14. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2021-22

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 9 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:41, 9 Mawrth 2021

Fe wnaf i ddechrau hefyd trwy ddiolch i staff llywodraeth leol am y gwaith caled maen nhw wedi'i wneud, ledled Cymru, yn delio ag effeithiau'r pandemig dros y 12 mis diwethaf. Trwy gydol y cyfnod cythryblus, mae cynghorau yn aml wedi llwydo i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu darparu, a hynny mewn amgylchiadau aruthrol o anodd, boed hynny yn y sector gofal, y sector casglu gwastraff, neu athrawon. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig rhoi'r diolch hwnnw ar y record.

Mae'r cynnydd ariannol yn y setliad yn rhywbeth i'w groesawu, ac rwy'n ymwybodol bod ambell i gyngor sir yn fodlon iawn gyda'r setliad. Ond mae'n bwysig cofio'r cyd-destun yma, sef bod y gyllideb hon yn dilyn blynyddoedd o doriadau sylweddol, gyda chynghorau wedi gorfod gwneud arbedion anferthol dros y degawd diwethaf. Mae dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos bod gwariant wedi cwympo gan 7.7 y cant mewn termau real rhwng 2010 a 2019. Mae yn siom, ac mae hyn wedi cael ei ddweud yn barod, ond mae yn siom bod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio â gosod llawr cyllido er mwyn sicrhau bod y ddau gyngor sy'n derbyn cynnydd sylweddol yn llai na'r lleill, sef Ceredigion a Wrecsam—maen nhw'n derbyn cynnydd o 2 y cant a 2.3 y cant; maen nhw'n dal yn mynd i golli allan. Rwy'n amcangyfrif mai'r gost gweithredu hyn byddai oddeutu £2.4 miliwn, ac mae'n anodd i ddeall, yn anffodus, pam mae hyn heb gael ei ddarparu, o ystyried y gallai wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i'r cynghorau hynny.

Dyw dadansoddi anghenion ariannol cynghorau ddim yn syml, o ystyried bod arian i ddelio â COVID yn cael ei darparu ar wahân a bod angen ystyried y ffaith bod incwm cynghorau wedi gostwng, er enghraifft, drwy ffioedd a thaliadau sydd heb eu derbyn ar gyfer parcio, a hefyd bod refeniw trethiant wedi gostwng o'r meysydd hamdden a thwristiaeth. Bydd angen i'r cynghorau sy'n dod i'r casgliad nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i ddarparu eu holl wasanaethau wneud penderfyniadau anodd i'w gwneud unwaith eto: dewis rhwng torri ar wasanaethau a swyddi, neu godi'r dreth gyngor yn eithaf sylweddol.

Fe wnes i alw arnoch chi, Gweinidog, ar ddechrau mis Chwefror, i ystyried defnyddio peth o'r arian sydd heb gael ei dyrannu ar gyfer ei roi i gynghorau er mwyn eu galluogi i osgoi cynyddu'r dreth gyngor eleni—ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae'n flin gen i. Ers hynny, mae'r Ceidwadwyr wedi mabwysiadu y polisi hwnnw gan Blaid Cymru hefyd, gan alw am yr un peth. Mae hyn yn eironig, ac mae'n rhaid i fi bwyntio hyn mas, achos mai canlyniad uniongyrchol polisi'r Ceidwadwyr o lymder yw'r ffaith bod cynghorau wedi gorfod cynyddu'r dreth gyngor yn ormodol dros y blynyddoedd diwethaf yn y lle cyntaf. Fel mae'r Gweinidog yn llwyr ymwybodol—rwy'n gwybod ein bod ni'n cytuno ar hyn—mae'r dreth gyngor yn un hynod regressive, a nawr mae tymor pum mlynedd arall wedi mynd heibio gyda Llywodraeth Lafur ddim yn gwneud digon i wneud y system yn decach. Bydd wynebu codiad mewn treth gyngor yn ergyd drom i lawer o deuluoedd ac unigolion sydd wedi wynebu caledi yn ystod y flwyddyn diwethaf. Ydy, mae'r gyllideb ar gyfer cefnogaeth gyda'r dreth gyngor i bobl sy'n methu talu, mae hynny'n bwysig—bydd yn darparu cefnogaeth hanfodol, rwy'n cydnabod hynny—ond sticking plaster yw hwnna'n unig, ateb tymor byr i broblem hirdymor o dreth sydd yn taro'r tlotaf waethaf. Os yw Plaid Cymru mewn llywodraeth ar ôl mis Mai, byddwn yn mynd ati i ddiwygio'r dreth hon i'w gwneud yn decach fel blaenoriaeth, gan y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i gyllidebau rhai o'r teuluoedd sydd ei angen fwyaf.

Ond i orffen, Dirprwy Lywydd, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: a ydy hi'n cytuno bod angen darparu staff llywodraeth leol gyda thâl teg sy'n adlewyrchu'r gwaith hanfodol maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig? Oherwydd, yn anffodus, dydy'r setliad ddim yn darparu hyn, sy'n golygu y bydd yn rhaid i gynghorau geisio canfod yr arian o fewn cyllidebau presennol sydd eisoes yn dynn iawn ar hyn o bryd. Mae undebau Unite, Unison a GMB wedi galw am godiad cyflog o 10 y cant i weithwyr cyngor a staff ysgolion. Eto, does dim darpariaeth yn y setliad hwn ar gyfer unrhyw gynnydd. Buaswn i'n hoffi clywed sylwadau'r Gweinidog ar hynny pan fydd hi yn ymateb. Diolch yn fawr.