadau pobl yn rhy gynnar ac yna gorfod eu siomi. Byddwn yn rhoi cymaint o rybudd i bobl a busnesau ag y gallwn ni. Pan fyddwn yn credu ei bod hi'n ddiogel ac yn gymesur i liniaru'r cyfyngiadau, yna byddwn yn gwneud hynny.
Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, sy'n parhau i chwarae rhan bwysig wrth addasu rheolau'r coronafeirws yma yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n effeithiol ac yn gymesur, a'u bod yn dal i fod yn rhan allweddol o sut y gallwn ni i gyd helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?
Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws Rhif 5, sef y prif reoliadau ynglŷn â COVID, a daethant i rym ar 20 Chwefror. Nododd ein hadroddiad bedwar pwynt rhinwedd. Roedd a wnelo'r cyntaf â chyfeiriad anghywir yn nodyn esboniadol y rheoliadau; yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r camgymeriad. Mae ein tri phwynt rhinwedd olaf yn rhai cyfarwydd i holl Aelodau'r Senedd. Maent yn nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau, ac nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gynnal. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Mi fyddwn ni'n pleidleisio o blaid y rheoliadau yma heddiw. Dwi'n edrych ymlaen, serch hynny, i'n gweld ni'n gallu symud ymhellach o ran disgyblion yn dychwelyd i addysg, ac eto'n gwneud y pwynt y gall brechu staff chwarae rhan fawr mewn adeiladu hyder yn y gallu i ganiatáu hynny i ddigwydd yn ddiogel.
Ac efo'r cam o ganiatáu pedwar o bobl o ddau aelwyd gwahanol i gael ymarfer corff efo'i gilydd, eto, dwi'n croesawu hynny, a cham wrth gam rydym ni yn symud ymlaen. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod yn iawn fy mod i wedi annog y Llywodraeth yn gyson i wthio'r ffiniau, os liciwch chi, o beth sy'n gallu cael ei ganiatáu yn ddiogel i helpu efo llesiant pobl. Mae hynny, yn gobeithio, yn mynd i olygu gallu edrych ar ganiatáu teithio lleol ar gyfer ymarfer corff ac ati awyr agored, yn hytrach nac aros gartref, a hynny mor fuan â phosib. Mi fuasai hynny, dwi'n meddwl, yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i lawer ym mhob rhan o Gymru, yn enwedig, fel dwi'n dweud, pan ydyn ni'n sôn am ganiatáu gweithgaredd awyr agored, lle, wrth gwrs, mae'r risg yn llawer is.
Rydym ni hefyd yn bwriadu cefnogi'r rheoliadau lliniarol hyn. Fe hoffem ni gael mwy o gysondeb ar draws y Deyrnas Unedig ar un ohonynt, ond mae'r rheoliadau ar y rhai sy'n ymhél â chwaraeon yn broffesiynol yn ein taro'n amlwg yn synhwyrol, ac mae dibynnu ar reoliadau a wneir mewn mannau eraill a'u derbyn yng Nghymru yn hytrach na mynnu gwneud pethau ychydig yn wahanol yn gam i'r cyfeiriad iawn, rydym yn credu. Mae caniatáu i ddwy aelwyd, hyd at bedwar, gyfarfod y tu allan—credaf fod y diben yn briodol, yn hynny o beth, hyd yn oed os yw'r manylion ychydig yn wahanol.
Y maes yr hoffwn ganolbwyntio arno, serch hynny, yw'r hyn sy'n digwydd gydag ysgolion. A wnaiff y Gweinidog egluro pryd y cyhoeddir rhagor o fanylion fel y gall pobl baratoi'n ehangach ar gyfer dychwelyd i'r ysgol? Soniodd am ddyddiad ym mis Mawrth gynnau. A all gadarnhau beth yn union sy'n digwydd yn hynny o beth a phryd y byddwn yn gwybod mwy am yr hyn a fydd yn digwydd i eraill? Dim ond ychydig o grwpiau blwyddyn sydd gennym ni yn y cyfnod sylfaen yn ôl yn yr ysgol yng Nghymru, ac eto yn Lloegr ddydd Llun mae pob plentyn yn mynd yn ôl i'r ysgol. Nawr, dywedodd y Trefnydd yn gynharach fod yn rhaid anfon plant yn ôl i'r ysgol fesul cam. Wel, does dim rhaid ei wneud fesul cam, nac oes? Nid yw hynny'n cael ei wneud mewn lleoedd eraill. Pam, os gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael pawb yn ôl i'r ysgol yn Lloegr ddydd Llun, ydym yn dal i weld y mwyafrif llethol o blant yng Nghymru nad ydynt yn yr ysgol, gyda dysgu gartref, tarfu ar amserlenni eu rhieni, amharu ar eu dysgu eu hunain, ac effaith fawr ar iechyd meddwl a disgwyliadau a dyfodol cynifer o bobl. Rydym ni wedi gweld cyfraddau heintiau, marwolaethau, pobl sy'n mynd i'r ysbyty yn plymio, rydym ni wedi gweld llwyddiant eithriadol o ran brechu ledled y Deyrnas Unedig, ac eto rydym yn dal i fod ynghlwm wrth yr adolygiad tair wythnos yma, sydd braidd yn hamddenol. Oni ddylem ni fod yn cyflymu'r broses o ddychwelyd i'r ysgol? Dywedodd hyd yn oed Nicola Sturgeon heddiw y gallai fod yn bosibl cyflymu'r broses o lacio'r cyfyngiadau symud. Onid yw hi hefyd yn bryd i ni gael pob plentyn yn ôl i'r ysgol, yn hytrach na llusgo ar ei hôl hi?
Diolch. Galwaf nawr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r ddau siaradwr am fynegi eu cefnogaeth i'r rheoliadau a chydnabod y cwestiynau sydd ynddynt. Fel y gŵyr Rhun ap Iorwerth, rydym ni'n symud gam wrth gam, yn unol â'r dystiolaeth wyddonol a chyngor ar iechyd y cyhoedd. Deuaf at hynny eto wrth ymdrin ag un o gwestiynau Mark Isherwood—mae'n ddrwg gennyf, cwestiynau Mark Reckless; rwyf yn cydnabod bod y ddau Farc ychydig yn wahanol, er bod Mr Reckless yn aml yn fwy cyson ei gefnogaeth i ddull Llywodraeth y DU o liniaru.
O ran eich cwestiynau ynghylch brechu, Rhun, fel y gwyddoch chi, rydym wedi trafod hyn droeon yn y sesiynau briffio anffurfiol ac yn y pwyllgor ac yn wir yn y datganiad. Rwy'n cydnabod eich bod yn edrych yn wahanol ar ddull gweithredu'r Llywodraeth wrth ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, fel y mae gennych chi berffaith hawl i'w wneud.
O ran eich cwestiwn am wella lles pobl gyda lliniaru pellach, dyna yw amcan y Llywodraeth i raddau helaeth, ynghylch sut y gallwn ni, gyda lliniaru pellach, ystyried gwella iechyd meddwl a lles pobl a chael ymarfer corff, mynediad i'r awyr agored, gan fod y tywydd yn gwella'n gyffredinol—er fy mod yn byw mewn gobaith pan ddywedaf hynny; cofiaf ychydig yn ôl inni gael eira ym mis Ebrill. Ond rydym ni yn meddwl am yr hyn y gallai hynny ei olygu, ac rydym ni yn ystyried a allai'r cam nesaf gynnwys cyfnod o 'aros yn lleol'—byddwch yn cofio bod Lloegr eisoes wedi nodi ei bod hi'n debygol o ddechrau ar gyfnod o aros yn lleol hefyd—ac a allai hi fod yn bosibl cael rhagor o liniaru a fyddai'n caniatáu i bobl deithio ar gyfer gweithgarwch awyr agored yn benodol. Dyna un o'r pethau yr ydym ni yn ei ystyried, er nad yw dewisiadau wedi'u gwneud yn bendant, oherwydd rydym ni eisiau deall yr hyn y mae'r data'n ei ddweud wrthym ni ar ddiwedd yr adolygiad tair wythnos presennol cyn i ni wneud y dewisiadau am y dyfodol.
O ran sylwadau Mark Reckless am gefnogi'r rheoliadau gan eu bod yn cynnig mwy o liniaru, o'u cymharu â'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi o'r blaen, mae hynny i'w groesawu. O ran eich sylw am gysondeb ledled y DU, efallai y bydd hi'n bosibl inni wneud mwy, ond byddai hynny'n ei gwneud hi'n ofynnol inni gael sgyrsiau'n gynharach. Mae mwy o sgwrsio ledled y DU nag a gafwyd yng nghanol yr haf—mae hynny'n wir ac mae hynny i'w groesawu mewn gwirionedd. Er nad ydym ni bob amser yn cytuno â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, nid ydym ni erioed wedi mynd ati—er gwaethaf ei ddadl—i ddim ond bod yn wahanol er mwyn gwneud hynny; rydym ni wedi gwneud pethau sy'n iawn yn ein barn ni, ac mae gan bobl eraill, wrth gwrs, hawl i anghytuno â'r dewisiadau rydym ni wedi'u gwneud. Ond er mwyn cael mwy fyth o obaith o gael dewisiadau cyffredin ledled y DU, byddai hynny'n gofyn am sgwrs fwy agored ac un y byddai angen iddi gynnwys Prif Weinidog y DU. Her y cyfarfodydd dan gadeiryddiaeth Michael Gove ar gyfer Llywodraeth y DU yw bod angen iddo ddychwelyd at y Prif Weinidog o hyd, ac mae adegau pan all fod yna wahaniaeth mewn mân bethau ac mewn pwyslais, ac mae hynny'n bwysig. Byddwn yn croesawu'n fawr ymgysylltiad llawer mwy rheolaidd rhwng Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond yn anffodus, nid dyna fel y bu hi ers misoedd lawer.
O ran eich sylw am ysgolion, rydych chi'n gywir wrth ddweud y gallem wneud dewis polisi i agor pob ysgol ar 8 Mawrth neu 15 Mawrth— mae rhwydd hynt i Weinidogion wneud hynny. Y pwynt yr ydym ni wedi'i wneud yn gyson yw nad yw hynny'n cael ei gefnogi gan y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor ynglŷn ag iechyd y cyhoedd. Rydym ni wedi cyhoeddi'r cyngor hwn, mae wedi'i gwneud hi'n glir iawn y dylid dychwelyd yn raddol oherwydd yr effaith y gall ysgolion sy'n agor ei chael ar y ffigur R. Ac rydym yn gweithredu gan bwyll gam wrth gam, fel y nododd Rhun ap Iorwerth, oherwydd bellach mae gennym ni amrywiolyn Caint fel amrywiolyn amlwg. Mae'n llawer mwy heintus na'r fersiynau blaenorol o'r coronafeirws. Ac mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ymwneud â bod yn wahanol i Loegr er mwyn gwneud hynny, mae Lloegr wedi gwneud dewis polisi sy'n ei gosod ar wahân i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rydym yn dilyn tystiolaeth a chyngor gwyddonol ac ynglŷn ag iechyd y cyhoedd; mae Lloegr wedi gwneud dewis polisi gwahanol, fel y mae ganddynt hawl i'w wneud. Byddwn i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at yr hyn a fydd yn digwydd o 8 Mawrth a byddwn yn parhau i graffu ar y data wrth wneud dewisiadau yn y dyfodol. Gall pob ysgol gynradd ddisgwyl dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb o 15 Mawrth a gall pob blwyddyn arholiad ddisgwyl dychwelyd wedyn, a bydd trafodaethau pellach ynghylch a oes pethau eraill a allai fod yn bosibl, ond bydd y Llywodraeth yn cadarnhau hynny ar ôl i'r Gweinidog Addysg gwblhau'r materion hynny. Naill ai'r Gweinidog Addysg neu'r Prif Weinidog fydd yn cyhoeddi'r safbwynt hwnnw i roi eglurder i ddysgwyr, i rieni, i ofalwyr ac, wrth gwrs, i'n staff. Ond rwy'n edrych ymlaen, dros yr wythnosau nesaf, at weld mwy a mwy o'n plant a'n pobl ifanc yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb.
Gyda hynny, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau a gobeithio y cawn gefnogaeth y Senedd heddiw i'r rheoliadau hyn.
Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiad, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.