1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 3 Mawrth 2021.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adferiad busnesau yng ngogledd Cymru? OQ56348
Wel, yn ychwanegol at fy ateb i Mark Isherwood, yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi darparu £44.1 miliwn o gymorth i dros 2,500 o fusnesau o dan gamau 1 a 2 y gronfa cadernid economaidd, gan ddiogelu dros 20,000 o swyddi. Yng ngogledd Cymru hefyd, rydym wedi darparu £1.1 miliwn i 472 o fusnesau newydd.
Diolch, Weinidog, ac a gaf fi ddweud diolch am eich ymatebion bob tro rwyf wedi gofyn cwestiynau craff a heriol i chi, a hefyd am eich ymagwedd deg? Bob tro rwyf wedi codi unrhyw faterion gyda chi ynghylch trafnidiaeth neu faterion eraill yn Aberconwy, rydych bob amser wedi bod yn deg iawn.
Nawr, bydd rownd ddiweddaraf y gronfa cadernid economaidd yn gweld £30 miliwn yn cael ei dargedu at fusnesau lletygarwch gyda 10 neu fwy o weithwyr. Ac fel y dywedodd ein cyd-Aelod Helen Mary, mae'n 10 neu fwy o weithwyr—a chododd Mark Isherwood hyn hefyd—beth am y rhai sydd â phump neu chwech o weithwyr? Sut y gwnaethoch chi dynnu'r llinell? Hefyd, a allwch chi esbonio'r gwahaniaeth rhwng busnes sy'n cyflogi naw o bobl a busnes sy’n cyflogi 10 o bobl, ac yn enwedig y dryswch sydd wedi digwydd?
Rwyf wedi cael sawl fforwm twristiaeth, Weinidog, ac mae rhywfaint o ddryswch ynglŷn â'r £150 miliwn ychwanegol a fydd ar gael drwy grantiau ardrethi annomestig. Rydych wedi cadarnhau hyd yma mai dim ond os caiff cyfyngiadau eu hymestyn ar 12 Mawrth y caiff hyn ei ymestyn, ac mae hynny'n achosi ansicrwydd mawr gyda'r busnesau hynny. Mae gwir angen iddynt wybod yn awr a oes unrhyw debygolrwydd y byddant yn agor dros y Pasg, neu a fydd hi'n fis Ebrill neu a fydd hi'n fis Mai? Oherwydd mae gwir angen i'r busnesau hyn gynllunio. Mae sôn wedi bod y byddwn yn symud i lefel rhybudd 3 ar ôl 12 Mawrth, a lefel 3, wrth gwrs, yw cyfradd achosion wedi'i chadarnhau o fwy na 150 achos ym mhob 100,000 o bobl. Ond y cyfartaledd saith diwrnod diweddaraf yw 57 achos ym mhob 100,000. Mae hyn yn gosod disgwyliad enfawr ar y perchnogion busnes hyn yn awr. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech wneud datganiad clir ar hynny.
A fy mhwynt olaf yw hwn: mae llawer o rethreg gwrth-ymwelwyr wedi bod, mae arnaf ofn, ac yn ein diwydiant twristiaeth, daw 80 y cant o'u diwydiant, busnes twristiaeth, o dros y ffin yn Lloegr, a dyna pam eu bod eisiau gweld lefelau ailagor yr un fath. Pa gamau y gallwch eu cymryd, Weinidog, gan weithio gyda Croeso Cymru, i sicrhau bod y negeseuon hynny'n cael eu dileu'n llwyr a phan fyddwn yn ailagor ar gyfer busnes, ein bod yn groesawgar iawn wrth unrhyw un sy'n dod o dros y ffin yma i ogledd Cymru ac i Aberconwy i fwynhau eu gwyliau?
A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei geiriau caredig iawn a dweud fy mod wedi mwynhau gweithio gyda hi yn fawr? Efallai ei bod yn Aelod o'r wrthblaid, ond yn yr un modd, mae wedi bod yn adeiladol ac yn deg iawn yn y ffordd y mae wedi craffu ar fy ngwaith ac wedi gofyn am atebion i gwestiynau.
Yn amlwg, cynhelir yr adolygiad 21 diwrnod nesaf yr wythnos nesaf, felly bydd busnesau yn y sectorau twristiaeth, lletygarwch a hamdden yn cael clywed a fyddant yn gallu ailagor mewn pryd ar gyfer y Pasg. Ond fel y dywedais mewn ymateb i'r cwestiwn blaenorol, yr hyn sy'n hanfodol yw bod unrhyw fusnes sy'n ailagor yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel. Ac os bydd angen defnyddio'r £150 miliwn i gefnogi busnesau, bydd hynny'n digwydd y tu hwnt i'r wythnos nesaf. Bydd yn rhoi gwarant i fusnesau o bob maint y byddant yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru gyda grantiau o hyd at £5,000 sydd ar gael ar eu cyfer. Ac mae hynny'n rhoi sicrwydd i mi, beth bynnag fo canlyniad yr adolygiad yr wythnos nesaf, y bydd yna incwm, naill ai ar ffurf grant gan Lywodraeth Cymru, neu drwy gynhyrchu busnes dros yr wythnosau nesaf.
Byddwn hefyd yn cytuno â Janet Finch-Saunders na ddylid cael rhethreg gwrth-ymwelwyr. Y neges gan Croeso Cymru drwy gydol y pandemig hwn yw, 'Hwyl fawr. Am y tro.' Pan fydd hi'n ddiogel i bobl ymweld â Chymru eto, rydym yn awyddus i sicrhau y byddwn yn croesawu'r cyfle i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i fusnesau yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae cymunedau sy'n dibynnu ar yr economi ymwelwyr am gyflogaeth wedi dioddef yn eithriadol o wael yn ystod y pandemig hwn, a dyna pam ein bod wedi bod mor awyddus—ac mae Dafydd Elis-Thomas, fel y Gweinidog twristiaeth ardderchog wedi bod mor awyddus i sicrhau ein bod yn cynnig y pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.
Ac os caf dynnu sylw at gymhariaeth rhwng Cymru a Lloegr: os edrychwch ar uchafswm y grant sydd ar gael i bob busnes yn Lloegr sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000, mae'n £6,000; os edrychwch ar yr hyn sy'n cyfateb yng Nghymru i dwristiaeth a lletygarwch, fe fydd oddeutu £10,000. Ac mewn gwirionedd, nid yw hynny'n cynnwys y £180 miliwn unigryw a'r £30 miliwn o arian ychwanegol sydd ar gael i fusnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth. Felly, yng Nghymru, rydym wedi gweithredu dau gylch o'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau ers mis Rhagfyr, ochr yn ochr â dwy gronfa sy'n benodol i'r sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ac wrth gwrs, cyn hynny, roedd y gronfa datblygu busnes—mae'r holl gronfeydd hyn ar gael ac yn cael eu defnyddio gan fusnesau gwych yn y sector twristiaeth.
Mae llawer o gariad yn cael ei rannu yn y sesiwn gwestiynau hon heddiw; gobeithio y bydd yn parhau—llawer o garedigrwydd. Jack Sargeant, eich cwestiwn chi sydd nesaf.
Diolch yn fawr, Lywydd, a hoffwn ategu canmoliaeth Aelodau'r gwrthbleidiau i'ch gwaith ar yr economi, Weinidog, a'ch ymrwymiad tuag at ogledd Cymru'n arbennig, ac rwy'n eich canmol am hynny. Nawr, mae angen inni adeiladu nôl yn gryfach ac yn fwy gwyrdd, a bod yn uchelgeisiol yn ein cynlluniau ar gyfer adfer er mwyn creu swyddi yng Nglannau Dyfrdwy. Eleni, mae Shotton Steel yn 125 oed, ac rwyf eisiau iddo fod yn tyfu ac yn cyflogi pobl am y 125 mlynedd nesaf. Nawr, mae'n rhaid i hwn fod yn gyflogwr pwysig i genedlaethau'r dyfodol. Rwyf eisiau sicrhau mai Shotton Steel fydd ffatri carbon niwtral gyntaf y DU, ac rwyf eisiau iddi gynhyrchu'r dur ar gyfer cynnyrch gwyrdd y dyfodol. Felly, Weinidog, a wnewch chi barhau â'ch sgyrsiau gyda Tata Shotton am eu hyb logisteg i gyflenwi adeiladau modiwlaidd gwyrdd y dyfodol, a'u cefnogi i wneud y safleoedd yn garbon niwtral?
Wel, a gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiynau, ac am ei sylwadau caredig hefyd? Mae'n wir fod yr Aelodau'n garedig iawn heddiw. Mae'n gwneud i mi feddwl tybed a oes cynllwyn, a yw'r holl Aelodau'n gwybod rhywbeth am fy nhynged ar 6 Mai gyda'r geiriau a'r teyrngedau caredig hyn sy'n cael eu gwneud, ond mae wedi bod yn bleser gweithio gyda'r Aelodau dros y pum mlynedd diwethaf yn ystod fy amser yn y rôl hon, ac wrth gwrs, mae hynny wedi cynnwys ffocws ar ogledd Cymru fel Gweinidog gogledd Cymru.
Prin yw'r cwmnïau sydd cystal â Tata yn Shotton o ran rhagolygon cyflogaeth a datblygu'r gweithlu, ac rydym yn gwbl benderfynol o sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru, gan gynnwys Tata Steel yn Shotton, ac rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'r busnesau hynny i ddatblygu cynlluniau a fydd yn cyrraedd ein targedau di-garbon. Ac mae ein cynllun gweithgynhyrchu newydd, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, yn nodi rhai o'r camau sydd eu hangen i ddatgarboneiddio diwydiant. Rwy'n falch ein bod eisoes yn cymryd rhan yn y gronfa trawsnewid ynni diwydiannol gwerth £315 miliwn, sy'n buddsoddi cyfalaf mewn prosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio. Gwahoddwyd Tata i gymryd rhan—rwy'n falch o ddweud—mewn astudiaeth sy'n gwerthuso anghenion sgiliau diwydiannau sylfaen yn y dyfodol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatgarboneiddio, ac mae Innovate UK yn cydlynu hyn fel rhan o fenter gwerth £150 miliwn i drawsnewid diwydiannau sylfaen y DU. Felly, mae Tata yn dangos penderfyniad clir i sicrhau y gallant bontio'n ddiogel.
Ac o ran cyfleoedd eraill i Shotton Steel, yn amlwg roeddwn yn siomedig o glywed nad yw gwaith hyb logisteg Heathrow yn mynd rhagddo fel y bwriadwyd. Gwn fod Tata Steel yn edrych ymlaen at weithio ar hwnnw. Fodd bynnag, rydym yn llwyr gefnogi uchelgais Tata Steel i ddatblygu ei hyb logisteg ei hun yn Shotton, ac mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r cwmni i archwilio'r opsiynau ar gyfer agor y drydedd ffordd fynediad, a fydd mor bwysig wrth ddatblygu hyb.