10. Dadl Fer: Gweithio i wella? Diffygion yn achos Kelly Wilson ac archwilio i ba raddau y mae'r diwylliant a'r prosesau o fewn y GIG wedi newid

– Senedd Cymru am 5:34 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:34, 10 Mawrth 2021

Ond mae un eitem o fusnes yn dal i'w gorffen, a'r eitem yna yw'r ddadl fer. Ac mae'r ddadl fer heddiw'n cael ei chyflwyno gan Huw Irranca-Davies.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ac wrth agor y ddadl hon, a gaf fi ddiolch i bawb yn ein GIG sydd wedi gwneud gwaith mor rhagorol ac sy'n parhau i wneud hynny? Ond rwy'n edrych ar achos hanesyddol, anodd iawn gyda hanes hir yma heddiw, a bydd rhai o'r manylion yn peri gofid i'r teulu ac i'r rhai sy'n eu clywed am y tro cyntaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:35, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Nod y ddadl hon yw ceisio archwilio materion hollbwysig gyda'r Gweinidog yn ymwneud â hawl unigolyn i gael triniaeth feddygol ddiogel a hawl y claf a'r teulu i gael gwybodaeth feddygol mewn modd amserol er mwyn gwneud cwynion a lle bo angen, i gynnal ymchwiliadau gan yr heddlu ac ymchwiliadau eraill, a'r graddau y mae diwylliant a phrosesau'r GIG yng Nghymru wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau tryloywder, rhoi camau amserol ar waith, datrys problemau, hyrwyddo camau unioni camweddau, ac iawndal lle bo angen, ac i ysgwyddo cyfrifoldeb ac ymddiheuro pan aiff pethau o chwith.

Fel y soniais, mae hwn yn achos ag iddo hanes hir iawn. Dechreuais ymdrin ag ef 15 mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn Aelod Seneddol dros Ogwr. Ond er ei fod yn achos hanesyddol a ddechreuodd ar adeg pan oedd y cyd-destun deddfwriaethol yn wahanol, mae iddo ganlyniadau parhaus i'r rhai sy'n byw bob dydd gyda'r canlyniadau, sef Kelly Wilson yr aeth ei thriniaeth o chwith i'r fath raddau nes ei bod hi bellach angen meddyginiaeth a chwistrelliadau dyddiol na fyddai'n gallu goroesi hebddynt, ynghyd â'r posibilrwydd gwirioneddol o arwain at glefyd cardiofasgwlaidd a chanser, a marwolaeth gynamserol yn y pen draw.

Derbyniwyd Kelly i Ysbyty Tywysoges Cymru yn 2005, lle cafodd ddiagnosis o ffeocromosytoma posibl, neu PCC. Tiwmorau prin yw'r rhain, rhai adrenal yn bennaf, a hefyd gyda symptomau acromegali, y mae'r rhan fwyaf o symptomau ohono fel arfer yn deillio o anhwylder hormonau'n gysylltiedig â'r chwarren bitwidol yn cynhyrchu gormod o hormon twf. Fodd bynnag, yn bwysig, gall rhai achosion ddeillio o diwmor yn pwyso ar feinwe, megis gwthio yn erbyn nerfau cyfagos, gan arwain at gur pen a phroblemau gyda'r golwg, ac roedd Kelly'n dioddef o'r ddau beth.

Cafodd Kelly a'r teulu eu harwain i gredu am flynyddoedd lawer fod sgan MRI wedi'i wneud pan gafodd ei throsglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ar ôl i Kelly gael ei derbyn yno ar 28 Medi. Ac fel y dywed y nodiadau ar 30 Medi yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ar ôl cael ei throsglwyddo ar 29 Medi, mae'n nodi, mewn dyfyniadau, 'chase MRI results from Bridgend, acromegalic features and pituitary working.' Nawr, nid yw'n glir a oedd hyn yn awgrymu bod y chwarren bitwidol yn gweithio neu fod angen iddynt wirio ei bod yn gweithio, ond y naill ffordd neu'r llall ni ddylid tanseilio arwyddocâd y sylwadau hyn, gan eu bod yn pwysleisio ar yr adeg gynnar iawn hon yn Ysbyty Tywysoges Cymru, a chyn llawdriniaeth, pa mor bwysig oedd sgan MRI a gweithrediad y chwarren bitwidol.

Yn dilyn ei llawdriniaeth i dynnu tiwmor PCC ar 9 Tachwedd 2005, cadarnhaodd biopsi o'r tiwmor a oedd wedi'i dynnu ar yr un diwrnod mai tiwmor PCC ydoedd ac yn hollbwysig, nad oedd tystiolaeth o hormonau twf, a olygai nad y PCC oedd y rheswm dros bresenoldeb hormonau twf gormodol. Roedd cyfiawnhad meddygol clir ar y pwynt hwn dros gynnal MRI o ystyried hanes meddygol Kelly a'r symptomau acromegali, ac eto, ar y pwynt tyngedfennol hwn, ni chynhaliwyd MRI. Mae'n destun pryder, ac yn arwyddocaol, wrth i Kelly adael y ward ar droli i gael llawdriniaeth, fod troli arall wedi cyrraedd i fynd â hi am sgan MRI, yr MRI tyngedfennol na ddigwyddodd mewn gwirionedd.

Nawr, ar ryw bwynt, yn anffodus, dioddefodd Kelly apoplecsi pitwidol, a achosir naill ai gan farwolaeth ardal o feinwe, a adwaenir fel cnawdnychiant, neu waedlif yn y chwarren bitwidol, ac fel arfer mae'n gysylltiedig â phresenoldeb tiwmor pitwidol, gan arwain at brognosis sydd wedi newid ei bywyd. Mae'n werth nodi bod sgan MRI wedi'i gynnal yn y pen draw, ar 22 Tachwedd 2005, ond ni ddangosodd yr adroddiad unrhyw annormaleddau gyda'r chwarren bitwidol. Dangosodd sgan MRI diweddarach ar 2 Mehefin 2006 dystiolaeth o diwmor blaenorol, a oedd bellach wedi marw, a arweiniodd at ailarchwilio'r adroddiad ar y sgan cynharach ym mis Tachwedd 2005, pan sefydlwyd bod yr adroddiad yn anghywir a bod tystiolaeth mewn gwirionedd o diwmor diweddar a chnawdnychiant.

Ond nid yw hyn yn dod i ben yn y fan honno. Mewn gwrandawiad llys sifil dilynol, flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd tystion arbenigol adroddiad gwreiddiol y sgan a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2005, yn hytrach na chanfyddiadau'r fersiwn gywir wedi'i diweddaru ar y sgan ar 2 Mehefin 2006. Arweiniodd hyn at arbenigwyr meddygol yn penderfynu'n anghywir ar sail adroddiad blaenorol nad oedd esboniad am y cnawdnychiant.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:40, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Ar gais y teulu, trosglwyddwyd gofal Kelly o Gymru i Fryste ym mis Tachwedd 2006, a dywedodd y llythyr atgyfeirio at y meddyg ymgynghorol ym Mryste fod Kelly wedi dioddef apoplecsi pitwidol. Yn anhygoel, nid oedd y wybodaeth hon, gyda llaw, erioed wedi cael ei rhoi i'r teulu.

Nawr dyna grynodeb byr o beth o'r gyfres drasig o ddigwyddiadau meddygol a chlinigol a newidiodd fywyd Kelly a bywydau'r rhai o'i cwmpas am byth. Rhaid cofnodi, wrth gwrs, y byddai'r bwrdd iechyd yn anghytuno â sawl rhan o'r naratif clinigol a meddygol hwn, ond yr hyn na ellir anghytuno yn ei gylch yw hyn: mae'r achos hwn wedi'i nodweddu'n gyson o'r cychwyn cyntaf gan oedi ar ran y bwrdd iechyd i ymateb i geisiadau, gwrthod gwybodaeth neu fodolaeth gwybodaeth hyd yn oed, ac arweiniodd y celu hwn at gyfres o ymchwiliadau iechyd ac ymchwiliadau dilynol gan yr heddlu ac achosion cyfreithiol yn cael eu rhwystro oherwydd anallu i ddarparu cofnodion iechyd sylfaenol a hanfodol mewn modd amserol, a fyddai wedi hwyluso'r ymchwiliadau hynny.

Rwyf wedi gweld yn bersonol y trallod y mae hyn wedi'i achosi i'r teulu dros flynyddoedd maith. Maent yn dal i chwilio am atebion i'r draul gorfforol ac emosiynol ar Kelly a'i theulu, y bydd yn rhaid iddynt fyw gyda hi ar hyd eu hoes. Yn ogystal â'r effeithiau iechyd a newidiodd fywyd Kelly ar yr adeg pan gafodd driniaeth, mae eu profiad o'r celu gwybodaeth a gwadu mynediad dro ar ôl tro at wybodaeth, yn ddi-os wedi gwaethygu dioddefaint a thrawma'r teulu hwn. A hyd heddiw, er bod y bwrdd iechyd—. Rwy'n diolch yn ddiffuant i'r cyn-gadeirydd am gyfarfod â mi a chyda Mr Wilson yn ddiweddarach. Ers hynny, mae'r cadeirydd wedi cydnabod y straen y mae hyn wedi'i achosi i'r teulu a'r anhawster i'r teulu ac i fy swyddfa gael gwybodaeth, ond nid yw hyn yn agos at fod yn ymddiheuriad nac yn unrhyw gyfaddefiad o fai, ac felly mae'n codi'r pryder ychwanegol i'r teulu ynglŷn ag a ddysgwyd gwersi go iawn ar y pryd ac a gymerwyd camau unioni i atal hyn rhag digwydd i rywun arall.

Ac mae'r achos hwn wedi bod yn frith o gamgymeriadau manwl ond allweddol drwyddo draw. Fe wnaf ymhelaethu gan ddefnyddio rhai enghreifftiau. Ar ôl tynnu sylw meddyg at y ffaith bod copïau o gofnodion meddygol roedd y teulu wedi'u derbyn yn brin o eitemau hanfodol, megis canlyniadau prawf gwaed ar yr adeg roedd Kelly ar ward gyswllt A3, dywedodd meddyg wrth y teulu na allent gael y canlyniadau hyn am mai dim ond pum diwrnod o gof oedd gan y cyfrifiadur. Flynyddoedd yn ddiweddarach, tynnwyd y datganiad hwn yn ôl gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel sylw difyfyr, 'off-the-cuff remark' mewn dyfyniadau, ond defnyddiwyd y sylw difyfyr hwn yn helaeth wedyn fel cyfiawnhad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrth gyfathrebu â chyrff allanol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Nawr, mae Garry a Kelly wedi parhau i fynd ar drywydd y canlyniadau gwaed coll. Mae eu pryderon yn canolbwyntio ar chwalfa gweinydd yn 2007, y gofynnwyd cwestiynau yn ei gylch i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac wedyn hefyd i'r prif gwnstabl mewn ymchwiliadau heddlu ym mis Mai 2015. Gofynnwyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro faint o gofnodion cleifion a gollwyd yn y chwalfa, pam nad oedd archif wrth gefn o gynnwys y gweinydd, ac a oes copi wrth gefn yn cael ei wneud yn rheolaidd bellach o gynnwys yr holl weinyddion gweithredol. Roedd eu hymateb yn dangos nad oedd cofnod o chwalfa gweinydd yn 2007 a arweiniodd at golli cofnodion cleifion, ac y byddai prosesau wrth gefn ac archifo bryd hynny wedi cael eu cadw wrth gefn yn unol â phrotocolau safonol cryfder diwydiannol, gan ddefnyddio'r seilwaith a'r dechnoleg briodol. 

Yn yr ymchwiliad dilynol gan yr heddlu, hysbyswyd y tad, Garry, fod prif gwnstabl Heddlu De Cymru wedi cytuno i gynnal profion ar y gweinydd a oedd wedi chwalu, ac eto daeth yr ymchwiliadau hynny i ben yn sydyn gyda'r heddlu'n derbyn honiad gwreiddiol y bwrdd iechyd nad oes cofnodion papur yn bodoli ac nad oedd hi'n bosibl adfer cofnodion digidol oherwydd methiant y gweinydd a bod cofnodion eraill yn ymwneud â Kelly hefyd wedi'u colli. A cheir materion eraill yn ymwneud ag ymateb yr heddlu a'r bwrdd iechyd i'r ymchwiliadau hyn a'u hymchwiliadau a ddaeth i ben sydd y tu allan i gylch gwaith y Senedd hon, ac mae Mr Wilson yn mynd ar eu trywydd yn benderfynol drwy ei Aelod Seneddol ac o bosibl drwy drafodaethau gyda'r Swyddfa Gartref a dadl yn Senedd y DU yn y dyfodol.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:45, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Ond mae'r cwestiynau i'r ddadl hon fel a ganlyn: os nad oedd methiant gweinydd, pam nad oes cofnod o weithredoedd y meddyg a fynychodd ward gyswllt A3 o'r uned dibyniaeth uchel pan aeth Kelly mor sâl, y meddyg a achubodd fywyd Kelly yn y pen draw? Dim cofnod. Pam nad oes siartiau cyffuriau ar gael rhwng 10 a 22 Tachwedd? Ble mae canlyniadau'r profion gwaed, y rhai roedd y nyrs—hefyd o'r uned dibyniaeth uchel, a oedd yno gyda'r meddyg—wedi mynd yn ôl i'r uned dibyniaeth uchel i'w profi ac i gael y canlyniad cyflym nad oedd gan Kelly ocsigen yn ei gwaed? Pam y cymerodd 10 mlynedd i Garry a Kelly cyn iddo gael ei gadarnhau, fel roeddent bob amser wedi credu, fod mewnosodiad ffug yn y nodiadau ysgrifenedig? Pam y bu'n rhaid i Garry a Kelly frwydro i gael hyn a phob sgrap o wybodaeth hanfodol?

Cafodd y cwestiynau hyn a chwestiynau manwl eraill a oedd heb eu hateb eu trosglwyddo i gadeirydd y bwrdd iechyd ar y pryd ar 26 Gorffennaf 2019 gan Garry pan gyfarfu â hi, ac eto mae'r teulu'n dal i aros am ymatebion manwl. Gwahoddwyd Garry a Kelly ar un pwynt i fynychu'r ysbyty i archwilio'r cofnodion meddygol gwreiddiol, a gwnaethant hynny. Fodd bynnag—ac mae hyn yn bwysig—mewn achos llys, dywedodd bargyfreithiwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrth y barnwr nid unwaith ond ddwy waith fod Kelly a'i theulu wedi cael cynnig cyfle i fynychu'r ysbyty ac archwilio'r cofnodion ond eu bod wedi gwrthod. Ac eto, mae'r teulu wedi cael negeseuon e-bost mewnol, dim ond ar ôl cais rhyddid gwybodaeth, yn cadarnhau eu presenoldeb i archwilio'r cofnodion—camgymeriad ar ben camgymeriad a chelu'r gwir. Roedd y teulu wedi gwneud eu cais yn wreiddiol i'r llysoedd ar y sail bod Kelly wedi cymryd gorddos ei hun, dywedwyd wrthynt, o forffin wrth ddefnyddio'r peiriant analgesia a reolir gan gleifion, yr IVPCA, ar ôl cael eu harwain i gredu mai dyma'r rheswm dros ddirywiad Kelly tra oedd ar ward gyswllt A3. Fodd bynnag, mae'r peiriannau hyn wedi'u gosod i gloi, i sicrhau na all cleifion gael gorddos, a chadarnhawyd yn ddiweddarach nad oedd gorddos morffin wedi digwydd.

Gadewch imi droi yn awr at fater cydsynio i driniaeth. Byddai Kelly, yn 16 oed, wedi cael ei hystyried yn gymwys i lofnodi'r ffurflen gydsyniad a ddefnyddiwyd ar adeg ei llawdriniaeth yn 2005, fel yr amlinellwyd yn y canllaw ar gael cydsyniad i gynnal archwiliad neu ddarparu triniaeth yn 2002. Fe'i cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n darparu polisi cydsyniad enghreifftiol. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:

Mae 'cydsyniad' yn golygu cytundeb claf i weithiwr iechyd proffesiynol ddarparu gofal. Gall cleifion nodi caniatâd yn ddi-eiriau (er enghraifft drwy gyflwyno eu braich i'w pwls gael ei fesur), ar lafar, neu'n ysgrifenedig. Er mwyn i'r cydsyniad fod yn ddilys, rhaid i'r claf'— ymhlith meini prawf eraill, mewn print trwm— fod wedi cael digon o wybodaeth i allu ei roi.

Ar ôl rhoi ei chaniatâd i'r llawdriniaeth i dynnu'r PCC, tynnwyd sylw at fater cydsyniad gwybodus dilys ac arwyddocâd sgan MRI yn ystod yr achos sifil dilynol pan wnaeth Ysbyty Athrofaol Cymru honiad fod y cnawdnychiant i chwarren bitwidol Kelly yn cael ei ystyried yn 'anosgoadwy'. Felly, os na ellid ei osgoi, pam na chafodd Kelly a'i theulu erioed wybod y gallai'r cymhlethdod posibl hwn godi o'r driniaeth a drefnwyd ar ei chyfer, yn enwedig o ystyried ei symptomau acromegali wrth iddi gael ei derbyn i'r ysbyty? Ar ôl gwneud cwyn wedyn i'r adran safonau proffesiynol ynglŷn ag annigonolrwydd ymchwiliad yr heddlu—a oedd wedi cymryd dwy flynedd a naw mis—cafodd Garry a Kelly afael ar gyfweliad nas datgelwyd, a'u galluogodd i weld adroddiad yr ymchwiliad. Roedd yn cynnwys ymateb gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol i gŵyn Garry am ddau feddyg. Dyma un o'r dogfennau y buont yn gofyn amdanynt ond y gwrthodwyd mynediad ati deirgwaith gan Ysbyty Athrofaol Cymru. Roedd y ddogfen hon yn atgyfnerthu eu honiad nad oedd Kelly a'i rhieni wedi rhoi cydsyniad gwybodus cyn llawdriniaeth; nid oeddent wedi cael y ffeithiau llawn. Roedd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn feirniadol iawn o'r ddau feddyg ynglŷn â'r diffyg cyfathrebu gyda'r claf a'r rhieni a chynghorodd un i drafod y methiant hwn gyda'r ymddiriedolaeth.

Weinidog, mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi ceisio newid diwylliant atebolrwydd yn y byrddau iechyd a'r modd y maent yn ymateb i gwynion, a'r modd y maent yn ymdrin ag unioni camweddau ac iawndal. Felly, rwy'n gofyn a yw newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth, gan gynnwys deddfwriaeth sy'n effeithio ar gylch gwaith a phwerau'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus, wedi bod yn llwyddiannus. A all Llywodraeth Cymru ddangos hyn yn glir, neu a oes newid diwylliannol i'w wneud o hyd? Yn wir, mae profiad fy etholwyr wedi bod yn gwbl groes i'r hyn a fwriedir yn awr. Mae eu profiad wedi ymddangos iddynt hwy fel system o sefydliadau'n cau'r rhengoedd i amddiffyn eu hunain yn hytrach na sicrhau cyfiawnder a chamau unioni i achwynwyr. Mae ymatebion sy'n gwrthdaro ac anghysondebau gormodol drwy gydol y 15 mlynedd diwethaf, gyda llawer ohonynt wedi'u profi o blaid Kelly wedyn, yn tanio ac yn dwysáu diffyg ymddiriedaeth y teulu yn y systemau a'r sefydliadau hyn, ac mae'n anochel eu bod wedi cyfrannu at eu hymgais barhaus i geisio atebion a chamau unioni.

Weinidog, i gloi, 15 mlynedd ers i Garry Wilson ddod ataf gyda'i bryderon gwreiddiol am ei ferch Kelly, mae llawer o gwestiynau heb eu hateb o hyd: gwybodaeth a gafodd ei chadw rhagddynt neu ei dal yn ôl neu sydd wedi diflannu; atebion mewn perthynas â'r wybodaeth, a oedd yn aneglur, neu'n wir wedi ei newid dros amser; ymchwiliad posibl gan yr heddlu, wedi ei atal rhag mynd rhagddo yn ôl pob tebyg oherwydd absenoldeb y wybodaeth hanfodol hon. Ond yn fwyaf oll, Weinidog, bywyd menyw ifanc wedi cael ei newid am byth; teulu sydd wedi bod drwy gythrwfl emosiynol ac aflonyddwch domestig ers blynyddoedd; chwilio parhaus am atebion i gwestiynau y dylid bod wedi'u hateb flynyddoedd yn ôl; ac ar yr union adeg pan ddylai sefydliadau cyhoeddus fod wedi bod ar eu hochr yn eu helpu drwy'r argyfwng hwn, yn unioni pethau, yn dysgu gwersi a fyddai'n atal hyn rhag digwydd i deuluoedd eraill, cred barhaol y teulu fod y sefydliadau hynny wedi gwneud y gwrthwyneb. Fe wnaethant gau'r rhengoedd ac amddiffyn eu hunain rhag beirniadaeth a bai. Felly, Weinidog, pa obaith y gallwn ei roi i Kelly a'i theulu y cânt yr atebion y maent yn eu ceisio? Yn olaf, pa obaith y gallwn ei roi fod y diwylliant hwn o gau'r rhengoedd yn bendant wedi newid fel na fydd achosion trasig fel hyn byth yn digwydd yn y dyfodol?

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:52, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Gofynnaf yn awr i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymateb i'r ddadl.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod dros Ogwr am ddod â'r ddadl hon gerbron y Senedd ac am lefel y manylder, y manylion anodd, y mae wedi'u darparu wrth nodi sut y mae teulu ei etholwyr yn teimlo. Ni allai neb fod wedi gwrando ar yr hyn sydd newydd gael ei ddweud heb gael eu cyffwrdd a'u brawychu. Mae'n ein hatgoffa, os bu angen erioed, fod prosesau cwyno yn eithriadol o bwysig. Mae'r ffordd y caiff pobl eu trin yn ystod gofal iechyd, ac ar ôl hynny, os oes cwyn, sut y rheolir y broses honno, yn effeithio'n sylweddol a pharhaol ar gleifion a'u teuluoedd. Mae'n nodi pam y mae angen inni eu cael yn iawn—er mwyn sicrhau, os oes cwyn, ein bod yn gwneud pethau'n iawn.

Mae'n amlwg fod y teulu hwn wedi cael profiad gwael o ofal y GIG a phroses gwyno'r GIG wedyn, ac mae'r anawsterau a'r rhwystredigaethau a brofwyd ganddynt mewn sawl ffordd yn tanlinellu ac efallai'n enghraifft o'r rheswm pam ein bod wedi ceisio newid yn sylfaenol y ffordd yr ymdrinnir â phryderon a chwynion y GIG yng Nghymru. Gwnaed y gŵyn wreiddiol yn 2006. Ar y pryd, roedd gweithdrefn y GIG ar gyfer cwynion yn gwbl wahanol i'r un sydd gennym ar waith yn awr, gyda nifer o wahanol gamau a heb yr hyn rydym yn awr yn disgwyl iddo fod yn ffocws sy'n canolbwyntio ar y claf.

Yn 2011, pan gefais fy ethol gyntaf, felly ni allaf dderbyn y clod amdano, roedd y broses 'Gweithio i Wella' yn ailwampio'n llwyr y ffordd yr ymdrinnir â chwynion a phryderon GIG Cymru, a sut y mae'n rhaid cynnwys teuluoedd a chleifion yn y broses. Pe bai hynny wedi digwydd yma, o 2006 ymlaen, credaf y byddai'r Aelod wedi cael sgwrs wahanol gyda'i etholwyr. Mae hyn wedi bod yn newid sylweddol yn y broses, yn amlwg, ond mae'n newid diwylliannol sylweddol i GIG Cymru yn y ffordd y maent yn ymateb i bryderon, cwynion a digwyddiadau difrifol. Yn benodol, rydym wedi mynd ati'n fwriadol i geisio cyflwyno ffocws cryf ar fod yn agored ac yn onest. Mae bod yn agored yn thema ganolog yn 'Gweithio i Wella', ac mae'n gweithredu ar sail ymchwilio unwaith ac ymchwilio'n dda. Mae 'Gweithio i Wella' hefyd yn galw am gynnwys y claf neu ei gynrychiolydd yn y broses ar gyfer lleisio pryderon er mwyn ceisio sicrhau bod sail y pryderon hynny wedi ei deall yn iawn a bod canlyniad yr ymchwiliad i bryderon yn cael ei gyfleu a'i esbonio'n glir yn sgil hynny. Hefyd, rhaid i ddarparwyr y GIG roi gwybod i achwynwyr fod gwasanaethau eirioli ar gael a all eu harwain a'u cefnogi drwy'r broses gwyno. 

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:55, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'n arwyddocaol fod y trefniadau newydd wedi cyflwyno un dull cyson o raddio ac ymchwilio i bryderon. Unwaith eto, mae'n rhoi pwyslais cryf ar ddiogelwch a phrofiad cleifion. Gwella diogelwch a phrofiadau yw amcanion y broses gwyno yn awr. Er enghraifft, mae'n ofynnol i holl ddarparwyr y GIG adrodd ar y nifer a'r mathau o bryderon a gaiff eu mynegi bob blwyddyn, er mwyn crynhoi'r camau a gymerir i wella gwasanaethau o ganlyniad, a faint o achwynwyr a gafodd eu hysbysu. 

Credaf ein bod yn briodol falch fod gennym ni yng Nghymru drefniadau unioni camweddau GIG yn awr a gyflwynwyd fel rhan o 'Gweithio i Wella' yn 2011. Ni yw'r unig wlad yn y DU i weithredu cynllun o'r fath. Mae'n darparu cyngor cyfreithiol annibynnol am ddim, a chyfarwyddyd arbenigwyr clinigol annibynnol i gleifion pan ddaw'n amlwg, wrth ymchwilio i gŵyn, fod corff GIG neu'r driniaeth a ddarparodd wedi bod yn esgeulus neu y gallai fod wedi bod yn esgeulus a bod hawliad yn werth hyd at £25,000. Mae ein proses unioni camweddau wedi llwyddo i wella mynediad at gyfiawnder i gleifion sydd â hawliadau esgeulustod clinigol. Mae hefyd yn arwain at ddatrys hawliadau posibl yn llawer cyflymach o gymharu â'r broses ymgyfreitha draddodiadol. Ac mae'n golygu bod costau datrys hawliadau ariannol gwerth isel yn gymesur â'r iawndal a ddyfernir. 

Er bod 'Gweithio i Wella' wedi ailwampio'n llwyr yr hyn a oedd yn system hen ffasiwn ar gyfer ymdrin â chwynion y GIG, nid ydym wedi sefyll yn ein hunfan. Adolygwyd y broses 'Gweithio i Wella' gan Keith Evans yn ei adroddiad, 'Defnyddio Cwynion yn Rhodd', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014. Daeth yr adolygiad hwnnw i'r casgliad bod 'Gweithio i Wella' yn broses gadarn, ond gwnaeth argymhellion ar gyfer gwelliannau. Roedd un o'r materion yn ymwneud â llwyfan cenedlaethol i gasglu data cwynion mewn ffordd gyson, ac mae'r GIG, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, wrthi'n gweithio ar system rheoli pryderon 'unwaith i Gymru' a ddylai helpu i safoni ymhellach y ffordd y mae cyrff y GIG yng Nghymru yn cofnodi eu data cwynion a phryderon.

Bydd hynny'n sicrhau mwy o gysondeb eto i'r ffordd y caiff data ei gofnodi a'i adrodd ledled Cymru. Fodd bynnag, bydd y cam mawr nesaf ymlaen i'w weld pan fyddwn yn gweithredu Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn llawn ac yn rhoi dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd mewn grym. Fel y gŵyr yr Aelodau, bydd y ddyletswydd ansawdd newydd yn berthnasol i holl gyrff y GIG yng Nghymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt arfer eu swyddogaethau gyda'r nod o sicrhau gwelliant yn ansawdd gwasanaethau iechyd. Diffinnir 'ansawdd' yn y Ddeddf i gynnwys profiad cleifion yn benodol, a fyddai'n cwmpasu profiad o ddefnyddio prosesau a gweithdrefnau cwyno.

Ceir tystiolaeth ryngwladol fod cysylltiad rhwng mwy o onestrwydd a thryloywder a darparu gofal o ansawdd uwch. Mae sefydliadau sydd â diwylliannau agored a thryloyw yn fwy tebygol o dreulio amser yn dysgu o ddigwyddiadau, ac maent yn fwy tebygol o fod â phrosesau ar waith i gefnogi staff a defnyddwyr gwasanaethau pan aiff pethau o chwith, fel y byddant yn ei wneud o bryd i'w gilydd, oherwydd mae'n anochel wrth ddarparu gwasanaethau cymhleth fod pethau weithiau'n mynd o chwith. Ond pan fyddant yn gwneud hynny, mae'r ffordd y mae sefydliadau'n ymdrin â'r sefyllfaoedd hynny'n dod yn bwysig iawn, a gall wneud gwahaniaeth enfawr i brofiad pobl a'u perthynas barhaus â'r darparwr gofal. Mae hynny'n hollbwysig mewn lleoliadau gofal iechyd, lle mae cleifion yn aml angen cael y cysylltiadau parhaus hynny. 

Yn gyffredinol, mae cleifion a defnyddwyr gwasanaethau am gael gwybod yn onest beth ddigwyddodd, a chael sicrwydd fod popeth yn cael ei wneud i ddysgu o'r hyn sydd wedi mynd o chwith a dyna pam ein bod yn cyflwyno dyletswydd gonestrwydd yng Nghymru. O dan amodau'r Ddeddf a basiwyd yn nhymor y Senedd hon, bydd yn berthnasol i holl gyrff y GIG ac i ddarparwyr gofal sylfaenol yng Nghymru, a darparwyr gofal iechyd annibynnol yng Nghymru, drwy reoliadau a wneir o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Bydd y ddyletswydd yn adeiladu ar yr egwyddorion 'bod yn agored' ym mhroses bresennol 'Gweithio i Wella' ac yn eu cadarnhau. 

Hoffwn ddweud bod yr Aelod wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol am ei etholwr na allaf eu hateb yn y ddadl hon. Bydd fy swyddogion yn adolygu'r Cofnod, ond efallai y bydd o gymorth os gwnaiff yr Aelod roi'r rheini ar ffurf llythyr hefyd, fel y gallaf ymateb yn iawn iddo, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu colli yn y Cofnod, neu'r potensial i'r cyfnod cyn yr etholiad dorri ar draws y gwaith hwnnw, oherwydd rwyf am sicrhau nad ydym yn colli golwg ar yr unigolyn a'i theulu y mae'r Aelod wedi codi materion ar eu rhan heddiw.

Ond rwyf am ailadrodd pwysigrwydd gweithdrefnau cwyno cadarn, agored a gonest, ochr yn ochr â dyletswydd gonestrwydd, a gallaf ddweud yn glir iawn ei bod yn wir ddrwg gennyf fod etholwyr yr Aelod—y teulu hwn—wedi cael profiad mor wael o ofal y GIG a'r broses gwyno. Ers hynny, mae ein prosesau cwyno yma yng Nghymru wedi newid yn fawr, ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd i sicrhau ein bod yn parhau i wella, mwy i'w wneud gyda chyflwyno'r ddyletswydd gonestrwydd yn ymarferol, a'n nod cyffredinol yw gwrando, dysgu a gwella. Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod, teuluoedd eraill ac etholwyr eraill ledled Cymru yn gweld proses well ar gyfer gofal a'r profiad wedyn os aiff pethau o chwith. Diolch am eich amser heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:01, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:01.