– Senedd Cymru am 5:29 pm ar 9 Mawrth 2021.
Felly, symudwn ymlaen at y ddadl nesaf, sef setliad llywodraeth leol 2021-22, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, mae'n bleser gennyf gyflwyno setliad llywodraeth leol 2021-22 ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru i'r Senedd i'w gymeradwyo.
Cyn imi ddechrau, gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch i lywodraethau lleol am y gwaith hollbwysig y maen nhw yn ei wneud o ddydd i ddydd i gymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru. Mae staff awdurdodau lleol yn gweithio ar gyfer cymunedau drwy gydol y flwyddyn, o dimau sbwriel ac ailgylchu, athrawon a gweithwyr cymdeithasol, i swyddogion gorfodi a thimau tai. Mae hyn yn wir bob blwyddyn ond byth yn fwy felly na thros y flwyddyn ddiwethaf, wrth i gynghorau, eu staff ac aelodau etholedig ymateb a pharhau i ymateb i effeithiau pandemig COVID-19. Ac nid dim ond y rhai yn y swydogaethau rheng flaen, ychwaith. Heb y rheini yn yr hyn a alwn yn aml yn swyddi'r swyddfa gefn, ni fyddem wedi gallu cael cymorth mor gyflym i fusnesau ledled Cymru na gallu darparu bwyd i aelwydydd sy'n agored i niwed ac a warchodir, na chael trefniadau profi ac olrhain mor llwyddiannus yn cyfrannu at y gostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o'r coronafeirws. Ni allwn anghofio ychwaith fod llawer o awdurdodau hefyd wedi ymateb i'r llifogydd digynsail sydd wedi achosi cymaint o ofid i gynifer o drigolion a busnesau yng Nghymru dros y 13 mis diwethaf. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ac weithiau effaith a ailadroddwyd dro ar ôl tro ar lawer o gymunedau.
Wrth baratoi ar gyfer cyllideb Cymru a'r setliad hwn, mae'r Llywodraeth wedi ymgysylltu â llywodraeth leol drwy gydol proses y gyllideb. Mae cyd-Weinidogion yn y Cabinet a mi wedi ystyried gydag arweinwyr llywodraeth leol, drwy'r cyngor partneriaeth a'i is-grŵp cyllid, y sefyllfa ar gyfer llywodraeth leol yn gyffredinol ac ar wasanaethau allweddol, megis addysg a gofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio y bydd y trafodaethau strategol eang hyn yn parhau yn ystod y flwyddyn i ddod er mwyn paratoi ar gyfer adolygiad cynhwysfawr o wariant.
Eleni, rwy'n falch o allu cynnig setliad i'r Senedd hon sy'n golygu, yn 2021-22, mai 3.8 y cant fydd y cynnydd yn y dyraniad refeniw cyffredinol i lywodraeth leol yng Nghymru. Dyma'r cynnydd ail uchaf ar sail cymharu tebyg â thebyg mewn 14 mlynedd; yr uchaf, wrth gwrs, oedd eleni. Mae hwn yn setliad da i lywodraeth leol, ac mae llywodraeth leol wedi'i groesawu. Mae'n rhoi llwyfan cadarn i lywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod i barhau i ddarparu'r gwasanaethau rheng flaen sydd eu hangen ar Gymru. Yn 2021-22, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael £4.65 biliwn mewn dyraniadau refeniw cyffredinol o gyllid craidd ac ardrethi annomestig. Mae'r cynnydd hwn o £176 miliwn yn y setliad sylfaenol hwn yn adlewyrchu cynnydd yn y grant cynnal refeniw i ymateb i effaith negyddol y pandemig ar gasglu ardrethi annomestig. Mae hefyd yn cyfrif am effaith rhewi lluosydd yr ardrethi annomestig. Drwy'r setliad hwn, rydym hefyd yn parhau i ddarparu £4.8 miliwn i awdurdodau ddarparu rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol i fusnesau lleol a threthdalwyr eraill er mwyn ymateb i faterion lleol penodol.
Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi bod yn glir mai un o'r dewisiadau anodd yr ydym wedi'u hwynebu wrth bennu ein cynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf yw ein dull o ymdrin â thâl y sector cyhoeddus. Y gwir bellach yw na chawsom unrhyw arian ychwanegol drwy fformiwla Barnett i ddarparu ar gyfer dyfarniadau cyflog ar draws y sector cyhoeddus y flwyddyn nesaf, o gofio penderfyniad Llywodraeth y DU i oedi codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus ac eithrio'r GIG a'r rhai ar y cyflogau isaf un. Cadarnhaodd cyllideb yr wythnos diwethaf fod Llywodraeth y DU yn bwriadu capio codiadau cyflog yn y GIG ar 1 y cant a pharhau i rewi cyflogau mewn llywodraeth leol. Bydd pobl yng Nghymru a'r rhan fwyaf ohonom yn y Senedd hon yn arswydo at y methiant hwn i gydnabod cyfraniad gweithwyr y sector cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Cynhelir trafodaethau cyflog mewn llywodraeth leol gan awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr. Rwy'n gresynu at safbwynt Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu'r cyllid ar gyfer awdurdodau lleol. Bydd angen cynnwys goblygiadau dyfarniadau cyflog yn 2021-22, beth bynnag y byddent, o fewn cynllunio cyllideb awdurdodau yng ngoleuni'r setliad hwn.
Wrth benderfynu ar ddosbarthiad cyllid ar draws awdurdodau ar gyfer y setliad, rydym wedi cyfeirio cyllid i'r ysgolion yn rhan o'r fformiwla i gydnabod y penderfyniadau a wnaed ar gytundeb cyflog athrawon 2020-21. Rydym hefyd yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer ein cynigion ar gyfer meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim, o ystyried yr oedi parhaus cyn cyflwyno credyd cynhwysol gan Lywodraeth y DU. Drwy'r setliad hwn, bydd pob awdurdod yn gweld cynnydd o 2 y cant o leiaf dros 2020-21 ar sail cymharu tebyg â thebyg, rhywbeth a fyddai tu hwnt i amgyffred yn y 10 mlynedd cyn 2020-21. Gwn fod rhai awdurdodau wedi gwneud sylwadau ar yr amrywiant rhwng y cynnydd uchaf ac isaf. Mae'r amcangyfrif gwell o boblogaeth gymharol yn golygu bod awdurdodau sydd â thwf cymharol uwch yn y boblogaeth yn gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu cyllid. Fel sy'n digwydd bob amser, cytunwyd ar y newidiadau hyn gyda llywodraeth leol drwy'r is-grwpiau dosbarthu a chyllid. Dylem i gyd fod yn ffyddiog bod ein fframwaith dosbarthu yn seiliedig ar ddata tryloyw a rennir yn gyhoeddus sydd wedi'i gytuno a'i ddatblygu mewn partneriaeth â llywodraeth leol.
Efallai y bydd Aelodau'r Senedd yn wir yn cyferbynnu'r trefniant hwn â'r dull pot mêl o ymdrin ag ariannu lleol sy'n ymddangos fel pe bai'n nodweddu gweinyddiaethau eraill y Llywodraeth. Yn y cyd-destun hwn, rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r posibilrwydd o gynnwys cyllid gwaelodol ar gyfer y setliad. Egwyddor cyllid gwaelodol yw sicrhau nad oes yr un awdurdod yn dioddef newid na ellir ei reoli o un flwyddyn i'r llall. Rwyf wedi penderfynu peidio â chynnwys cyllid gwaelodol yn yr achos hwn. Yn ogystal â'r cyllid craidd heb ei neilltuo a ddarparwyd drwy'r setliad, rwy'n ddiolchgar bod fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet wedi darparu gwybodaeth ddangosol gynharach am grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2021-22. Ar hyn o bryd mae'r rhain yn fwy nag £1 biliwn ar gyfer refeniw a thros £760 miliwn ar gyfer cyfalaf ar gyfer ein blaenoriaethau cyffredin gyda llywodraeth leol.
Gan droi at gyfalaf, bydd cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer 2021-22 yn £198 miliwn. Mae hwn yn cynnwys £20 miliwn ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus a pharhad o £35 miliwn ychwanegol y darperir ar ei gyfer yn y gyllideb ar gyfer 2020-21. Bydd hwn yn galluogi awdurdodau i barhau i ymateb i'n blaenoriaethau ar y cyd o ddatgarboneiddio, yr argyfwng hinsawdd ac adferiad economaidd yn dilyn COVID-19.
Dim ond cryfhau'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol a wnaeth digwyddiadau'r 12 mis diwethaf. Gobeithio y bydd y berthynas gadarnhaol hon yn parhau y tu hwnt i dymor y Llywodraeth hon. Oherwydd y berthynas gadarnhaol hon rydym ni, yng Nghymru, yn cydnabod yr angen i gefnogi awdurdodau lleol i ymateb i'r pandemig. Gwyddem fod gan lywodraeth leol y bobl a'r sgiliau i ymateb. Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi darparu dros £600 miliwn i lywodraeth leol i'w galluogi nhw i wneud hynny. Mae wedi cefnogi awdurdodau gan roi rhywbeth yn lle eu hincwm a gollwyd ac i dalu costau ychwanegol eu gwasanaethau craidd. Mae wedi ariannu cymorth i fusnesau ac unigolion, i ysgolion ac i deuluoedd. Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru wedi ymateb gyda'i gilydd i heriau pandemig COVID-19. Gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd i ateb heriau'r dyfodol, yn enwedig i adeiladu Cymru wyrddach a mwy cyfartal.
Rwy'n ymwybodol fodd bynnag nad yw ail setliad da mewn cynifer o flynyddoedd yn gwneud iawn am 10 mlynedd o agenda cyni Llywodraeth y DU. Ar ôl bod yn rhan o'r gwaith o bennu cyllideb cyngor, gwn am yr heriau y bydd awdurdodau lleol wedi gorfod eu hwynebu o hyd wrth bennu eu cyllidebau. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau, ac, yn ei thro, y dreth gyngor. Bydd awdurdodau'n cydbwyso'r angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau a thrawsnewid gwasanaethau gyda'r pwysau ariannol ar drigolion lleol. Dim ond nawr y mae lefelau cyflog ar y lefel yr oeddent cyn yr argyfwng ariannol, a chaiff codiadau yn y dreth gyngor eu hystyried yn ofalus yn y cyd-destun hwnnw. Bydd y cadarnhad yng nghyllideb Cymru o dros £206 miliwn ar gyfer parhau i ddarparu cronfa galedi llywodraeth leol yn sicrhau na fydd effeithiau ariannol y pandemig ar lywodraeth leol yn bwysau ychwanegol ar dalwyr y dreth gyngor. Fel yr wyf wedi dweud droeon, nid oes neb yn mynd i wleidyddiaeth gan ddymuno torri gwasanaethau. Rwy'n falch ein bod, drwy gefnogi llywodraeth leol, yn cynnal ac yn darparu'r gwasanaethau y mae pobl Cymru eu heisiau a'u hangen. Mae'r setliad llywodraeth leol terfynol hwn yn rhan greiddiol o'n cyllideb i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi, i adeiladu dyfodol gwyrddach a chreu newid i Gymru fwy cyfartal. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd hon gefnogi'r cynnig. Diolch.
Gweinidog, yn gyntaf, hoffwn ymuno â chi i ganmol y gwaith anhygoel y mae ein cynghorau wedi ei wneud yn ystod y pandemig; y ffordd y maen nhw wedi ymateb i'r pandemig ar bob ffurf ac i'r llifogydd wedi bod yn eithriadol.
Mae'r setliad llywodraeth leol yn gyfle a gollwyd. Bydd cynghorau lleol yng Nghymru yn cael llai o gyllid o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol. Mae hyn er gwaethaf yr heriau sy'n wynebu cynghorau o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae'r Gweinidog yn honni mai dyma'r setliad gorau posibl, ond mae'n amlwg nad yw hyn yn wir. Mae'n siomedig, er iddi gael cyllid ychwanegol sylweddol gan Lywodraeth y DU, nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi setliad cyllido hirdymor uchelgeisiol i lywodraeth leol i helpu ein cymunedau i ailadeiladu yn well. Ac eto, mae cynghorau wedi rhybuddio dro ar ôl tro y byddan nhw'n wynebu pwysau ariannol sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a gallai'r diffyg sicrwydd ariannol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru roi gwasanaethau lleol hanfodol mewn perygl yn y dyfodol.
Croesawaf y cynnydd yn y cyllid i gynghorau ac yn enwedig y ffaith y bydd cynghorau gwledig yn cael cyfran fwy o'r cyllid. Mae hynny i'w groesawu, fel y mae ymestyn y rhyddhad ardrethi busnes, yn dilyn gweddill y DU o'r diwedd, ond mae'r setliad yn dal i ffafrio cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan Lafur yn y de. O'r pum cyngor sydd â'r cynnydd mwyaf yn eu setliad, mae pob un ohonyn nhw wedi eu lleoli yn y de; pedwar o'r pum cyngor i gyd dan arweiniad Llafur. Yn gyffredinol, mae cynghorau yn y gogledd wedi cael cynnydd is o gymharu â mewn mannau eraill, gyda dim ond Sir y Fflint yn cael cynnydd mewn cyllid yn agos at gynnydd cyfartalog Cymru. Unwaith eto, mae cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan Geidwadwyr Cymru yn cael cynnydd is na'r cyfartaledd yn eu setliad, gan gael y cynnydd cyfartalog ail isaf yn setliad 2021-22, sy'n dod ar ben y cynnydd cyfartalog isaf y tro diwethaf. Mae'n siomedig bod galwadau gan awdurdodau lleol a CLlLC i gyflwyno cyllid gwaelodol, fel y soniasoch o'r blaen, i sicrhau bod pob cyngor yn cael setliad teg wedi cael eu hanwybyddu gennych chi, Gweinidog. Hefyd, mae dyraniadau cyllid a wnaed drwy gronfa galedi awdurdodau lleol wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau cyllid rhanbarthol presennol.
Rydym yn croesawu'r gefnogaeth a roddwyd i gynghorau yn ystod y pandemig drwy'r gronfa galedi leol. Fodd bynnag, mae'r cyllid wedi ei dargedu'n bennaf at leihau pwysau yn ystod y flwyddyn ariannol hon, yn hytrach na darparu'r cyllid cynaliadwy hirdymor sydd ei angen ar y cynghorau. Mae'n wir hefyd fod cynghorau yn y de wedi cael tua 63 y cant o'r arian a ddyrannwyd drwy'r gronfa galedi hyd yma, tra bod cynghorau yn y gogledd wedi cael dim ond 19 y cant. Wrth i ni ddechrau adfer o effaith pandemig COVID-19, mae'n bwysig cydnabod costau ariannol ac economaidd y pandemig a wynebir gan deuluoedd ledled Cymru drwy eu helpu i gadw mwy o'u harian y maen nhw wedi gweithio yn galed amdano i gynnal eu hunain a'u teuluoedd. Dyna pam yr ydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i leihau costau byw yng Nghymru drwy rewi'r dreth gyngor eleni.
Llywydd, mae'r setliad hwn yn gyfle a gollwyd i helpu cynghorau a chymunedau i ailadeiladu yn well yn dilyn pandemig COVID-19. Er gwaethaf adnoddau sylweddol gan Lywodraeth Geidwadol y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi methu â darparu setliad cyllido uchelgeisiol hirdymor i gynghorau sy'n eu galluogi i fuddsoddi yn y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu ac ymateb i'r effaith a gaiff pandemig COVID yn y dyfodol. Mae arnom angen setliad cyllido teg i'r holl gynghorau hynny i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau y mae ar bobl eu hangen, ac adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cael eu cyfran deg o gyllid. Diolch.
Fe wnaf i ddechrau hefyd trwy ddiolch i staff llywodraeth leol am y gwaith caled maen nhw wedi'i wneud, ledled Cymru, yn delio ag effeithiau'r pandemig dros y 12 mis diwethaf. Trwy gydol y cyfnod cythryblus, mae cynghorau yn aml wedi llwydo i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu darparu, a hynny mewn amgylchiadau aruthrol o anodd, boed hynny yn y sector gofal, y sector casglu gwastraff, neu athrawon. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig rhoi'r diolch hwnnw ar y record.
Mae'r cynnydd ariannol yn y setliad yn rhywbeth i'w groesawu, ac rwy'n ymwybodol bod ambell i gyngor sir yn fodlon iawn gyda'r setliad. Ond mae'n bwysig cofio'r cyd-destun yma, sef bod y gyllideb hon yn dilyn blynyddoedd o doriadau sylweddol, gyda chynghorau wedi gorfod gwneud arbedion anferthol dros y degawd diwethaf. Mae dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos bod gwariant wedi cwympo gan 7.7 y cant mewn termau real rhwng 2010 a 2019. Mae yn siom, ac mae hyn wedi cael ei ddweud yn barod, ond mae yn siom bod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio â gosod llawr cyllido er mwyn sicrhau bod y ddau gyngor sy'n derbyn cynnydd sylweddol yn llai na'r lleill, sef Ceredigion a Wrecsam—maen nhw'n derbyn cynnydd o 2 y cant a 2.3 y cant; maen nhw'n dal yn mynd i golli allan. Rwy'n amcangyfrif mai'r gost gweithredu hyn byddai oddeutu £2.4 miliwn, ac mae'n anodd i ddeall, yn anffodus, pam mae hyn heb gael ei ddarparu, o ystyried y gallai wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i'r cynghorau hynny.
Dyw dadansoddi anghenion ariannol cynghorau ddim yn syml, o ystyried bod arian i ddelio â COVID yn cael ei darparu ar wahân a bod angen ystyried y ffaith bod incwm cynghorau wedi gostwng, er enghraifft, drwy ffioedd a thaliadau sydd heb eu derbyn ar gyfer parcio, a hefyd bod refeniw trethiant wedi gostwng o'r meysydd hamdden a thwristiaeth. Bydd angen i'r cynghorau sy'n dod i'r casgliad nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i ddarparu eu holl wasanaethau wneud penderfyniadau anodd i'w gwneud unwaith eto: dewis rhwng torri ar wasanaethau a swyddi, neu godi'r dreth gyngor yn eithaf sylweddol.
Fe wnes i alw arnoch chi, Gweinidog, ar ddechrau mis Chwefror, i ystyried defnyddio peth o'r arian sydd heb gael ei dyrannu ar gyfer ei roi i gynghorau er mwyn eu galluogi i osgoi cynyddu'r dreth gyngor eleni—ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae'n flin gen i. Ers hynny, mae'r Ceidwadwyr wedi mabwysiadu y polisi hwnnw gan Blaid Cymru hefyd, gan alw am yr un peth. Mae hyn yn eironig, ac mae'n rhaid i fi bwyntio hyn mas, achos mai canlyniad uniongyrchol polisi'r Ceidwadwyr o lymder yw'r ffaith bod cynghorau wedi gorfod cynyddu'r dreth gyngor yn ormodol dros y blynyddoedd diwethaf yn y lle cyntaf. Fel mae'r Gweinidog yn llwyr ymwybodol—rwy'n gwybod ein bod ni'n cytuno ar hyn—mae'r dreth gyngor yn un hynod regressive, a nawr mae tymor pum mlynedd arall wedi mynd heibio gyda Llywodraeth Lafur ddim yn gwneud digon i wneud y system yn decach. Bydd wynebu codiad mewn treth gyngor yn ergyd drom i lawer o deuluoedd ac unigolion sydd wedi wynebu caledi yn ystod y flwyddyn diwethaf. Ydy, mae'r gyllideb ar gyfer cefnogaeth gyda'r dreth gyngor i bobl sy'n methu talu, mae hynny'n bwysig—bydd yn darparu cefnogaeth hanfodol, rwy'n cydnabod hynny—ond sticking plaster yw hwnna'n unig, ateb tymor byr i broblem hirdymor o dreth sydd yn taro'r tlotaf waethaf. Os yw Plaid Cymru mewn llywodraeth ar ôl mis Mai, byddwn yn mynd ati i ddiwygio'r dreth hon i'w gwneud yn decach fel blaenoriaeth, gan y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i gyllidebau rhai o'r teuluoedd sydd ei angen fwyaf.
Ond i orffen, Dirprwy Lywydd, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: a ydy hi'n cytuno bod angen darparu staff llywodraeth leol gyda thâl teg sy'n adlewyrchu'r gwaith hanfodol maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig? Oherwydd, yn anffodus, dydy'r setliad ddim yn darparu hyn, sy'n golygu y bydd yn rhaid i gynghorau geisio canfod yr arian o fewn cyllidebau presennol sydd eisoes yn dynn iawn ar hyn o bryd. Mae undebau Unite, Unison a GMB wedi galw am godiad cyflog o 10 y cant i weithwyr cyngor a staff ysgolion. Eto, does dim darpariaeth yn y setliad hwn ar gyfer unrhyw gynnydd. Buaswn i'n hoffi clywed sylwadau'r Gweinidog ar hynny pan fydd hi yn ymateb. Diolch yn fawr.
Mae tri pheth sydd naill ai'n cael eu hanwybyddu neu'n cael eu cyflwyno mewn modd dryslyd yn y ffordd y cyflwynir y swm y mae pob awdurdod lleol yn ei gael. Ni allaf feddwl am unrhyw faes arall o wariant y Llywodraeth lle y cyhoeddir y cynnydd canrannol yn hytrach na'r swm gwirioneddol, felly caiff y swm gwirioneddol ei golli ac mae trafodaeth yn ymwneud â'r newid canrannol. Cafodd Ceredigion, fel y clywsom amdano yn gynharach, un o'r codiadau canrannol isaf, ond mewn gwirionedd mae'n ddeuddegfed yn nhabl cynghrair cyllid fesul pen y Llywodraeth. A byddwn i'n annog pobl i edrych ar dabl cynghrair cyllid fesul pen y Llywodraeth. Maen nhw yn ei guddio ar dudalen 5 o'r data maen nhw'n eu darparu, ond mae yno.
Diben grant llywodraeth leol y Llywodraeth yw ychwanegu at y dreth gyngor, a dyna pam mai Blaenau Gwent sydd â'r cyllid allanol cyfanredol mwyaf. Mae ganddi dros 50 y cant o'i heiddo ym mand A, a Sir Fynwy sydd â'r isaf, gan fod dros hanner ei heiddo ym mand E neu'n uwch. Mae cydberthynas uniongyrchol rhwng bandiau cyngor mewn ardal a'r cyllid allanol cyfanredol y mae pob cyngor yn ei gael. Mae'n dra hysbys bod y cynnydd hwnnw yn cael ei ysgogi yn bennaf gan newid cymharol yn y boblogaeth. Gan na fyddaf yn gallu ymyrryd ar Russell George, hoffwn i bwysleisio bod Powys yn cael £16 y pen yn fwy nag Abertawe. Roedd gan Bowys y gost ychwanegol o wledigrwydd, ond mae gan Abertawe y gost o ddarparu cyfleusterau rhanbarthol ac ar gyfer pethau fel digartrefedd ar y stryd. O'r pedwar cyngor sy'n cael y cyllid allanol cyfanredol mwyaf, mae dau yn cael eu rheoli gan Lafur. O'r pedwar sy'n cael y lleiaf, mae dau hefyd yn cael eu rheoli gan Lafur. O ran y gogledd, mae tri o'r cynghorau yn hanner uchaf cymorth y Llywodraeth a'r tri arall yn y gwaelod—prin eu bod yn rhagfarnu yn erbyn y gogledd.
Yn rhan o'r setliad llywodraeth leol, mae awdurdodau lleol yn cael bron i £4.5 biliwn o gyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. A dyna beth y mae awdurdodau lleol yn ei wneud: maen nhw'n darparu gwasanaethau allweddol. Bydd y cyllid cyfalaf cyffredinol heb ei neilltuo yn £198 miliwn, cynnydd o £15 miliwn yn fwy na'r hyn a gyhoeddwyd yng nghyllideb derfynol Cymru y llynedd. Galluogodd y cynnydd mewn cyllidebau cyfalaf dros y tair blynedd diwethaf llywodraeth leol i fuddsoddi mewn cynyddu'r cyflenwad o dai, a fydd yn lleihau'r pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol a'r gwasanaethau digartrefedd. Bydd hefyd yn caniatáu i gynghorau ddechrau ymateb i'r angen dybryd am ddatgarboneiddio yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd y mae Llywodraeth Cymru a llawer o gynghorau wedi ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn gyffredinol, mae'r setliad yn gynnydd o 4.3 y cant ar sail tebyg am debyg. Nid oes gan yr un awdurdod gynnydd o lai na 3 y cant, a'r uchaf yw 5.4 y cant. O ran cymorth i lywodraeth leol, mae'n setliad da o'i gymharu â'r cyfartaledd 10 mlynedd a'r rhan fwyaf o flynyddoedd yn ystod yr amser yr wyf i wedi bod yn y fan yma. Hoffwn i ganmol awdurdodau lleol am gadw eu gwasanaethau sylfaenol yn gweithio a chefnogi busnesau lleol yn ystod y pandemig. Mae awdurdodau lleol wedi gwneud gwaith aruthrol, ond mae awdurdodau lleol bob amser yn gwneud gwaith aruthrol.
Mae'n bwysig nad yw pob rhan o Lywodraethau San Steffan a Chymru wedi perfformio cystal. Er fy mod i'n aml yn galw ar sefydliadau i helpu eu hunain yn hytrach na gofyn am fwy o arian, dyna y mae cynghorau yn ei wneud. Cafwyd gwelliant o £18 miliwn yn sefyllfa gyllideb Cyngor Abertawe ar gyfer 2019-20 o'i gymharu â'r amcangyfrif a nodwyd ar ddechrau'r flwyddyn ariannol. Mae cyllideb y cyngor o £445 miliwn ar gyfer 2019-20 wedi creu sefyllfa well na'r disgwyl yn y gwasanaethau cymdeithasol, a defnydd gofalus o gronfa wrth gefn y cyngor, yn golygu bod ychydig dros £11 miliwn wedi ei arbed rhyngddyn nhw. Mae £7 miliwn o arbedion cyllid cyfalaf wedi ei ychwanegu at hyn yn rhan o'r strategaeth tymor canolig i ariannu'r rhaglen gyfalaf gyffredinol a benthyca yn y dyfodol.
Dyma sut y bydd Cyngor Abertawe yn gwario'r arian ychwanegol: bydd ysgolion yn cael £6.85 miliwn ychwanegol yn syth i'r ystafelloedd dosbarth, a £7.1 miliwn am gyfarpar TG newydd, sydd wedi bod yn gymaint o gymorth i addysg gartref yn ddiweddar. Bydd rhieni yn gweld bod prisiau prydau ysgol yn cael eu rhewi am y flwyddyn. Bydd y gwasanaethau cymdeithasol, sydd wedi ysgwyddo her COVID-19 wrth gefnogi'r rhai sy'n agored i niwed, yn cael £7.7 miliwn yn fwy, a bydd £5.5 miliwn ychwanegol i dalu am unrhyw bwysau eraill y pandemig. Ar gyfer yr amgylchedd, bydd £6.1 miliwn ychwanegol a thîm newydd i ymdrin â sbwriel, glanhau strydoedd, ac ymestyn gwasanaethau trwsio tyllau yn y ffordd. Bydd tîm ymateb cyflym newydd i ymdrin â phroblemau llifogydd. Bydd mwy o arian ar gyfer gwell parciau chwaraeon a chyfleusterau cymunedol, gan gynnwys £100,000 ar gyfer gwell toiledau cyhoeddus, gwasanaethau Wi-Fi cyhoeddus am ddim newydd, a buddsoddi mewn plannu miloedd o goed newydd a datblygu mwy o fannau gwyrdd.
Dim ond un o'r cynghorau sy'n gwneud gwaith aruthrol yw Abertawe. Dyma'r ardal yr wyf i'n ei chynrychioli, a'r un y mae'r Gweinidog yn ei chynrychioli, ond mae'n wir: rhowch yr arian i'r cynghorau a byddan nhw'n gwneud y gwaith. Byddan nhw'n ei wneud yn well nag unrhyw sefydliadau eraill. Rydym ni wedi gweld, yn Lloegr, yn ystod y pandemig, fod y sector preifat yn dda iawn am wneud elw ond nid yw'n dda iawn am ddarparu pethau fel prydau ysgol. Trwy roi'r cyllid i gynghorau, maen nhw'n cyflawni ar gyfer ein cymunedau. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ariannu cynghorau yn deg ac yn dda, gan fod yr arian y maen nhw'n ei wario er lles bob un ohonom.
Diolch. A gaf i alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau. Wrth ymateb i'r pwyntiau penodol a gododd yr Aelodau, am eiliad, bron nad oes gen i'r geiriau ar gyfer haerllugrwydd Laura Jones, a geisiodd gyhuddo Llywodraeth Cymru o'r math o wleidyddiaeth pot mêl y mae'n amlwg wedi dod i'w ddisgwyl mewn setliad llywodraeth leol, gan ei bod yn cynrychioli plaid sydd wedi'i chyhuddo gan athro yng Nghaergrawnt, yr Athro Diane Coyle, athro polisi cyhoeddus Bennett ym Mhrifysgol Caergrawnt, o fod yn eithaf amlwg o ran eu gwleidyddiaeth pot mêl wrth gyfeirio £4.8 miliwn o gyllid i seddi'r Torïaid heb unrhyw gyfiawnhad o gwbl. Gallwch chi ddweud mai dyna y mae'n ei ddisgwyl gan eraill, ond rwyf i yma i ddweud wrthi nad ydym ni'n ymddwyn yn y modd hwnnw yng Nghymru. Fel y nododd Mike Hedges, gallwch edrych ar y gwariant fesul pen mewn ffordd gwbl wahanol, a'r cynnydd bob blwyddyn, a gallwch chi weld nad oes unrhyw duedd o gwbl tuag at awdurdodau Llafur nac at unrhyw ranbarth penodol. Mae'r setliad dosbarthu yn gweithio'n deg ac yn dda, a dyna pam mae gennym ni berthynas cystal gydag awdurdodau lleol, ac nid yw hynny ychwaith yn wir dros y ffin, lle mae'r dybiaeth ar lefel y cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol yn rhagdybio cynnydd o 4.99 y cant yn y dreth gyngor yn gyffredinol.
Gan droi at yr hyn a ddywedodd Delyth, rwy'n cytuno â chanran fawr o'r hyn a ddywedodd Delyth. Fe wnes i ddweud mewn gwirionedd, serch hynny, yn fy sylwadau agoriadol, Delyth, ein bod ni wedi ein harswydo yn llwyr gan safbwynt Llywodraeth y DU ar gyflogau'r sector cyhoeddus. Maen nhw'n cefnu ar yr addewidion a wnaethon nhw i staff y GIG, a cheir diffyg parch llwyr i'r gwaith y mae pobl wedi ei wneud mewn gwasanaeth cyhoeddus yn ystod y pandemig, yn Lloegr ac yn wir ledled Cymru, lle'r ydym ni, wrth gwrs, wedi cadw ein holl wasanaethau ymateb yn y sector cyhoeddus ac mae pobl wedi ymateb yn llwyr i'r her honno mewn ffordd yr wyf i'n hynod ddiolchgar amdani. Rwy'n dweud unwaith eto, heb unrhyw ymddiheuriad o gwbl, na fyddem ni wedi gallu dod trwy'r pandemig yn y modd yr ydym ni wedi ei wneud heb weithwyr llywodraeth leol, ac rwyf i'n hynod ddiolchgar iddyn nhw. Fodd bynnag, nid ydym yn cael ein hariannu i ddarparu'r setliad hwnnw, ac mae'n warthus nad ydym ni'n cael ein hariannu i ddarparu'r setliad y byddem ni wedi hoffi ei ddarparu, oherwydd wrth gwrs ni fyddwn yn cael swm canlyniadol o'r setliad cyflog yn Lloegr, gan nad ydyn nhw'n mynd i wneud hynny. Mae'n waradwyddus, a dweud y gwir.
O ran y sylwadau ynghylch digonolrwydd y setliad, mae'r Llywodraeth yn cydnabod y blaenoriaethau a'r pwysau yr ydym ni a llywodraeth leol yn eu hwynebu trwy'r setliad a'r cyllid ehangach sydd ar gael i lywodraeth leol. Fel y nodir yng nghyllideb Cymru gan fy nghyd-Aelod a'm cyfaill Rebecca Evans, y Gweinidog cyllid, ein blaenoriaethau cyllid o hyd yw gwasanaethau iechyd a llywodraeth leol. Mae'r setliad ariannol hwn yn welliant parhaus sylweddol mewn cyllid ar gyfer llywodraeth leol ac mae'n cyflawni o ran yr flaenoriaeth honno.
I fyfyrio ar yr hyn a ddywedodd Mike Hedges, mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi'r rhai sydd ei angen fwyaf, ac rydym yn gwybod mai trwy ein cynghorau lleol y gellir cyflawni hynny'n bennaf. Fel y dywedodd ef, mae'r amrywiaeth o bethau y gall awdurdodau lleol eu cyflawni ledled Cymru, oherwydd y setliad rhagorol hwn, yn rhywbeth a fydd er lles bob un ohonom. Wrth gwrs, byddem ni wedi hoffi gwneud setliad tymor hwy, ond wrth gwrs nid ydym ni ein hunain yn cael y setliad tymor hwy hwnnw, ac felly ni allwn drosglwyddo ymlaen i'r awdurdodau yr hyn nad ydym ni'n ei gael ein hunain. Rydym ni wedi cael y drafodaeth honno lawer gwaith gyda llywodraeth leol ac rwy'n gwybod eu bod wedi gwneud y pwynt hwnnw yn uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Gwladol eu hunain fod hyn yn rhywbeth y mae bob un ohonom ei angen, a dywedodd y Gweinidog cyllid yn gynharach y byddai'n well o lawer pe byddai gennym ni setliad aml-flwyddyn fel y gallem i gyd gynllunio ar gyfer y dyfodol mewn modd llawer mwy myfyriol.
Fe wnaeth Delyth bwyntiau da iawn hefyd ynghylch y pandemig parhaus a'i effaith eang ac anghymesur ar drigolion difreintiedig ledled Cymru. Ond rwy'n falch o allu dweud, Delyth, fod y gronfa galedi wedi ymdrin yn llwyr â'r meysydd y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, a hynny'n briodol, fel meysydd sy'n peri pryder. Felly, rydym ni wedi gallu rhoi incwm yn lle'r incwm a gollwyd o feysydd parcio a lleoliadau eraill ledled Cymru, ac rydym ni hefyd wedi gallu rhoi incwm yn lle'r incwm a gollwyd nad yw cartrefi gofal wedi ei gael, ac rydym hefyd wedi rhoi incwm yn lle'r incwm a gollwyd ar gyfer y dreth gyngor ac ar gyfer ardrethi annomestig. Felly, nid yw awdurdodau lleol mewn sefyllfa lle mae'r pandemig wedi eu hatal rhag gallu gwneud pethau y bydden nhw wedi gallu eu gwneud fel arall.
Ni ofynnwyd i mi yn y ddadl hon—ond gofynnwyd i mi mewn mannau arall, ac felly byddaf yn myfyrio arno—pam ydym ni'n defnyddio 'cyllid COVID' i ganiatáu i awdurdodau wneud pethau fel, er enghraifft, trwsio tyllau yn y ffyrdd. A'r ateb i hynny yw oherwydd ei fod yn rhoi incwm yn lle'r hyn y bydden nhw wedi ei ddefnyddio fel arall i drwsio'r tyllau yn y ffyrdd. Dyna bwrpas y peth. Nid at ddibenion iechyd y cyhoedd yn unig y mae hyn, mae er mwyn rhoi incwm yn lle'r incwm a gollwyd a chyfleoedd a gollwyd. Felly, rwy'n falch iawn o allu dweud ein bod ni wedi gwneud hynny mewn modd parhaus, ac, unwaith eto, mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans wedi gallu dweud y byddwn ni'n gallu gwneud hynny wrth symud ymlaen am o leiaf y chwe mis nesaf yn rhan o'r ymateb i COVID, ac mae awdurdodau lleol wedi bod yn falch iawn o fod wedi cael y cadarnhad hwnnw o'u hymdrechion parhaus.
Felly, byddwn ni'n gallu parhau i gynnal hawliau llawn o dan ein cynllun gostyngiadau i'r dreth gyngor ar gyfer 2021-22, ac unwaith eto rydym ni'n darparu £244 miliwn yn y setliad llywodraeth leol i gydnabod hyn, a hynny oherwydd, fel yr ydym wedi ei ddweud, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i amddiffyn aelwydydd incwm isel ac sy'n agored i niwed, er gwaethaf y diffyg yn y cyllid a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU ar ôl iddi ddiddymu budd-dal y dreth gyngor. Hoffwn i dynnu sylw Laura Jones at y ffaith nad yw'r budd-dal hwn i'r dreth gyngor yn bodoli yn Lloegr. Efallai ei bod hi wedi anghofio hynny. Rydym ni yn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas rhag effaith anghymesur y dreth gyngor, ac nid yw hynny'n wir yn Lloegr.
Mae'r setliad heddiw yn parhau i ddarparu cyllid cyfalaf heb ei neilltuo i awdurdodau lleol i gyflawni eu blaenoriaethau eu hunain ac i fuddsoddi gyda Llywodraeth Cymru yn ein blaenoriaethau cyffredin. Mae'n parhau â'r £35 miliwn ychwanegol y darperir ar ei gyfer yn y gyllideb ar gyfer 2021, ac £20 miliwn ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus, a all gynnwys cymorth ar gyfer seilwaith teithio llesol. Cyhoeddodd y gyllideb heddiw raglen ysgogi cyfalaf o dros £224 miliwn. Mae hyn yn cynnwys £147 miliwn ychwanegol i gynyddu rhaglenni tai, a £30 miliwn ychwanegol i gyflymu'r rhaglen uchelgeisiol ar gyfer ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. Mae'r buddsoddiad cyfalaf hwn yn helpu i gefnogi twf economaidd, swyddi cynaliadwy a chyfleoedd hyfforddi ym mhob rhan o Gymru, yn ogystal â buddion y strwythurau cyfalaf eu hunain.
Mae llawer ohonoch heddiw wedi pledio achos eich awdurdod lleol eich hun, wrth gwrs. Mae'r fformiwla yn arwain at enillwyr a chollwyr cymharol, ond gwelodd pob awdurdod gynnydd mewn cyllid ar sail tebyg am debyg eleni, ac mae pob awdurdod yn gweld cynnydd y flwyddyn nesaf. Ni ddylai unrhyw awdurdod fod mewn sefyllfa lle mae o dan anfantais, gan mai'r tybiaethau cynllunio y gwnaethom eu rhoi iddyn nhw yw'r hyn a gawsant, o leiaf. Mae'r fformiwla ddosbarthu yn fenter ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Rydym yn cytuno ar bob newid drwy weithgorau sefydledig. Mae'r fformiwla yn parhau i ddefnyddio'r data diweddaraf a mwyaf priodol, ac mae rhaglen waith barhaus i'w mireinio ac i archwilio datblygiad yn y dyfodol. Mae llywodraeth leol yn cynnig newidiadau i'r fformiwla ddosbarthu neu elfennau ohoni trwy'r trefniadau llywodraethu ar y cyd sefydledig sydd gennym ni ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod ni yma yng Nghymru yn gwbl ffyddiog ein bod yn darparu dosbarthiad teg a gwrthrychol o'r cyllid sydd ar gael, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr o flaen eich llygaid. Hoffwn i sicrhau pob rhan o Gymru nad oes unrhyw ragfarn nac annhegwch bwriadol yn ein fformiwla, ac mae awgrymu hynny yn gwbl annheg i'r rhai hynny sy'n ymwneud mewn modd mor gadarnhaol â'r gwaith o'i chyflawni, ac mae hynny ar draws yr holl awdurdodau lleol a'r arbenigwyr hefyd sy'n aelodau o'n his-grŵp dosbarthu.
Fel y dywedais i, mae unrhyw fformiwla, wrth gwrs, yn golygu bod enillwyr a chollwyr. Os yw llywodraeth leol gyda'i gilydd yn dymuno adolygu'r fformiwla mewn modd mwy manwl, rwy'n agored i wneud hynny. Rwyf yn dweud hynny yn ddiddiwedd ar lawr y Senedd hon, Dirprwy Lywydd. Fe'i dywedaf eto. Ond dylem ni fod yn ymwybodol o ba mor hir y mae'r adolygiad ariannu teg wedi ei gymryd yn Lloegr i lunio cysyniad tebyg i'r hyn a oedd gennym ni eisoes yng Nghymru, ond heb yr un lefel o gyllid ar gyfer cynghorau yn Lloegr ag yr ydym ni'n ei darparu yma yng Nghymru. Ond nid oes unrhyw system na ellir ei newid. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu a chyhoeddi nifer o bapurau ymchwil ar ddiwygio'r dreth leol yn rhan o raglen waith helaeth ar ddewisiadau ar gyfer cyllid posibl i lywodraeth leol a diwygio'r dreth leol. Rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwil hwn yn llywio datblygiad y system cyllid llywodraeth leol yn ystod y tymor Senedd nesaf, pwy bynnag fydd mewn grym.
Rwy'n fwy na bodlon i gymeradwyo'r setliad hwn i'r Senedd; rwy'n falch ohono. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus ac yn parhau i gefnogi llywodraeth leol ledled Cymru i gyflawni dros bobl Cymru. Rwy'n dal i fod yn ddiolchgar i lywodraeth leol, ac rwy'n ddiolchgar iawn yn wir i fy nhîm fy hun o swyddogion sydd wedi gweithio mor galed i gyflwyno'r setliad hwn i ni. Cymeradwyaf y cynnig, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr iawn. A'r cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ai gwrthwynebiad yw hynny gan—? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Nid oeddwn i'n gwybod a oeddech chi'n fflicio'ch pen ai peidio bryd hynny. Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, byddwn yn pleidleisio ar hyn yn ystod y cyfnod pleidleisio.