– Senedd Cymru am 3:45 pm ar 9 Mawrth 2021.
Eitem 10 ar yr agenda yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021. Rwy'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig, Julie James.
Cynnig NDM7615 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Wedi i'r Senedd ystyried a phasio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 y llynedd, rwy'n ceisio gwneud y darpariaethau angenrheidiol erbyn hyn ar gyfer gweithredu rhai o'r diwygiadau a ddarparwyd gan y Ddeddf. Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei hanfod wedi cryfhau a grymuso llywodraeth leol. Mae'r drefn perfformiad a llywodraethu newydd a nodir yn Rhan 6 y Ddeddf yn elfen sylfaenol o hynny, gan ddiffinio, yn ddi-syfl, brif gynghorau yn sefydliadau sy'n gwella eu hunain drwy gyfrwng system sy'n seiliedig ar hunanasesu ac ar asesu perfformiad panelau. Bwriad y drefn newydd hon o ran perfformiad a llywodraethu yw cefnogi ac adeiladu ar ddiwylliant lle mae cynghorau'n herio'r sefyllfa bresennol trwy'r amser, ac yn gofyn cwestiynau am sut y maen nhw'n gweithredu a rhoi ystyriaeth i'r arfer gorau yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Fy mwriad i yw gwneud y drefn newydd yn rhannol berthnasol o 1 Ebrill eleni, gyda'r darpariaethau sy'n weddill yn dod i rym yn etholiadau llywodraeth leol 2022. Fe fydd y rheoliadau diwygiadau canlyniadol sydd ger eich bron heddiw yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sylfaenol a'r is-ddeddfwriaeth bresennol yn adlewyrchu'n gywir y newidiadau deddfwriaethol sy'n deillio o'r gyfundrefn newydd, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw. Diolch.
Diolch. Rwy'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y rheoliadau blaenorol a drafodwyd y prynhawn yma, fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn hefyd ar 1 Mawrth ac mae ein hadroddiad ni'n cynnwys dau bwynt teilyngdod.
Mae'r rheoliadau yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1999 er mwyn, ymhlith pethau eraill, ganiatáu i grantiau gael eu rhoi gan Weinidogion Cymru i Swyddfa Archwilio Cymru o ran gwariant a fu neu i ddod eto gan Archwilydd Cyffredinol Cymru dan bennod 3 o Ran 6 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Roedd ein pwynt teilyngdod cyntaf ni'n nodi nad yw pennod 3 o Ran 6 Deddf 2021 mewn grym eto. Fel y cyfryw, fe ofynnodd ein hadroddiad ni i Lywodraeth Cymru gadarnhau pryd a sut y byddai'r darpariaethau yn y bennod hon o Ddeddf 2021 yn cael eu rhoi ar waith.
Gan symud ymlaen at ein hail bwynt teilyngdod ni, mae'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau yn cyfeirio at Orchymyn 2021, sy'n dod â phennod 1 o Ran 6 Deddf 2021 ac adran 169 Deddf 2021 i rym. Roedd ein hail bwynt adrodd ni'n nodi nad oedd Gorchymyn 2021 wedi ei wneud ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, ac roeddem ni'n gwahodd Llywodraeth Cymru i gadarnhau pryd y disgwylir i hyn ddigwydd.
Yn ein cyfarfod ni ddoe, fe wnaethom ystyried ymateb gan y Llywodraeth, ynghyd â llythyr gan y Gweinidog, sy'n rhoi trosolwg o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i gefnogi gweithredu Deddf 2021. Mewn ymateb i'n dau bwynt adrodd ni, mae Llywodraeth Cymru yn nodi y bwriedir cychwyn pennod 3 o Ran 6 Deddf 2021 yr un pryd â phennod 1, ar 1 Ebrill 2021. Mae wedi cadarnhau hefyd y bwriedir gwneud y Gorchymyn cychwyn sy'n dod â'r darpariaethau hyn i rym ym mis Mawrth ar yr un pryd â'r rheoliadau hyn sydd ger ein bron heddiw, yn ddarostyngedig i'r Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Rwy'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb.
Nid oes angen ymateb. Fe nododd Cadeirydd y pwyllgor yr ateb i'w gwestiynau ef ei hun eisoes, ac rwy'n hapus iawn gyda hynny, felly rwy'n galw ar yr Aelodau i gymeradwyo'r rheoliadau heddiw. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld unrhyw un yn gwrthwynebu, felly fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.