– Senedd Cymru am 2:32 pm ar 23 Mawrth 2021.
Yr eitem nesaf y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i agenda yfory. Mae'r ddadl ar Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021 wedi'i lleihau i bum munud, ac mae'r ddadl ar Orchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021 wedi'i thynnu'n ôl.
[Anghlywadwy.] —George. Russell George.
Diolch, Llywydd. Rwy'n credu eich bod wedi eich torri ymaith y tro cyntaf. Diolch.
A gaf i ofyn, Trefnydd, am rywfaint o fewnbwn gennych chi, os gwelwch chi'n dda? Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddatganiad yr wythnos diwethaf, datganiad i'r wasg drwy'r Prif Weinidog, ynglŷn â chreu dau goetir newydd, un yn y Gogledd ac un yn y De. Fel y dywedodd datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru, y gobaith yw y byddan nhw'n fannau coffáu lle gall teuluoedd a ffrindiau gofio anwyliaid a gollwyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig sôn am hyn ar y diwrnod penodol hwn yr ydym, yn anffodus, yn ei goffáu ar yr achlysur hwn. Hoffwn i nodi, wrth gwrs—ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol, Trefnydd—fod teuluoedd, yn anffodus, wedi colli anwyliaid mewn rhannau eraill o Gymru, yn y Canolbarth hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Trefnydd ar yr adeg hon, drafod hyn efallai gyda chyd-Weinidogion? Rwy'n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ar y prosiect penodol hwn, ond er ein bod ni mewn cyfnod etholiad, neu ar fin bod ynddo, efallai y gallech chi drafod gydag awdurdodau lleol a chwilio am goetiroedd mewn rhannau eraill o Gymru, fel yn y Canolbarth, y byddai modd eu defnyddio i goffáu, ac i blannu ynddynt yn y modd hwn hefyd. Gobeithio y gall y Trefnydd godi hyn yn briodol gyda chyd-Weinidogion.
Diolch i Russell George am godi'r hyn sy'n fater pwysig iawn, yn enwedig ar y diwrnod penodol hwn. Bydd yn bwysig yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod bod gennym lefydd priodol ledled Cymru i gymryd hoe a myfyrio a chofio am y rhai sydd wedi colli anwyliaid, a hefyd gofio am y rhai yr ydym wedi'u colli yn ystod y pandemig. Byddaf i'n sicrhau bod cyd-Weinidogion sy'n gyfrifol am gyflawni'r agenda benodol hon yn ymwybodol o'r pryder penodol hwnnw yr ydych chi wedi'i godi, a byddaf yn ymdrechu i gael y sgyrsiau hynny a awgrymwyd gennych.
Mae gen i gais am ddau ddatganiad heddiw. Heddiw, mae Siyanda Mngaza yn wynebu gwrandawiad apêl i herio'r ddedfryd y mae'n ei bwrw ar hyn o bryd am niwed corfforol difrifol. Roedd Siyanda yn fenyw anabl ddu 4 troedfedd 2 fodfedd, 20 oed, yr ymosodwyd arni gan dri o bobl wrth iddi wersylla yn Aberhonddu. Roedd dau o'i ymosodwyr yn ddynion ddwywaith ei hoedran, ac er iddi ddweud wrth swyddogion ar y pryd fod yr ymosodiad yn un hiliol, cyfaddefodd yr heddlu yn y llys na chynhaliwyd ymchwiliad i'w honiadau am yr ymosodiad. Wrth i Camilla Mngaza ymladd dros hawl ei merch i gyfiawnder heddiw, beth fydd eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau bod menywod ifanc croenliw, fel Siyanda, yn cael eu hamddiffyn rhag hiliaeth a gelyniaeth yma yng Nghymru? A gawn ni ddatganiad am eich camau gweithredu yn y maes hwn?
Y gosb am fod yn fam, gofal di-dâl, rhagfarn data—mae'r holl dermau hyn yn ymwneud â'r anghydbwysedd dwysach y mae'r pandemig wedi'i roi ar fenywod. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cadarnhau ei fod ond yn casglu data wedi'i rannu yn ôl rhywedd ar ddiswyddiadau lle mae unigolion yn defnyddio'r cynllun ReAct. A gaf i ddatganiad ysgrifenedig, os gwelwch chi'n dda, gan Weinidog yr Economi ynghylch casglu data wedi'u dadgyfuno ar ddiweithdra, yng ngoleuni effaith cyfyngiadau COVID ar rianta a gwaith?
O ran y mater cyntaf, rwy'n falch iawn o ddweud y byddwn ni, y prynhawn yma, yn cael datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru. Bydd hynny'n gyfle da, rwy'n tybio, i glywed am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, a hefyd i godi'r materion penodol hynny yr ydych chi newydd eu cyflwyno i lawr y Senedd gyda'r Gweinidog.
O ran yr ail fater, ynglŷn â rhagfarn data a chasglu data am ddiweithdra, unwaith eto fe fyddaf yn gwneud Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ymwybodol o'r pryder penodol hwnnw, ac yn archwilio a oes mwy y gallwn ni fod yn ei wneud yn y maes hwn i ddeall yn well effaith y pandemig ar fenywod, ond hefyd ar eraill sydd â nodweddion gwarchodedig.FootnoteLink
Rwy'n gofyn unwaith eto: a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn condemnio ymddygiad gwarthus Ursula von der Leyen a'r Comisiwn Ewropeaidd wrth ymdrin â chyflwyno'r brechlyn yn Ewrop? Yn ogystal â bygythiadau i atal allforion brechlynnau i'r DU, mae ei strategaethau hi o achosi dryswch a gwneud tro pedol wedi costio miloedd lawer o fywydau ledled yr Undeb Ewropeaidd yn ddi-os. Ac ymhellach, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth am y ffordd anhygoel y mae Llywodraethau Cymru a'r DU, yn rhydd o ymyrraeth yr UE, wedi ymdrin â chyflwyno'r brechlyn yn y DU, a thrwy hynny achub miloedd lawer o fywydau ym Mhrydain? Siawns nad yw hyn ynddo'i hun yn cyfiawnhau Brexit.
Nid wyf eisiau ailadrodd y dadleuon a gawsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ond fe fyddaf i'n ymateb i'r pwynt arwyddocaol hwn, dim ond i adlewyrchu'r ffaith, ar hyn o bryd, nad oes gwaharddiad ar allforion AstraZeneca yn yr UE. Rwy'n ymwybodol bod Prif Weinidog y DU yn cael rhai sgyrsiau uniongyrchol â'r UE ar hyn, ac rwy'n credu mai dyna'r peth priodol i'w wneud, o gofio nad yw'r cyflenwad o frechlynnau yn yr ystyr hwnnw wedi'i ddatganoli i'r Senedd. Ac wrth gwrs, yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn wir, fel yr eitem busnes nesaf, fe gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog ar COVID-19 flwyddyn yn ddiweddarach, a fydd yn gyfle i fyfyrio ar y 12 mis diwethaf a'r effaith a gafodd y pandemig ar ein bywydau ni i gyd.
Trefnydd, tybed a gawn ni ddatganiad gan un o'n Gweinidogion Iechyd am bwysigrwydd Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis, sef y mis hwn. Mae hwn yn gyflwr ofnadwy sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw. Fel arfer, byddem ni'n gorymdeithio i dynnu sylw at hyn a natur gymhleth y cyflwr hwn. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth mewn undod ynglŷn â'r ymrwymiad i fynd at wraidd y clefyd hwn a sicrhau ein bod ni'n trin pobl yn fwy effeithiol ac yn gyflymach.
Cafodd y grŵp gweithredu iechyd menywod ei sefydlu i ddarparu'r arweiniad strategol hwnnw i ni yma yng Nghymru. Roedd yn sicrhau bod gennym y dull gweithredu Cymru gyfan hwnnw o chwalu'r rhwystrau a hefyd gydgysylltu'r llwybrau rhwng gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol, fel bod modd rheoli iechyd menywod yn y gymuned, lle bynnag y bo modd, heb fod angen ymyrraeth fwy dwys. Rwy'n falch iawn bod y grŵp wedi datblygu cynlluniau i ddefnyddio rhywfaint o'i gyllid i gryfhau gwasanaethau endometriosis ledled Cymru a darparu cymorth ychwanegol a fydd yn dod ynghyd i ffurfio rhwydwaith, gan weithio'n agos gyda chydlynwyr iechyd a lles presennol y pelfis, a sefydlwyd gan y grŵp hwnnw. Dylai hynny, felly, sicrhau bod menywod yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan endometriosis yn cael eu cefnogi'n fwy effeithiol. Ond, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae'n wythnos ymwybyddiaeth, ac rwy'n falch iawn hefyd bod y grŵp wedi datblygu adnodd dysgu sy'n codi ymwybyddiaeth o'r mislif. Caiff hwnnw ei gyhoeddi yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Mae'n anelu at roi gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i ferched ifanc yn benodol o'r mislif arferol, gan ganiatáu iddyn nhw hefyd fynd ar y llwybr diagnostig hwnnw'n gynharach pan fydd materion yn codi, fel y gallant gydnabod pryd y gallai fod problemau. Felly, rwy'n credu bod rhywfaint o waith cadarnhaol yn digwydd ar hyn o bryd yn y maes hwn.
Trefnydd, a gaf i ofyn i Brif Weinidog y Llywodraeth hon amlinellu mewn datganiad manwl sut a phryd y bydd yn dod â chwaraeon awyr agored i oedolion yn ôl os gwelwch chi'n dda? Fel y dywedais i eisoes—a byddaf i'n ei ailadrodd oherwydd ei bwysigrwydd—mae gan ymarfer corff fanteision amlwg a hysbys, sydd wedi'u profi, a bydd yr effaith ar iechyd meddwl yn rhan bwysig o'r adferiad o'r pandemig hwn. Oherwydd hyn, rwy'n gofyn, os gwelwch chi'n dda, bod datganiad yn cael ei gyhoeddi yn amlinellu pryd yn union y mae'r Llywodraeth yn bwriadu dod â phethau yn ôl ac ailagor popeth a fydd yn galluogi plant ac oedolion i chwarae chwaraeon a chymryd rhan mewn ymarfer corff, gan gydnabod y rheini, wrth gwrs, a fydd ar agor ac yn dod i rym cyn bo hir. Mae angen amser ar ein clybiau pêl-droed a rygbi, er enghraifft, i baratoi, Prif Weinidog a Gweinidog, y meysydd a'r gemau, yn eironig er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel o ran COVID ac yn y blaen. Mae'r sector hwn yn aml yn cael ei anwybyddu o ran pwysigrwydd, ac mae angen eglurder arno, Gweinidog. Felly, a gaf i ofyn ichi sicrhau bod yna fap ffordd ar gael i glybiau a busnesau ei ddilyn fel mater o frys? Diolch.
Roeddech chi'n gallu clywed ymateb y Prif Weinidog i'ch cwestiwn yn gynharach y prynhawn yma, ond fe wnaethoch weld, yn yr adolygiad tair wythnos diwethaf, ein bod wedi ymdrechu i ddarparu mwy o fanylion ynghylch y camau a allai ddigwydd yn yr wythnosau i ddod. Bob tro, rydym ni'n ceisio rhoi cymaint o sicrwydd a rhybudd ag y gallwn ni, ond yn y sefyllfa hon sy'n symud yn gyflym gall fod yn anodd rhoi llawer o rybudd wrth edrych ymhellach ymlaen. Ond rwy'n credu bod eich pwyntiau chi am bwysigrwydd gweithgareddau awyr agored, ac yn enwedig y rhan bwysig sydd gan y clybiau chwaraeon yn ein cymunedau lleol ein hunain, wedi'u gwneud yn dda iawn ac yn cael eu deall yn dda. Ac rwy'n gwybod y bydd hyn yn cael ei ystyried wrth inni symud ymlaen drwy'r cylch adolygu tair wythnos nesaf.
Mae adroddiad terfynol tasglu'r Cymoedd wedi'i gyhoeddi, ac mae barn rhanddeiliaid yn cynnwys dweud bod y tasglu, ac rwy'n dyfynnu, wedi cael effaith uniongyrchol eithaf cyfyngedig ar gymunedau'r Cymoedd.
Tynnodd sylw hefyd at ddiffyg adnoddau. Dyfyniad uniongyrchol arall o gasgliadau'r adroddiad:
Dechreuodd Tasglu'r Cymoedd gyda chyfres o nodau ac amcanion uchelgeisiol iawn ond nid oedd ganddo'r adnoddau na'r gallu i gyflawni'r rhain yn effeithiol.
Un mater allweddol a gafodd ei godi oedd a ddylai Tasglu'r Cymoedd fod wedi'i sefydlu o'r cychwyn cyntaf gyda lefel ddigonol o gyllid refeniw a chyfalaf ar waith i'w alluogi i gyflawni ei nodau a'i amcanion uchelgeisiol.
Fel Aelod Senedd y Rhondda, rwyf i wedi pwyso'n gyson am fwy o fuddsoddiad, gan gynnwys cynnig penodol ar gyfer cwmni cydweithredol cyffrous a medrus o gyn-weithwyr Burberry ar y safle hwnnw i sefydlu busnes gweithgynhyrchu dillad. Mae'r tasglu wedi colli'r cyfle hwn a llawer o gyfleoedd eraill, ac mae wedi esgeuluso rhannau helaeth o'r Cymoedd y mae gwir angen datblygiad economaidd arnyn nhw.
A gafodd gwersi eu dysgu o'r profiad hwn? Mae'r Rhondda wedi cael ei siomi gan lywodraethau olynol yn Llundain ac yng Nghaerdydd ers degawdau bellach. Onid yw hyn yn dangos mai'r unig ffordd y bydd y Rhondda yn cael y datblygiad economaidd y mae'r bobl yno'n ei haeddu yw trwy Lywodraeth Plaid Cymru? A ydych chi'n derbyn hynny nawr?
Rwy'n credu eich bod wedi rhoi adlewyrchiad anghytbwys iawn o waith tasglu'r Cymoedd sydd, yn fy marn i, wedi llwyddo i gael canlyniadau arwyddocaol iawn yn Rhondda Cynon Taf ac mewn mannau eraill. Wrth gwrs, rwy'n meddwl am ymyriadau fel y gwaith sylweddol a wnaed i sicrhau bod tai nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n ddigonol a thai nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio o gwbl yn cael eu defnyddio unwaith eto, ac mae hynny wedi bod yn arbennig o bwysig. Yna mae swyddogaeth a chyfraniad pwysig tasglu'r Cymoedd i brosiectau Swyddi Gwell yn nes at Adref, a hefyd gynlluniau Big Bocs Bwyd, sydd wedi bod yn bwysig iawn o ran mynd i'r afael â thlodi bwyd mewn cymunedau. Felly, rwy'n credu ei bod wedi bod yn rhaglen lwyddiannus, ac mae rhan o'r llwyddiant, rwy'n credu, yn seiliedig ar y ffaith ei bod i raddau helaeth iawn yn dechrau ar lawr gwlad. Rhaglen a thasglu oedd hon i raddau helaeth a oedd yn ymwneud â gwrando ar gymunedau, gan ddeall beth oedd y blaenoriaethau a'r pryderon. Ac roedd yr holl bryderon hynny'n ymwneud ag agweddau megis pwysigrwydd swyddi a sgiliau, ac rwy'n credu bod gan dasglu'r Cymoedd stori dda i'w hadrodd ac etifeddiaeth dda yn hynny o beth.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ynghylch yr heriau sy'n wynebu defnyddio hysbysiadau stop a phwerau gorfodi yn ystod y pandemig? Mae gennyf i hen broblem yn fy etholaeth yn Rhiwceiliog lle mae hysbysiadau stop wedi'u rhoi ar ddatblygiadau anghyfreithlon mewn ardal heddychlon a thawel iawn. Maent wedi cael eu cyhoeddi, ond maent wedi cael eu hanwybyddu'n fwriadol, lle cafwyd aflonyddu a bygythiadau gan y meddianwyr anghyfreithlon, sy'n mynd ati i rwygo cloddiau, dinistrio ecoleg sensitif, rhannau hanesyddol y safle. Ac fe allwch chi ddeall, Gweinidog, fod y trigolion lleol yn teimlo'n rhwystredig iawn. Mae'r heddlu wedi ymwneud â hyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymwneud â hyn, mae'r awdurdod lleol wedi ymwneud â hyn. Felly, a gawn ni ddatganiad ynghylch defnydd pwerau gorfodi a hysbysiadau stop yn ystod y pandemig, ond hefyd ddatganiad a allai egluro, os cawn ni Lywodraeth Lafur Cymru yn y dyfodol, y byddwn ni'n cyflwyno deddf amgylcheddol, a bydd gennym ni bwerau cloeon clap yn y ddeddf amgylcheddol honno, fel bod stop yn golygu stop? Pan fydd gweithgarwch anghyfreithlon yn cael ei wahardd, bydd pobl yn cael eu hatal rhag mynd i'r safle hwnnw. A phe na fyddai sylw'r gweision sifil wedi ei dynnu oddi ar broses pontio'r UE, rhaid dweud, byddem ni wedi cael y Ddeddf honno amser maith yn ôl. Felly, a gawn ni'r datganiad hwnnw, Gweinidog? Byddai'n sicrwydd mawr i drigolion Rhiwceiliog.
Hoffwn i roi'r sicrwydd hwnnw, a'r ffaith ein bod wedi bod yn glir iawn yn ein hymrwymiad y byddem yn dymuno deddfu i roi ein dull ni o weithredu egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu ar sail statudol yma yng Nghymru. Ond, fel y dywed Huw Irranca-Davies, pan roddodd y Prif Weinidog ystyriaeth i'r rhaglen ddeddfwriaethol, dywedodd fod y pwysau a wynebwyd gennym ar ddiwedd y cyfnod pontio o'r Undeb Ewropeaidd, a hefyd, wrth gwrs, effaith COVID-19, wedi effeithio'n sylweddol ar y rhaglen waith honno a bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd o ran y rhaglen ddeddfwriaethol. Mae'n golygu na ellid cyflwyno'r ddeddfwriaeth ar egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu yn y tymor hwn. Ond, ydy, mae'r Prif Weinidog wedi ailddatgan ei ymrwymiad i wneud hynny pe byddem mewn sefyllfa i wneud hynny yn y Senedd nesaf.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion yng Nghymru? Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi sydd wedi bod yn bryderus iawn bod yr ysgolion yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw wisgo gorchuddion wyneb drwy'r dydd yn yr ysgol, ac wrth gwrs mae hynny'n achosi llawer iawn o anesmwythyd i lawer o blant sy'n gorfod eu gwisgo am y cyfnod llawn. Fe wyddom, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno profion llif unffordd rheolaidd, ddwywaith yr wythnos mewn ysgolion er mwyn lleihau'r risgiau. Felly mae'n ymddangos i mi fod angen ystyried hynny ac mae angen adnewyddu'r canllawiau ar ddefnyddio gorchuddion wyneb i sicrhau eu bod yn briodol.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad ar y defnydd o bwerau gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru? Fe wrandawais yn astud iawn ar eich ymateb ychydig funudau'n ôl i Huw Irranca-Davies. Ond mae gennyf i broblemau yn fy etholaeth i fy hun yn ardal Rhuthun lle ceir mater o bwys o ran llygredd mwg, ac mae'n ymddangos i mi nad oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau i allu cyflawni eu rhwymedigaethau i ymateb yn gyflym i'r pethau hyn wrth iddyn nhw ddigwydd. Yn wir, cafodd ymchwiliad i ffynhonnell y broblem mwg ei lansio nôl ym mis Ionawr, ac rydym ar fin cyrraedd diwedd mis Mawrth ac nid oes disgwyl cael y canlyniad tan ganol mis Ebrill. Yn amlwg, mae hynny'n anfoddhaol. Mae'n bosibl bod iechyd pobl yn cael ei beryglu o ganlyniad i'r oedi hwn, felly byddwn i'n ddiolchgar pe byddai modd cael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ynghylch digonolrwydd yr adnoddau sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn ymdrin â'r problemau a gaiff eu hachosi gan lygredd aer a mynd i'r afael â nhw, yn enwedig yn y Gogledd. Diolch.
Diolch am godi'r ddau fater hynny. O ran gorchuddion wyneb mewn ysgolion yng Nghymru, gofynnaf i'r Gweinidog Addysg adolygu eich sylwadau y prynhawn yma ac ysgrifennu atoch i roi gwybod am y sefyllfa ddiweddaraf, yn enwedig oherwydd, fel yr ydych chi'n ei ddweud, y ffaith bod profion llif unffordd ar gael nawr. O ran darparu adnoddau i Cyfoeth Naturiol Cymru ymgymryd â'i waith gorfodi, gofynnaf ichi ysgrifennu at y Gweinidog gyda rhagor o fanylion ynghylch y broblem mwg benodol yr ydych chi wedi'i disgrifio y prynhawn yma er mwyn iddi hi gael y darlun llawnach ac y gall ymateb i chi.
Wrth inni i gyd fyfyrio heddiw, Trefnydd, ar brofiad y cyfyngiadau symud a'r rhai yr ydym wedi'u colli, a wnewch chi yn gyntaf ymuno â mi i longyfarch y saith cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a enillodd wobrau Uchel Siryf Dyfed yr wythnos diwethaf am y gwaith y maen nhw wedi'i gyflawni ar yr adeg anodd iawn hon? Ond a gaf i ofyn yn bennaf am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd Meddwl ynglŷn â'r cymorth uniongyrchol sydd ar gael ar unwaith i bobl ifanc sy'n wynebu problemau iechyd meddwl, ac fe wyddom fod y rhain wedi gwaethygu oherwydd eu profiadau yn ystod yr argyfwng? Gwnes i gyfarfod yr wythnos diwethaf â myfyrwyr o Ysgol y Strade yn Llanelli, ac un o'u prif bryderon nhw oedd iechyd meddwl a lles eu hunain a'u cydweithwyr ifanc yn y dyfodol. Rwy'n credu y byddai'r Gweinidog ei hun yn cydnabod bod problemau gwirioneddol o ran y cyfle i fanteisio ar wasanaethau, gydag amseroedd aros hir iawn ar gyfer rhai gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed.
Fe fyddem ni ym Mhlaid Cymru, wrth gwrs, yn hoffi gweld rhwydwaith cenedlaethol o ganolfannau iechyd meddwl a lles i bobl ifanc, a hoffwn yn fawr weld un o'r rheini yn Llanelli yn fawr. Ond yn y cyfamser, fe hoffwn i glywed gan y Gweinidog Iechyd Meddwl ynghylch pa gymorth y gall hi ei ddarparu yn y tymor byr i'r bobl ifanc hynny fel bod modd ymdrin â'r amseroedd aros hir iawn am gyfle i fanteisio ar CAMHS. A hefyd fe hoffwn i glywed am y dull gweithredu y soniodd amdano o ran bod yn fwy cymunedol, gan ddefnyddio gwasanaethau fel gwasanaethau gwaith ieuenctid yn hytrach na gwasanaethau meddygol yn unig i ymdrin â phryderon y bobl ifanc hynny o Ysgol y Strade ac o bob rhan o fy rhanbarth i.
I ddechrau, hoffwn yn bendant â chi i longyfarch y saith unigolyn sydd wedi eu cydnabod yng ngwobrau Uchel Siryf Dyfed. Mae pobl wedi mynd ymhell y tu hwnt i'r disgwyliadau yn ystod y 12 mis diwethaf er mwyn gwasanaethu cymunedau a darparu'r gofal iechyd a'r cymorth sydd eu hangen ar bobl. Felly, rwy'n hapus iawn i ddweud 'llongyfarchiadau' ac estyn ein diolch yno, a hefyd, wrth gwrs, i'r holl bobl hynny sydd wedi bod yn gwneud gwaith anhygoel ac sydd, hyd yma, wedi aros o dan y radar, ac felly heb gael y cyfle i gael eu cydnabod yn ffurfiol. Ond gwyddom ni i gyd, a bydd y teuluoedd a gafodd eu heffeithio hefyd yn gwybod am eu caredigrwydd a'u proffesiynoldeb nhw wrth ymgymryd â'u swyddogaethau.
Y prynhawn yma, mae gennym ni ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch cymorth iechyd meddwl a llesiant mewn lleoliadau addysgol, a fydd, yn fy marn i, yn dechrau ymateb i rai o'r pryderon yr ydych chi wedi'u codi y prynhawn yma. Ac yna, yfory, mae gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl gwestiynau, a gwn fod sawl cyfle ar y papur trefn i glywed yn fwy uniongyrchol am y pryderon yr ydych chi wedi'u disgrifio o ran y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i blant a phobl ifanc, a'r effaith y bydd y pandemig wedi'i chael ar eu bywydau.
Ac yn olaf, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad: un gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch y gefnogaeth i sioeau amaethyddol ledled Cymru yn dilyn y newyddion diweddar fod sioe Sir Benfro wedi'i chanslo eto eleni, sydd, wrth gwrs, yn ddealladwy. Fe fyddwch chi'n ymwybodol nad yw Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei chynnal chwaith, yn ogystal â sioeau llai ym mhob cwr o Gymru. Nawr, mae'r sioeau hyn nid yn unig yn bwysig i'r sector amaethyddol, ond maen nhw hefyd yn ddigwyddiadau cymunedol pwysig ac maen nhw'n hanfodol i hyrwyddo ein diwylliant. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am gydlyniant cymunedol wrth iddyn nhw ddod â chymunedau at ei gilydd, ac maen nhw'n dod â phobl o ardaloedd gwledig a mwy trefol at ei gilydd. Felly, wrth i fwy a mwy o ganslo gael ei gyhoeddi yn sgil pandemig COVID, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad o gefnogaeth i'r sioeau ac, yn wir, i'r gwyliau eraill, sy'n cadarnhau sut yn union y mae'n eu cefnogi drwy'r pandemig, yn enwedig y sioeau a'r gwyliau amaethyddol llai.
Yn ail, a gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch offer diogelu personol ar gyfer gweithwyr y GIG? Mae etholwr pryderus wedi cysylltu â mi yn egluro nad yw'r offer yn galluogi gweithwyr i ddarllen gwefusau yn briodol, gan wneud bywyd yn anodd iawn i weithwyr sydd ag anawsterau clyw. Rwy'n gwybod y dylai fod offer priodol ar gael, ond rwyf wedi cael gwybod, yn yr achos hwn, fod y masgiau wyneb clir yn heriol iawn gan eu bod yn anodd eu defnyddio am gyfnodau hir, felly ni all fy etholwr ddarllen gwefusau oherwydd nad yw'r offer cywir yn cael ei wisgo. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi fod hyn yn annerbyniol. Felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn rhoi rhywfaint o arweiniad ar y mater hwn drwy gyhoeddi datganiad eglur yn amlinellu ei pholisi cyfarpar diogelu personol, gan esbonio pwysigrwydd offer addas i weithwyr y GIG y mae angen yr offer cywir arnyn nhw oherwydd problemau clyw, a sicrhau bod yr offer cywir ar gael i'r gweithwyr hynny.
Diolch i chi am godi'r ddau fater pwysig yna brynhawn heddiw. Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ran ynni, yr amgylchedd a materion gwledig wedi clywed eich cais chi am y datganiad ynglŷn â sioeau amaethyddol a chefnogaeth Llywodraeth Cymru iddyn nhw. Fe hoffwn innau ddweud fy mod i'n cytuno â chi o ran cydnabod swyddogaeth bwysig sioeau amaethyddol yng nghymunedau cefn gwlad ledled Cymru ac maen nhw'n aml yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i lawer o bobl. Felly, mae'n amlwg yn siomedig pan nad yw pobl yn cael y cyfleoedd hyn i ddod at ei gilydd yn y ffordd neilltuol honno.
O ran cyfarpar diogelu personol, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn disgrifio'r mater arbennig hwn fel y gallwn ni ymchwilio i ba raddau y mae hwn yn fater ehangach neu'n rhywbeth mwy lleol, fel y gallwn ystyried y ffordd orau o ymateb i'r pryder arbennig hwn. Diolch.
Diolch i'r Trefnydd.