2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru ar 24 Mawrth 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogi llesiant ac iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru? OQ56485
Mae amrywiaeth o gymorth iechyd meddwl ar gael yng Ngorllewin De Cymru, o ran gwasanaethau sydd yn cael eu darparu nid jest gan y trydydd sector ond hefyd gan yr NHS. Mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth noddfa ym Mae Abertawe, sydd wedi’i ddatblygu gan wasanaethau iechyd meddwl ynghyd â bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg a’r elusen iechyd meddwl Hafal.
Diolch am hynna, Weinidog. Allaf i ofyn pa gynnydd sydd yna i ymdrin ag afiechyd meddwl mewn argyfwng, yn union fel rydyn ni'n ymdrin ag afiechyd corfforol mewn argyfwng? Efo trawiad ar y galon, er enghraifft, mae'r meddyg teulu'n gallu ffonio meddyg yn yr ysbyty yn uniongyrchol a chael mynediad brys y diwrnod hwnnw i'r claf ar fyrder. Roeddem ni'n gallu gwneud hynna efo salwch meddwl mewn argyfwng 20 mlynedd yn ôl, ond ddim rhagor. Rydyn ni wedi colli'r cysylltiad uniongyrchol rhwng y meddyg teulu a'r arbenigwr seiciatryddol yn yr ysbyty. Pa obaith sydd o adfer yr hen gysylltiad oesol?
Diolch yn fawr, Dai. Dwi'n gwybod bod lot fawr o waith wedi cael ei wneud o ran y gwasanaethau brys, a dyna ble dŷn ni wedi bod yn canolbwyntio ein gwaith ni ar hyn o bryd o ran iechyd meddwl. Achos beth oedd yn digwydd oedd ein bod ni mewn sefyllfa lle, pan oedd pobl yn codi'r ffôn, rhai o'r unig wasanaethau a oedd ar gael, yn arbennig ar ôl 5 o'r gloch yn y prynhawn, oedd gwasanaethau brys. Ac yn aml, nid yr heddlu neu hyd yn oed y gwasanaeth ambiwlans yw'r llefydd gorau i ymdrin â phethau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. Dyna pam mae gwaith aruthrol wedi cael ei wneud eisoes, o dan ymbarél y concordat, i sicrhau ein bod ni'n edrych ar hwn mewn manylder, ein bod ni'n cydweithredu gyda'r trydydd sector, a bod yna ddarpariaeth mewn lle. Achos beth dŷn ni wedi ei sylweddoli oedd, o ran y rhan fwyaf o'r bobl a oedd yn dod mewn i'r gwasanaethau brys, efallai nad gwasanaeth iechyd meddwl, o ran iechyd meddwl pur, oedd ei angen arnyn nhw, ond efallai bod angen mwy o help cymdeithasol ac economaidd arnyn nhw. Felly mae'r gwaith yna'n cael ei wneud.
Byddwch chi, dwi'n siŵr, yn ymwybodol bod Bae Abertawe wedi bod yn cynnal peilot o ran un pwynt cyswllt ar gyfer iechyd meddwl, wrth ffonio'r rhif 111. A bydd hwnna nawr yn cael ei ehangu i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Yr un peth arall dwi'n meddwl sy'n werth ei danlinellu yw'r ffaith bod gyda ni gynllun nawr sy'n helpu i gludo pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Dyw hi ddim yn briodol, wrth gwrs, i gymryd pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl mewn car heddlu, er enghraifft. Dyna pam dŷn ni'n peilota rhaglen newydd yn y maes yma hefyd.
Weinidog, ddoe, nodais bryderon ynghylch cymorth i blant ifanc, a phlant sy’n mynd yn ôl i ysgolion, sydd wedi’i chael hi’n anodd, rwy'n credu, yn ystod y pandemig hwn, a sut y gallwn fod yn sicr fod digon o adnoddau ar gael iddynt allu elwa o therapïau siarad, therapyddion a chwnselwyr. Rwy'n poeni'n fawr ein bod yn dal i fod yn brin o'r niferoedd o gwnselwyr a therapyddion yn y maes hwnnw. Beth y gallwch ei wneud i sicrhau, wrth i blant ddychwelyd i ysgolion, wrth inni wynebu’r 12 mis nesaf, yn ôl pob tebyg, o heriau i rai o’r plant hyn, y bydd digon o therapyddion, a therapyddion siarad yn enwedig, ar gael i ateb y galw a ddaw yn sgil hyn?
Diolch yn fawr, Dai. Rwy'n bryderus iawn am y sefyllfa hon. Gwyddom fod y comisiynydd plant wedi dod i’r casgliad fod oddeutu 67 y cant o'n plant rhwng 12 a 18 oed yn dioddef gyda rhyw fath o orbryder ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae bod heb drefn ddyddiol yn mynd i beri problem i lawer o bobl, ac rwy'n gobeithio y gwelwn y lefelau hynny’n gostwng yn awr, wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol.
Ond yn bendant, bydd grŵp ohonynt angen cymorth parhaus. Dyna pam fod gennym ddull cynhwysfawr yn awr o edrych ar blant a phobl ifanc. Gwyddom fod 80 y cant o broblemau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn dechrau pan fydd pobl yn blant neu'n bobl ifanc, a dyna pam ei bod yn gwneud synnwyr inni ganolbwyntio ar hyn. Mae gennym ddull ysgol gyfan, felly mae cyllid ychwanegol sylweddol yn cael ei ddarparu i ysgolion, ac rydym hefyd yn ymestyn ein cymorth i gynnwys cymorth cynnar a chefnogaeth ychwanegol, a fydd yn cael ei gyflwyno o fis Gorffennaf y flwyddyn nesaf, i sicrhau bod yr holl wasanaethau gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd fel nad yw plant yn bownsio o un rhan o’r system i’r llall.
Gall y trydydd sector wneud llawer o'r gwaith hwnnw. Cefais fideoalwad y bore yma mewn gwirionedd; cawsom ein hail gyfarfod o'r grŵp trosolwg a gweithredu ar gyfer Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc. Un o'r agweddau y buom yn edrych arnynt y bore yma yw a oes gennym y gweithlu iawn ar waith, gan ei bod yn amlwg fod yn rhaid inni ddal ati i geisio cynyddu’r datblygiad hwnnw. Felly, mae'r gwaith yn parhau. Mae'n mynd rhagddo. Mae angen inni wneud mwy yn ôl pob tebyg, ond yn amlwg, byddwn yn cadw llygad. Rwy'n gobeithio y bydd y ffaith ein bod eisoes wedi darparu oddeutu £9 miliwn i gyd ar gyfer y maes hwn roi rhywfaint o gysur i chi ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.