– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 16 Mawrth 2021.
Eitem 5 ar yr agenda'r prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol. Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith y grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol. Ers fy niweddariad diwethaf i, mae ein gwaith ni i archwilio goblygiadau anghenion cynyddol y boblogaeth i wasanaethau gofal cymdeithasol, a datblygu dewisiadau ymarferol i fynd i'r afael â hyn, wedi parhau. Yn anochel, mae'r pandemig wedi effeithio ar ein cynlluniau ni. Yn anffodus, nid oedd modd cynnal y sgwrs genedlaethol a gyhoeddais i yn fy natganiad blaenorol, am resymau yr wyf i'n siŵr y bydd yr Aelodau yn eu deall. Mae'r pandemig wedi amlygu pwysigrwydd a breuder y sector. Mae'r heriau hirdymor yn parhau, a phan fyddwn ni wedi dod trwy'r pandemig, fe fydd angen mynd i'r afael â nhw eto.
Mae'r galw am ofal a chymorth yn y boblogaeth yn golygu na fydd gwasanaethau sydd dan bwysau eisoes yn ateb anghenion y dyfodol heb i gamau gael eu cymryd. Mae'r Sefydliad Iechyd wedi defnyddio gwaith gan Ysgol Economeg Llundain i ragweld costau gofal cymdeithasol i oedolion a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru. Mae hwnnw'n dangos y gallai costau gynyddu 80 y cant mewn termau gwirioneddol rhwng 2015 a 2030, ac mae'r amcangyfrifon hyn yn ategu dadansoddiad byrdymor gan Wasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025. Er mai da o beth ar ryw ystyr yw poblogaeth sy'n heneiddio, ac yn rhywbeth i'w ddathlu, mae ymgodymu â thalu am ofal yn ymdrech enfawr i lawer o Lywodraethau. Rydym ni o'r farn y byddai'n well cael datrysiad i gyllid gofal cymdeithasol sy'n cynnwys y DU gyfan, oherwydd fe allai hynny roi ystyriaeth briodol i'r cysylltiad pwysig rhwng y system dreth a budd-daliadau. Eto i gyd, o gofio bod datrysiad ledled y DU yn annhebygol iawn am beth amser i ddod, mae angen inni ddatblygu atebion hirdymor sy'n gynaliadwy i Gymru, a fydd yn gofyn am rywfaint o gytundeb ar draws y pleidiau.
Mae'r grŵp rhyngweinidogol yn awyddus i rannu'r wybodaeth a gafwyd am y materion heriol hyn. I ategu ein gwaith ni, fe gafodd dadansoddiad ei gomisiynu gennym, cyn y pandemig, ynglŷn â phwysau'r gost o fewn y sector, ac rwyf i wedi gwneud yn siŵr bod yr adroddiad hwn ar gael i'r Aelodau heddiw. Mae dadansoddiad o ddata a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi dangos gwariant cyfredol net ar wasanaethau cymdeithasol yn codi yn unol â'r senario cost uchel a ddisgrifiwyd yn y dadansoddiad. Pe byddai'r duedd honno'n parhau, fe allai gwariant cyfredol net ar wasanaethau cymdeithasol fod hyd at £400 miliwn yn uwch yn 2022-23 nag yr oedd yn 2019-20, ac mae hyn yn awgrymu bod pwysau cost cynyddol o'n blaenau ni er mwyn cynnal y gyfradd bresennol o ddarpariaeth yn unig. Fe wnaethom ni hefyd gomisiynu LE Wales i ddarparu dadansoddiad a chostau manwl o rai opsiynau ar gyfer addewid o ofal cymdeithasol. Rwyf wedi rhannu'r adroddiad hwn heddiw hefyd. Fe ystyriwyd diwygiadau posibl i'r mecanwaith presennol o godi tâl, a'r tri opsiwn a ystyriwyd yn fanylach oedd: darparu gofal personol a ariennir yn llawn, yn y cartref ac mewn gofal preswyl; gofal dibreswyl a ariennir yn llawn; a chyfraniad tuag at gostau preswyl.
Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i opsiynau'r gweithlu ynglŷn â gwelliannau i gyflogau, telerau ac amodau. Mae'r rhain yn cynnwys talu'r cyflog byw gwirioneddol a gweithredu'n llawn ar gyflog a thelerau ac amodau sy'n cyfateb i Agenda ar gyfer Newid y GIG, ymhlith pethau eraill. Yn ogystal â'r opsiynau hyn, rydym ni'n cydnabod swyddogaeth bwysig tai o ran cyflymu'r newid i fodelau newydd o ran gofal. Mae'r opsiwn 'tai â gofal', sy'n cael ei ystyried y tu hwnt i adroddiad LE Wales, yn ceisio adeiladu ar raglen gyfalaf bresennol y gronfa gofal integredig. Mae'r opsiwn hwn yn cynnig nifer o opsiynau ar gyfer buddsoddi cyfalaf i gryfhau'r seilwaith tai a gofal cymdeithasol.
Mae'n amlwg o'r dadansoddiad bod y costau posibl sy'n gysylltiedig â phob un o'r opsiynau, fel yr oeddem ni'n disgwyl, yn uchel iawn. Mae hyn yn arwain at ein hystyriaethau ni ynghylch sut y gellid ariannu'r addewid o ofal cymdeithasol. Fe fuom ni'n archwilio rhai egwyddorion o ran dylunio treth, gan adeiladu ar nifer o gysyniadau a nodir yn adroddiad Athro Holtham, ac roedd y rhain yn cynnwys nodi faint o arian y byddai angen ei godi bob blwyddyn ac yn rheolaidd i ariannu addewid o ofal cymdeithasol; pwysigrwydd neilltuo cyllideb o'i gymharu â hyblygrwydd cyllidebol; a allai'r budd fod ar gael yn unig ar sail cyfraniad; a chyfleoedd i fynd i'r afael â thegwch rhwng y cenedlaethau. Yn ogystal â hynny, fe wnaethom ni ystyried casglu a gweinyddu unrhyw opsiwn o ran trethiant, yn ogystal ag unrhyw awydd gan Lywodraeth y DU i ddatganoli trethiant ymhellach.
Mae'r pandemig a'r camau i'w reoli wedi arwain at gynnydd sydyn ym menthyca a dyled Llywodraeth y DU. Yn yr amgylchedd cyllidol heriol hwn, mae'r rhagolygon ar gyfer gweithgarwch economaidd a chyllid y sector cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i fod yn ansicr iawn. Fe fyddai'n rhaid i unrhyw benderfyniad ynghylch yr angen i Lywodraeth y DU ddefnyddio ysgogiadau o ran polisi treth yng Nghymru, yn ogystal â dull ac amseriad hynny, ystyried y posibilrwydd y gallai Llywodraeth y DU weithredu mesurau cyllidol eraill a fyddai'n effeithiol yng Nghymru, a'r angen i gefnogi adferiad economaidd yng Nghymru wrth gynhyrchu'r refeniw treth i dalu am wasanaethau cyhoeddus Cymru.
Gan ystyried effaith y pandemig a'r hinsawdd economaidd ac ariannol heriol, ein casgliad ni yw bod datrysiad o ran trethiant ar gyfer codi arian ar gyfer gofal cymdeithasol bellach yn fwy o ateb posibl yn y tymor hwy ac nid ateb sy'n debygol yn y dyfodol agos. Fe fyddai peidio â chynyddu trethiant yn golygu na allwn ni gynyddu nac ailgyfeirio adnoddau i wella gofal cymdeithasol yn y ffordd y byddem ni wedi hoffi gwneud hynny drwy'r addewid o ofal cymdeithasol. Rwy'n awyddus i bwysleisio nad ydym yn osgoi mynd i'r afael â'r materion hyn, ond rydym wedi mabwysiadu'r hyn sydd, yn fy marn i, yn ddull gonest a phragmataidd o ystyried yr amgylchedd cyllidol yr ydym ni ynddo.
Mae hyn yn fy arwain i at fesurau a nodwyd yn sgil ein gwaith ni a allai, yn amodol ar flaenoriaethu cyllideb gan Lywodraeth newydd, gael eu gweithredu ar fwy o gyflymder ac felly fod yn bont i ddiwygiadau eraill mwy eang yn y tymor canolig i'r hirdymor. Mae'r mesurau hyn, y gellid cychwyn arnyn nhw yn y tymor byr, a'u gweithredu cyn gynted ag y bo hynny'n fforddiadwy, yn cynnwys gweithio tuag at gyflwyno cyflog byw gwirioneddol i'r gweithlu. Roedd LE Wales yn amcangyfrif y byddai hyn £19 miliwn yn ychwanegol uwchlaw'r codiad isafswm cyflog cenedlaethol rhagamcanol ar gyfer blwyddyn 1, a rhywfaint o fuddsoddiad cyfalaf i alluogi gwell datrysiadau o ran tai, tua £70 miliwn i £80 miliwn y flwyddyn am raglen o bum mlynedd.
Fe fyddai cefnogaeth i'r cyflog byw gwirioneddol yn gyson â'n hagenda gwaith teg ni. Rydym ni'n gweithio, yn rhan o'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, i ystyried beth arall y gellir ei wneud i helpu i sicrhau bod gofal cymdeithasol yn weithle mwy deniadol i fod ynddo. Fe fyddai hyn yn cael ei wella hefyd drwy gynigion yn ein Papur Gwyn diweddar ni, 'Ailgydbwyso gofal a chymorth', sy'n argymell fframwaith comisiynu cenedlaethol ar gyfer arwain unrhyw fuddsoddiad ychwanegol gan y gweithlu. Yn y bôn, mae'r her sy'n wynebu Cymru o ran demograffeg yn golygu na ellir peidio â rhoi sylw i'r materion a archwiliwyd gan y grŵp. Fe fydd angen i'r Llywodraeth nesaf barhau i ganolbwyntio ar y maes allweddol hwn. Rydym ni wedi datblygu corff cyfan o dystiolaeth, gan osod sylfaen gref ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i ddiolch i holl swyddogion Llywodraeth Cymru a grwpiau allanol eraill sy'n cefnogi gwaith y grŵp rhyngweinidogol, a diolch i'm cyd-Weinidogion i ac, yn benodol, i'r cyn-gadeirydd, Huw Irranca-Davies, am y gwaith a wnaeth ef wrth arwain y gwaith hwn ar y cychwyn.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Fe fyddai unrhyw un yn meddwl fod yna etholiad ar droed, oherwydd mae'r datganiad hwn yn amlwg iawn yn gohirio eich syniadau chi am fod â threth gofal cymdeithasol ac yn ceisio anghofio amdanyn nhw, ac nid wyf i'n synnu o gwbl eich bod chi wedi gwneud felly. Serch hynny, wrth edrych yn ôl ar adroddiad y grŵp rhyngweinidogol, mae hwn yn sicr, drwy eu gwaith nhw, wedi gosod sylfaen ar gyfer treth gofal cymdeithasol y Blaid Lafur, ac rwyf i yma i ddweud na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn trethu'r henoed i ddarparu am ofal cymdeithasol.
Rydym ni'n credu mai hawl pobl oedrannus yw cael y gofal haeddiannol sydd ei angen arnyn nhw, ac fe wyddom ni fod yna arian yn y system, ond ni cheir yma'r cynllunio clir na'r ymdrech ddigonol i ddatrys y broblem hon. Felly, nid wyf i'n gallu cytuno â'r sylw arall y gwnaethoch chi ei gelu'n ddwfn yn y datganiad hwn ynglŷn â chyflwyno ardoll yn y tymor hwy. Eto i gyd, rwy'n cytuno bod y sector gofal cymdeithasol yn fregus, ac mae'n rhaid cymryd camau'n fuan, ac rwy'n cytuno ein bod ni'n wynebu her ddemograffig. Mae honno'n her i'w chroesawu—mae oes hir yn rhywbeth i'w ddathlu—ond mae'n her serch hynny.
Rwyf wedi darllen yr adroddiad gan LE, ac mae hwnnw'n ddiddorol iawn, ac rwyf i o'r farn fod llawer iawn ynddo y dylem ni ddysgu oddi wrtho a'i ddefnyddio ar gyfer llunio datrysiad posibl. Ond yr hyn yr hoffwn i ei wybod a'i ddeall yw, yn ystod gwaith y grŵp rhyngweinidogol yn y gorffennol, faint o amser a roddwyd i edrych ar y 'sut' a'r gost bosibl wrth ein cyfeirio ni i gyd tuag at ffyrdd o fyw sy'n fwy iach. Rydym ni wedi siarad llawer am y ffaith mai tlodi, gordewdra, dibyniaeth ar sylweddau, ysmygu, alcohol, diffyg ymarfer corff, yng nghwrs ein bywydau ni, o oedran plentyn hyd at yr oedolyn hŷn, fydd y dylanwadau sylweddol ar ansawdd ein blynyddoedd diweddarach ni. Dyna'r maes y mae angen inni dreulio amser yn mynd i'r afael ag ef, yn hytrach na dim ond dweud, pan fyddwch chi wedi cyrraedd oedran teg ac nid ydych chi mewn cyflwr da dros ben, 'Mae'n rhaid ichi dalu am eich gofal.' Felly, fe fyddai'n dda iawn gennyf i glywed beth maen nhw wedi bod yn edrych arno o ran hynny.
A ydych chi hefyd, hoffwn i wybod, yn cytuno â'r egwyddor y dylai talu am ofal cymdeithasol fod yn risg a rennir ledled ein cenedl ni yn yr un modd ag yr ydym ni'n talu am ein GIG? Oherwydd os ydym yn dweud, 'Rydym ni am wneud ichi dalu am eich gofal cymdeithasol pan fyddwch chi'n hyn', dyna ddiwedd ar unrhyw degwch yn fy marn i.
Rydych chi'n sôn hefyd am yr angen i wella telerau cyflog staff gofal. Rwy'n cytuno'n llwyr, ac mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun cadarn iawn i recriwtio a grymuso staff gofal, i dalu isafswm absoliwt o £10 yr awr iddyn nhw, a mwy gyda hyfforddiant a chyfrifoldebau. Felly, a ydych chi am geisio recriwtio a grymuso staff gofal yn y byrdymor, oherwydd rydych chi'n dweud mai problem fyrdymor yw hon yn ogystal â bod yn gynllun i'r hirdymor?
Wrth edrych ar y cynigion a gyflwynodd Gerry Holtham, roedden nhw i bob pwrpas yn golygu y gallech fod yn talu mwy o dreth yn syth ar ôl ichi ymddeol ac fe fyddai eich incwm chi'n lleihau. A edrychodd y grŵp gweinidogol ar y materion a fyddai'n effeithio ar gyfrifiadau Holtham, megis diweithdra, oherwydd rwyf i o'r farn fod honno'n elfen wirioneddol allweddol, mewn gwirionedd, ac fe fyddai hi'n dda iawn gennyf gael gwybod a wnaeth LE adolygu hynny hefyd?
Rydych chi'n sôn am yr angen i gynnwys cytundeb trawsbleidiol i allu cyflwyno hyn dros y tymor hwy, ac nid wyf i'n anghytuno â hynny o reidrwydd. Ond a wnewch chi amlinellu hefyd sut y bydd pobl hŷn, ac ystod eang o'u cynrychiolwyr nhw, yn gallu bod â rhan wrth gynhyrchu unrhyw bolisi newydd ar y cyd mewn ffordd sydd o werth gwirioneddol?
Yn olaf, yn fy marn i, hyd nes y caiff y cyllidebau eu cyfuno'n llwyr o fewn gofal cymdeithasol a gofal iechyd, fe fydd yna frwydr galed i integreiddio gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac, yn fy marn i, fe fydd yn rhaid i rywun wynebu'r ffaith honno er mwyn i hynny ddigwydd. Dyna wnaiff ysgogi hynny oherwydd yr arian sydd yn ben ar wasanaethau cyhoeddus a dyna fydd yn ysgogi'r integreiddio hwnnw ac yn gwneud y dull hwn o wneud penderfyniadau a chynllunio penderfyniadau yn llawer, llawer haws ac yn llawer iawn mwy cydlynol. Diolch, Gweinidog.
Diolch i chi am y sylwadau a'r gyfres yna o gwestiynau. Yn rhyfedd iawn, mi fyddwn i'n cytuno â rhai ohonyn nhw—rhai o'r sylwadau a wnaethoch chi—ac mae yna eraill nad wyf i'n cytuno â nhw. Fe fyddaf i'n gweld eisiau Angela pan na fydd hi yn y Siambr mwyach, er mai ei dewis hi yw hynny, a'r pleidleiswyr fydd yn pennu fy nhynged i yn yr etholiad sydd i ddod.
Ond rwyf i yn credu fod yno her wirioneddol i'r Ceidwadwyr Cymreig a'u hagwedd tuag at y dyfodol. Rwy'n credu bod clywed y Blaid Geidwadol yn sôn yng Nghymru am godi tâl i bobl yn y sector gofal cymdeithasol yn rhywbeth i'w groesawu—mae hwnnw'n newydd da yn fy marn i. Ond rwy'n credu y ceir her wirioneddol ynglŷn â'r dull o gyflawni hynny, oherwydd fe fydd hynny'n gofyn am flaenoriaethu mewn termau cyllidebol. Ac o ran her ein sefyllfa ni, nid wyf i'n credu y bydd modd ysgogi'r symiau o arian i gynyddu'r hyn y gallwn ni ei wneud o fewn gofal cymdeithasol heb ystyried cymorth ariannol mwy sylweddol ar gyfer hynny. Ac nid wyf i'n credu y bydd y cynllunio clir i ryddhau arian yn eich galluogi chi i gyflawni hynny—dull y consuriwr yn tynnu rhywbeth o'i het i wneud pethau'n fwy effeithlon ac y gallwch chi dynnu symiau enfawr o arian o'ch het hudol. Pe byddem ni'n siarad â llywodraeth leol o bob lliw a llun gwleidyddol, gan gynnwys awdurdodau Ceidwadol neu glymblaid, nid wyf i'n credu y bydden nhw'n dweud bod adnoddau enfawr heb eu defnyddio ar gael o fewn y system yn aros i rywun eu canfod a'u rhoi ym mhocedi'r gweithwyr. Rwy'n credu y bydd yn cymryd mwy na hynny. Ac fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'r duedd bresennol yn dangos y gallai fod angen inni wario hyd at £400 miliwn erbyn 2022-23, a hynny ddim ond er mwyn darparu'r hyn sydd gennym ni eisoes, ac nid i ddarparu gwell gofal ond i ddarparu'r un gofal; a pheidio â chodi cyflogau'r staff, ond eu cadw nhw ar yr un cyfraddau cyflog a'r un math o ofal. Ac mae hynny'n dangos lefel yr her sy'n ein hwynebu ni.
Felly, wrth gwrs, mae hon yn her, ac ar hyn o bryd yn y cylch economaidd—economeg Keynes clasurol yw hyn—nid dyma'r amser i godi trethi. Felly, nid yw'n golygu gohirio ac anghofio; mae'n golygu ymateb i'r sefyllfa bresennol. Ac fe newidiodd y cyd-destun yn ystod gwaith y grŵp rhyngweinidogol, wrth gwrs, oherwydd roeddem ni ar fin dymuno dechrau sgwrs genedlaethol, i siarad am hyn yr oeddem ni'n ei olygu a sut y gallem ddenu symiau sylweddol o adnoddau ychwanegol i'r sector gofal cymdeithasol. Mae'r pandemig wedi newid nid yn unig ein gallu ni i gael y sgwrs, ond y cyd-destun yr ydym yn gweithredu ynddo, a hynny'n gwbl sylfaenol.
Felly, ydym, rydym ni'n ystyried amrywiaeth o feysydd eraill. Rwyf wedi sôn am yr opsiynau tai eisoes. Ac ni chaiff yr her sydd gennym ni ei datrys drwy newid ein ffordd ni o fyw, yn fy marn i. Fe wyddom fod gennym her ehangach o ran iechyd y cyhoedd a dyna'r gwaith y mae Eluned Morgan yn arwain arno ar hyn o bryd. Mae ein rhaglen 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn bwysig i bobl o bob oed ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod ni'n byw'n iach. Ond mewn gwirionedd, pan fyddwch chi'n meddwl am ein heriau ni o ran tai, rydym wedi amcangyfrif y bydd angen cynnydd sylweddol mewn unedau gofal ychwanegol arnom ni. Wel, dim ond tua 500 o unedau gofal ychwanegol a ddarparwyd ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Felly, mewn gwirionedd, mae angen cymryd cam bras ymlaen o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i allu ymateb i'r her, yn ogystal â dymuno gwella canlyniadau iechyd y cyhoedd i'r boblogaeth gyfan.
O ran eich pwynt chi ynglŷn â thalu am ofal cymdeithasol sydd â risg a rennir, fel y GIG, wel, fe fydd hynny'n gofyn am rywfaint o gytundeb. A rhan o'r her wrth wneud hynny yw'r ffordd yr ydym ni wedi ein strwythuro ar hyn o bryd ac mae'r diffyg o ran datrysiad i'r DU gyfan yn rhan o'r hyn sy'n ein rhwystro ni. Fe fydd yna derfyn ar yr hyn y gallwn ni ei wneud cyn y gallwn ddechrau ymyrryd a gweld canlyniadau anfwriadol o bosibl yn y system dreth a budd-daliadau ehangach. Yn wir, fe gynhyrchodd y pwyllgor dethol trawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin, cyn yr etholiad diwethaf, adroddiad yn mynegi safbwynt o blaid codi refeniw treth ar gyfer gallu cyflawni ar raddfa llawer mwy sylweddol. Ac fe fyddai hynny wedyn wedi bod yn rhywbeth y byddem ni'n ei rannu ledled y DU gyfan, gyda symiau sylweddol o arian a fyddai wedi dod i bob Llywodraeth genedlaethol ddatganoledig. Roedden nhw'n cefnogi math o drethiant hefyd sy'n gysylltiedig ag oedran, yn debyg iawn i'r hyn sy'n digwydd yn Japan. Felly, mae yna ddadl agored anorffenedig a pharhaus ynglŷn â'r hyn y gallai'r dyfodol ei gyflwyno inni. Dyma'r sefyllfa ar hyn o bryd: y gallu i wneud gwahaniaeth drwy fwrw ymlaen â'r gwaith ar integreiddio y cyfeiria'r Aelod ato, o ran gwella'r cyfraddau cyflog ac ansawdd y gofal a ddarperir, ac mae gennym weithlu brwdfrydig mewn system a allai, gyda'r diwygiadau a nodir yn y Papur Gwyn yr ymgynghorir arno ar 6 Ebrill, newid gofal cymdeithasol yn sylweddol, ond rydym ni'n cydnabod y bydd mwy gan y Llywodraeth nesaf i'w wneud eto. Ond rwy'n credu, fel y dywedais i yn y datganiad, fod hon yn sylfaen gref ar gyfer datblygu'r gwaith hwnnw ar gyfer unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol.
Yn ysbryd bod yn bositif, mi ddywedaf i, i ddechrau, fy mod i'n cydymdeimlo, yn sicr, efo'r Gweinidog, i'r graddau bod y pandemig, wrth gwrs, wedi cael impact dwys iawn ar y cyd-destun ehangach ac ar ein capasiti ni i gyd i bwyso a mesur yr hirdymor ar gyfer iechyd a gofal. Ac mae'r pwysau yna ar gapasiti, wrth gwrs, yn bwysau go iawn. Rydym ni yn ei weld o ym mlinder ein staff ni. Rydym ni'n ei weld o yn y pwysau ariannol digynsail sydd yna ar y coffrau cyhoeddus yn y cyfnod acíwt yma o hyd o ymateb i'r pandemig. Ond i mi, rhoi mwy o reswm i ni weithredu, nid llai, mae profiad y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni wedi gweld yn blaenach nag erioed y diffyg statws, y diffyg sylw a buddsoddiad sydd wedi mynd i mewn i ofal cymdeithasol. Rydym ni wedi gweld y diffyg parch oedd yna i staff gofal. Rydym ni wedi cael prawf cliriach nag erioed bod ein gwasanaethau iechyd ni'n anghynaliadwy, yn or-ddibynnol ar ewyllys da staff, mewn cyflwr o reoli crisis yn llawer rhy aml, ac efo prinder staffio ddylai fod wedi cael ei ddatrys ers blynyddoedd. Felly, tra buasai Llywodraeth Plaid Cymru yn sicr eisiau rhoi cynllun gweithredu brys mewn lle i adfer gwasanaethau ar ôl COVID, nid dod yn ôl i normal fyddai'r nod, ond trawsnewid gwasanaethau ar gyfer yr hirdymor, ac mae hynny yn yr hinsawdd yma, wrth gwrs, yn anferth o her.
Wrth galon ein cynlluniau ni, mae creu gwasanaeth iechyd a gofal newydd sy'n cynnig fframweithiau clir, fel rydym ni'n eu gweld nhw, ar gyfer sut mae byrddau iechyd a Llywodraeth leol yn delifro iechyd a gofal mewn ffordd unedig, seamless, efo cyllidebau wedi'u huno, ac ati. Mae hynny'n golygu trin y gweithlu iechyd a gofal ar yr un lefel, yr un amodau a graddfeydd cyflogau, p'un ai ydyn nhw'n weithwyr gofal neu iechyd.
A'r rhan arall cwbl allweddol i hyn wedyn, wrth gwrs, ydy beth sydd gennym ni o'n blaenau ni heddiw yma, sef dyfodol gofal cymdeithasol a sut rydym ni'n talu amdano fo. Yn syml iawn, mae'n rhaid i ni symud rŵan at ddarparu gofal am ddim lle mae ei angen o, fel mae gofal iechyd. Sut mae hi'n gwneud synnwyr o hyd bod rhywun efo dementia yn gorfod talu, a rhywun efo salwch arall, fel canser, ddim? A dwi ddim am eiliad yn dweud bod hyn am fod yn hawdd, neu buasai o wedi'i wneud ers talwm, mae'n siŵr. Yn wir, mae'r Gweinidog wedi nodi ei hun rhai o'r heriau sydd gennym ni, yn cynnwys, wrth gwrs, y damcaniaethau ar gyfer y cynnydd mawr mewn costau gofal mewn blynyddoedd i ddod. Ond cofiwch mai cynnydd ar y raddfa yna os ydym ni'n cadw pethau fel maen nhw ydy hynny. Ac mae'n rhaid i ni gynnwys, fel rhan o'r hafaliad ar gostau, yr hyn ddylem ni fod yn anelu i'w arbed drwy chwyldroi'r ffordd rydym ni'n meddwl am yr ataliol, yn cadw pobl i fyw yn fwy ffit, yn fwy annibynnol yn hirach.
Dwi'n ddiolchgar iawn i Age Cymru am grynhoi'n dda iawn beth ydy eu gweledigaeth nhw mewn datganiad wnaeth ymddangos yn fy inbox i heddiw. Mae o'n ddrych o beth dwi eisiau ei weld, mewn difrif. Mae hyn yn gwestiwn o degwch cwbl sylfaenol, medden nhw. Mae eisiau tegwch o ran pwy sy'n talu a sut rydym ni'n talu, ac maen nhw'n nodi, ymhlith eu hegwyddorion craidd nhw, bod rhaid rhannu'r risg ar draws cymdeithas. Wrth gwrs, mae yna fwy nag un ffordd o rannu risg. Dwi'n dal yn grediniol bod modd cynnwys hwn o dan y drefn trethiant gyffredinol os ydym ni'n edrych arno fo fel rhan o dirwedd iechyd a gofal sydd wedi ei thrawsnewid, a dyna sut dwi eisiau gwireddu hyn. Ond, wrth gwrs, mi edrychwn ni ar bod opsiwn mewn Llywodraeth. Fy nghwestiwn i'n syml: ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod yr amser wedi dod rŵan, o'r diwedd, i weithredu ar hyn, a bod heriau yna i'w goresgyn, nid i'n stopio ni?
Wel, rwy'n credu fy mod wedi nodi yn fy natganiad fod yna gamau yr ydym ni'n bwriadu eu cymryd. Mae yna gamau i'w cymryd, ond mae yna heriau na allwch chi eu hosgoi na'u hanwybyddu. Os na chawn ni ateb ledled y DU, mae angen inni feddwl am yr adnoddau sydd ar gael i ni, sut rydym ni'n eu defnyddio nhw, a sut rydym ni'n nodi'r amcanion y gellir eu cyflawni i ddwyn pethau ymlaen. Nawr, rydym wedi nodi'r gost ar gyfer cyflog byw gwirioneddol. Rydym wedi nodi y byddem ni'n dymuno gweld cynnydd yn cael ei wneud o ran tai, fel blaenoriaeth uniongyrchol arall. Ac mae'n werth nodi fy mod i'n credu, yn y casgliad y daethom iddo, ein bod ni o'r farn y byddai angen o leiaf 1,500 o gyfleusterau gofal ychwanegol arnom ni yng Nghymru erbyn 2025, a hynny ar ben y 500 a ddarparwyd ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Felly, fe fyddai hynny'n gynnydd sylweddol o ran darparu gwell opsiynau o dai a fyddai'n cynnig gwell gofal, ac yn caniatáu, unwaith eto, i bobl aros yn eu cartrefi nhw eu hunain. Fe fyddai hynny'n ein helpu ni o ran yr agenda ataliol a lles yn fwy eang, ac mewn gwirionedd nid yw hyn yn rhywbeth sy'n cymryd lle gwneud cynnydd ar yr agenda ataliol, nid yw'n rhywbeth sy'n disodli trawsnewid y ffordd yr ydym ni'n darparu iechyd a gofal. Nid yw hyn yn rhywbeth sy'n disodli symud tuag at system gofal iechyd sy'n wirioneddol gynaliadwy ac sy'n gweithio ochr yn ochr fel partner integredig priodol â gofal cymdeithasol.
Ac rwy'n dwyn i gof y cyfarfod a gefais gydag aelodau cabinet gofal cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a'r briff a roddais i iddyn nhw, gyda swyddogion CLlLC, yn llythrennol ychydig cyn inni ddechrau cymryd y camau eithriadol wedyn yn ystod y gwanwyn y llynedd. Roeddem ni ar fin cyhoeddi'r dogfennau ynglŷn â'r sgwrs genedlaethol, ac roeddwn i'n dweud wrthyn nhw pryd fyddai hynny'n debygol o ddigwydd a'r hyn y gallen nhw ddisgwyl ei weld yn y rhain. Ac yna fe fu'n rhaid oedi a rhoi'r gorau i bopeth. Felly, mae'r gwaith ar stop. Nid yw'n ddewis bwriadol ein bod yn gadael hyn tan drothwy etholiad; dyma'r sefyllfa wirioneddol yr ydym ni ynddi. Ond roeddwn i'n awyddus, fel yr oedd cydweithwyr gweinidogol eraill, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cyhoeddi ac yn darparu'r wybodaeth hon, fel ei bod ar gael cyn i bobl wneud eu dewisiadau terfynol nhw ac i helpu i dywys y Llywodraeth nesaf, er nad wyf i o'r un farn â'r Aelod mai Llywodraeth Plaid Cymru fydd honno—dyna un o'r posibiliadau llai tebygol, yn fy marn i—ond gadewch inni weld sut y bydd y pleidleiswyr yn penderfynu.
Ond o ran yr heriau posibl, fe wyddom fod cost ynghlwm wrth bob un o'r pethau yr hoffem ni eu gwneud. Fe wyddom hynny—ac fe ddaw hyn o'r gwaith a wnaed gan weision sifil a chyngor allanol hefyd—byddai gofal a chymorth rhad ac am ddim ar ddull y GIG yn costio tua £700 miliwn y flwyddyn. Fe fydd symud i'r un telerau ac amodau â'r 'Agenda ar gyfer Newid' yn debygol o gostio tua £135 miliwn yn ychwanegol at y £700 miliwn hwnnw. Felly, mae yna grocbris i'w dalu ar gyfer gwella amodau yn y maes hwn, ac ni fyddai'r amgylchiadau hynny'n ymdrin â hyd yn oed rai o'r heriau eraill hyn sydd gennym ni ychwaith. Felly, dyna pam, rwy'n credu, y bydd angen i'r consensws trawsbleidiol y bydd ei angen arnom fod yn bragmatig ac yn onest o ran yr hyn y gellir ei gyflawni, sut rydym yn cynnal pob un o'r gwelliannau hynny, a sut rydym am barhau i symud ymhellach ymlaen eto.
Felly, rwy'n edrych ymlaen at gael sgwrs gyda'r cyhoedd. Ac yn wir, sut olwg bynnag fydd ar y Senedd nesaf, rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r sgwrs ac o wneud penderfyniadau, gobeithio, am sut yn union y byddwn yn gwneud yr union beth y byddai pob un ohonom yn dweud ein bod yn dymuno ei wneud, sef gwella ansawdd gofal, gwella canlyniadau i bobl ac, yn wir, gwella'r ffordd y caiff ein staff eu gwobrwyo a'u cydnabod.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.