14. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2021-22

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 9 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:30, 9 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Cyn imi ddechrau, gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch i lywodraethau lleol am y gwaith hollbwysig y maen nhw yn ei wneud o ddydd i ddydd i gymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru. Mae staff awdurdodau lleol yn gweithio ar gyfer cymunedau drwy gydol y flwyddyn, o dimau sbwriel ac ailgylchu, athrawon a gweithwyr cymdeithasol, i swyddogion gorfodi a thimau tai. Mae hyn yn wir bob blwyddyn ond byth yn fwy felly na thros y flwyddyn ddiwethaf, wrth i gynghorau, eu staff ac aelodau etholedig ymateb a pharhau i ymateb i effeithiau pandemig COVID-19. Ac nid dim ond y rhai yn y swydogaethau rheng flaen, ychwaith. Heb y rheini yn yr hyn a alwn yn aml yn swyddi'r swyddfa gefn, ni fyddem wedi gallu cael cymorth mor gyflym i fusnesau ledled Cymru na gallu darparu bwyd i aelwydydd sy'n agored i niwed ac a warchodir, na chael trefniadau profi ac olrhain mor llwyddiannus yn cyfrannu at y gostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o'r coronafeirws. Ni allwn anghofio ychwaith fod llawer o awdurdodau hefyd wedi ymateb i'r llifogydd digynsail sydd wedi achosi cymaint o ofid i gynifer o drigolion a busnesau yng Nghymru dros y 13 mis diwethaf. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ac weithiau effaith a ailadroddwyd dro ar ôl tro ar lawer o gymunedau.

Wrth baratoi ar gyfer cyllideb Cymru a'r setliad hwn, mae'r Llywodraeth wedi ymgysylltu â llywodraeth leol drwy gydol proses y gyllideb. Mae cyd-Weinidogion yn y Cabinet a mi wedi ystyried gydag arweinwyr llywodraeth leol, drwy'r cyngor partneriaeth a'i is-grŵp cyllid, y sefyllfa ar gyfer llywodraeth leol yn gyffredinol ac ar wasanaethau allweddol, megis addysg a gofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio y bydd y trafodaethau strategol eang hyn yn parhau yn ystod y flwyddyn i ddod er mwyn paratoi ar gyfer adolygiad cynhwysfawr o wariant.

Eleni, rwy'n falch o allu cynnig setliad i'r Senedd hon sy'n golygu, yn 2021-22, mai 3.8 y cant fydd y cynnydd yn y dyraniad refeniw cyffredinol i lywodraeth leol yng Nghymru. Dyma'r cynnydd ail uchaf ar sail cymharu tebyg â thebyg mewn 14 mlynedd; yr uchaf, wrth gwrs, oedd eleni. Mae hwn yn setliad da i lywodraeth leol, ac mae llywodraeth leol wedi'i groesawu. Mae'n rhoi llwyfan cadarn i lywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod i barhau i ddarparu'r gwasanaethau rheng flaen sydd eu hangen ar Gymru. Yn 2021-22, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael £4.65 biliwn mewn dyraniadau refeniw cyffredinol o gyllid craidd ac ardrethi annomestig. Mae'r cynnydd hwn o £176 miliwn yn y setliad sylfaenol hwn yn adlewyrchu cynnydd yn y grant cynnal refeniw i ymateb i effaith negyddol y pandemig ar gasglu ardrethi annomestig. Mae hefyd yn cyfrif am effaith rhewi lluosydd yr ardrethi annomestig. Drwy'r setliad hwn, rydym hefyd yn parhau i ddarparu £4.8 miliwn i awdurdodau ddarparu rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol i fusnesau lleol a threthdalwyr eraill er mwyn ymateb i faterion lleol penodol.

Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi bod yn glir mai un o'r dewisiadau anodd yr ydym wedi'u hwynebu wrth bennu ein cynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf yw ein dull o ymdrin â thâl y sector cyhoeddus. Y gwir bellach yw na chawsom unrhyw arian ychwanegol drwy fformiwla Barnett i ddarparu ar gyfer dyfarniadau cyflog ar draws y sector cyhoeddus y flwyddyn nesaf, o gofio penderfyniad Llywodraeth y DU i oedi codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus ac eithrio'r GIG a'r rhai ar y cyflogau isaf un. Cadarnhaodd cyllideb yr wythnos diwethaf fod Llywodraeth y DU yn bwriadu capio codiadau cyflog yn y GIG ar 1 y cant a pharhau i rewi cyflogau mewn llywodraeth leol. Bydd pobl yng Nghymru a'r rhan fwyaf ohonom yn y Senedd hon yn arswydo at y methiant hwn i gydnabod cyfraniad gweithwyr y sector cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Cynhelir trafodaethau cyflog mewn llywodraeth leol gan awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr. Rwy'n gresynu at safbwynt Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu'r cyllid ar gyfer awdurdodau lleol. Bydd angen cynnwys goblygiadau dyfarniadau cyflog yn 2021-22, beth bynnag y byddent, o fewn cynllunio cyllideb awdurdodau yng ngoleuni'r setliad hwn.

Wrth benderfynu ar ddosbarthiad cyllid ar draws awdurdodau ar gyfer y setliad, rydym wedi cyfeirio cyllid i'r ysgolion yn rhan o'r fformiwla i gydnabod y penderfyniadau a wnaed ar gytundeb cyflog athrawon 2020-21. Rydym hefyd yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer ein cynigion ar gyfer meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim, o ystyried yr oedi parhaus cyn cyflwyno credyd cynhwysol gan Lywodraeth y DU. Drwy'r setliad hwn, bydd pob awdurdod yn gweld cynnydd o 2 y cant o leiaf dros 2020-21 ar sail cymharu tebyg â thebyg, rhywbeth a fyddai tu hwnt i amgyffred yn y 10 mlynedd cyn 2020-21. Gwn fod rhai awdurdodau wedi gwneud sylwadau ar yr amrywiant rhwng y cynnydd uchaf ac isaf. Mae'r amcangyfrif gwell o boblogaeth gymharol yn golygu bod awdurdodau sydd â thwf cymharol uwch yn y boblogaeth yn gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu cyllid. Fel sy'n digwydd bob amser, cytunwyd ar y newidiadau hyn gyda llywodraeth leol drwy'r is-grwpiau dosbarthu a chyllid. Dylem i gyd fod yn ffyddiog bod ein fframwaith dosbarthu yn seiliedig ar ddata tryloyw a rennir yn gyhoeddus sydd wedi'i gytuno a'i ddatblygu mewn partneriaeth â llywodraeth leol.

Efallai y bydd Aelodau'r Senedd yn wir yn cyferbynnu'r trefniant hwn â'r dull pot mêl o ymdrin ag ariannu lleol sy'n ymddangos fel pe bai'n nodweddu gweinyddiaethau eraill y Llywodraeth. Yn y cyd-destun hwn, rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r posibilrwydd o gynnwys cyllid gwaelodol ar gyfer y setliad. Egwyddor cyllid gwaelodol yw sicrhau nad oes yr un awdurdod yn dioddef newid na ellir ei reoli o un flwyddyn i'r llall. Rwyf wedi penderfynu peidio â chynnwys cyllid gwaelodol yn yr achos hwn. Yn ogystal â'r cyllid craidd heb ei neilltuo a ddarparwyd drwy'r setliad, rwy'n ddiolchgar bod fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet wedi darparu gwybodaeth ddangosol gynharach am grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2021-22. Ar hyn o bryd mae'r rhain yn fwy nag £1 biliwn ar gyfer refeniw a thros £760 miliwn ar gyfer cyfalaf ar gyfer ein blaenoriaethau cyffredin gyda llywodraeth leol.

Gan droi at gyfalaf, bydd cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer 2021-22 yn £198 miliwn. Mae hwn yn cynnwys £20 miliwn ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus a pharhad o £35 miliwn ychwanegol y darperir ar ei gyfer yn y gyllideb ar gyfer 2020-21. Bydd hwn yn galluogi awdurdodau i barhau i ymateb i'n blaenoriaethau ar y cyd o ddatgarboneiddio, yr argyfwng hinsawdd ac adferiad economaidd yn dilyn COVID-19.

Dim ond cryfhau'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol a wnaeth digwyddiadau'r 12 mis diwethaf. Gobeithio y bydd y berthynas gadarnhaol hon yn parhau y tu hwnt i dymor y Llywodraeth hon. Oherwydd y berthynas gadarnhaol hon rydym ni, yng Nghymru, yn cydnabod yr angen i gefnogi awdurdodau lleol i ymateb i'r pandemig. Gwyddem fod gan lywodraeth leol y bobl a'r sgiliau i ymateb. Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi darparu dros £600 miliwn i lywodraeth leol i'w galluogi nhw i wneud hynny. Mae wedi cefnogi awdurdodau gan roi rhywbeth yn lle eu hincwm a gollwyd ac i dalu costau ychwanegol eu gwasanaethau craidd. Mae wedi ariannu cymorth i fusnesau ac unigolion, i ysgolion ac i deuluoedd. Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru wedi ymateb gyda'i gilydd i heriau pandemig COVID-19. Gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd i ateb heriau'r dyfodol, yn enwedig i adeiladu Cymru wyrddach a mwy cyfartal.

Rwy'n ymwybodol fodd bynnag nad yw ail setliad da mewn cynifer o flynyddoedd yn gwneud iawn am 10 mlynedd o agenda cyni Llywodraeth y DU. Ar ôl bod yn rhan o'r gwaith o bennu cyllideb cyngor, gwn am yr heriau y bydd awdurdodau lleol wedi gorfod eu hwynebu o hyd wrth bennu eu cyllidebau. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau, ac, yn ei thro, y dreth gyngor. Bydd awdurdodau'n cydbwyso'r angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau a thrawsnewid gwasanaethau gyda'r pwysau ariannol ar drigolion lleol. Dim ond nawr y mae lefelau cyflog ar y lefel yr oeddent cyn yr argyfwng ariannol, a chaiff codiadau yn y dreth gyngor eu hystyried yn ofalus yn y cyd-destun hwnnw. Bydd y cadarnhad yng nghyllideb Cymru o dros £206 miliwn ar gyfer parhau i ddarparu cronfa galedi llywodraeth leol yn sicrhau na fydd effeithiau ariannol y pandemig ar lywodraeth leol yn bwysau ychwanegol ar dalwyr y dreth gyngor. Fel yr wyf wedi dweud droeon, nid oes neb yn mynd i wleidyddiaeth gan ddymuno torri gwasanaethau. Rwy'n falch ein bod, drwy gefnogi llywodraeth leol, yn cynnal ac yn darparu'r gwasanaethau y mae pobl Cymru eu heisiau a'u hangen. Mae'r setliad llywodraeth leol terfynol hwn yn rhan greiddiol o'n cyllideb i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi, i adeiladu dyfodol gwyrddach a chreu newid i Gymru fwy cyfartal. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd hon gefnogi'r cynnig. Diolch.