– Senedd Cymru am 4:02 pm ar 26 Mai 2021.
Ac felly mi wnaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynigion yma. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron—y cynigion sydd ger ein bron. Fe gyhoeddwyd cynllun rheoli coronafeirws ar 14 Rhagfyr 2020. Mae'n nodi pedair lefel rhybudd sy'n cyd-fynd â lefel y risg, gan gynnwys y mesurau angenrheidiol ar bob lefel i reoli lledaeniad y feirws. Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 i rym ar 20 Rhagfyr y llynedd. Roedd rhain yn sefydlu'r fframwaith ddeddfwriaethol ar gyfer y system lefelau rhybudd ac yn rhoi Cymru ar lefel rhybudd 4, y lefel uchaf o gyfyngiadau.
Ym mis Mawrth, lluniwyd cynllun newydd i reoli'r coronafeirws, oedd wedi'i ddiweddaru i gymryd i mewn i ystyriaeth y rhaglen frechu a'r amrywiolyn o Gaint. Roedd y cynllun yma yn nodi sut y bydden ni'n symud i lawr trwy'r lefelau rhybudd yn ofalus, fesul cam, ac yn cymryd camau gofalus wrth lacio'r cyfyngiadau.
Roedd Llywodraeth Cymru yn gyson glir o ran sut yr oeddem ni yn mynd i lacio cyfyngiadau yn dilyn y cyfnod clo a'n prif flaenoriaeth bob amser oedd galluogi plant i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb. Cymeradwyodd y Senedd ddiwethaf ddiwygiadau blaenorol i'r rheoliadau a ddechreuodd y symudiad gofalus, cam wrth gam i lefel rhybudd 3. Parhaodd rheoliadau diwygio rhifau 6, 7, 8 a 9, sydd ger ein bron heddiw, y symudiad cynyddrannol hwn i lefel rhybudd 3 a gwblhawyd ar 3 Mai. Mae'r rhain wedi golygu llacio'n sylweddol ar y cyfyngiadau ar bobl a busnesau ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys dileu'r gofynion 'aros yn lleol', yn darparu ar gyfer pob manwerthwr a champfa i ailagor, a'i gwneud yn bosibl i aelwydydd estynedig gael eu ffurfio rhwng unrhyw ddwy aelwyd.
Mae'r gwelliannau parhaus yn y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn golygu y gallwn ni symud rhwng y lefelau rhybudd mewn camau unigol ar hyn o bryd. Roedd rheoliadau diwygio Rhif 10 yn symud Cymru yn uniongyrchol i lefel rhybudd 2 o 17 Mai. Roedd hyn yn cynnwys caniatáu i hyd at chwech o bobl o wahanol aelwydydd gyfarfod dan do mewn tafarndai, caffis a bwytai. Nawr, mae'n amlwg bod angen parhau i fonitro'n agos adroddiadau cynyddol yn Lloegr am achosion o'r amrywiolyn Indiaidd, fel y'i gelwir. Bydd yr amodau iechyd cyhoeddus, gan gynnwys y cyngor diweddaraf o ran yr amrywiolyn newydd pryderus hwn, yn penderfynu a allwn ni symud i lefel rhybudd 1 ar ôl yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau, a fydd yn cael ei gyhoeddi erbyn 3 Mehefin. Nawr, byddai unrhyw symudiad i lefel rhybudd 1 yn bennaf yn cynyddu maint y cynulliadau a ganiateir. Byddai hyn yn cynnwys darparu ar gyfer y rheol chwech, er mwyn galluogi mwy o gymysgu dan do yng nghartrefi ein gilydd.
Mae'r holl reoliadau diwygio i'r cyfyngiadau coronafeirws wedi bod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol am resymau brys. Gwnaed rheoliadau diwygio Rhif 9 tra roedd y Senedd wedi'i diddymu ar gyfer yr etholiadau, ac fe'u gosodwyd cyn gynted â phosibl ar ôl ffurfio'r Senedd newydd. Nawr, rydym yn ymwybodol iawn bod y cyfyngiadau sydd ar waith yn aml wedi bod yn heriol iawn i deuluoedd a busnesau, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bobl Cymru am eu holl waith caled, sy'n golygu mai ni sydd â'r cyfraddau coronafeirws isaf yn y Deyrnas Unedig gyfan ar hyn o bryd. Ynghyd â hyn, mae ein rhaglen frechu yn parhau i wneud cynnydd rhyfeddol. Mae'r amodau hyn wedi ein galluogi i lacio'r cyfyngiadau mewn modd gofalus. Nawr, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu'r rheoliadau hyn yn ofalus, dan arweiniad cyngor gwyddonol a meddygol, er mwyn sicrhau ein bod yn cadw Cymru'n ddiogel. Diolch, Llywydd.
A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am ei chyflwyniad i'r rheoliadau heddiw, ac a gaf i longyfarch y Gweinidog yn ddiffuant iawn ar ei phenodiad newydd hefyd? Byddwn ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau y prynhawn yma, oherwydd, yn fy marn i, ac ym marn y Ceidwadwyr Cymreig, dyma'r dull cywir o ran llacio'r cyfyngiadau ar yr economi ac agor cymdeithas eto.
Hoffwn wneud ychydig o bwyntiau y gallwch chi, gobeithio, Gweinidog, eu hystyried ar adeg eich adolygiad nesaf hefyd. Y rhain yw—. Yn gyntaf oll, mae'n ymwneud â chymorth i fusnesau, ac rwy'n gobeithio y gallaf dawelu rhai o'r trafodaethau yn gynharach heddiw, yn gyntaf oll drwy ddweud fy mod yn credu bod busnesau'n hynod ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, ac rwy'n credu eu bod yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth honno. Rwy'n credu bod y cylch diweddaraf o gyfyngiadau—mae'n ddrwg gennyf, y cylch diweddaraf o gymorth busnes—o ran y gwiriwr cymhwysedd a ryddhawyd ddydd Llun diwethaf, wedi peri pryder i lawer o fusnesau. Yn syml—. Mae rhai o'r meini prawf yn rhy anhyblyg. Nawr, rwy'n deall bod yn rhaid i ni fod â'r meini prawf hynny—arian cyhoeddus yw hwn sy'n cael ei wario—ond rwy'n cwestiynu'r cydbwysedd yn hynny o beth, ac rwy'n gobeithio y gall hyn gael ei ystyried gennych chi a'ch cyd-Aelodau ar adeg yr adolygiad nesaf.
Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw llawer o fusnesau'n gallu ailagor o hyd, hyd yn oed o ystyried y llacio ar y cyfyngiadau ar hyn o bryd. Rwy'n meddwl am y sector lletygarwch yn arbennig, llawer o fwytai, tafarndai a chaffis, dim ond oherwydd na allan nhw gynnig yr elfen pellter cymdeithasol honno ac na allan nhw agor yn yr awyr agored. Felly, rwy'n meddwl yn benodol amdanyn nhw, ac nid ydyn nhw hyd yn oed wedi gallu adfer eu colledion ers y llynedd. Felly, rwy'n credu bod y rhain yn ystyriaethau pwysig ar adeg dyddiad yr adolygiad nesaf.
Hefyd, pe gallwn godi pwynt hefyd am byllau nofio sydd wedi'i godi gennyf i ac eraill, Gweinidog, ac rwy'n credu y gallai fod wedi'i godi gyda chi hefyd. Er bod y cyfyngiadau wedi'u llacio, nid yw llawer o byllau nofio'n gallu agor oherwydd y cyfyngiadau—nid yw cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol yn caniatáu i hynny ddigwydd; nid yw'n gost-effeithiol iddyn nhw agor. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhywfaint o gyllid yn hynny o beth, ond efallai y byddwn i yn gofyn iddi ail-edrych ar y cyllid hwnnw a'r cyfyngiadau hefyd i weld a ellir agor mwy o byllau nofio, oherwydd fy ofn i fyddai, os na fydd hynny'n newid, yna ni fydd rhai o'r pyllau nofio hyn byth yn ailagor eto, ac wrth gwrs rydym i gyd yn gwybod beth yw sgil-effeithiau hynny o ran meddyliau Llywodraeth Cymru ac yn wir fy meddyliau i fy hun o ran pwysigrwydd pyllau nofio wrth i ni symud ymlaen hefyd, a phobl yn gallu mynd i'r pyllau nofio hynny.
Gweinidog, rwy'n eithaf balch clywed yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud o ran dyddiad yr adolygiad nesaf o ran aelwydydd yn cymysgu dan do. Rwy'n credu bod hyn i'w groesawu'n fawr. Fe wnaethoch chi eich hun, Gweinidog, dynnu sylw at y ffaith bod gennym gyfraddau heintio is yma yng Nghymru ac mae'r rhaglen frechu'n mynd rhagddi'n dda. Felly mae hynny'n rhoi cyfle i ni, rwy'n credu, ac yn rhoi'r cyfle i chi fel Llywodraeth Cymru, ail-feddwl am aelwydydd yn cymysgu dan do. Rydych chi wedi cyfeirio at hynny, ac rwy'n falch iawn o hynny ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Ac yn sicr rwy'n credu bod y cyhoedd yn meddwl am y ffaith y gallwch chi fynd i fwyty, gall chwech o bobl gyfarfod—chwe aelwyd wahanol—ac eto ni allwch chi gyfarfod yng nghartref rhywun. Rwy'n credu bod cwestiynau ynghylch hynny, ac rwy'n credu i mi hefyd fod llawer o bobl nad ydyn nhw'n gallu mynd allan i fwyty a chwrdd â ffrindiau neu deulu, ac felly nid ydyn nhw'n cwrdd â'r bobl hynny, yn wahanol i eraill sy'n gallu gwneud hynny, ac rwy'n credu bod problemau iechyd meddwl o ran pobl yn gallu cyfarfod. Gwyddom mewn rhannau eraill o'r wlad y gall pobl gofleidio a chwrdd hefyd, felly rwy'n gobeithio, Gweinidog, ar adeg eich dyddiad adolygu nesaf, y byddwn yn clywed mwy o ran aelwydydd yn cymysgu dan do. Ond, wrth gwrs, rwyf hefyd yn ymwybodol o'r amrywiolyn dan do—mae'n ddrwg gennyf, yr amrywiolyn Indiaidd—hefyd, a bydd hyn yn effeithio ar eich ystyriaethau hefyd. Felly, rwy'n gobeithio, Gweinidog, yn eich sylwadau cloi, efallai y byddwch yn gallu siarad ychydig am ganiatáu cymysgu aelwydydd, a hefyd eich ystyriaethau yn hynny o beth o ran yr amrywiolyn Indiaidd hefyd.
Ac yn olaf, tybed pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar y pasbortau brechu drwy ap y GIG, fel yr amlinellwyd gan y Prif Weinidog ychydig wythnosau'n ôl. Gobeithio yn eich sylwadau cloi efallai y gallech chi sôn am hynny hefyd. Diolch, Llywydd.
A gaf innau gymryd y cyfle yma i longyfarch y Gweinidog ar ei phenodiad? Dwi'n edrych ymlaen at weithio yn agos efo hi i geisio dylanwadu gorau y gallaf i ar rai o'r penderfyniadau mawr sydd ar ôl i'w gwneud, wrth gwrs, wrth i'r pandemig barhau. Mae wedi bod yn ddiddorol gwrando ar rai o sylwadau Dominic Cummings heddiw, onid ydy, yn dweud bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud camgymeriadau trychinebus wrth ddelio â'r pandemig. Mae'n bwysig cofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio ar lefel pedair gwlad ar lawer o'r penderfyniadau hynny, felly mae'n bwysig cofio ar y pwynt yma bod yna wersi i'w dysgu o hyd i drio gwneud y penderfyniadau gorau.
I droi'n syth at y rheoliadau o'n blaenau ni, rydym ni'n eu cefnogi nhw i gyd, ond mae yna sawl sylw sydd angen ei wneud, dwi'n meddwl. Mae diwygiadau 6 a 7 yn mynd â ni nôl yn bell iawn i ddiwedd Mawrth, dechrau Ebrill. Mae 8 a 9 yn dod â ni ymlaen rai wythnosau, ond mae'n bwysig ein bod ni'n nodi yma bod y rhain yn ddiwygiadau a gafodd eu cyhoeddi yn anterth cyfnod etholiad, efo'r newidiadau yn dod i rym mor ddiweddar â thri diwrnod cyn yr etholiad. A does dim angen i fi dreulio llawer o amser yn trafod arwyddocâd hynny—prin y gallai unrhyw un o unrhyw blaid wleidyddol wadu'r potensial i gyhoeddiadau felly, wrth gwrs, ddylanwadu ar brosesau democrataidd. Ond mae hi yn bwysig crybwyll hyn, achos pe baem ni rywsut yn canfod ein hunain mewn sefyllfa debyg eto, mae eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu pob mathau o wersi o'n profiad ni dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hynny'n cynnwys gwersi democrataidd hefyd, yn ogystal â gwersi mwy ymarferol ar sut i ddelio efo pandemig.
Diwygiad 10 wedyn—hwn yn fwy cyfoes. Hyd yn oed wedyn, rydym ni'n sôn am reoliadau sydd bron yn bythefnos oed, ac mi wnaf i apêl yn fan hyn, yn gynnar yn y tymor seneddol newydd, ar y Llywodraeth, mewn cydweithrediad efo'r Pwyllgor Busnes, i chwilio am bob ffordd i allu (1) gwneud cyhoeddiadau yn y Senedd er mwyn gallu eu trafod nhw yn syth, a (2) i gyflymu'r amserlen ar gyfer trafod newidiadau a diwygiadau a rheoliadau o bwys. Faint o weithiau ydym ni wedi trafod rheoliadau sydd eisoes wedi dod i ben cyn iddyn nhw ddod o flaen y Senedd i gael eu cymeradwyo i'w cyflwyno yn y lle cyntaf?
Mae yna nifer o bwyntiau eraill dwi jest am eu gwneud rŵan. Dwi am eu rhoi nhw mewn llythyr i chi, Weinidog, hefyd, er mwyn cael ymateb llawnach, ond a hithau wedi cymryd misoedd lawer i'r Llywodraeth ateb rhai ymholiadau yn y flwyddyn ddiwethaf—bron flwyddyn gyfan yn achos un ymholiad, a dweud y gwir—dwi am fynd drwyddyn nhw yn fan hyn jest i'w rhoi nhw ar y cofnod ac i chi gael eu clywed nhw yn uniongyrchol. O ran lle rydym ni arni yn gyffredinol, rydym ni i gyd yn falch, wrth gwrs, ein bod ni mewn lle positif o ran niferoedd yr achosion a bod y broses frechu yn symud ymlaen yn dda. Mae fy niolch i'n fawr, wrth gwrs, i bawb sy'n rhan o'r broses honno. Dwi yn gofyn i chi chwilio yn ddyfal am ffyrdd o godi mwy o gyfyngiadau mor fuan â phosib, ond wrth gwrs, dim ond pan mae'n ddiogel i wneud hynny, ac rydym ni'n gwybod bod angen bod ar ein gwyliadwriaeth o hyd, yn enwedig o ystyried y twf yn yr amrywiolyn o India.
Felly, dwi am wybod, yn y cyd-destun hwnnw, pa fath o gamau fydd yn cael eu rhoi mewn lle i ymateb i unrhyw dwf sydyn, ac yn wir i drio atal y drydedd don. A fydd yna raglenni brechu dwys, cyfyngiadau lleol, cyfyngiadau teithio i ac o ardaloedd haint uchel, er enghraifft? A hefyd, efo'r dystiolaeth yn glir mai drwy'r awyr y mae'r feirws yn lledaenu yn bennaf, mi hoffwn i wybod pa gamau sy'n cael eu cymryd i ymateb i'r dystiolaeth yna, yn cynnwys rhoi masgiau FFP3 i weithwyr iechyd a gofal sydd mewn cyswllt efo cleifion COVID, a hefyd mi leiciwn i adroddiad yn benodol ar y potensial o gyflwyno camau diheintio yn defnyddio golau uwch-fioled UVC, a allai fod mor werthfawr mewn lleoliadau fel ysgolion, er enghraifft.
Mae yna nifer o bwyntiau eraill y gwnaf eu rhoi, fel dwi'n dweud, mewn llythyr. Mi ydyn ni angen gwybod, er enghraifft, pa gamau fydd yna i ganiatáu pethau fel parkruns i ddigwydd yn fuan—digwyddiadau chwaraeon sydd mor llesol ar gyfer y corff a'r meddwl. Mi wnaf i apêl yn fan hyn ar y funud olaf i chi ganiatáu cefnogwyr i wylio Caernarfon yn erbyn y Drenewydd, ddydd Sadwrn yma. Mae modd gwneud y pethau yma yn ddiogel. Gwnewch bopeth y gallwch chi. Mi fydd yna lythyrau gan Heledd Fychan a gan Luke Fletcher ar faterion economaidd ar ben y materion iechyd yma, ond yn fy mriff i, yn sicr dwi angen gwybod llawer mwy gan y Llywodraeth ynglŷn â chamau i fynd i'r afael â long COVID, sydd yn gymaint o boen i bobl. Mae'n rhestr hir.
I gloi, dwi'n nodi mai dyma wrth gwrs y tro cyntaf i fi allu codi rhai o'r materion yma yn y Senedd newydd ers cyn y cyfnod diddymu, ond fel dwi'n dweud, dwi ddim yn disgwyl atebion llawn rŵan. Mi ddaw'r rheini yn ysgrifenedig yn fuan iawn, gobeithio. Ond mae hi'n fesur, onid ydy hi, o'r gwaith sydd o'ch blaen chi, fel Gweinidog newydd—dwi'n dymuno'n dda i chi—ac mae'n fesur hefyd o'r gwaith sydd o'n blaenau ni fel Senedd i'ch dal chi a'r Llywodraeth i gyfrif.
Byddwn i'n ddiolchgar am eglurhad o'r rheoliadau, Gweinidog, yn ysgrifenedig o bosibl maes o law. Codwyd materion gyda mi gan Harriers Casnewydd ynglŷn ag athletau ieuenctid ac a ganiateir cyfarfodydd cynghrair datblygu ieuenctid o fewn y rheoliadau, a hefyd a yw rhieni yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfodydd hynny. Mae Harriers Casnewydd yn defnyddio stadiwm awyr agored, a byddwn i'n ddiolchgar am eglurhad cyn gynted ag y bo modd—fel y dywedais i, efallai'n ysgrifenedig—ar y materion hynny.
Hoffwn hefyd gefnogi Rhun ap Iorwerth o ran parkruns. Maen nhw'n ddigwyddiadau iechyd cyhoeddus gwych ac yn sicr mae ganddyn nhw y manteision hynny i bobl o ran eu hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol, ac maen nhw i fod i ailddechrau, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ddechrau mis Mehefin yn Lloegr. Byddai'n dda cael syniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y maen nhw'n debygol o allu ailddechrau yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Gweinidog, hoffwn eich llongyfarch a'ch croesawu i'ch swydd. Rwy'n eich adnabod chi a gweithiais yn agos iawn gyda chi pan oeddwn yn aelod o Gyngor Sir Powys, ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda chi nawr.
Gweinidog, rwyf i a'm plaid yn croesawu'r ffaith bod rheoliadau COVID yma yng Nghymru yn parhau i gael eu llacio. Gyda niferoedd COVID-19 ar eu hisaf erioed, mae holl wledydd y Deyrnas Unedig wedi symud i ffwrdd o'r cyfyngiadau symud a thuag at ailagor ein heconomi wrth i ni adfer o bandemig y coronafeirws. Mae pobl Cymru, ac yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed, wedi aberthu'n aruthrol er mwyn sicrhau bod niwed COVID yn gyfyngedig gymaint â phosibl i ddiogelu ein cymunedau a'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Treuliwyd misoedd yn ystod y cyfyngiadau symud, heb weld anwyliaid, ac heb allu byw y bywydau yr oedden nhw wedi gweithio mor galed i'w hadeiladu. Diolch byth, oherwydd bod rhaglen frechu Llywodraeth y DU yn cael ei chyflwyno'n llwyddiannus ar draws y pedair gwlad, rydym ni'n gweld hawliau pobl yn cael eu hadfer, ac mae'n rhaid i mi ganmol GIG Cymru a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, fy mwrdd iechyd fy hun, am gyflwyno'r rhaglen frechu yn wych, sydd wedi ein galluogi i fod yn y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i Lywodraethau o bob lliw fod yn ofalus iawn cyn ceisio cymryd y rhyddid hwn oddi ar bobl y wlad hon eto.
Roeddwn i'n falch o glywed fy nghyd-AS Russell George yn codi'r pwyntiau'n gynharach am ailagor y sector lletygarwch. Mae'n hanfodol bod ein busnesau bellach yn cael y rhyddid sydd ei angen arnyn nhw i fasnachu'n llwyddiannus. Bydd gormod o reoliadau yn rhwystro'r busnesau hyn rhag gallu cyflawni'r gwerthiant a'r fasnach y mae eu hangen arnyn nhw er mwyn creu cyfoeth a thalu trethi y mae angen hanfodol arnom i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus a'n GIG.
Un maes sy'n peri pryder mawr i mi—a llawer o bobl ar hyn o bryd—yw cyflwr iechyd meddwl y genedl. Mae llawer o bobl wedi dioddef o unigedd dros y flwyddyn ddiwethaf, a'r cyfyngiadau symud yn chwarae rhan bwysig yn y dirywiad yn iechyd corfforol a meddyliol pobl, ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl hynny wedi'u gadael i ddioddef yn dawel heb unrhyw gefnogaeth, neu oedi mawr yn yr ôl-groniadau yn y gefnogaeth i'r bobl hynny sydd wedi bod yn ddigon dewr i ofyn am gymorth. Roedd cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru yn codi hyd yn oed cyn y pandemig ac maen nhw wedi parhau i wneud hynny. Dynion yw 75 y cant o ddioddefwyr hunanladdiad yng Nghymru. Er fy mod yn siŵr bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd cryn amser i ystyried y cynnydd posibl mewn hunanladdiad cyn iddyn nhw gyflwyno eu rheoliadau COVID y llynedd, tybed a allai'r Gweinidog amlinellu sut y mae hi a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn bwriadu mynd i'r afael â'r broblem enfawr hon yng Nghymru. Mae eich Llywodraeth wedi addo cynyddu'r gefnogaeth i'r rhai sy'n dioddef o salwch sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ond siawns na fyddai Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr effaith ar iechyd meddwl pobl cyn iddyn nhw gyflwyno rheoliadau COVID yn gynnar y llynedd, ac y byddai'r cynghorwyr meddygol a gwyddonol wedi dweud hyn, y byddai cynnydd enfawr pe byddai'r cyfyngiadau symud yn parhau i gael eu gorfodi. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf, Gweinidog, pa gymorth ychwanegol sydd wedi'i roi ar hyn o bryd i gefnogi'r rhai hynny sy'n dioddef o salwch meddwl?
Ac yn olaf, Gweinidog, yn eich sylwadau cloi, efallai y gallwch chi amlinellu sut y byddwch chi a'ch Llywodraeth yn sicrhau, pe byddem ni byth yn dod ag unrhyw reoliadau newydd yn ôl, y byddai iechyd meddwl pobl yn brif flaenoriaeth, gan y gallai unrhyw benderfyniadau ar gyfyngiadau symud a chyfnod atal byr yn y dyfodol wneud yr argyfwng iechyd meddwl presennol yng Nghymru yn waeth. Diolch, Llywydd.
A gaf i gytuno â'r pwyntiau sydd newydd gael eu gwneud am iechyd meddwl? Heb amheuaeth, mae llawer o'r sefydliadau yn fy etholaeth i wedi dod allan o hyn yn araf ac yn dod yn ôl yn araf i gyfarfod â'i gilydd, er, mae'n rhaid i mi ddweud, yn ofalus, oherwydd nid yw rhai ohonyn nhw, yn enwedig y rheini sydd ag aelodau sy'n agored i niwed eu hunain, eisiau dod yn ôl wyneb yn wyneb ar frys, maen nhw eisiau ei wneud yn ddiogel iawn, iawn. Ond rwy'n siŵr y byddwn ni yn wir yn gweld sgil-effeithiau hynny a byddwn i'n croesawu ymateb y Llywodraeth ar hynny.
Ond mae gennyf un cwestiwn penodol ac mae'n ymwneud â pherfformiadau byw. Rwy'n diolch i swyddogion a chynghorwyr y Gweinidog am ymgysylltu â mi dros y pythefnos diwethaf yn helaeth, hyd syrffed, bob yn ail ddiwrnod mae'n debyg, i geisio cael eglurder ar bwynt syml iawn, sef a ganiateir perfformiadau byw o gwbl ar hyn o bryd mewn lleoliadau sydd wedi eu trwyddedu neu heb eu trwyddedu. Os yw pobl yn cario peint o gwrw neu win mewn lleoliad sydd wedi'i drwyddedu, ond gyda gitarydd yn eistedd yn y gornel, yn canu yn dawel, yn dawelach na lefel codi lleisiau pawb—. Mae'n rhaid i mi ddweud, roeddwn i allan nos Sadwrn diwethaf mewn tafarn, y dafarn leol, tafarn dda iawn, yn cael peint, a'r tu ôl i mi yr oedd grŵp a oedd yn llawer mwy swnllyd nag unrhyw fand roc, byddwn i'n dweud. [Chwerthin.] Ond mae gwir angen eglurder arnom ni. Ar hyn o bryd, a ganiateir perfformiad byw, o unrhyw fath, mewn lleoliadau sydd â thrwydded? Ac os na, ar ba adeg fydd hynny? Ai ar lefel rhybudd 1, er enghraifft? Byddai'r eglurder hwnnw o gymorth mawr. Er eu bod eisiau perfformio nawr, os dywedir wrthyn nhw nad yw ar hyn o bryd ond y bydd pan y gallwn ni symud i lefel rhybudd 1, bydd hynny'n arwydd clir iddyn nhw y gall pethau ddychwelyd ar ryw adeg, os byddwn yn parhau gyda'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud.
Ac yn olaf, Llywydd, a gaf i ganmol y dull sydd wedi'i ddefnyddio yma yng Nghymru? Gallaf ddweud wrth y Gweinidog, er gwaethaf grwgnach, er gwaethaf cwynion—yn ddealladwy, weithiau—fod y rhan fwyaf o'm hetholwyr a'm busnesau eisiau i ni symud ymlaen mewn modd sy'n sefydlog, yn ofalus, yn fwriadol ac yn seiliedig ar dystiolaeth, fel nad oes yn rhaid i ni ddychwelyd i'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi o'r blaen, fel y gallwn barhau i aros ar agor a bydd y llacio yn parhau nes ein bod yn ôl i fod mor agos ag y gallwn fod at normalrwydd.
Gweinidog, un o drychinebau mwyaf y pandemig fu'r effaith y mae wedi'i chael ar y rhai sy'n byw yn ein cartrefi gofal. Maen nhw wedi'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, yn methu â cofleidio eu hwyrion, heb allu cael cyswllt corfforol ag anwyliaid. Mae hyn wedi bod yn arbennig o anodd i'r rhai sy'n dioddef o ddementia, yn aml dydyn nhw ddim yn gallu deall pam mae eu teuluoedd wedi cefnu arnyn nhw. Roedd yr unigrwydd a'r arwahanrwydd nid yn unig yn anodd iawn i breswylwyr y cartrefi gofal, ond roedd eu teuluoedd hefyd wedi dioddef yn ofnadwy.
Gweinidog, mae bron pob preswylydd a staff cartrefi gofal wedi'u brechu'n llawn erbyn hyn, ac mae'r boblogaeth ehangach o oedolion yn dechrau cael eu hail ddosau. Ni fydd yn hir cyn y bydd y boblogaeth wedi'i hamddiffyn rhag salwch difrifol a marwolaeth o ganlyniad i bandemig COVID-19. Gyda hynny mewn golwg, pryd gallwn ni ddileu'r terfyn dau berson ar ymweliadau â chartrefi gofal? Pryd gall preswylwyr cartrefi gofal chwarae gyda'u hwyrion neu gofleidio eu hanwyliaid? Mae angen atebion i'r cwestiynau hyn ar ein hetholwyr yn Nyffryn Clwyd, a ninnau hefyd.
Deallaf, ar y dechrau, y bu angen pasio'r rheoliadau hyn yn gyflym. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir bellach. Nid yw'r sefydliad hwn yma i gymeradwyo penderfyniadau Llywodraeth Cymru; rydym ni yma i graffu. Gobeithio y gallwch chi fynd i'r afael â'r materion hyn cyn yr adolygiad nesaf, a rhoi gobaith i'r rheini sydd mewn gofal hirdymor. Diolch yn fawr iawn.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl yna.
Diolch yn fawr, a diolch am y sylwadau yna. Yn gyntaf i gyd, a gaf i ymateb i Russell George?
Llongyfarchiadau ar eich swydd newydd fel Gweinidog iechyd yr wrthblaid. Deallaf y byddwn yn siarad â'n gilydd yn aml yn y dyfodol, felly rwy'n edrych ymlaen at hynny. O ran cymorth i fusnesau, yn sicr rwy'n credu y dylem fod yn falch iawn o'r ffaith ein bod wedi llwyddo i gael dros £1.9 biliwn mewn i gyfrifon busnes dros y 12 mis diwethaf. Felly, mae llawer o hyn wedi'i gyflawni gan awdurdodau lleol—tua £1 biliwn o'r arian hwnnw.
Rydym ni'n ymwybodol iawn bod y cyfyngiadau'n dal i effeithio ar lawer o fusnesau. Felly, er gwaethaf y ffaith bod lletygarwch ar agor, er enghraifft, wrth gwrs mae'n rhaid iddyn nhw gadw at y rheolau yr ydym ni wedi'u nodi'n glir iawn mewn canllawiau. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda busnesau i ystyried sut beth ddylai'r pecyn hwnnw o fesurau fod. Felly, er eu bod ar agor, dylid cael rhywfaint o gefnogaeth iddyn nhw o hyd. Felly, mae honno'n ddeialog barhaus, a chlywsoch chi y Prif Weinidog yn dweud heddiw mai'r peth cyntaf a wnaeth ar ôl cael ei ailethol oedd rhyddhau'r cyllid ychwanegol hwnnw, £200 miliwn ohono wedi'i glustnodi'n benodol ar gyfer cymorth busnes, ac £16 miliwn o hynny eisoes wedi dechrau cael ei ryddhau.
O ran pyllau nofio, wrth gwrs maen nhw wedi gallu ailagor yn barod. Rwy'n credu bod hyn yn wirioneddol bwysig o ran iechyd ac iechyd meddwl. Ond, wrth gwrs, mae gwahanol awdurdodau lleol yn delio â'r pethau hyn mewn gwahanol ffyrdd. Felly, rydym wedi rhoi'r pŵer iddyn nhw ailagor ac, wrth gwrs, byddwn ni'n eu hannog i sicrhau y gall pobl ddefnyddio'r cyfleuster hwnnw.
Wrth gwrs, mae rheswm pam ein bod ni'n gwneud pethau'n araf o ran cymysgu dan do. Rydym ni'n gwybod bod y feirws yn lledaenu'n haws y tu mewn. Efallai ei bod yn swnio'n rhyfedd eich bod yn gallu cymysgu mewn tafarn yn haws nag y gallwch gymysgu mewn cartref, ond maen nhw'n wahanol iawn, oherwydd mae un yn amgylchedd rheoledig ond dydy'r llall ddim. Rydym ni i gyd yn gwybod ein bod yn llai gofalus pan fyddwn yng nghartref rhywun arall. Felly, mae rheswm dros hynny. Ond, wrth gwrs, byddwn ni'n edrych ar hyn yn ystod yr adolygiad nesaf.
Yna, ar y pasbort brechu, wrth gwrs rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i weld a allwn ni ddefnyddio'r ap y maen nhw'n ei ddatblygu. Mae rhai materion technegol yr ydym ni'n dal i geisio'u datrys, yn yr un modd â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Rydym ni'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd mis Mehefin. Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni wedi'i gwneud yn gwbl glir nad ydym eisiau i bobl deithio, os yw'n bosibl—yn sicr dramor. Dyna yw ein safbwynt fel Llywodraeth Cymru. Ond, rydym ni'n cydnabod y gallai fod yn hanfodol i rai pobl deithio. Dyna pam, ddydd Llun, y cyhoeddais ddatganiad a oedd yn cynnwys rhif ffôn y gall pobl ei ffonio i gael pasbort papur dros dro, i bob pwrpas, i ddangos eu bod wedi cael y brechlyn.
Diolch yn fawr, Rhun, a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda chi ar sut rŷm ni'n symud ymlaen o ran y pandemig, ond hefyd ar ôl y pandemig. Bydd lot fawr o waith gyda ni i'w wneud o ran dal i fyny.
Dwi eisiau ymrwymo i sicrhau ein bod ni yn gwneud cyhoeddiadau yn y Senedd, pan fo hynny'n bosibl. Dwi'n awyddus iawn i fod yn dryloyw. Dwi'n meddwl ein bod ni'n gwneud polisïau gwell os ŷn ni’n dryloyw ac os ŷn ni’n cael y sialens yna. Felly, yn amlwg, dwi’n gobeithio nawr, ar ôl inni ddod mas o’r etholiad—yn amlwg roedd yn anodd inni bryd hynny. Ond mae hefyd angen inni ystyried, yn ystod y cyfnod yma, y bydd adegau pan fydd yn dal angen inni symud yn rili gyflym. Ac, wrth gwrs, bydd rhaid inni ddiddymu’r cyfyngiadau pan nad oes eu hangen nhw yn gyflym hefyd. Felly, mae’r sefyllfa’n gweithio y ddwy ffordd.
Fe fydd yna drydedd don, Rhun; rŷn ni’n ymwybodol iawn y bydd y drydedd don yn dod. Y cwestiwn yw: pa mor fawr fydd y don yna? Ac o ran yr amrywiolyn newydd, ŷn ni wedi gwneud lot o waith o ran paratoi. Rŷn ni’n ymwybodol o’r ffaith ei bod hi'n debygol y byddwn ni yn gweld cynnydd yma yng Nghymru, a dyna pam ŷn ni wedi rhoi mesurau mewn lle i alluogi grwpiau lleol i wneud y surge testing yma a’r surge vaccinations os bydd angen. Rŷn ni’n dal ar lefel eithaf isel ar hyn o bryd—57 o achosion yma yng Nghymru ar hyn o bryd—ond wrth gwrs byddaf i’n hapus hefyd i ymateb i lot mwy o’r sylwadau roeddech chi wedi eu gwneud mewn manylder.
John Griffiths, diolch yn fawr. Rydym yn awyddus iawn i bobl ifanc yn arbennig ddychwelyd i weithgareddau awyr agored. Mae yna ganllawiau eisoes o ran gweithgareddau wedi'u trefnu, o ran sut y gall rhieni wylio plant yn ddiogel. Rwy'n awyddus iawn ein bod ni fel Cabinet yn ystyried y mater parkruns. Wrth gwrs, bydd hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried o ran yr adolygiad 21 diwrnod. Rydym ni, wrth gwrs, wedi cynnal y cynlluniau treialu awyr agored bach hyn; mae angen i ni adolygu'r cynlluniau treialu hynny. Dyna bwrpas cynllun treialu—gweld beth oedd y canlyniad. Os byddan nhw'n cyflawni yr hyn yr oeddem ni'n gobeithio y bydden nhw'n ei gyflawni, yna yn amlwg byddem ni'n hoffi gweld beth y gallwn ni ei wneud i lacio'r cyfyngiadau hynny ymhellach.
James Evans, croeso i'r Senedd. Hoffwn ymuno â chi i ddiolch i'r timau sydd wedi gwneud gwaith cwbl ryfeddol ledled Cymru o ran y rhaglen frechu. Rwy'n credu bod hyn yn arwydd o waith tîm: Llywodraeth Cymru gyda'r awdurdodau lleol, gyda'r byrddau iechyd, gyda'r gefnogaeth filwrol, ac, wrth gwrs, llawer iawn o wirfoddolwyr, ac mae'n dystiolaeth gwirioneddol o'u gwaith gwych nhw ein bod ni yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw.
Rydym ni'n awyddus iawn, wrth gwrs, i sicrhau y gall busnesau agor cyn gynted â phosibl. Ac nid er mwyn y busnesau'n unig y mae hyn; mewn gwirionedd, aethoch chi ymlaen i sôn am iechyd meddwl. Fel y cyn Weinidog yn y swyddogaeth honno, mae perthynas rhwng y pethau hyn. Os na all pobl agor eu busnesau, maen nhw'n mynd i fod yn bryderus. Wyddoch chi, mae canlyniad economaidd iddyn nhw. Felly, mae llawer o niwed y mae angen i ni ei ystyried yma. Nid mater meddygol yn unig ydyw, yn y fan yma; nid mater iechyd yn unig ydyw. Mae llawer iawn o niwed arall, ac, wrth gwrs, rydym yn ystyried y niwed hwnnw bob tro y byddwn ni'n gwneud y penderfyniadau hyn o ran yr hyn yr ydym ni'n mynd i'w llacio a sut yr ydym ni'n mynd i'w llacio.
O ran yr hyn yr ydym ni wedi'i roi ar waith, byddwch chi eisoes wedi gweld ym maniffesto Llafur ein bod wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gweld mwy o gymorth iechyd meddwl, sydd, gadewch i ni beidio ag anghofio, wedi'i neilltuo—£780 miliwn o bunnoedd o arian wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Ond mae arnom ni eisiau i fwy o'r arian hwnnw fynd i gymorth haen 0, haen 1—ymyrraeth gynnar iawn yw hynny. Gadewch i ni gael y gefnogaeth iddyn nhw'n gyflym. Dyna beth yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud, ond hefyd i ddeall bod 80 y cant o broblemau iechyd meddwl yn dechrau pan fydd pobl yn blant a phobl ifanc, ac mae arnom angen mwy o'r arian i fynd yno. Felly, rydym yn rhoi cyfarwyddiadau nawr i'r byrddau iechyd er mwyn iddyn nhw ddeall mai dyna'r ffordd yr hoffem i bethau symud yn y dyfodol. Ac rydym wedi rhoi £40 miliwn o gyllid ychwanegol, wrth gwrs, i fynd i'r afael â'r mater hwn. Felly, mae'r mater iechyd meddwl yn sicr ar frig maniffesto Llafur.
Wrth gwrs, Huw, ar berfformiadau byw, rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn ymgysylltu ar hyn, sy'n wych, ac mae'n un o'r pwyntiau sydd ar fy agenda. Felly, rydym ni'n cymryd hynny o ddifrif, Huw. Clywais gerddoriaeth fyw yn ddiweddar iawn yn eglwys gadeiriol Tyddewi, felly mae yn bosibl. Mae angen i ni edrych ar beth yw'r rhesymau a beth yw'r amodau. Rwy'n gwybod ein bod ni'n gwneud llawer o waith. Rydym ni'n Gymry, er mwyn popeth; rydym ni'n dwlu ar ganu. Rydym ni i gyd eisiau clywed canu eto, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwneud hynny mewn ffordd ddiogel. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod wedi gwneud yr holl baratoadau i wneud yn siŵr, pan fyddwn ni'n dychwelyd at ganu, y gallwn ni ei wneud gydag awch a brwdfrydedd, fel yr ydym ni yn hoffi ei wneud fel cenedl.
Ac yn olaf, o ran cartrefi gofal, rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed ein bod wedi diweddaru ein canllawiau ddydd Llun ar gyfer cartrefi gofal, sydd bellach yn golygu nad oes raid i chi fod â dau berson y bu'n rhaid eu cofrestru ymlaen llaw i fynd i mewn i gartrefi gofal. Gall unrhyw un fynd i mewn i gartrefi gofal yn awr. Mae'r cyfyngiad hwnnw wedi'i ddileu. Wrth gwrs, mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â'r canllawiau, ond mae'r ffaith bod gennym 98 y cant o bobl yn ein cartrefi gofal sydd bellach wedi cael y brechlyn cyntaf, a 92 y cant sydd wedi cael y ddau frechlyn, yn golygu bod lefel o ddiogelwch yno nad oedd yno ar ddechrau'r pandemig. Felly, rydym ni'n gyfforddus â hynny, mae'n rhaid i ni yn awr sicrhau bod y cartrefi gofal eu hunain yn gyfforddus â'r sefyllfa honno.
Felly, diolch yn fawr, a gobeithio y bydd pobl yn cytuno â'r syniadau newydd yma. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yna yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna'n cael ei dderbyn.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 8.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly rŷn ni'n derbyn y cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly rŷn ni'n derbyn y cynnig hynny hefyd.
Dyna ni, felly, o ran y cynigion ar y rheoliadau coronafeirws.