14. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2021-22

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 9 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:55, 9 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Fe wnaeth Delyth bwyntiau da iawn hefyd ynghylch y pandemig parhaus a'i effaith eang ac anghymesur ar drigolion difreintiedig ledled Cymru. Ond rwy'n falch o allu dweud, Delyth, fod y gronfa galedi wedi ymdrin yn llwyr â'r meysydd y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, a hynny'n briodol, fel meysydd sy'n peri pryder. Felly, rydym ni wedi gallu rhoi incwm yn lle'r incwm a gollwyd o feysydd parcio a lleoliadau eraill ledled Cymru, ac rydym ni hefyd wedi gallu rhoi incwm yn lle'r incwm a gollwyd nad yw cartrefi gofal wedi ei gael, ac rydym hefyd wedi rhoi incwm yn lle'r incwm a gollwyd ar gyfer y dreth gyngor ac ar gyfer ardrethi annomestig. Felly, nid yw awdurdodau lleol mewn sefyllfa lle mae'r pandemig wedi eu hatal rhag gallu gwneud pethau y bydden nhw wedi gallu eu gwneud fel arall.

Ni ofynnwyd i mi yn y ddadl hon—ond gofynnwyd i mi mewn mannau arall, ac felly byddaf yn myfyrio arno—pam ydym ni'n defnyddio 'cyllid COVID' i ganiatáu i awdurdodau wneud pethau fel, er enghraifft, trwsio tyllau yn y ffyrdd. A'r ateb i hynny yw oherwydd ei fod yn rhoi incwm yn lle'r hyn y bydden nhw wedi ei ddefnyddio fel arall i drwsio'r tyllau yn y ffyrdd. Dyna bwrpas y peth. Nid at ddibenion iechyd y cyhoedd yn unig y mae hyn, mae er mwyn rhoi incwm yn lle'r incwm a gollwyd a chyfleoedd a gollwyd. Felly, rwy'n falch iawn o allu dweud ein bod ni wedi gwneud hynny mewn modd parhaus, ac, unwaith eto, mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans wedi gallu dweud y byddwn ni'n gallu gwneud hynny wrth symud ymlaen am o leiaf y chwe mis nesaf yn rhan o'r ymateb i COVID, ac mae awdurdodau lleol wedi bod yn falch iawn o fod wedi cael y cadarnhad hwnnw o'u hymdrechion parhaus.

Felly, byddwn ni'n gallu parhau i gynnal hawliau llawn o dan ein cynllun gostyngiadau i'r dreth gyngor ar gyfer 2021-22, ac unwaith eto rydym ni'n darparu £244 miliwn yn y setliad llywodraeth leol i gydnabod hyn, a hynny oherwydd, fel yr ydym wedi ei ddweud, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i amddiffyn aelwydydd incwm isel ac sy'n agored i niwed, er gwaethaf y diffyg yn y cyllid a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU ar ôl iddi ddiddymu budd-dal y dreth gyngor. Hoffwn i dynnu sylw Laura Jones at y ffaith nad yw'r budd-dal hwn i'r dreth gyngor yn bodoli yn Lloegr. Efallai ei bod hi wedi anghofio hynny. Rydym ni yn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas rhag effaith anghymesur y dreth gyngor, ac nid yw hynny'n wir yn Lloegr.

Mae'r setliad heddiw yn parhau i ddarparu cyllid cyfalaf heb ei neilltuo i awdurdodau lleol i gyflawni eu blaenoriaethau eu hunain ac i fuddsoddi gyda Llywodraeth Cymru yn ein blaenoriaethau cyffredin. Mae'n parhau â'r £35 miliwn ychwanegol y darperir ar ei gyfer yn y gyllideb ar gyfer 2021, ac £20 miliwn ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus, a all gynnwys cymorth ar gyfer seilwaith teithio llesol. Cyhoeddodd y gyllideb heddiw raglen ysgogi cyfalaf o dros £224 miliwn. Mae hyn yn cynnwys £147 miliwn ychwanegol i gynyddu rhaglenni tai, a £30 miliwn ychwanegol i gyflymu'r rhaglen uchelgeisiol ar gyfer ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. Mae'r buddsoddiad cyfalaf hwn yn helpu i gefnogi twf economaidd, swyddi cynaliadwy a chyfleoedd hyfforddi ym mhob rhan o Gymru, yn ogystal â buddion y strwythurau cyfalaf eu hunain.

Mae llawer ohonoch heddiw wedi pledio achos eich awdurdod lleol eich hun, wrth gwrs. Mae'r fformiwla yn arwain at enillwyr a chollwyr cymharol, ond gwelodd pob awdurdod gynnydd mewn cyllid ar sail tebyg am debyg eleni, ac mae pob awdurdod yn gweld cynnydd y flwyddyn nesaf. Ni ddylai unrhyw awdurdod fod mewn sefyllfa lle mae o dan anfantais, gan mai'r tybiaethau cynllunio y gwnaethom eu rhoi iddyn nhw yw'r hyn a gawsant, o leiaf. Mae'r fformiwla ddosbarthu yn fenter ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Rydym yn cytuno ar bob newid drwy weithgorau sefydledig. Mae'r fformiwla yn parhau i ddefnyddio'r data diweddaraf a mwyaf priodol, ac mae rhaglen waith barhaus i'w mireinio ac i archwilio datblygiad yn y dyfodol. Mae llywodraeth leol yn cynnig newidiadau i'r fformiwla ddosbarthu neu elfennau ohoni trwy'r trefniadau llywodraethu ar y cyd sefydledig sydd gennym ni ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod ni yma yng Nghymru yn gwbl ffyddiog ein bod yn darparu dosbarthiad teg a gwrthrychol o'r cyllid sydd ar gael, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr o flaen eich llygaid. Hoffwn i sicrhau pob rhan o Gymru nad oes unrhyw ragfarn nac annhegwch bwriadol yn ein fformiwla, ac mae awgrymu hynny yn gwbl annheg i'r rhai hynny sy'n ymwneud mewn modd mor gadarnhaol â'r gwaith o'i chyflawni, ac mae hynny ar draws yr holl awdurdodau lleol a'r arbenigwyr hefyd sy'n aelodau o'n his-grŵp dosbarthu.

Fel y dywedais i, mae unrhyw fformiwla, wrth gwrs, yn golygu bod enillwyr a chollwyr. Os yw llywodraeth leol gyda'i gilydd yn dymuno adolygu'r fformiwla mewn modd mwy manwl, rwy'n agored i wneud hynny. Rwyf yn dweud hynny yn ddiddiwedd ar lawr y Senedd hon, Dirprwy Lywydd. Fe'i dywedaf eto. Ond dylem ni fod yn ymwybodol o ba mor hir y mae'r adolygiad ariannu teg wedi ei gymryd yn Lloegr i lunio cysyniad tebyg i'r hyn a oedd gennym ni eisoes yng Nghymru, ond heb yr un lefel o gyllid ar gyfer cynghorau yn Lloegr ag yr ydym ni'n ei darparu yma yng Nghymru. Ond nid oes unrhyw system na ellir ei newid. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu a chyhoeddi nifer o bapurau ymchwil ar ddiwygio'r dreth leol yn rhan o raglen waith helaeth ar ddewisiadau ar gyfer cyllid posibl i lywodraeth leol a diwygio'r dreth leol. Rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwil hwn yn llywio datblygiad y system cyllid llywodraeth leol yn ystod y tymor Senedd nesaf, pwy bynnag fydd mewn grym.

Rwy'n fwy na bodlon i gymeradwyo'r setliad hwn i'r Senedd; rwy'n falch ohono. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus ac yn parhau i gefnogi llywodraeth leol ledled Cymru i gyflawni dros bobl Cymru. Rwy'n dal i fod yn ddiolchgar i lywodraeth leol, ac rwy'n ddiolchgar iawn yn wir i fy nhîm fy hun o swyddogion sydd wedi gweithio mor galed i gyflwyno'r setliad hwn i ni. Cymeradwyaf y cynnig, Dirprwy Lywydd.