4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adnewyddu a diwygio: Cefnogi lles a chynnydd dysgwyr

– Senedd Cymru am 3:22 pm ar 26 Mai 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:22, 26 Mai 2021

Croeso nôl. Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar adnewyddu a diwygio, cefnogi lles a chynnydd dysgwyr. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, mae'r flaenoriaeth sydd angen sylw ar frys yn glir: sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial llawn, er gwaethaf y pandemig. Fe fydd pob penderfyniad y byddaf i'n ei wneud fel Gweinidog yn cael ei lywio gan anghenion dysgwyr a'u lles nhw, gyda ffocws ar leihau anghydraddoldebau addysgol a sicrhau'r canlyniadau gorau i bawb.

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod, yn amlwg, yn un bwysig iawn yn ein hysgolion ni, ein lleoliadau dysgu ni, ein colegau a'n prifysgolion ac yn dangos pa mor bwysig ydyn nhw i'n plant a'n pobl ifanc. Mae ymarferwyr addysg wedi ymateb yn arwrol i heriau'r pandemig, gan arddangos hyblygrwydd, ymrwymiad a gwydnwch trawiadol. Dwi am ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad, eu dyfeisgarwch a'u hymateb cyflym. Mae dysgwyr hefyd wedi gorfod addasu, gan ddysgu a gweithio drwy ddulliau gwahanol iawn. Ond mewn gwirionedd, er gwaethaf hyn oll, mae'r pandemig wedi cael effaith arwyddocaol ar ein pobl ifanc, ar y proffesiwn addysg sy'n eu cefnogi, ac ar eu teuluoedd. Mae llawer o'n plant a'n staff wedi’i chael yn anoddach rheoli eu hiechyd meddwl a'u perthynas gydag eraill, ac mae wedi amlygu'r anghydraddoldebau di-ildio sy'n dal i fodoli mewn rhannau o'n system addysgol, bylchau o ran cyrhaeddiad ac mewn mynediad digidol na ddylai'r un ohonom eu derbyn.

Mae'n rhaid inni sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Fe fydd hyn yn galw am ymdrech aruthrol gan bob rhan o'r Llywodraeth a'r system addysg er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau uniongyrchol a thymor hirach COVID ar addysg. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rŷm ni wedi cymryd camau breision o ran cefnogi disgyblion o gefndiroedd difreintiedig. Mae'n rhaid inni adeiladu ar hyn. Allwn ni ddim caniatáu i’r pandemig gyfyngu ar uchelgais pobl ifanc o dan unrhyw amgylchiadau.

Fel Gweinidog a fydd yn gweithio gyda'r proffesiwn, fe fydd pob polisi a phenderfyniad yn cael ei wneud yng ngoleuni pa un ai yw'n cefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Ein nod ni yw sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial llawn, dim ots lle maen nhw arni ar hyn o bryd. Ac nid mater yw hyn o ddweud wrth ddysgwyr eu bod nhw 'ar ei hôl hi' neu dreulio oriau yn gweithio ar daflenni gwaith a phrofion. Allwn ni ddim seilio ein hadferiad yn dilyn y pandemig ar fodel o'r hyn sy'n ddiffygiol. Yn hytrach, mae angen inni aildanio brwdfrydedd dros ddysgu a gwneud yn siŵr bod dysgwyr—yn enwedig dysgwyr sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf—yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi bob cam o'r ffordd. Fe fyddwn ni'n rhoi dysgwyr gyntaf felly, gan gefnogi eu hiechyd a'u lles, eu lefelau cymhelliant a'u hyder, a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n parhau i ddatblygu'r sgiliau allweddol sy'n eu galluogi i ddysgu. Dyma'r seiliau y bydd ein dysgwyr yn adeiladu arnyn nhw i wneud y cynnydd sydd ei angen.

Mae'r pecynnau cymorth rŷn ni'n eu datblygu yn cael eu dylunio i fynd i'r afael â'r heriau unigryw sy'n wynebu gwahanol ddysgwyr. Mae pob dysgwr wedi bod drwy ei brofiad ei hun o gyfnod COVID, ac fe fydd natur ein cefnogaeth yn adlewyrchu hyn. Bydd ein cefnogaeth yn canolbwyntio ar helpu dysgwyr ôl-16 i symud ymlaen i gamau nesaf eu taith, darparu'r seiliau sy'n galluogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed a difreintiedig i gyflawni eu potensial, a chefnogi datblygiad hollbwysig ymhlith dysgwyr blynyddoedd cynnar.

A bydd y dysgwyr ieuengaf hynny'n cael eu cefnogi gan y £13 miliwn ychwanegol rwy'n ei gyhoeddi heddiw ar gyfer ysgolion a lleoliadau nas cynhelir, i'w helpu i ddarparu capasiti addysgu ychwanegol i gefnogi anghenion unigryw ein dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar. Mae cyfleoedd rhyngweithio ystyrlon o ansawdd yn hanfodol, ac mae galluogi cymarebau gwell o ran ymarferwyr a dysgwyr yn helpu i ddarparu'r cyfleoedd chwarae addysgol, gweithredol, a dysgu drwy brofiadau gyda chymorth ymarferydd, sy'n ofynnol ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf.

Bu heriau penodol i'n dysgwyr ieuengaf sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad gartref. Mae athrawon mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi gweithio'n eithriadol o galed yn ystod y pandemig i gefnogi cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg, ac yn bwysicach, eu cariad at ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn ni'n parhau i gefnogi'r athrawon a'r dysgwyr hynny, gan adeiladu ar gefnogaeth y rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, sydd wedi helpu i gynyddu capasiti ac i ddod â dulliau newydd ac arloesol o ddiwallu anghenion ieithyddol ysgolion.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:27, 26 Mai 2021

(Cyfieithwyd)

Nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth bod gan ein cwricwlwm newydd y potensial i drawsnewid dysgu, ond dim ond os ydym ni'n cefnogi ein hathrawon ni i'w wneud yn llwyddiant. Rhaid i ni wella a diwygio, ac rwy'n benderfynol ein bod yn adeiladu ar y pwyslais ar les a hyblygrwydd a welwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn agos â'r cwricwlwm newydd. Mae ein system addysg wedi dangos cadernid a hyblygrwydd rhyfeddol, ac mae'n rhaid i ni ddysgu o hynny.

Rwy'n bwriadu cymryd camau ar unwaith i gefnogi'r proffesiwn a rhoi lle iddyn nhw ganolbwyntio ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud orau: addysgu. Mae hynny'n golygu ymdrin â biwrocratiaeth ddiangen, ymddiried yn eu barn broffesiynol a chefnogi eu lles. Rwyf eisiau i'r system gyfan ddysgu o'r hyn sydd wedi gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a pharhau i gynyddu gallu i wella.

Dyna pam yr wyf i hefyd yn cyhoeddi £6.25 miliwn i helpu athrawon mewn ysgolion i ehangu eu gallu a'u medrusrwydd i gefnogi lles dysgwyr o fewn addysgu, hyrwyddo arfer gorau a rhannu hynny ar draws ysgolion, fel ein bod ni'n helpu ysgolion i feithrin cadernid rhag COVID ac ehangu'r newidiadau cadarnhaol i ffyrdd o weithio. Daw hyn â'n buddsoddiad ni i dros £150 miliwn mewn cymorth addysgu mewn ysgolion a cholegau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Byddaf i'n gweithio mewn partneriaeth â'r proffesiwn, ein partneriaid addysg, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, i sicrhau ein bod ni'n cyd-fynd â'r blaenoriaethau cyffredin hyn ac yn symud tuag atyn nhw gyda'n gilydd. Byddaf i'n gwrando ar leisiau ein dysgwyr, gan adeiladu ar waith gwerthfawr arolygon 'Coronafeirws a Fi' Comisiynydd Plant Cymru, fel bod gan ein plant a'n pobl ifanc lais yn y polisïau sy'n effeithio fwyaf arnyn nhw.

Mae ein partneriaid eisoes wedi ein helpu ni i ddiffinio'r egwyddorion llywodraethu yr wyf i wedi'u nodi heddiw ar gyfer ein cynlluniau adnewyddu a diwygio. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf i'n cyhoeddi cynllun manwl sy'n adlewyrchu'r egwyddorion hynny ac sy'n adeiladu ar y 1,800 o staff addysgu llawn amser ychwanegol a gafodd eu recriwtio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn eu cefnogi. Bydd y cynllun hefyd yn disgrifio sut y byddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i alluogi dysgwyr i symud ymlaen yn hyderus drwy eu haddysg. Ac yn olaf, byddaf i'n nodi sut y byddwn ni'n gwerthuso'r camau yr ydym ni'n eu cynnig, a sut y byddwn ni'n dangos bod ein cynlluniau'n llwyddo, o ran cefnogi ein dysgwyr a'n hathrawon ac adnewyddu'r sector addysg i symud ymlaen at ddiwygio.  

Dirprwy Lywydd, bydd y flwyddyn nesaf hon yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallwn ni gyflawni ein huchelgeisiau mawr ni ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae'n ddyletswydd arnom ni i beidio â chaniatáu i'r pandemig bylu dyheadau na chulhau gorwelion ein plant a'n pobl ifanc. Mae'r penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yma nawr yn hanfodol i sicrhau bod pob dysgwr unigol yn cael ei gefnogi i fod y gorau y gall fod.

Nid yw COVID-19 wedi diflannu, ac fel Llywodraeth byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ymateb i'r pandemig. Ond nawr yw'r amser i gefnogi ein hymarferwyr a'n dysgwyr ni i wneud y cynnydd sydd ei angen arnyn nhw, i adeiladu ar y cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac i edrych ymlaen ac i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau ar gyfer addysg yng Nghymru.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:30, 26 Mai 2021

(Cyfieithwyd)

Cyn i mi alw'r siaradwr nesaf, a gaf i atgoffa'r Aelodau, yr hen a'r newydd, mai diben datganiadau yw gofyn cwestiynau ac nid gwneud areithiau hir? Mae hynny ar gyfer dadleuon, a fydd yn dod yn ddiweddarach yn y Senedd; rwy'n siŵr y bydd pawb yn cymryd rhan yn hynny. Felly, er bod pum munud wedi'u neilltuo i lefarwyr y prif bleidiau, mae gan bawb arall un funud. Cadwch at hynny a gofynnwch gwestiynau. Ac i'r Gweinidogion, a gaf i eu hatgoffa i fod yn gryno yn eu hatebion hefyd?

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 3:31, 26 Mai 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Yn gyntaf, a gaf i'ch llongyfarch ar eich penodiad yn Weinidog addysg? Mae'n swydd mor hanfodol bwysig; mae gennych chi ddyfodol ein plant yng Nghymru yn eich dwylo chi nawr. Ac i'r diben hwn, yn ogystal â chraffu arnoch chi a'ch dwyn i gyfrif, byddwn ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio gweithio gyda chi mewn unrhyw ffordd y gallwn ni, mewn modd adeiladol, oherwydd mae'n bwysig nawr ein bod ni'n gwneud pethau'n gywir o ran addysg a dyfodol ein plant, ar ôl popeth y maen nhw wedi bod drwyddo yn y pandemig yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf—mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gwneud pethau'n gywir, ac mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd ar draws y Siambr er mwyn gwneud hyn. 

Mae angen i ni sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, eu bod yn cael y system addysg deg, gyfartal a blaengar y maen nhw'n ei haeddu, a'u bod yn cael y gefnogaeth a'r cyfleoedd i symud ymlaen i'w bywydau yn y dyfodol. Hoffwn i hefyd, fel yr oeddech chi wedi'i amlinellu yn eich datganiad, ddiolch yn gyflym, os caf i, Dirprwy Lywydd, i'r holl staff addysgol sydd wedi gofalu am ein plant drwy gydol y pandemig hwn gyda'r holl ffyrdd newydd o weithio, a gweithio gartref. Fel rhiant i blentyn 11 oed, gwelais drosof fi fy hun yr anawsterau yn sgil hynny, cyrraedd ein plant, a darparu'r addysg honno hefyd. Felly, pob clod iddyn nhw. Gwnaethon nhw waith mor wych o dan amgylchiadau mor anodd. 

Hefyd, hoffwn i sôn am y pandemig a'r effaith a gafodd hwnnw. Roedd yn enfawr. Roedd yn amlwg yn effeithio ar bawb, ond collodd ein pobl ifanc gymaint o gyfnodau o'u bywyd, a rhoi'r gorau i gymaint i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas, ac maen nhw wedi colli rhywfaint o addysg oherwydd hynny, ond hefyd agwedd gymdeithasol ysgol, y gwelwn ni nawr sydd, fel yr ydych chi wedi ei amlinellu yn eich datganiad, yn hanfodol, ac yn rhan hanfodol bwysig o daith system addysg ein plant. Felly, roeddwn i eisiau sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio'n wirioneddol ar hynny. 

Ynghylch y datganiad, o ran cyllid, wrth gwrs, rydym ni'n croesawu eich datganiad, a chroesawn ni fwy o arian yn dod i'r system addysg. Mae'n hanfodol nawr ein bod ni nid yn unig yn llenwi bylchau gydag arian, ond ein bod ni wir yn ystyried sut y gallwn ni gefnogi ein plant ni yn y tymor hir, a'n hathrawon ni yn y tymor hir nawr, a chadw'r cyllid hwnnw'n fyw cyhyd ag sy'n angenrheidiol i'w helpu nhw i ddod yn ôl ar eu traed—disgyblion ac athrawon. Rydym ni'n croesawu'r cyllid, ond yn benodol, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu sut y caiff y cyllid hwnnw ei ddefnyddio? A yw'n mynd i gael ei ddefnyddio ar gyfer athrawon newydd, neu a yw, fel yn y cylch ariannu diwethaf, yn mynd i gael ei ddefnyddio ar gyfer cynorthwywyr addysgu newydd?

Yn amlwg, mae gwahaniaeth mawr rhwng y ddau, ac rydym ni wedi gweld nifer yr athrawon yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, byddai'n dda cynyddu nifer yr athrawon sydd gennym ni. Byddwn i'n gwerthfawrogi eglurder ar hynny. Hefyd, o ran graddau asesu athrawon, mae angen i ni ystyried y presennol, a dyna sydd bwysicaf yn ein hysgolion ar hyn o bryd. Mae gennym ni lawer iawn o bwysau yn cael ei roi ar ein hysgolion a'n hathrawon i gyflawni hyn yn gywir, ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y graddau asesu athrawon yn deg ac yn gywir, ond mae'r pwysau y maen nhw'n ei roi ar wneud yr asesiadau ac ati, a phopeth sy'n gysylltiedig â hynny i gyrraedd y pwynt hwnnw nawr, yn enfawr.

Rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymweld ag ysgol yn fy rhanbarth i yn ddiweddar, Ysgol Gyfun Trefynwy, ac rwy'n gwybod bod y pennaeth yno yn pryderu'n fawr ynghylch y niferoedd y mae'n rhaid iddo ymdrin â nhw—gorfod darparu 30,000 o raddau asesu athrawon a'r cyfan sy'n gysylltiedig â hynny. Roeddwn i eisiau gwybod pa fathau o gynlluniau sydd gennych chi ar waith i gefnogi ein hathrawon yn hynny o beth. A hefyd, a ydych chi'n credu bod y pwysau hynny, felly, os ydych chi'n ystyried ceisio cyflwyno'r cwricwlwm newydd hwn, yn ôl yr amserlen sydd gennym ni—a ydych chi'n credu bod y pwysau hynny'n arwain pobl oddi ar y trywydd iawn yr adeg hon pryd y dylen nhw fod yn defnyddio'r amser i baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd hwnnw, o fewn yr amserlenni sydd gennym ni? Felly tybed a wnewch chi ateb rhai o'r cwestiynau hynny.

Hefyd, o ran addysg cyfrwng Cymraeg, mae eich datganiad yn cydnabod bod heriau penodol wedi bod i'r dysgwyr iau sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, lle nad oedd y Gymraeg yn cael ei siarad gartref. Mae hwn yn fater yr oedd Estyn wedi'i godi'n ddiweddar wrth ymgysylltu'n ddiweddar â'n hysgolion, ac roedd llawer o ysgolion yn teimlo, at ei gilydd, fod rhywfaint o golli tir ym medrau iaith ein disgyblion. Felly, mae angen, Gweinidog, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi, cymorth wedi'i dargedu'n fwy ar gyfer y dysgwyr penodol hyn. Byddai gennyf i ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud ynghylch hynny.

A hefyd, o ran iechyd meddwl, mae'n rhaid i iechyd meddwl fod—

Photo of David Rees David Rees Labour 3:36, 26 Mai 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i atgoffa'r Aelod ei bod hi nawr wedi cael y pum munud? Byddaf i'n efelychu fy rhagflaenydd drwy sicrhau bod pobl yn cadw at yr amser.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

(Cyfieithwyd)

Iawn. Mae'n ddrwg gennyf. Dof at y terfyn. Yn amlwg, mae'n rhaid i iechyd meddwl fod yn flaenoriaeth lwyr, ond yn eich datganiad chi nid oeddech chi mewn gwirionedd wedi ymdrin ag iechyd meddwl ein hathrawon a sut y byddan nhw'n cael eu cefnogi. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi eich sylwadau ar hynny. Diolch, Gweinidog. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich geiriau yn fy llongyfarch, ac am wneud eich sylwadau yn y fath gywair. Yn sicr, byddaf i eisiau gweithio'n adeiladol gyda'r holl bleidiau yn y Siambr hon i gyflawni dros ein plant a'n pobl ifanc, ledled Cymru. Rwy'n credu, os byddwn ni'n canolbwyntio ar les a dilyniant dysgwyr, gan gefnogi lles y proffesiwn, yn y ffordd y cyfeiriodd yr Aelod ato ar ddiwedd ei chwestiwn, y byddwn ni'n dod o hyd i ddigon o dir cyffredin.

Ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, gwnaethom ni gynnal ymarfer helaeth, fel y mae'r Aelod yn ei wybod, o ran edrych ar effaith COVID ar draws pob agwedd ar ein cymdeithas. Roedd yn amlwg iawn bryd hynny, fel y gwnaethom ni ei drafod yn y Siambr hon ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, y byddai ein plant a'n pobl ifanc yn ysgwyddo baich sylweddol o ran ymdrin â COVID oni bai ein bod yn cymryd camau penodol i ymyrryd. Dyna sy'n ysgogi'r datganiad yr wyf i wedi'i wneud heddiw. Rwy'n cytuno â'r Aelod bod gweledigaeth hirdymor ac ymrwymiad hirdymor yn gwbl hanfodol. Rwy'n credu mai dyna'r cymhelliant y tu ôl i nifer o'r ymyriadau yr ydym ni wedi'u gwneud hyd yn hyn, sy'n canolbwyntio ar allu dysgwyr i ddysgu, ond mewn ffordd sy'n cefnogi eu lles ehangach, sy'n rhoi iddyn nhw y sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw, neu i ailddysgu'r sgiliau nad oedden nhw efallai wedi gallu eu harfer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel bod eu hymgysylltiad â'u dysgu gystal ag y gall fod. Rwy'n credu y bydd angen dull pwrpasol iawn o ymdrin â dysgwyr, oherwydd nid yw profiad pob dysgwr o'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yr un fath.

O ran y cyllid yr oedd yr Aelod wedi gofyn i mi amdano, bydd yn cofio'r cyhoeddiad gwerth £72 miliwn o fuddsoddiad ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd, a oedd wedi'i fwriadu yn bennaf i gefnogi ein cyllid ar gyfer y rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddysgwyr agored i niwed a dysgwyr difreintiedig, ac yn ogystal â hynny, cyllid o £33 miliwn i gefnogi addysgu ôl-16 mewn colegau addysg bellach a dosbarthiadau chweched dosbarth awdurdodau lleol. A bydd hwnnw, ynghyd â'r cyllid heddiw, yn cael eu defnyddio i gefnogi dysgwyr yn y dyfodol, yn y cyfnod i ddod.

O ran y cyllid newydd, mae'n cyflawni dau ddiben. Yn gyntaf, gwella'r cymarebau ar gyfer dysgwyr blynyddoedd cynnar. Rydym ni'n ymwybodol bod meithrin cydberthnasau, dysgu drwy chwarae, yn gwbl hanfodol yn y blynyddoedd cynnar, ac felly mae'r cymarebau'n bwysig iawn. Felly, mae'r cyllid wedi'i gynllunio i wella'r cymarebau hynny, ac yna hefyd i ddarparu adnoddau fel y gall athrawon gefnogi lles dysgwyr drwy ddysgu, a bod yr arferion gorau hynny'n cael eu rhannu ymhlith ein hysgolion. Felly, mae ganddo'r ddau ddiben hynny.

Gofynnodd yr Aelod rai cwestiynau penodol iawn ynghylch y gwaith o ran graddau wedi'u pennu gan y ganolfan ar gyfer yr asesiadau yr haf hwn. Rwyf i'n cydnabod yn llwyr fod athrawon yn chwarae rhan gwbl hanfodol wrth gyflawni hynny. Gwnaethom ni ddysgu hynny o'r haf diwethaf—pa mor bwysig yw ymddiried ym marn athrawon wrth gyflawni'r canlyniadau i'n dysgwyr. Rwy'n cydnabod bod hynny'n golygu eu bod yn rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd yn eu bywyd gwaith. Rydym ni wedi ceisio cefnogi hynny drwy ddarparu adnoddau a deunyddiau, drwy ddarparu rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol, yn enwedig  o ran asesu a chymedroli diwedd cyfnod mewn blynyddoedd nad ydyn nhw'n arwain at gymwysterau, a darparu rhywfaint o arian ychwanegol fel y gall ysgolion greu rhywfaint o gapasiti ychwanegol yn eu darpariaeth. 

O ran y cwricwlwm, nid wyf i eisiau colli'r momentwm sy'n bodoli yn y system tuag at weithredu'r cwricwlwm. Mae brwdfrydedd mawr, rwy'n credu, a'r hyn rwy'n credu yr ydym ni wedi'i ddysgu o COVID yw bod angen i ddysgwyr allu addasu a bod yn fentrus ac ymateb i fyd sy'n newid o'u cwmpas—a'r canolbwyntio hollbwysig hwnnw ar les dysgwyr. Dyna'n union yw'r rhinweddau y mae eu hangen arnom ni yn ein system ysgolion er mwyn ffynnu ym myd y cwricwlwm newydd. Felly, rwy'n awyddus ein bod ni'n symud ymlaen, a'n bod ni'n adeiladu ar yr hyn yr ydym ni wedi'i ddysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac ymgorffori hynny yn y cwricwlwm newydd. 

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ar fater iechyd meddwl, rwy'n credu bod mater lles dysgwyr a gweithwyr proffesiynol wrth wraidd hyn. Cafodd y fframwaith ysgol gyfan ei gyhoeddi ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd. Rydym ni wedi cyhoeddi cyllid sylweddol i ddatblygu hynny yn nhymor y Senedd hon, ac mae'n parhau i fod yn ymrwymiad sylfaenol ar fy rhan i i gyflawni hynny yn ein hysgolion. 

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:41, 26 Mai 2021

Llongyfarchiadau mawr ichi ar eich penodiad. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio efo chi, Jeremy. Byddwch chi'n gwybod y byddaf i'n craffu ar eich gwaith chi'n fanwl, yn herio pan fydd angen, a hynny er mwyn gwella profiadau plant a phobl ifanc Cymru a'r rhai hynny sydd yn eu cefnogi nhw. Gobeithio y byddwch chi'n barod i gyfarfod yn rheolaidd. Roedd gwneud hynny efo eich rhagflaenydd yn werthfawr iawn. 

Diolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae yna lawer o waith i'w wneud i ddelio ag effeithiau'r pandemig, fel rydych chi'n ei ddweud, ond, yn anffodus, dydy COVID ddim wedi mynd, ac mae yna risg o drydedd don, a hynny'n gynyddol debygol. Gallai hynny, wrth gwrs, arwain at amharu pellach ar addysg. Yn anffodus, mae yna fylchau yn y data a'r wybodaeth o ran yr amrywiolyn India mewn ysgolion. Rydym ni wedi clywed undebau athrawon yn Lloegr yn pryderu'n fawr am ddiffyg tryloywder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran effaith a lledaeniad yr amrywiolyn mewn lleoliadau addysgol. Os ydym ni i weld yr amrywiolyn yn dechrau lledaenu yng Nghymru, mae angen inni ei ddeall o, cyn iddo fo ddod yn broblem ac amharu ar addysg eto. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi prynhawn yma ydy: a ydy Llywodraeth Cymru wedi gweld data ar ledaeniad yr amrywiolyn India ac effaith hynny, neu effaith tebygol hynny, ar ysgolion yng Nghymru? 

Mae ysgolion wedi gorfod cau eu drysau mewn ardaloedd o Loegr yn ddiweddar, ac mae hyn wedi dechrau digwydd yng Nghymru hefyd, yn anffodus. Ddydd Llun, fe welwyd 335 o ddysgwyr yn ysgol West Park ym Mhorthcawl yn gorfod hunanynysu, ac mae yna beryg go iawn y gwelwn ni aflonyddwch tebyg i'r hyn a brofwyd dros y cyfnodau clo diwethaf. Felly, hoffwn i wybod beth ydy cynlluniau Llywodraeth Cymru i liniaru ar effeithiau hunanynysu a cholledion dysgu ar gynnydd a lles dysgwyr Cymru. Rydym ni yn gobeithio na fydd hyn ddim yn digwydd, ond mae'n rhaid cael sicrwydd fod gennych chi gynlluniau penodol yn ymwneud â chysylltedd, yn ymwneud â phrinder offer, gofod, amgylchiadau addas sy'n angenrheidiol i ddysgu. A gobeithio bod yna gyfle y prynhawn yma i chi amlinellu yn union beth ydy'r cynllun yna. 

Yn eich datganiad chi rydych chi'n gosod gweledigaeth o gefnogi plant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, a dwi'n cytuno yn llwyr efo chi ar hynny. Mae tlodi plant yn parhau i gyfyngu ar gynnydd a lles ein dysgwyr ni ac yn niweidio pob agwedd ar ddatblygiad plant yma yng Nghymru, o bosib yn fwy nag unrhyw ffactor arall.

Dwi yn mynd i droi at fanteision pryd bwyd ysgol am ddim i bawb. Rydym ni'n gwybod y gall pryd maethlon rheolaidd wella perfformiad plentyn yn yr ysgol ac iechyd y plentyn yn gyffredinol, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod hanner y plant sydd mewn tlodi yng Nghymru yn colli allan ar brydau ysgol am ddim—dros 70,000 o blant. Mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi gwaethygu tlodi, gan gynnwys tlodi plant, ac felly'n effeithio ymhellach ar les ac addysg ein pobl ifanc ni. Felly, fy nghwestiwn olaf i brynhawn yma ydy: a wnewch chi wneud y peth cyfiawn, sef ehangu cymhwysedd prydau ysgol am ddim i blant o deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol? Pryd fyddwch chi'n amlinellu eich amserlen chi ar gyfer cyflawni hyn? Diolch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:45, 26 Mai 2021

Diolch i Siân Gwenllian am ei chwestiynau a diolch am y cynnig i gydweithio. Rwy'n sicr yn frwd fy hunan i gydweithio ac yn bwriadu danfon gwahoddiad i lefarwyr y gwrthbleidiau ar y maes addysg a'r Gymraeg i gwrdd yn rheolaidd er mwyn i ni allu datblygu patrwm o gyfathrebu agored ynglŷn â'r sialensiau rŷn ni'n sicr i gyd eisiau cydweithio arnyn nhw er mwyn eu datrys.

O ran dyfodol patrwm lledaeniad yr amrywiolyn a'r pandemig yn fwy cyffredinol, wrth gwrs, does dim un ohonom ni'n gallu darogan yn sicr beth a ddaw o'n blaenau ni yn y misoedd nesaf. Beth rŷn ni'n gallu gwneud yma yng Nghymru yw edrych ar batrwm lledaeniad yr amrywiolyn yn Lloegr ar hyn o bryd a dysgu gwersi o'r hyn rŷn ni'n gweld yn fanna a'r data sy'n dod ac sy'n deillio o'r trosglwyddiad fanna.  Felly, mae gennym ni gyfle i edrych ac i ddysgu o'u profiad nhw gan eu bod nhw'n gweld y lledaeniad yn mynd rhagddo cyn iddo ddigwydd yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, mae impact hynny ar sut y mae'r ysgolion yn gweithredu yn greiddiol. Wrth gwrs, bydd yr Aelod yn gwybod bod y cyngor rŷn ni'n ei gael wrth yr incident management teams yn gyffredinol yn dangos mai lledaeniad cymdeithasol sydd y tu cefn i'r achlysuron o'r trosglwyddiad a'r impact yn yr ystafell ddosbarth, a dyna'r patrwm rŷn ni dal yn ei weld. Ond, wrth gwrs, bydd cynlluniau wrth gefn gyda ni. Rwyf eisoes wedi trafod gyda rhai o'r undebau dysgu ynglŷn â rhoi rhyw elfen o ddarlun o'r hyn fydd yr ysgol yn edrych fel yn yr hydref, ond mae dealltwriaeth glir, rwy'n credu, ei fod yn anodd darogan yn sicr beth yw patrwm y pethau yma. Ond yr ymrwymiad rydw i'n ei roi yw i gydweithio gyda'r proffesiwn a chyda'r awdurdodau lleol fel ein bod ni'n edrych yn dryloyw ar y sialensiau sydd o'n blaenau ni ac fel bod gyda ni gynlluniau wrth gefn sydd yn addas ar gyfer hynny. Byddem yn sicr yn moyn darparu cefnogaeth, fel yr oedd Siân Gwenllian yn dweud, i ddisgyblion sydd yn gorfod hunan-ynysu—darpariaeth ar-lein, darpariaeth ddigidol ac yn ehangach na hynny hefyd.

O ran prydiau bwyd yn yr ysgol, rwyf eisoes yn edrych gyda swyddogion ar yr opsiynau y gallwn ni edrych arnyn nhw. Yn y flwyddyn hon, mae yna £23 miliwn o gyllideb wedi'i neilltuo ar gyfer prydiau bwyd am ddim a'r cynllun SHEP dros yr haf—y school holiday enrichment programme—bydd y mwyaf eang byddwn ni wedi'i redeg. Ond rwy'n derbyn fod ymrwymiad gyda ni yn ein maniffesto ni i edrych ar y cymwysterau ar gyfer prydiau bwyd am ddim a rŷn ni'n sicr yn mynd i fwrw ymlaen gyda hynny.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 3:48, 26 Mai 2021

(Cyfieithwyd)

Gweinidog Addysg y Cabinet—a gaf i hefyd ddechrau drwy eich llongyfarch chi ar gael eich penodi yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg? Rwy'n gwybod na fydd gan blant Islwyn a Chymru well hyrwyddwr a diolch i chi am eich datganiad llawn gwybodaeth heddiw.

Mae ysgolion Islwyn, plant, staff, teuluoedd a llywodraethwyr wedi gwneud popeth o fewn eu gallu a mwy i gynnal dysgu a chadernid yn ystod y pandemig digynsail hwn. Ac mae croeso cynnes iawn i'r cyhoeddiad heddiw y bydd £13 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu i gefnogi anghenion unigryw dysgwyr y blynyddoedd cynnar, ynghyd â £6.25 miliwn ychwanegol i helpu ysgolion i feithrin cadernid drwy COVID.

Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ddathlu ymdrechion anferth ysgolion ledled Islwyn, ac yn enwedig Ysgol Gynradd Trinant a'u pennaeth, Mrs Sian James, am eu gwaith arloesol iawn fel rhan o gymuned FareShare Cymru? Ac a wnewch chi, yn rhinwedd eich swyddogaeth yn Weinidog addysg yn gyntaf, dderbyn gwahoddiad i ymweld ag Islwyn—yn gynnar yn eich cyfnod yn y swydd—i ymweld ag Ysgol Gynradd Trinant a gweld drosoch chi eich hun y gwaith rhagorol hwnnw y maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod pob plentyn yn symud ymlaen i gyrraedd y potensial llawn hwnnw? A hefyd, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu portffolios gweinidogol llesiant a'r celfyddydau a gweithio cydgysylltiedig i hyrwyddo potensial a lles disgyblion ac, yn amlwg, yn arbennig nawr, wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyflwyno addewid maniffesto cerddoriaeth Cymru, cyflawni potensial pobl ifanc a chydraddoldeb wrth fanteisio ar gyfleoedd addysgol yn seiliedig ar y gallu i chwarae yn hytrach na'r gallu i dalu?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:50, 26 Mai 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i Rhianon Passmore am hynna ac am barhau i hyrwyddo anghenion a buddiannau pobl ifanc ledled Cymru, yn ogystal ag yn ei hetholaeth ei hun, sef Islwyn. Rwy'n ymuno â hi i longyfarch y gweithlu addysg yn yr ysgol y soniodd hi amdani ac ar draws Islwyn, yn wir, ledled Cymru, am yr ymdrechion eithriadol y maen nhw wedi'u dangos yn ystod y 12 i 15 mis diwethaf, sydd, yn amlwg, wedi bod yn eithriadol o heriol. Ond rwy'n credu bod athrawon a'r gweithlu addysg yn fwy cyffredinol wedi dangos arloesedd mawr, tosturi mawr a chreadigrwydd mawr wrth sicrhau bod profiad dysgwyr y gorau y gall fod o dan yr amgylchiadau eithriadol o heriol hynny, a byddaf i'n ddiolchgar iawn o dderbyn gwahoddiad os caf i un i ymweld â'r ysgol.

Daeth hi i ben drwy siarad am y maes yr wyf i'n gwybod sydd wedi bod yn anhygoel o agos at ei chalon hi ac un y mae hi wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau y gallwn ni i gyd wneud cynnydd arno, ac mae hynny'n ymwneud â darparu cerddoriaeth yn yr ysgol. Mae hi a fi wedi siarad ychydig am hyn droeon gan fod y ddau ohonom ni wedi elwa ar hynny, yn fawr iawn, yn ein cyfnod yn yr ysgol. Bydd hi'n ymwybodol o'r ymrwymiad sydd gennym ni i gyflwyno gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Braint fy nghyd-Aelod Dawn Bowden fydd bwrw ymlaen â hynny, ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi. Rwy'n credu bod yr Aelod yn cyfarfod â hi'n fuan iawn, a byddaf i'n cyfarfod â fy nghyd-Aelod yn fuan iawn ar ôl hynny i'w chefnogi hi a'i gwaith yn bwrw ymlaen â hynny.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, un o'r ffactorau pwysig wrth helpu plant ifanc i adfer o'r pandemig yw'r amgylchedd dysgu. Mae hefyd yn bwysig iawn, wrth gwrs, i'w lles a lles staff. Ond mae llawer o bobl ifanc a'u rhieni wedi codi pryderon gyda mi ynglŷn â'r gofyniad parhaus i wisgo masgiau wyneb a gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. O gofio bod newid sylweddol wedi digwydd dros y ffin yn Lloegr ac nad yw'r gofyniad hwnnw yno nawr, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i edrych ar y gofyniad penodol hwn eto, yn enwedig o gofio bod pryderon wedi'u codi gan y comisiynydd plant ynglŷn â'r effaith y gall gorchuddion wyneb eu cael ar les pobl ifanc o ran yr anghysur y gall pobl ei brofi, y brechau a'r cyflyrau croen y mae pobl yn eu cael, a'r ffaith, wrth gwrs, y gall y rhai sy'n gwisgo sbectol yn aml ei chael hi'n anodd gweld drwy'r sbectol honno oherwydd y stêm sy'n cael ei greu? Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen edrych arno.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:52, 26 Mai 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i Darren Millar am y cwestiwn pwysig yna. Y pwynt yn ei gwestiwn sy'n fy nharo i'n hanfodol, rwy'n credu, yw gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc y mae hyn yn effeithio arnyn nhw, a gwnes i gyfarfod â'r comisiynydd plant yn ddiweddar, ac, yn amlwg, dyma un o'r materion yr oeddem ni wedi'u trafod. Rhoddodd grŵp ffocws diweddar o ddysgwyr a gafodd ei gynnal ar ein rhan gan Plant yng Nghymru eu barn o ran gwisgo masgiau wyneb neu orchuddion wyneb, ac roedd y safbwyntiau'n gymysg, rwy'n credu, ac mae rhywfaint ohonyn nhw'n adlewyrchu'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio, ac roedd rhai ohonyn nhw'n adlewyrchu pryderon ynghylch y ffaith eu bod eisiau parhau i'w gwisgo. Felly, rwy'n credu ei fod yn ddarlun cymysg.

O ran y gymhariaeth â Lloegr, fel y mae'r Aelod, yn ymwybodol, rydym ni'n ystyried y cwestiynau hyn yn y cylch tair wythnos yr ydym ni wedi'i osod. Mae angen i'r Llywodraeth ystyried pob ymyriad ar y sail honno; dyna'r hyn y mae'r gyfraith yn ei dweud wrthym ni i'w wneud, a dyna a wnawn ni. Er ein bod ni'n gwybod bod nifer y trosglwyddiadau yng Nghymru yn well nag y maen nhw wedi bod ers amser maith a'u bod mewn lle da, rydym ni hefyd yn ymwybodol o effaith yr amrywiolyn sy'n peri pryder yr ydym ni wedi bod yn sôn amdano'n gynharach yn y sesiwn hon. Ac felly, mae'n rhaid i ni edrych ar y darlun, rwy'n credu, yn ei gyfanrwydd. Ond y sicrwydd y gallaf i ei roi i'r Aelod yw ein bod ni yn edrych arno yn ei gyfanrwydd, rydym ni'n ymwybodol o'r effeithiau anffafriol a gaiff hyn yn ogystal â'r effaith ragofalus a gaiff, a byddwn ni'n gweithio gyda'r grŵp cynghori technegol a'u harbenigedd, y cyngor iechyd cyhoeddus yr ydym ni'n ei gael, i sicrhau bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn y maes hwn yn gadarn a'u bod, yn ein barn ni, yn adlewyrchu'r asesiad risg fel y mae. Fel y dywedais i, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei adolygu'n gyson, a byddwn ni'n gweithio gyda'r proffesiwn, awdurdodau lleol ac yn gwrando ar leisiau pobl ifanc wrth wneud y penderfyniadau hynny.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Llongyfarchiadau i chi ar eich penodiad, a llongyfarchiadau i chi, Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg, hefyd. Diolch i chi am eich datganiad heddiw, a bydd athrawon, myfyrwyr a rhieni ledled Cymru yn croesawu ei gynnwys a'i gywair, rwy'n siŵr. Ac fel cyn-athrawes, rwy'n gwybod yn iawn am y baich y mae biwrocratiaeth yn ei roi ar ein staff addysgu, a sut y mae'r baich hwnnw'n amharu ar yr amser y gall ein hathrawon ei dreulio ar baratoi a chyflwyno gwersi o safon, yn ogystal ag effeithio ar yr amser sy'n cael ei dreulio yn cynnig gofal bugeiliol hanfodol a chymorth i'w myfyrwyr hefyd. Felly, ar ran athrawon ym mhobman, a gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am gydnabod biwrocratiaeth yn eich datganiad cyntaf oll fel Gweinidog addysg ac am ymrwymo i fynd i'r afael â biwrocratiaeth ddiangen o fewn y proffesiwn hefyd? Rwy'n gwbl argyhoeddedig bod gwneud hynny'n allweddol i godi nid yn unig calon ymhlith y proffesiwn, ond hefyd codi safonau'n gyffredinol drwy ryddhau athrawon i addysgu. Felly, a gaf i ofyn, Gweinidog, pa sgyrsiau yr ydych chi wedi'u cael, neu'n bwriadu eu cael, gydag undebau'r athrawon ynglŷn â'r ffordd orau o nodi a dileu'r haenau hyn o fiwrocratiaeth, a pha enghreifftiau o arfer gorau y gallech chi fod yn eu hystyried o wledydd eraill ledled y byd ynglŷn â sut y gellir gwneud hyn?

Yn gysylltiedig â hyn, rydych chi yn llygad eich lle'n tynnu sylw at y ffaith bod ein system addysg wedi dangos cadernid a hyblygrwydd rhyfeddol yn ystod y pandemig a bod yn rhaid i ni ddysgu o hyn. Gweinidog, sut ydych chi'n bwriadu dwyn ynghyd yr arferion gorau a ddaeth i'r amlwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, eu cyflwyno ledled Cymru ac, yn hollbwysig, eu hymgorffori yn arferion addysgu a dysgu sefydledig?

Yn olaf, Gweinidog, yr wyf i'n falch o weld—

Photo of David Rees David Rees Labour 3:56, 26 Mai 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod wedi cael tri chwestiwn ac rydym ni wedi mynd dros amser, felly rwy'n credu y gwnawn ni ofyn y cwestiynau.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau y mae hi wedi'u gofyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod angen i ni ystyried o'r newydd cwestiwn y fiwrocratiaeth neu rai o'r beichiau o ran gweinyddu yr ydym ni'n eu rhoi ar y proffesiwn ac ystyried hynny'n greadigol a gweld beth y gallwn ni ei dynnu o ran y fiwrocratiaeth ddiangen honno, os hoffech chi. Mae yna grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth, sydd wedi'i sefydlu o fewn Llywodraeth Cymru i ystyried y materion hyn, o ganlyniad i'r pandemig ond hefyd yn yr hirdymor yn y ffordd yr oedd ei chwestiwn hi'n ei ragweld. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni sicrhau ein bod ni'n gwrando ar ein gweithwyr proffesiynol, ac mae'r grŵp ei hun yn cynnwys aelodau o undebau llafur athrawon, awdurdodau lleol ac ymarferwyr, a'u gwaith nhw fydd yn helpu i lywio ein huchelgais yn y maes hwn.

Y pwynt arall yr wyf i eisiau ei wneud yw fy mod i'n credu ei bod yn hynod bwysig i ni ystyried arfer gorau lle bynnag y gallwn ni ddod o hyd iddo, boed hynny mewn rhannau eraill o'r DU neu ymhellach i ffwrdd, ac mae'n sicr yn un o fy uchelgeisiau i ein bod ni'n parhau i wneud hynny wrth i ni ddatblygu'r gwaith hwn.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:57, 26 Mai 2021

(Cyfieithwyd)

Ac yn olaf, Sam Rowlands.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a llongyfarchiadau i chi, Gweinidog, ar eich penodiad, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Hoffwn i yn gyntaf ymuno â chi i ddiolch i'n gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n galed a hefyd i'n dysgwyr am eu holl ymdrechion yn ystod y 14, 15 mis diwethaf, o dan amgylchiadau anodd iawn. Mae eich datganiad chi'n ymwneud yn benodol â lles a chefnogaeth dysgwyr a'u cynnydd hefyd, ac mae'n amlwg mai rhan sylweddol o'r cynnydd hwnnw yn ystod pum mlynedd nesaf tymor y Senedd hon yw gweithredu'r cwricwlwm newydd. Mae nifer o bobl sydd â phryderon ynglŷn â'r cyllid i gyflwyno'r cwricwlwm newydd hwnnw sydd ar y gorwel wedi cysylltu â mi. Felly, y cwestiwn yw: pa gyllid ychwanegol y byddwch chi'n ei ddarparu i ysgolion ac i addysgwyr i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn y ffordd orau posibl?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:59, 26 Mai 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Wel, byddwn ni'n sicrhau bod ein hysgolion ni'n cael eu hariannu er mwyn gallu parhau â'r gwaith da y maen nhw'n ei wneud nawr ac i allu cyflwyno'r cwricwlwm mewn ffordd sydd o fudd i ddysgwyr ledled Cymru. Fel y gwnes i sôn yn fy ateb i'r cwestiwn cynharach, rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n sicrhau bod lles ein dysgwyr wrth wraidd popeth yr ydym ni'n ei wneud a hefyd bod gan ein dysgwyr ni yr adnoddau i fod yn hyblyg ac i ymateb i newidiadau yn y byd o'u cwmpas. Felly, byddwn ni eisiau sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu ni i sicrhau bod cyflwyno'r cwricwlwm yn digwydd yn esmwyth ac yn effeithiol ac er budd ein dysgwyr ledled Cymru.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.