4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 17 Mawrth 2021.
1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd y DU yn ei chael ar ddiogelwch menywod yng Nghymru? TQ548
Diolch i Delyth Jewell am ei chwestiwn. Derbyniodd Llywodraeth Cymru fersiwn derfynol y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd pan gafodd ei gyflwyno, ddydd Mawrth diwethaf, 9 Mawrth. Rydym yn ystyried y darpariaethau'n fanwl a sut y byddant yn effeithio ar Gymru, gan gynnwys diogelwch menywod a merched.
Diolch, Weinidog. Mae hwn yn fater personol iawn i mi, yn anad dim gan fy mod yr un oedran â Sarah Everard, a gafodd ei lladd mewn modd mor erchyll ger Llundain yn ddiweddar, ac y cafodd yr wylnos i gofio amdani ei drin mewn ffordd mor ofnadwy gan yr heddlu. Lladdwyd o leiaf saith o fenywod gan ddynion yng Nghymru eleni yn unig. Rydym yn dal i gyfrif menywod sydd wedi marw, gan gynnwys Wenjing Lin, a fu farw yn Nhreorci. Mae fy mhryder ynglŷn â'r Bil plismona'n deillio nid yn unig o gyd-destun yr ymosodiadau ar yr hawl i brotestio'n heddychlon, er bod y rheini'n peri pryder, ond mae gennyf bryderon dybryd ynglŷn â sut y caiff trais gan ddynion yn erbyn menywod ei drin. Nid yw'n Fil sy'n canolbwyntio ar oroeswyr; mae'n rhoi cosbau mwy i bobl sy'n ymosod ar gerfluniau na’r rheini sy'n ymosod ar fenywod. Byddai dedfrydau trymach yn cael eu rhoi am dipio anghyfreithlon nag am stelcio. Roeddwn yn rhan o’r ymchwiliad a’r ymgyrch yn 2012 a arweiniodd at gyflwyno deddfau newydd ar stelcio, a Weinidog, mae’r datblygiad hwn yn sarhad ar yr holl oroeswyr a chwaraeodd ran mor hanfodol yn yr ymgyrch honno.
Un peth rydym wedi’i ddysgu yn yr wythnos ddiwethaf yw bod llywio drwy ein hofnau ac addasu ein risg o drais yn weithred normal i fenywod yng Nghymru, fel ym mhob rhan o'r DU. Mae menywod a merched ifanc yn cael eu dysgu i beidio â gwneud rhai pethau penodol yn hytrach na mynd i'r afael â'r rhesymau sylfaenol pam fod trais gan ddynion yn digwydd. Drwy fethu mynd i’r afael ag atal trais gan ddynion yn erbyn menywod, mae’r Bil hwn yn fwy na chyfle a gollwyd; mae'n drychineb a fydd yn digwydd o flaen ein llygaid. Rydym angen dull iechyd y cyhoedd sy'n canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar, newidiadau i'r ffordd rydym yn addysgu merched a bechgyn ifanc, newidiadau i'r ffordd y caiff menywod eu portreadu yn y cyfryngau, mewn cylchgronau. Hoffwn ofyn i chi, Weinidog, faint o ddisgresiwn fydd gan heddluoedd Cymru ynglŷn â'r modd y maent yn gweithredu'r Bil hwn. Byddwn hefyd yn gofyn a ydych yn cytuno ag awgrymiadau Chwarae Teg ynglŷn â defnyddio’r cwricwlwm i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhywedd, sicrhau bod canllawiau cynllunio yn nodi diogelwch menywod fel ystyriaeth ganolog wrth gynllunio gofod trefol, a’r angen am fwy o gyllid ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth fel Ask for Angela, sy'n cynnig ffordd i fenywod mewn bariau ddianc rhag sefyllfaoedd peryglus.
Ac yn olaf, Weinidog, ar wahân i’r dull cwbl wahanol hwn y mae'n rhaid i ni ei weithredu yng Nghymru, onid yw'r ddeddfwriaeth hon yn San Steffan yn dangos pam fod angen datganoli plismona a chyfiawnder? Rwyf am gloi gyda hyn, Ddirprwy Lywydd: os na wnawn rywbeth radical, os nad yw'r erchylltra beunyddiol hwn yn ein cymdeithas yn cael ei unioni, fe fyddwn yn galaru am fwy fyth o fenywod nad ydym erioed wedi eu hadnabod.
Diolch yn fawr iawn, Delyth Jewell, am araith gref ac angerddol. Fel menyw yr un oedran â Sarah Everard, rydych wedi ein galluogi i gofio eto, fel y gwneuthum innau ddoe, llofruddiaeth ddiweddar—llofruddiaeth erchyll, ofnadwy Sarah Everard. Mae wedi bod yn ysgytwad i bob un ohonom, ac wedi ailgynnau’r sgwrs genedlaethol ynglŷn â diogelwch menywod, a byddwch wedi gweld hynny’n cael ei adlewyrchu yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe. Roedd yn ddatganiad ar ddiogelwch menywod yng Nghymru, ac mae'n ein hatgoffa, wrth gwrs, fel y dywedais yn fy natganiad, fod trais yn erbyn menywod a merched yn rhy gyffredin o lawer. Mae wedi amlygu unwaith eto yr effaith y mae trais a cham-drin yn ei chael ar fywydau bob dydd menywod. Ac felly, fy ailymrwymiad unwaith eto i'n deddfwriaeth arloesol—a diolch i Nick Ramsay; cododd hyn ddoe, fel y gwnaeth Aelodau eraill o bob rhan o’r Senedd—yw mai ein hymrwymiad yng Nghymru yw dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.
Credaf ei fod hefyd yn rhybudd i bob un ohonom fod yn rhaid inni anrhydeddu bywyd Sarah drwy wneud newidiadau i gymdeithas a diwylliant, a dyna a ddywedais yn fy natganiad. Ond credaf ei bod yn bwysig iawn, fel y dywedais ddoe, fy mod wedi galw ar Lywodraeth y DU, ac ar Senedd y DU yn wir, i sicrhau bod y Bil hwn yn Fil a ddylai gryfhau diogelwch menywod a merched, ac wrth gwrs, dyma gyfle yn awr i wneud sylwadau ar hynny. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn cydnabod y dylai'r Bil a gyflwynir, y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, fynd ati i gryfhau'r system cyfiawnder troseddol i ddiogelu menywod a merched, a hefyd—i’r un graddau, byddwn yn dweud, a dywedais hyn ddoe—yn galluogi pobl i barhau i fynegi eu pryderon yn rhydd.
Rwy'n cytuno â chi hefyd fod hwn yn fater iechyd y cyhoedd, fel y gwnaeth ein cynghorydd cenedlaethol gwych, Yasmin Khan, ddydd Sul. Ar sawl achlysur, soniodd am yr angen i newid diwylliant, a chydnabu fod hwn yn fater iechyd y cyhoedd, fod yn rhaid inni ddwyn troseddwyr i gyfrif, fod yn rhaid inni gael system wedi'i llywio gan drawma, a hefyd na allwn gamu o'r neilltu a gwneud dim. Dyna pam fod gennym ymgyrch gref Paid Cadw'n Dawel fel rhan o'n deddfwriaeth a’n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwyf hefyd yn falch iawn o'r ffaith bod gennym bellach, yn ein cwricwlwm newydd, ym Mil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), ddyletswydd statudol i sicrhau bod codi ymwybyddiaeth o addysg cydberthynas iach a rhywioldeb yn rhan o'r cwricwlwm i blant hyd at 16 oed. Bydd yn helpu pobl ifanc i herio agweddau ac ymddygiad gwenwynig.
Rwyf am siarad, os caf, fel mab, brawd, gŵr, tad a thaid i fenywod a merched rwy'n malio amdanynt ac yn eu caru'n angerddol. Mae achosion trasig diweddar Sarah Everard a Wenjing Lin wedi tynnu sylw at fater trais yn erbyn menywod mewn ffordd wirioneddol ysgytwol. Credaf ein bod ni yn Senedd Cymru yn unedig ac yn benderfynol o sicrhau bod ein strydoedd a’n cymunedau mor ddiogel â phosibl i fenywod a merched. Nod y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd yw arfogi'r heddlu â'r pwerau a'r arfau sydd eu hangen arnynt i ddiogelu'r cyhoedd, gan newid deddfau dedfrydu i gadw troseddwyr rhywiol a threisgar difrifol yn y carchar am gyfnod hirach. Bydd y pwerau newydd arfaethedig yn atal troseddwyr sy'n beryglus i'r cyhoedd rhag cael eu rhyddhau’n awtomatig, yn rhoi diwedd ar ryddhau troseddwyr a ddedfrydwyd i rhwng pedair a saith mlynedd yn y carchar am droseddau treisgar a rhywiol difrifol hanner ffordd drwy eu dedfryd, ac yn diwygio rheolau datgelu cofnodion troseddol i leihau'r cyfnod o amser sydd gan bobl i ddatgan euogfarnau terfysgol neu euogfarnau rhywiol di-drais blaenorol i gyflogwyr. Mae'r Bil hefyd yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol, yr heddlu, asiantaethau cyfiawnder troseddol, iechyd, a’r gwasanaethau tân ac achub i fynd i'r afael â thrais difrifol drwy rannu data a gwybodaeth. A fyddech felly’n cytuno y dylai’r mesurau hyn, sy’n ategu’r rheini sydd wedi’u cynnwys yn y Bil Cam-drin Domestig a drafodwyd yma ddoe, wneud menywod yn fwy diogel yng Nghymru? Ac o ystyried bod Llywodraeth y DU yn ceisio barn pobl i’w helpu i lywio datblygiad ei strategaeth nesaf ar gyfer mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, pa ran fydd gennych yn y broses hon?
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. A gaf fi ddiolch i chi hefyd am godi llais fel tad ac ar ran yr holl fenywod yn eich bywyd? Gwyddom fod dynion yn dangos eu cefnogaeth, fel y gwnânt flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ym mis Tachwedd yn ddigwyddiad pwysig. Cawn ein gwylnos bob blwyddyn, oni chawn? Cafodd ein rhith-wylnos eleni ei harwain gan Joyce Watson—dan arweiniad Joyce Watson bob amser—gydag ymateb trawsbleidiol, fel y dywedwch, Mark Isherwood. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl ddynion ar draws ein gwasanaethau sy'n llysgenhadon y Rhuban Gwyn. Credaf fod Jack yma heddiw; gwn ei fod yn llysgennad Rhuban Gwyn allweddol, fel cynifer o rai eraill, wrth gwrs, nid yn unig yma, ond ledled Cymru.
Hoffwn ddweud, o ran y Bil, ein bod wedi derbyn fersiwn derfynol o'r Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd yr wythnos diwethaf, fel y dywedais. Mae'n Fil Llywodraeth y DU, ac rydym yn ystyried ei ddarpariaethau'n fanwl a'i effaith ar Gymru, ond rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gryfhau'r Bil i sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn diogelu menywod a merched, gan ein bod yn poeni am lawer o agweddau, o dderbyn y Bil fel y mae, ac yn ceisio cyngor ar y mesurau a'r darpariaethau hynny. Yn amlwg, fe fydd yn bwysig fod ein swyddogion cyfatebol yn Senedd San Steffan yn edrych, yn craffu arno, ac mae llawer o bryderon eisoes wedi’u codi am y Bil. Ond mae angen inni sicrhau eu bod yn craffu arno'n effeithiol. Ond byddwn yn dweud heddiw fod yn rhaid inni wneud, o fewn ein pwerau yng Nghymru, ac wrth gwrs, ceir pwerau o ran comisiwn Thomas—a gwnaeth Delyth y pwynt hwnnw—rydym yn awyddus i’w hystyried, gan eu bod yn bwerau y byddem yn cydnabod y gallent ein galluogi i gryfhau ein cyfrifoldebau yn y maes hwn. Ond rydym yn awyddus i weithio'n agos iawn yng Nghymru gyda'n pedwar heddlu, ein hawdurdodau lleol, yn ogystal â Llywodraeth y DU, a holl sefydliadau ein trydydd sector, i sicrhau y gall diogelwch menywod a merched fod ar y blaen o ran ein pwerau a’n darpariaethau, ein blaenoriaethau, a'n cyllidebau.
A dyna pam, wrth gwrs, fod ein Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ein deddfwriaeth arloesol, mor hanfodol bwysig, a bod gennym ein llinell gymorth Byw Heb Ofn. Ac rwyf am achub ar y cyfle eto i ddweud mai gwasanaeth 24/7 rhad ac am ddim i holl ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yw hwn. Ac nid yn unig ei fod wedi parhau i fod ar gael, wrth gwrs, drwy gydol y cyfyngiadau coronafeirws, sy’n golygu na ddylai’r cartref fod yn lle i fyw mewn ofn, ond mae wedi bod yn destun cryn bryder i bob un ohonom yn y Senedd mewn perthynas ag effaith COVID-19 ar bobl y cyfyngir arnynt oherwydd COVID-19. Ond rydym wedi rhoi cyllid ychwanegol i Byw Heb Ofn, ac wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda'n darpariaethau hyfforddi 'gofyn a gweithredu’ a Paid Cadw'n Dawel, ac yn ariannu Prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n hyrwyddo cydberthynas iachach yn effeithiol yn ein hysgolion ac ymhlith ein pobl ifanc.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.