1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Mehefin 2021.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yn ne-orllewin Cymru? OQ56557
Diolchaf i'r Aelod. Rydym yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn y rhwydwaith rheilffyrdd yn y de-orllewin, gan gynnwys gorsaf newydd yn San Clêr, cerbydau newydd sbon a gwelliannau i orsafoedd ledled y rhanbarth. Mae ein hymgynghoriad ar wella gwasanaethau rheilffyrdd yn y de-orllewin yn cau heddiw.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb ysgrifenedig i fy nghwestiwn yn ymwneud â chroesfan reilffordd Pencoed ar 26 Mai. Mae'n galonogol clywed y bydd dyluniadau a chostau terfynol y prosiect yn cael eu cwblhau eleni. Rwyf i'n llwyr sylweddoli y gall prosiectau o'r cymhlethdod a'r raddfa hon gymryd cryn dipyn o amser, ond byddwn i'n dweud bod sibrydion ynghylch y prosiect hwn yn bodoli ers cyn i mi wneud fy arholiadau TGAU, a chefais fy synnu o sylweddoli bod hynny ddegawd yn ôl mewn gwirionedd. Ond dyna faint o amser yr ydym ni'n sôn amdano yn fan yma—[Torri ar draws.] Dyna faint o amser yr ydym ni'n sôn amdano, Prif Weinidog. Nid ydym ni'n sôn am ddegawd rhwng dechrau a chwblhau'r prosiect; nid yw'r prosiect wedi hyd yn oed dechrau eto. Disgwylir i drydydd cam yr hyn a elwir yn arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru ddigwydd yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a'r trydydd cam o bump yw hwnnw. O gofio am faint o amser yr ydym ni wedi bod yn ystyried y prosiect hwn, byddwn i'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog pe gallai nodi rhagamcan o amserlen ar gyfer cwblhau'r prosiect hwn. Rwy'n gwerthfawrogi efallai na fydd yn gallu rhoi ateb nawr, ond byddwn i'n sicr yn croesawu ymateb ysgrifenedig manylach os yw ef o'r farn bod hynny yn fwy priodol. Rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol y bydd y prosiect hwn yn tarfu'n sylweddol ar y gymuned leol, ac rwy'n siŵr y bydden nhw yn croesawu rhagamcan o amserlen er mwyn iddyn nhw allu paratoi ar ei gyfer.
Wel, Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Fel mae'n digwydd, rwy'n gyfarwydd iawn â phroblemau'r groesfan reilffordd ym Mhencoed, gan eu bod wedi eu codi gyda mi yn rheolaidd iawn gan yr Aelod lleol Huw Irranca-Davies, ac rwyf hyd yn oed wedi bod i ymweld â'r groesfan fy hun i sicrhau fy mod i'n deall cynllun yr ardal yn llawn a'r materion sydd dan sylw yno.
Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd y cynllun yn lleddfu tagfeydd ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd, yn gwella amseroedd teithio, yn lliniaru llifogydd—gan feddwl am gwestiwn cynharach—ac yn gwella diogelwch. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £0.5 miliwn i gwblhau trydydd cam proses WelTAG, sef y cam dylunio a chostio terfynol. Mae'n cael ei oruchwylio gan grŵp llywio sy'n cyfarfod bob chwarter. Mae'n cynnwys Aelod Senedd yr etholaeth leol, Aelod Seneddol yr etholaeth, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Tref Pencoed, Trafnidiaeth Cymru ac, yn hollbwysig, Network Rail, oherwydd, yn y pen draw, Llywydd, er y gallwn ni gyfrannu ein harian a gwneud ein gorau glas i gael y dyluniad gorau posibl a'r costau mwyaf effeithiol ar gyfer y cynllun, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd, a Network Rail fydd yn gorfod bwrw ymlaen â'r pethau hyn. Mae'r ffaith eu bod nhw wrth y bwrdd yn y grŵp llywio yn galonogol, a byddwn yn sicr yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod y cynllun pwysig iawn hwn ar gyfer yr ardal honno yn dwyn ffrwyth. Clywais yr hyn a ddywedodd yr Aelod am y ffaith fod 10 mlynedd wedi mynd heibio—[Chwerthin.]—ers iddo sefyll ei arholiadau TGAU. Pan ddarllenais y nodiadau briffio ar gyfer y cwestiwn hwn, Llywydd, dysgais y bydd gorsaf newydd San Clêr yn disodli'r un a gaewyd ym 1964, ac rwyf i'n gallu cofio defnyddio honno. [Chwerthin.]
Altaf Hussain. Dechreuwch eto, Altaf.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n eich llongyfarch ar eich ailethol, ac yn dymuno'r gorau i chi. Prif Weinidog, rwy'n dymuno'r gorau i chithau hefyd ar eich ailethol yn Brif Weinidog. Prif Weinidog, ym mis Mawrth, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y cynigion ar gyfer metro bae Abertawe a gorllewin Cymru. Un o fanteision arfaethedig metro bae Abertawe yw manteisio i'r eithaf ar y potensial i orsafoedd gyflymu'r broses o adfywio trefol a darparu safleoedd datblygu mawr. Mae gwerth economaidd buddsoddi yn ein rhwydwaith trafnidiaeth yn hollbwysig. Pa asesiad o'r effaith economaidd sydd wedi ei gynnal i sicrhau y gwireddir y buddion hynny i'r eithaf? Diolch.
Llywydd, diolchaf i Altaf Hussain am y cwestiwn. Mae'n dda clywed ganddo eto ar lawr y Senedd. Dywedais wrth ateb Mr Fletcher fod yr ymgynghoriad y tynnodd Mr Hussain sylw ato wedi cau heddiw. Hyd yn hyn, mae gennym ni oddeutu 250 o ymatebion iddo, ac mae llawer ohonyn nhw yn canolbwyntio ar syniad metro bae Abertawe. Felly, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal yr asesiadau economaidd angenrheidiol ar gynigion i wella'r ddarpariaeth metro yn ardal bae Abertawe, ac mae'r cynigion sy'n sail i'r ymgynghoriad yn chwilio am system drafnidiaeth integredig o ansawdd uchel sy'n ei gwneud yn haws i ddinasyddion yn y rhan honno o Gymru deithio, boed hynny ar y trên, ar fws, ar feic, neu, yn wir, ar droed. Byddwn yn dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn awr, a bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol yn dychwelyd i lawr y Senedd i wneud datganiad yn nodi ble bydd yr ymgynghoriad yn ein harwain nesaf.