– Senedd Cymru am 3:16 pm ar 16 Mawrth 2021.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf ar frechiadau COVID-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud ei ddatganiad.
Diolch, Llywydd. Mae gwaith caled pob un sy'n cymryd rhan yn rhaglen frechu COVID-19 wedi parhau unwaith eto'r wythnos hon. Y ni sydd yn cynnal y gyfradd frechu orau yn y DU ac mae cyfran uwch o bobl yng Nghymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn o'i chymharu ag unrhyw ran arall yn y DU.
Dim ond mis arall sydd i fynd tan ganol mis Ebrill sef y dyddiad targed ar gyfer cyrraedd carreg filltir dau yn ein strategaeth ni. Rydym ni'n symud ymlaen yn hyderus ac yn gyflym tuag at y garreg filltir allweddol nesaf hon o gynnig brechiad cyntaf i bawb yn y naw grŵp blaenoriaeth presennol. Gyda mwy o gyflenwad o frechlynnau erbyn hyn, rydym yn disgwyl gweld niferoedd uwch o ddosau cyntaf yn cael eu gweinyddu gan gadw at gyflymder ein rhaglen ni ar gyfer yr ail ddos hefyd. Rydym wedi cynyddu ein capasiti i weinyddu hynny'n unol â'r cynnydd o ran cyflenwadau. Y sefyllfa o hyd yw, os caiff y cyflenwadau eu darparu, yna fe fyddwn ni'n eu gweinyddu nhw.
Mae mwy na 90 y cant o bobl rhwng 65 a 69 oed wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn eisoes, ac mae pobl rhwng 50 a 64 oed yn dechrau cael eu galw am eu hapwyntiadau nhw. Rydym ni'n gwneud cynnydd mawr.
Mae ein rhaglen ni ar gyfer ail ddosau wedi bod ar waith ers tua mis erbyn hyn, ac mae dros 0.25 miliwn o bobl yma yng Nghymru wedi cael eu cwrs llawn o'r brechlyn eisoes, sy'n newyddion calonogol iawn, wrth gwrs. Mae hyn yn cynnwys mwy na thraean y preswylwyr mewn cartrefi gofal a thros hanner eu staff gofal nhw. Mae'r ail ddos yn hanfodol ar gyfer amddiffyniad yn y tymor hwy, felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn derbyn y cynigion o ail ddos.
Diolch i bawb sydd wedi derbyn eu cynnig o ail ddos hyd yn hyn. Ac rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cynnig o frechlyn ac yn annog eich ffrindiau chi a'ch teulu chi i wneud yr un fath. Fe gefais i fy nos cyntaf i ddydd Sul, ac rwy'n edrych ymlaen at gael fy ail ddos maes o law.
Ac rwy'n awyddus i sicrhau'r Aelodau mai diogelwch pobl fydd yn dod gyntaf bob amser. Rydym yn adolygu'r adroddiadau ynglŷn â diogelwch y brechlynnau yn ofalus trwy'r amser ac mae'r rheoleiddiwr annibynnol, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ynglŷn â diogelwch. Rwy'n ymwybodol o'r adroddiadau am rai gwledydd yn Ewrop sy'n gohirio gweinyddu brechlynnau AstraZeneca am y tro oherwydd pryderon ynghylch clotiau gwaed. Ledled y DU, mae dros 12 miliwn dos o'r brechlyn AstraZeneca wedi eu gweinyddu erbyn hyn ac mae'r MHRA yn datgan:
Nid yw'r adroddiadau a fu am glotiau gwaed hyd yn hyn yn fwy na'r nifer a fyddai wedi digwydd yn naturiol yn y boblogaeth a frechwyd.
Fe ddylai pobl barhau i fynd i gael eu brechlyn COVID-19 pan ofynnir iddyn nhw wneud hynny.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd, yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, Thrombosis UK a phob un o bedwar prif swyddog meddygol y DU i gyd yn cefnogi safbwynt yr MHRA ynglŷn â diogelwch ein brechlynnau ni, a'r risg a fyddai fel arall o beidio â bod â'r amddiffyniad a ddarperir gan y brechlynnau. Mae'r risg fel arall oherwydd COVID yn cynnwys, ymysg pethau eraill, mwy o berygl o glotiau gwaed, difrod parhaol i organau ac, wrth gwrs, marwolaeth.
Mae gennym hyder yn ein brechlynnau ni ac rydym yn sicr bod yn rhaid inni barhau â'r momentwm. Dros y penwythnos, fe gofnodwyd bod mwy na 40,000 o frechlynnau wedi'u gweinyddu mewn un diwrnod—mae hynny'n gyfforddus fwy nag 1 y cant o'r boblogaeth yn cael ei brechu mewn un diwrnod. Mae gennym fwy i'w gyflawni eto i gadw Cymru'n ddiogel. Eto i gyd, rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth o bob ochr wleidyddol a chan y cyhoedd i'n rhaglen lwyddiannus ni o ddarparu brechiadau. Wrth gwrs, fe fyddaf i'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ac i'r cyhoedd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n falch iawn o'ch clywed chi'n dweud mor ddiamwys fod yn rhaid i bobl fynd allan a chael eu brechlyn nhw, boed hwnnw'n frechlyn Pfizer neu un AstraZeneca, ac rwy'n ymuno â chi i ddweud bod y risg o glotiau gwaed oherwydd unrhyw frechlyn o bosibl yn llawer iawn llai nag unrhyw beth arall. O gofio hynny, pa neges gyhoeddus—? Ac rwyf i wedi clywed eich neges chi, ac rwyf innau wedi dweud hynny, ac mae'r Prif Weinidog wedi dweud hynny, ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yma'n arddel hynny, ond sut mae cyfleu'r neges honno i'r ardaloedd yng Nghymru lle mae pobl yn bryderus iawn, ac efallai wedi cymryd yn erbyn y brechlyn ryw gymaint am wahanol resymau, ac fe fydd hyn wedi ategu'r safbwynt hwnnw? Rwy'n crefu arnoch i ystyried ymgyrch iechyd cyhoeddus gadarn iawn, ac rwy'n holi beth allai eich barn chi fod am hynny.
O ran preswylwyr mewn cartrefi gofal, nid oes amheuaeth nad yw'r ystadegau sy'n amlinellu'r nifer sydd wedi manteisio ar y dosau cyntaf o'r brechlyn yn drawiadol, ond mae gennyf i rai pryderon ynghylch y data ynddyn nhw, sef maint y grŵp o breswylwyr mewn cartrefi gofal. Nawr, rhwng 1 a 2 Mawrth fe ostyngodd maint y grŵp hwn o 17,630 i 15,398, sef gostyngiad o 2,232. Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod nifer y preswylwyr mewn cartrefi gofal yn 13,780. Felly mae gostyngiad wedi bod o 17,630 i 13,780 mewn cyfnod o 16 diwrnod, sef gostyngiad o 3,850 ym mhoblogaeth cartrefi gofal Cymru mewn llai na hanner mis. Gweinidog, fel rwyf i wedi dweud yn gyson, y data sy'n ben arnom ni, ledled y DU, y data sy'n ysgogi camau'r Llywodraethau, ac nid dyddiadau. Felly, mae angen inni fod yn hyderus iawn fod y data sydd gennym ni'n ddibynadwy. Pan fo eich data chi'n dangos bod dros 95 y cant o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu brechu, mae'n hanfodol ein bod yn gallu ymddiried yn hynny, wyddoch chi, sef bod y data hynny'n gywir. Nawr, er fy mod i'n derbyn y gallai rhai preswylwyr mewn cartrefi gofal yn anffodus fod wedi marw, a wnewch chi egluro pam mae gostyngiad o 21.9 y cant wedi bod yn nifer y preswylwyr mewn cartrefi gofal dros gyfnod o hanner mis?
Fe hoffwn i droi'n fyr at yr anawsterau wrth newid dyddiadau profion. Rwy'n parhau i gael llawer iawn o negeseuon e-bost am yr anawsterau y mae pobl yn eu cael wrth aildrefnu profion a drefnwyd drwy ganolfannau brechu torfol. Rwy'n pryderu ein bod ni'n wynebu'r risg o weld dosau'n cael eu gwastraffu os na fyddwn ni'n mynd i'r afael â'r broblem hon, yn enwedig wrth inni symud tuag at frechu'r boblogaeth o oedran gweithio sydd, o bosib, â mwy o gyfyngiadau ar eu hamser nhw, ac yn methu â gollwng popeth a bod yn bresennol ar yr amser a roddwyd iddynt oherwydd materion gwaith neu ofal plant. A wnewch chi ddweud wrthym ni beth y gellir ei wneud i helpu i fynd i'r afael â hyn?
Yn olaf, fe hoffwn i sôn am yr astudiaeth a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe, yn dilyn y profion torfol ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr yn ardaloedd Merthyr Tudful a Chwm Cynon, sy'n dangos mai cyswllt agos ar aelwydydd oedd y ffynhonnell fwyaf arwyddocaol o ran trosglwyddiad. Gyda rheolau'r cyfyngiadau symud ar waith ers bron pedwar mis erbyn hyn, a Merthyr unwaith eto'n dangos cynnydd bach yn nifer yr achosion yng Nghymru, pa adnoddau a mesurau diogelu ychwanegol y gallwch chi eu rhoi ar waith yn lleol i liniaru achosion lleol fel yr un yr ydym ni'n eu gweld ym Merthyr? A pha negeseuon cymunedol y gallwn ni eu rhoi ar goedd ynglŷn â'r angen, nid yn unig i fynd i'r afael â'n mesurau ni o ran hylendid, ond i fanteisio ar y brechlyn hefyd, i sicrhau nad ydym ni'n gweld unrhyw frig arall mewn achosion eto? Diolch.
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Rwy'n credu, o ran eich pwynt chi am nifer y preswylwyr mewn cartrefi gofal—mae daeargi'r Alban wedi gadael yr adeilad erbyn hyn—yna fe fyddaf i'n sicrhau y byddaf i'n darparu esboniad am lanhau data nid yn unig i chi, Angela, ond i'r Aelodau hefyd; rwy'n siŵr y bydd yna rywfaint o ddiddordeb ehangach. Ac rwy'n credu y gallai hynny naill ai fod yn ddatganiad ysgrifenedig neu, ar un ystyr, yn fersiwn nesaf o'r naratif a ddarperir ar ddydd Mawrth neu ddydd Iau i roi esboniad priodol o ran sut y daethpwyd i'r ffigur hwnnw, a'r newid sydd wedi'i wneud i'r ffigur dros amser.
O ran eich pwynt chi ynglŷn ag aildrefnu apwyntiadau, mae trefnu'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn ymdrech aruthrol. Mae hynny'n golygu fod yna lawer o ddiddordeb ac mae yna bobl sy'n poeni ac yn cael gafael ar rifau ffôn ac yn ffonio pan nad oes angen iddyn nhw ffonio. Mae yna lawer o ddisgwyliadau a galw mawr o du'r cyhoedd. Pan fu'n rhaid i mi aildrefnu apwyntiad fy mam, fe ffoniais i'n ddiweddarach yn ystod y dydd ac roeddwn i'n gallu gwneud hynny, oherwydd fe sylwais i nad oedd hi'n hawdd cael drwodd ganol dydd nac yn y bore. Felly, y pwynt yw bod angen dyfalbarhau a bod yn awyddus i aildrefnu ond, mewn gwirionedd, y man cychwyn yw'r awydd i gael pobl yn bresennol ar yr amser y cynigir apwyntiad iddyn nhw.
Ac mae hwnnw'n rhywbeth y gwnaethom ni ei drafod yng nghyngor partneriaeth gymdeithasol yr wrthblaid, lle'r oedd undebau llafur yn awyddus i gael dealltwriaeth o anogaeth gan y Llywodraeth i gyflogwyr ddangos cydymdeimlad a rhyddhau pobl o'u hamser, oherwydd nid yw bob amser yn hawdd mynd i gael y brechiad os nad yw'r cyflogwr yn cydymdeimlo. Roedd cynrychiolwyr y cyflogwyr ar y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn gadarnhaol ynghylch dymuno i bobl gael eu brechu, gan eu bod nhw yn gallu gweld bod budd i'r unigolion hynny, ond yn fwy, i'w busnesau ac i'r bobl y maen nhw'n gweithio ochr yn ochr â nhw hefyd. Po fwyaf y gwnawn ni frechu pobl a'u hamddiffyn, y mwyaf y byddwn ni'n ei wneud i greu Cymru sy'n fwy diogel i bob un ohonom ni, yn ogystal â chreu amgylchedd i'r busnesau hyn wella eu rhagolygon eu hunain hefyd.
Ac felly, rydym yn ystyried nid yn unig roi neges gyhoeddus am hynny, ond negeseuon hefyd ar ddwy ochr y berthynas gyflogaeth, am geisio bod yn gadarnhaol a galluogi pobl i gael eu brechlynnau heb fod cost bersonol iddyn nhw, yn hytrach na dweud bod angen i bobl wneud hynny yn eu hamser nhw eu hunain. Byddai hynny'n llesteirio ein hymdrechion ni, mewn gwirionedd. Ac fe fydd hyn yn bwysicach byth wrth inni fynd drwy bob carfan o oedran. Pan fyddwn ni'n cyrraedd y rheini dan 50 oed, fe fydd angen i fwy a mwy o bobl o oedran gweithio fod â dull sy'n gyson ac sy'n galluogi cyfraddau brechu i barhau ar y cyflymder a welsom hyd yn hyn.
O ran cyswllt rhwng aelwydydd, ac roeddech chi'n sôn am Ferthyr Tudful yn benodol, ac rwy'n deall mai o gwmpas Gellideg yn benodol y digwyddodd hyn, gydag ychydig o strydoedd a oedd â nifer uchel iawn o achosion. Roedd teuluoedd estynedig a chyswllt wedi digwydd lle mae'n ymddangos bod cadw pellter cymdeithasol wedi mynd yn angof, ac mae'n ymddangos bod cyswllt wedi bod rhwng aelwydydd. Mae hynny'n amlygu'r ffaith mai'r cymysgu rhwng aelwydydd eraill—cymysgu dan do—yw'r ffordd y mae coronafeirws yn fwyaf tebygol o ymledu o hyd, ac ymledu'n gyflym iawn, fel rydym ni wedi gweld gyda'r clwstwr arbennig hwn. Ac mae'n pwysleisio pam y gwnaethom ni ofyn i'r cyhoedd wneud y peth iawn, nid er fy mwyn i'n bersonol, ond gan eich bod yn gallu gweld clwstwr gwirioneddol o achosion a fydd yn rhwystr mawr i ffordd pobl o fyw, ac fe allai rhai o'r bobl hynny fynd yn ddifrifol wael; ac fe allai rhai golli eu bywydau hefyd. Felly, mae yna bris i'w dalu, yn anffodus, os na wnaiff y cyhoedd barhau i gefnogi'r hyn sy'n anodd iawn—. Ac fe wn i nad yw'n ffordd ddymunol o fyw, hyd yn oed wrth inni ddod allan o'r cyfyngiadau symud, ond mae yna ystyr a diben priodol i hyn er mwyn ein cadw ni i gyd yn ddiogel. Ac rwy'n gobeithio y bydd yr achosion ym Merthyr yn atgyfnerthu ymddygiadau cadarnhaol pobl eraill, nid yn unig ym Merthyr ond ledled y wlad ynglŷn â'r peryglon sy'n bresennol o hyd, yn enwedig o ran amrywiolyn swydd Caint.
Ac o ran eich pwynt dechreuol chi ynglŷn â diogelwch y brechlyn a'r negeseuon cyhoeddus ynglŷn â chlotiau gwaed, rwy'n disgwyl cael cyfle i siarad am hyn eto. Mae'r prif swyddog meddygol wedi bod yn siarad am hyn heddiw ar y cyfryngau hefyd. Fe geir adroddiadau cyson ac amlwg iawn ar bob un o lwyfannau'r cyfryngau, radio a theledu, ac fe wn i fod y BBC, ITV a Sky i gyd wedi darlledu yn sylweddol ar y pwnc hwn, yn arbennig felly gan fod yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd y prynhawn yma wedi dweud eu bod nhw'n ailddatgan eu ffydd gadarn yn niogelwch y brechlynnau, ac mae balans y risg yn bendant yn ochri gyda chymryd y brechlyn a'r amddiffyniad ychwanegol y mae hwnnw'n ei roi. Yn fy marn i, yr hyn a wnaiff fwyaf o les fyddai i'r gwledydd Ewropeaidd hynny sydd wedi gwneud y penderfyniad hwn ar hyn o bryd, y bydden nhw'n ailfeddwl am eu dewisiadau ac yn ailgychwyn defnyddio'r brechlyn AstraZeneca.
Wrth gwrs, rydyn ni wedi llwyddo i frechu mwy o'n poblogaethau ni na'r rhan fwyaf o wledydd eraill yn Ewrop, ac maen nhw'n parhau i fod wrthi'n brechu pobl dros 70 oed lle mae'r risg o niwed yn uwch, hyd yn oed. Felly, mae yna achos gwirioneddol dros allu gweld rhaglen frechu sy'n cynnwys y brechlyn AstraZeneca yn cael ei rhoi ar y trywydd iawn unwaith eto, ac fe fydd hynny'n helpu pobl a allai fod fel arall yn bryderus iawn yn y wlad hon i fynd am yr amddiffyniad y mae'r brechiad yn ei gynnig. Ac fe ddylwn i egluro hefyd mai brechlyn AstraZeneca oedd yr un a gefais innau dros y penwythnos.
Rhyw ddau gwestiwn a dau bwynt sydd gennyf fi i'w gwneud, Weinidog. Mae'r ddau gwestiwn yn ymwneud â chwestiynau sy'n cael eu codi efo fi gan fy etholwyr i, a dwi'n siŵr efo Aelodau eraill gan eu hetholwyr nhw, ynglŷn â'r broses. Dwi eisiau dechrau, wrth gwrs, drwy ddiolch i bawb sy'n rhan o'r broses frechu. Mae'n dal yn gweithio'n dda. Rydyn ni'n amlwg ar y trywydd iawn.
Un o'r cwestiynau ydy beth sy'n digwydd ar ddiwedd y dydd. Mae pobl yn clywed o bosib o hyd am bobl yn cael i mewn drwy'r drws cefn achos eu bod nhw'n adnabod rhywun ac yn y blaen. Mae strategaeth ar gyfer defnyddio dosys sy'n mynd i fod ar ôl pan mae pobl yn peidio â throi fyny ar ddiwedd y dydd yn bwysig iawn. Rydych chi'n gwybod fy mod i'n eiddgar i weld pobl mewn swyddi penodol yn gallu cael eu blaenoriaethu. Rydych chi'n anghytuno efo fi ar hynny, ond a ddylid bod rŵan ymgais yn cael ei wneud i ddod â'r rheini i mewn mewn strategaeth gadarn iawn, hyd yn oed os mai dim ond i ddefnyddio'r dosys sbâr ar ddiwedd y dydd yw hynny?
Yn ail, rydych chi'n gwybod fel mae pobl yn dilyn data yn ofalus iawn, ac yn gweld beth sy'n digwydd o fewn eu bwrdd iechyd a gweddill Cymru ar hyn o bryd. Mae pobl yn gweld weithiau, ac yn anecdotaidd, o bosib, teimlad bod eu hardal nhw yn disgyn ar ei hôl hi. Dwi'n grediniol ein bod ni yn debyg o gyrraedd at y pwynt yn y pen draw rydyn ni i gyd eisiau ei gyrraedd tua'r un pryd. Ond pa fonitro ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau cysondeb ar draws Cymru, ac o fewn byrddau iechyd, ar gyflymder y broses frechu, i sicrhau nad oes yna wahaniaethau mawr o ardal i ardal?
Rŵan y ddau bwynt sydd gennyf i i'w gwneud. Mae fy etholaeth i, fy sir i, yn un o'r llefydd lle mae yna nifer ystyfnig o uchel o achosion o hyd. Dwi'n apelio arnoch chi i barhau i chwilio am ffyrdd arloesol a newydd o gyfathrebu peryg y feirws o hyd iddyn nhw, ac hefyd i chwilio am fwy o ffyrdd o gefnogi pobl. Mae yna bobl sy'n dal yn dewis peidio â mynd am brawf, neu sydd yn dewis peidio hunanynysu, oherwydd eu bod nhw'n poeni am oblygiadau hynny; o bosib pobl ar gyflogau isel sydd yn poeni am yr effaith ariannol arnyn nhw. Parhewch i chwilio, fel dwi wedi galw arno fo o'r dechrau, am ffyrdd o gefnogi'r rheini, a sicrhau bod pobl yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw i hunanynysu ac i fynd am brawf.
Mae'r llall o gwmpas AstraZeneca. Jest i wneud y pwynt fy hun, rydw innau'n meddwl ei bod hi'n hollol iawn bod pobl yn cymryd diddordeb mawr ac yn gofyn cwestiynau ynglŷn â diogelwch y brechlyn, ond mae'n rhaid atgoffa ein hunain, os oes yna brawf o gysylltiad efo ceulad gwaed—a does yna ddim eto—rydyn ni'n sôn am, o bosib, un mewn hanner miliwn o bobl sy'n cael y brechiad, fel yr eglurwyd inni mewn briefing y bore yma. Roeddwn i'n sbio ar adroddiad heddiw a oedd yn dweud bod un o bob pump sydd â COVID yn gallu cael math o geulad gwaed, ac un o bob tri o bobl sydd mewn adran gofal dwys. Felly, dyna'r realiti o ran lle mae'r risg go iawn.
O ran eich sylw chi ynglŷn â strategaeth ar gyfer brechiadau ar derfyn dydd, o ystyried y garfan oedran yr ydym yn gweithio drwyddi ar hyn o bryd, sef pawb 50 oed ac yn hŷn, a'n bod ni'n cynnal ein rhaglen i roi ail ddos i bobl, fe fyddwn yn gallu defnyddio'r cyflenwadau sydd gennym ni nawr heb unrhyw anhawster. Rydym yn cyfeirio pigiadau Pfizer, i raddau helaeth iawn, ar hyn o bryd tuag at y rhaglen i roi'r ail ddos, oherwydd dyna'r cam yr ydym ni'n parhau i weithio drwyddo o ran y dosau cyntaf a gawsom ni cyn i bigiadau AstraZeneca fod ar gael a'u cyflwyno'n ehangach. Ond o ran ein defnydd ni o AstraZeneca, nid yw'n wir ein bod ni'n disgwyl gweld llawer iawn o wastraff, a dyna un o'r pethau gorau, yn fy marn i, yr ydym wedi'i wneud gam cynnar; rydym wedi bod yn cyhoeddi ein ffigurau o ran gwastraff, sy'n dangos bod y rhaglen yng Nghymru nid yn unig yn mynd rhagddi'n gyflym iawn, ond yn effeithlon iawn hefyd, gyda chyfraddau isel iawn o wastraff. Mae hynny, unwaith eto, er clod i'r rhaglen a'r amser a gymerwyd yn fwriadol ar y dechrau i drefnu popeth yn iawn yn y ffordd y gwnaethom sefydlu'r rhaglen. Wrth inni nesáu at ddiwedd y garfan hon, ac wrth inni geisio dechrau arni gyda'r ystod oedran nesaf, efallai y byddwn ni'n gweld amser pan fydd yr angen am gynllun terfyn dydd yn mynd yn fwy tebygol. Rydym wedi paratoi canllawiau ysgrifenedig a'u rhoi i'r gwasanaeth ynglŷn â gwneud hynny, felly nid ydym yn dymuno gweld unrhyw frechlyn yn cael ei wastraffu, mae hynny'n bendant. Rydym wedi cael amrywiaeth o sgyrsiau gyda gweithwyr yn y gwasanaethau brys ac eraill—ond nid wyf i o'r farn fod honno'n broblem i ni ar hyn o bryd, o ystyried maint y gwaith a niferoedd y bobl y mae'n rhaid inni eu brechu a'r carfannau sy'n dal i fod ar gael.
Fe fydd yn rhaid imi drafod gyda swyddogion ynghylch symud at y grŵp oedran dan 50 oed hefyd. Fe gofiwch ein bod ni fwy neu lai wedi cwblhau pan oeddem wedi gweinyddu 80 y cant o grwpiau 1 i 4 i bob pwrpas, a'r lleill wedyn yn cael eu gwahodd i'w hapwyntiadau nhw. Bryd hynny, roeddem ni'n gallu dechrau gwahodd pobl yn yr ystodau oedran nesaf fel mater o drefn, ar gyfer rhan nesaf y broses gyflwyno. Felly, mae angen inni edrych eto ar y dull y byddwn yn ei gymryd a chadarnhau cyn gynted â phosibl yr hyn fydd yn digwydd ar gam nesaf y rhaglen frechu. Ac rydym yn edrych ar y cyflymder ledled Cymru; mae honno'n sgwrs yr ydym ni'n ei chael yn wythnosol yn y bwrdd brechu. Felly, mae honno'n sgwrs, ac mae'n sgwrs agored, mewn ffordd gystadleuol bendant. Mae pob rhan o Gymru yn eiddgar i weld pa mor gyflym y gellir gwneud cynnydd. Ym mhob rhan o Gymru, rwy'n credu bod y rhaglen frechu mewn sefyllfa dda, ac mae honno'n broblem dda i'w chael o ran pa mor gyflym y gallwn ni fynd, yn hytrach na chael pobl ar ei hôl hi neu'n eithriadau. Ac eto, pan gymharwch chi ni â gwledydd eraill yn Ewrop, rydym ni'n gwneud yn arbennig o dda.
Fe hoffwn i ailadrodd y dylai pobl gael prawf a cheisio cymorth. Mae profi, olrhain a diogelu yn cynnwys olrhain cysylltiadau, ond hefyd y rhan gefnogol o'r drefn hon, sef yr elfen honno o 'ddiogelu'. Mae pobl sy'n ynysu'n cael galwadau rheolaidd—i sicrhau eu bod nhw'n ynysu, ond hefyd, ac yn bennaf, i sicrhau bod yna wiriad o'u llesiant nhw, bod cyfle i siarad â rhywun, a sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o ble y gallan nhw gael cymorth a chefnogaeth ymarferol i ymdopi ag unigedd. Mae hunanynysu yn parhau i fod yn bwysig iawn er mwyn amddiffyn y bobl o'ch cwmpas chi. Dyma un o'r pethau mwyaf effeithiol y gallwn ni ei wneud i atal lledaeniad y feirws, ac fe fydd hynny'n bwysicach byth wrth inni fynd trwy bob cam o ddatgloi rhagor o gyfyngiadau.
Ac yn olaf, o ran clotiau gwaed, mae'n fater o ffaith bod y perygl o glotiau gwaed ar hyn o bryd yn fwy, yn ôl y dystiolaeth fel yr ydym ni'n ei deall hi, yn y boblogaeth sydd heb ei brechu, o'i chymharu â'r boblogaeth sydd wedi cael brechlyn AstraZeneca. Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod y cyfraddau ychydig yn llai mewn gwirionedd. Ac nid oes unrhyw dystiolaeth yn cysylltu clotiau gwaed â'r brechlyn AstraZeneca ynddo'i hun. Rwy'n sylweddoli bod gwledydd eraill yn dymuno gweithio eu ffordd drwy hyn. Ond rwyf i'n bendant yn hyderus yn y dystiolaeth sydd gennym ni ledled y DU, ar ôl gweinyddu mwy na 12 miliwn o ddosau o'r brechlyn AstraZeneca. Mae niferoedd y bobl sydd wedi cael clot gwaed heb unrhyw dystiolaeth fod hynny wedi digwydd oherwydd y brechlyn yn is nag yng ngweddill y boblogaeth. Felly, mae hyn yn ofid. Gadwech inni obeithio y bydd pobl yn edrych ar y dystiolaeth, ac yn gweithredu yn ôl y dystiolaeth, er mwyn eu hamddiffyn nhw eu hunain ac annog pobl eraill i gael yr amddiffyniad hwnnw. Oherwydd mae cael COVID yn golygu eich bod chi'n llawer mwy tebygol o gael clot gwaed ac yn llawer mwy tebygol o ddioddef niwed difrifol.
Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog.