– Senedd Cymru am 4:47 pm ar 12 Mai 2021.
Felly, y darn nesaf o fusnes yw i wahodd enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. Ond, yn gyntaf, yn unol â Rheol Sefydlog 12.11, y cynnig yw i wahodd enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r eitem yma o fusnes? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad, ac felly, gwnaf i ofyn: a oes unrhyw enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog? Rebecca Evans.
Rwy'n enwebu Mark Drakeford.
Diolch yn fawr. Mark Drakeford wedi ei enwebu. A oes unrhyw enwebiad arall? Nac oes, does yna ddim. Ac felly, yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, dwi'n datgan bod Mark Drakeford wedi ei enwebu yn Brif Weinidog Cymru. Yn unol ag adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf i'n argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru. Ac rwy'n gwahodd Mark Drakeford i annerch ein Senedd. Mark Drakeford. [Cymeradwyaeth.]
Wel, Llywydd, diolch yn fawr, a diolch yn fawr i bob Aelod o'r Cynulliad. Llywydd, a gaf i ddechrau drwy eich llongyfarch chi a'r Dirprwy Lywydd newydd ar gael eich ethol? A diolch yn fawr hefyd, wrth gwrs, i Russell George a Hefin David am sefyll am y swyddi pwysig o flaen y Senedd. Hoffwn hefyd longyfarch holl Aelodau'r Senedd, yn enwedig yr Aelodau newydd; edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd dros y pum mlynedd nesaf.
Mae hwn wedi bod yn etholiad eithriadol. Rwy'n falch iawn bod pobl ifanc 16 ac 17 oed wedi gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn yr etholiad hwn, diolch i gyfraith a phasiwyd yn y Siambr hon. Yn awr, mae'n bryd i bob un ohonom ddefnyddio'r mandad sydd gennym i roi ar waith y syniadau y bu inni ymgyrchu arnynt—to 'Move Wales Forward'—i 'Symud Cymru Ymlaen'. A dyna yw'r man cychwyn ar gyfer fy sylwadau heddiw.
Rydym yn dal i fod mewn pandemig sydd wedi bwrw cysgod mor fawr ar ein bywydau. Mae wedi ymestyn ein gwasanaeth iechyd a'r bobl sy'n gweithio ynddo. Mae wedi niweidio bywydau ac effeithio ar fywoliaeth pobl. Bydd y Llywodraeth Lafur Cymru hon yn parhau i fynd i'r afael â'r coronafeirws yn y ffordd ofalus rydym wedi ei wneud hyd yma: trwy ddilyn y wyddoniaeth a diogelu'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. A byddwn yn arwain Cymru i adferiad fydd yn adeiladu dyfodol cryfach, gwyrddach a thecach i bawb. Ni fydd neb yn cael ei ddal yn ôl, ac ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl. Rwy'n gwneud yr addewid hwn i'r Senedd heddiw yn sesiwn gyntaf y tymor newydd hwn: byddaf yn arwain Llywodraeth Lafur Cymru, ond byddwn yn llywodraethu mewn ffordd sy'n ceisio consensws ac a fydd yn ystyried syniadau newydd a blaengar, o ble bynnag y daw y rheini. Syniadau a all wella dyfodol pobl Cymru—o air glân i incwm sylfaenol cyffredinol, ac i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu prisio allan o gymunedau sy'n siarad Cymraeg.
Lywydd, ar yr holl faterion hyn, ac eraill hefyd, Llywodraeth fydd hon sy'n gwrando ac yn cydweithio ag eraill lle mae tir cyffredin i'w ganfod rhyngom. Ac mae'r penderfyniad hwnnw i weithio gydag eraill yn ymestyn y tu hwnt i'r Siambr hon, wrth gwrs—i'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ledled Cymru, i gymunedau ac i bobl ledled ein cenedl. Byddwn yn dyfnhau'r bartneriaeth gymdeithasol a ddatblygwyd gennym dros y ddau ddegawd diwethaf drwy ei rhoi mewn cyfraith, a'i defnyddio i ganolbwyntio ar adferiad a'r gwaith y mae angen inni ei gyflawni i wneud Cymru'n lle sy'n wirioneddol addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. A byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraethau eraill hefyd, ledled y Deyrnas Unedig, lle bynnag y cynhelir y berthynas honno gyda pharch cydradd.
Lywydd, fy ngwaith i yw sefyll dros Gymru, ac ni fyddaf byth yn camu'n ôl rhag gwneud hynny pan fydd yr angen yn codi, ond fy man cychwyn fydd arwain Llywodraeth sy'n adeiladol, yn weithredol ac yn bartner cadarnhaol i ymateb i'r heriau nad ydynt, ac nad ydynt erioed wedi dod i ben ar ein ffiniau. A bob amser, wrth gwrs, byddaf yn atebol i'r Senedd hon, a thrwy bob un ohonoch chi, i bobl Cymru.
Lywydd, rwy'n credu ein bod yn ffodus iawn yn y chweched Senedd hon fod pobl yng Nghymru, fel y dywedoch chi'n gynharach, wedi dewis dychwelyd Aelodau yma sydd y tro hwn yn rhannu o leiaf un peth sylfaenol yn gyffredin, yn fwy na dim byd arall, ac ar draws y gwahanol bleidiau. Credaf fod gan bawb yma ymrwymiad cyffredin i newid bywydau pobl er gwell, i wireddu potensial y genedl wych ac unigryw hon, ac i ddefnyddio'r sefydliad hwn fel ffordd o sicrhau mai dim ond pobl sy'n byw yng Nghymru sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio'n unig ar bobl yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd dros y pum mlynedd sydd o'n blaenau. Diolch yn fawr.
Llongyfarchiadau i'r Prif Weinidog. Andrew R.T. Davies, arweinydd yr wrthblaid.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy eich llongyfarch ar fod yn Llywydd y chweched tymor seneddol, a hefyd David Rees ar fod yn Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r ddau Aelod arall o'r Senedd a sicrhaodd fod pleidlais yn digwydd, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig fod gweithredu democrataidd yn gosod y cywair o ran sut rydym am i'r trafodion hyn fynd rhagddynt yr holl ffordd drwy'r chweched Cynulliad hwn? A gaf fi hefyd ddiolch i bawb a ganiataodd i'r etholiad ddigwydd neu a helpodd i ganiatáu i'r etholiad ddigwydd? Gwta ddau neu dri mis yn ôl roeddem yn trafod deddfwriaeth a oedd, gydag argyfwng COVID, yn codi amheuon ynglŷn ag a fyddem wedi cael etholiad, ac mae angen i ddemocratiaeth ailfywiogi ei hun a dod yn realiti. Ac efallai ei bod yn ymddangos braidd yn rhyfedd i ddweud 'diolch', ond fe ddigwyddodd, ac fe ddigwyddodd mewn ffordd gadarnhaol sydd wedi dychwelyd Cynulliad/Senedd yma heddiw gydag Aelodau newydd, yn fy ngrŵp fy hun ac ar draws y Siambr, yn enwedig y bron i draean o Aelodau o'r Senedd sy'n Aelodau newydd yn y sefydliad hwn, ac mae'n rhaid bod hynny'n beth da.
Hoffwn longyfarch Natasha Asghar hefyd, y ddynes groenliw gyntaf i ddod i'r Siambr hon, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn dilyn ôl ei throed, yn union fel ei thad hefyd. A gallwn fod yn falch o'r gynrychiolaeth sydd yma, yn estyn allan ar draws y Siambr, ar draws pob plaid, a gweld y gwaed newydd a ddaeth i mewn ynghyd â'r gwaed sy'n dychwelyd sydd, yn gyffredinol, â buddiannau gorau Cymru yn eu calonnau.
Rydym yn wlad entrepreneuraidd a dynamig, ac ni ddylem byth fychanu ein hunain, dylem bob amser ganmol ein hunain. A chredaf y gall gwleidyddion o bob lliw ddod at ei gilydd a chydweithio, a chlywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am adeiladu consensws. Bydd gwahaniaethau rhyngom, ond ceir meysydd lle gallwn weithio—y Ddeddf aer glân, er enghraifft, y goedwig genedlaethol newydd y soniwch amdani yn eich maniffesto, Brif Weinidog, a hefyd y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol y siaradwch amdano hefyd. Ar y ddeddfwriaeth, y Ddeddf amaethyddol rydych wedi siarad amdani yn ogystal, sy'n bwysig i lawer o gymunedau gwledig. Felly, mae yna feysydd y gallwn gydweithio arnynt. Bydd yna feysydd lle byddwn yn gwrthdaro, ond fe fyddwn yn wrthblaid adeiladol, oherwydd mae'n hanfodol bwysig, wrth inni ddod allan o COVID—ac rwy'n defnyddio'r geiriau 'dod allan o COVID', oherwydd rydym yn dal i ddod allan ohono, yn hytrach nag edrych yn ôl ac anghofio amdano.
Mae gwaith mawr i'w wneud ym maes addysg, yn yr economi ac yn y gwasanaeth iechyd yn enwedig, sydd wedi cael ei daro i'r fath raddau dros y 12, 14 mis diwethaf, ac mae llawer o'r gweithwyr rheng flaen wedi gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd wedi gweithio a wynebu'r her, ac mae taer angen cefnogaeth y Llywodraeth ar y staff ar y rheng flaen, ond gwleidyddion hefyd, fel y gallwn wneud cynnydd a lleihau'r amseroedd aros ac adfywio ein cynnig addysg yma yng Nghymru, y bu cymaint o darfu arno a chymaint o niwed wedi'i wneud iddo, yn anffodus, dros y 12, 14 mis diwethaf, ac mae hynny'n parhau i ddigwydd, oherwydd, yn amlwg, mae'r addysg honno wedi'i cholli, ac mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn cyflwyno eu cynigion mewn modd amserol—ar yr economi yn ogystal, oherwydd gwyddom am yr heriau sy'n gysylltiedig â'r economi yn enwedig gyda'r cynllun ffyrlo yn dod i ben yn yr hydref, a bod pob ysgogiad gan y Llywodraeth yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod economi Cymru'n codi allan o'r hyn a fu'n brofiad erchyll iawn.
Ond rydym yn rhoi ein hymrwymiad fel gwrthblaid i weithio'n adeiladol lle gallwn, ond byddwn yn cyflawni ein dyletswydd fel gwrthblaid i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am ei gweithredoedd ac yn ceisio gwella'r ddeddfwriaeth lle gallwn wneud hynny. Ond mae dau faes y credaf fod taer angen eu mapio gan y Prif Weinidog, wrth iddo gyhoeddi ei Gabinet yfory. Mae'r Prif Weinidog wedi nodi mai dim ond am gyfnod cyfyngedig y bydd yn ei swydd, dwy i ddwy flynedd a hanner, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod ni fel gwleidyddion, yn ogystal â dinasyddion Cymru, yn deall sut y bydd hynny'n effeithio ar weithredu'r maniffesto a'r gwaith ar ymrwymiadau'r maniffesto. Ac yn ail, gyda'r cyhoeddiad yn San Steffan fod yr ymchwiliad COVID i ddechrau yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, bydd llawer o bobl yng Nghymru am ddeall beth fydd rôl Cymru yn yr ymchwiliad hwnnw, ond yn bwysig, ynglŷn â datblygu ymchwiliad yma yng Nghymru. Edrychaf ymlaen yn yr wythnosau nesaf at glywed y cyngor, yr arweiniad y mae'r Llywodraeth yn ei gyhoeddi ynghylch y camau y byddant yn eu cymryd ar yr economi, ar addysg ac iechyd, ac yn anad dim ar sicrhau bod Cymru, ar ddiwedd y tymor pum mlynedd hwn, gyda'i gilydd, drwy gydweithio, yn lle gwell na'r hyn rydym wedi dechrau ag ef, a'n bod yn manteisio ar yr ysbryd entrepreneuraidd, y ddynameg sy'n bodoli ym mhob cymuned ledled Cymru i ryddhau'r potensial y gwyddom amdano—dyma'r rhan fwyaf gwych o'r Deyrnas Unedig. Diolch, Lywydd.
Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.
Diolch, Llywydd, a gaf i ddechrau trwy eich llongyfarch chi ar gael eich ethol fel Llywydd? Mae'n dda i weld aelod o Blaid Cymru yn ennill o leiaf un etholiad y prynhawn yma, ond gaf i hefyd estyn yr un llongyfarchiadau i David Rees, ac, wrth gwrs, estyn fy llongyfarchiadau gwresog i Mark Drakeford ar gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog y prynhawn yma? Fel y dywedais i ar ôl canlyniad yr etholiad, gwnaeth Mark Drakeford sicrhau mandad i arwain Llywodraeth Cymru dros y cyfnod sy'n dod, a hoffwn i yn ddiffuant ddymuno yn dda iddo fe wrth ddelio â heriau a chyfleoedd y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
O safbwynt Plaid Cymru, dwi'n hynod falch o'r tîm egnïol ac ymroddedig sydd gennym ar ein meinciau ac yn ymuno â ni'n rhithiol heddiw, wrth gwrs, a'r syniadau newydd a blaengar fyddan nhw'n dod â nhw i'r chweched Senedd ac i wleidyddiaeth Cymru yn fwy cyffredinol. Dwi am gymryd y cyfle hefyd i dalu teyrnged ac i ddiolch i Leanne Wood, Helen Mary Jones, Dai Lloyd a Bethan Sayed am eu gwaith a'u gwasanaeth cyhoeddus dros nifer o flynyddoedd i wasanaethu eu cymunedau a democratiaeth Cymru. Bydd y chweched Senedd yn dlotach lle hebddyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio gyda fy nghyd-Aelodau wrth inni barhau i adeiladu'r achos dros annibyniaeth ac, wrth gwrs, i barhau i graffu, yn adeiladol ond yn gadarn, ar ymateb COVID Llywodraeth Cymru wrth inni symud i gyfnod adfer o'r pandemig. Byddwn ni'n edrych am bob cyfle i weithio yn y Siambr yma a thu allan iddi i weithredu ein rhaglen drawsnewidiol ac i fod yn llais i obeithion a dyheadau'r cymunedau sydd wedi ein hethol ni yma i'w cynrychioli nhw.
Mae'n teimlo fel petawn ni'n dychwelyd i Senedd sydd yn fwy hyderus yn ei chroen ei hun, ac mae'r Senedd sydd wedi ei hethol yn dangos bod pobl Cymru wedi pleidleisio o fwyafrif llethol o blaid hunanlywodraeth, ac wedi rhoi ei ffydd mewn Llywodraeth Gymreig a Senedd Gymreig i wneud y penderfyniadau pwysicaf am eu bywydau, gan gynnwys eu cadw nhw'n ddiogel a gwarchod eu hiechyd. Safodd y Prif Weinidog ar blatfform oedd yn dweud bod y Deyrnas Unedig ar ben a bod angen ailstrwythuro a diwygio cyfansoddiadol pellgyrhaeddol, gyda mwy o bwerau i Gymru. Dyna ei fandad, a byddwn ni'n ei ddal i'r ymrwymiad yna. Dim ond ddoe gwelson ni Michael Gove yn gwrthod yr alwad am home rule, ymreolaeth, er gwaethaf y bleidlais o hyder gan bobl Cymru yn y lle yma. Megis dechrau mae ymosodiad San Steffan ar ddatganoli. Wrth i'r Deyrnas Unedig ddatgymalu dros y blynyddoedd sy'n dod, rydyn ni ym Mhlaid Cymru mor grediniol ag erioed bod angen Cymru newydd, Cymru unedig, Cymru rydd, Cymru gydradd, lle bydd dyfodol Cymru yn nwylo Cymru, a dyma'r gwir lw rydyn ni fel Aelodau o Blaid Cymru wedi tyngu wrth gymryd ein seddi yn ein Senedd genedlaethol fan hyn.
Mae Senedd sy'n gwbl gytbwys rhwng y Llywodraeth a'r wrthblaid yn gwneud cydweithrediad gwleidyddol ar draws ffiniau pleidiau nid yn unig yn ddymunol ond yn angenrheidiol, ac rydym yn barod, ym Mhlaid Cymru, i ddod o hyd i dir cyffredin er budd y bobl sydd wedi ethol pob un ohonom i'r Senedd hon. Byddwn yn gweithio gyda'r Llywodraeth lle bo'n bosibl, a chyda'r gwrthbleidiau lle bo angen, mewn ysbryd o Gymru unedig, lle mae'r pethau sy'n ein huno yn aml yn llawer pwysicach, yn llawer mwy parhaus, na'r pethau sy'n ein rhannu.
Mae'r Prif Weinidog wedi ennill mandad i barhau ei Lywodraeth, ond nid oes mandad, ac yn sicr ni ddylai fod mandad, i barhau â newyn plant, i barhau â digartrefedd, tlodi bwyd a thanwydd, cyflogau tlodi, yr argyfwng ym maes tai, ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl. Canlyniad yr etholiad oedd status quo gwleidyddol, ond ni all fod—rhaid iddo beidio â bod—yn status quo cymdeithasol, yn status quo economaidd. A does bosibl nad yw hynny, yn fwy na dim, yn wir. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at genedlaethau'r dyfodol; rydym ni, yn unigryw ymhlith gwledydd y byd, wedi rhoi buddiannau cenedlaethau'r dyfodol ynghanol ein gwleidyddiaeth a'n cyfansoddiad. Dyma'r egwyddor sy'n tanio ein Llywodraeth. A does bosibl nad un maes lle na allwn dderbyn y status quo yw tlodi plant—staen foesol, staen foesol ar unrhyw genedl, ac yn sicr ar economi ddatblygedig fel ein hun ni yng Nghymru, lle mae bron i un o bob tri o'n plant yn byw mewn tlodi. Fel y dywedodd cyn-arweinydd y Blaid Lafur yn ddiweddar, mae tlodi i unrhyw un yn sgandal, ond mae tlodi plant yn drosedd. Felly, a gawn ni i gyd wneud datganiad, ar draws ffiniau pleidiau, y byddwn yn cydweithio i gael gwared ar y drosedd hon a'i diddymu yng Nghymru?
Ac rwy'n annog y Prif Weinidog—. Ac, yn anghonfensiynol, talais deyrnged iddo droeon drwy gydol yr etholiad, oherwydd rwy'n credu'n onest ei fod yn ddiffuant. Pan fydd yn sôn am fod yn radical ac yn uchelgeisiol, rwyf eisiau iddo lwyddo. Rwyf o ddifrif am iddo lwyddo. Ac a gaf fi ei annog—a gaf fi ei annog i edrych ar draws yr Iwerydd ar hyn o bryd, i edrych ar Lywodraeth Biden, sy'n drydanol yn fy marn i yn ei hymrwymiad i ddangos sut y gall gwleidyddiaeth fod yn gyfrwng ar gyfer newid trawsnewidiol? Mae wedi gosod nod, mawredd mawr, i dorri lefelau tlodi plant yn eu hanner o fewn blwyddyn yn Unol Daleithiau America. Ac mae wedi—. Ceir atseiniau o Gymdeithas Fawrfrydig LBJ a Bargen Newydd FDR. Dyna wleidyddiaeth uchelgais radical y mae Cymru'n galw amdani, a dyna'r arweiniad sydd ei angen arnom gan Lywodraeth newydd Cymru—nid petruso, nid hanner camau. Mae newid yn mynd i ddigwydd beth bynnag, boed ar ffurf awtomeiddio neu newid hinsawdd. Rhaid inni osod ein newid cadarnhaol ein hunain yn yr agenda a welwn wrth wraidd ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru. Mae yna uwchfwyafrif dros hunanlywodraeth yn y Senedd hon, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Gadewch inni adeiladu uwchfwyafrif hefyd dros gyfiawnder cymdeithasol a chynnydd economaidd. Os bydd y Prif Weinidog a'r Llywodraeth newydd yn rhoi hynny wrth wraidd eu gwleidyddiaeth, yna fe welant blaid ar y meinciau hyn sy'n barod i gefnogi nid yn unig y nod, ond y modd o'i gyrraedd hefyd.
Daw hynny â'n busnes am heddiw i ben. Mae gwerth pum mlynedd o fusnes i barhau o heddiw ymlaen, ac mae wedi bod yn dda eich gweld i gyd yn y Siambr hon a'r rheini ohonoch sydd ar Zoom hefyd, ac os caf ddweud wrthych, y rheini ohonoch sydd ar Zoom, mae'n wych gweld sgrin yn llawn o gyfranogwyr Zoom heb unrhyw silff lyfrau yn y golwg.
Felly, prynhawn da i chi i gyd.
Mae'r gwaith yn cychwyn yma.
Diolch yn fawr i chi.