Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 9 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, i'w cymeradwyo, fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu, neu'r Comisiynwyr, yng Nghymru ar gyfer 2021-22. Cyn i mi wneud hynny, Dirprwy Lywydd, hoffwn i dalu teyrnged i bawb sy'n gwasanaethu yn ein heddluoedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ein heddluoedd wedi gorfod ymdrin â heriau digynsail o ganlyniad i'r pandemig. Maen nhw wedi rhoi eu hunain ar y rheng flaen wrth orfodi cyfyngiadau cenedlaethol, gan beryglu eu hiechyd a'u lles eu hunain a'u teuluoedd. Nid y pandemig, wrth gwrs, yw'r unig ddigwyddiad brys y mae'r heddlu wedi helpu i ymdrin ag ef yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal â chadw ein cymunedau yn ddiogel, mae'r rhai sy'n gwasanaethu yn ein heddluoedd ledled Cymru hefyd yn cynnal y safonau uchaf o ran dyletswydd, ymroddiad ac, ar adegau, dewrder. Yn arbennig o ystyried y digwyddiadau diweddar, hoffwn i gofnodi fy niolch i holl wasanaethau brys Cymru am eu cydnerthedd, ac rwy'n siŵr y bydd y sylwadau hyn yn cael eu hatseinio ar draws y Siambr hon.
Rwy'n cydnabod pwysigrwydd heddluoedd Cymru a'u swyddogaeth hanfodol wrth ddiogelu a gwasanaethu ein cymunedau yma yng Nghymru. Mae gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru yn enghraifft gadarnhaol o sut y gall gwasanaethau datganoledig a gwasanaethau nad ydyn nhw wedi eu datganoli gydweithio yn effeithiol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu trwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli, mae'r darlun cyffredinol o gyllid yn cael ei bennu a'i lywio gan y Swyddfa Gartref. Felly, mae'r dull sefydledig o bennu a dosbarthu cydran Llywodraeth Cymru wedi'i seilio ar egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.
Hoffwn i ddiolch i'r Comisiynwyr unwaith eto am eu hamynedd eleni. Oherwydd yr oedi yn yr adolygiad o wariant Llywodraeth y DU, ni chafodd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ei chyhoeddi tan 2 Mawrth. Unwaith eto, mae hyn wedi golygu bod Comisiynwyr wedi gorfod gosod eu praeseptau cyn i setliad yr heddlu fynd trwy'r Senedd. Fel yr amlinellwyd yn y cyhoeddiad o setliad terfynol yr heddlu ar 4 Chwefror, cyfanswm y cymorth refeniw heb ei neilltuo ar gyfer gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ar gyfer 2021-22 yw £408 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at y swm hwn trwy'r grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig wedi'u hailddosbarthu yw £143.4 miliwn, a dyma'r cyllid y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda dull llawr. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2021-22, y bydd yr holl Gomisiynwyr ledled Cymru a Lloegr yn cael cynnydd o 6.3 y cant mewn cyllid o'i gymharu â 2020-21. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ychwanegol gwerth cyfanswm o £23.1 miliwn i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent yn cyrraedd lefel y llawr. O ran cyllid craidd, setliad arian gwastad yw hwn.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud mai diben y cynnydd o 6.3 y cant yw darparu cyllid i recriwtio 6,000 o swyddogion heddlu ychwanegol, wedi'i rannu ymhlith y 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gryfhau'r economi a chreu cyfleoedd cyflogaeth ledled y wlad. Rwy'n croesawu'r cyfle i bobl ledled Cymru ystyried gyrfa yn yr heddluoedd. Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i darged o 20,000 o swyddogion newydd erbyn diwedd 2022-23. Fodd bynnag, ni ddylid cyrraedd y targed hwn ar draul gwasanaethau craidd yr heddlu. Fel yn 2020-21, bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i ddarparu grant penodol i'r Comisiynwyr yn 2021-22 i ariannu'r pwysau ychwanegol o ganlyniad i newidiadau Llywodraeth y DU i'r cyfraddau cyfraniadau pensiwn. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadw gwerth y grant ar £143 miliwn yn 2021-22, ac mae £7.3 miliwn o hyn wedi ei ddyrannu i Gomisiynwyr yng Nghymru.
Mae gan Gomisiynwyr hefyd y gallu i godi arian ychwanegol trwy eu praesept treth gyngor. Mae Llywodraeth y DU wedi gosod terfyn uchaf y praesept ar gyfer Comisiynwyr yn Lloegr yn £15 yn 2021-22, gan amcangyfrif y bydd hyn yn codi £288 miliwn yn ychwanegol. Yn wahanol i'r terfynau sy'n berthnasol yn Lloegr, mae gan Gomisiynwyr Cymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch codiadau yn y dreth gyngor. Mae gosod y praesept yn rhan allweddol o swyddogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu, sy'n dangos atebolrwydd i'r etholwyr lleol.
Rydym yn sylweddoli bod angen gwneud penderfyniadau anodd wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod pan mai cyllideb un flwyddyn yn unig sydd gennym. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r Comisiynwyr a phrif gwnstabliaid i sicrhau bod heriau cyllid yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Yn rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru, yn ei chyllideb ar gyfer 2021-22, wedi parhau i ariannu'r 500 o swyddogion cymorth cymunedol a recriwtiwyd o dan ymrwymiad blaenorol y rhaglen Lywodraethu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal yr un lefel o gyllid ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad hwn ag yn 2020-21, gyda'r £18.6 miliwn y cytunwyd arno yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn amodol, wrth gwrs, ar y bleidlais y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd. Un o'r prif sbardunau y tu ôl i'r prosiect hwn oedd ychwanegu at bresenoldeb gweladwy yr heddlu ar ein strydoedd ar adeg pan fo Llywodraeth y DU yn cwtogi ar gyllid yr heddlu. Mae nifer llawn y swyddogion wedi eu defnyddio ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Byddan nhw'n parhau i weithio gyda chymunedau a phartneriaid lleol i wella canlyniadau i'r rhai y mae troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt.
Gan ddychwelyd at ddiben y ddadl heddiw, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu sydd wedi ei osod gerbron y Senedd. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.