– Senedd Cymru am 2:56 pm ar 8 Mehefin 2021.
Croeso, bawb. Y datganiad nesaf yw'r un gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ddiweddariad ar goronafeirws. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad hynny—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n siŵr bydd Aelodau'n falch o nodi mai yng Nghymru mae'r gyfradd isaf o achosion o'r coronafeirws yn y Deyrnas Unedig o hyd. Mae nifer yr achosion sydd wedi cael eu cadarnhau yma yng Nghymru yn 10.4 fesul 100,000 o bobl ar hyn o bryd. Mae nifer y bobl sydd yn yr ysbyty gyda'r coronafeirws ar ei lefel isaf ers i'r pandemig ddechrau. Rŷm ni wedi gweld cyfnod o 10 diwrnod yn ddiweddar pan na chafodd yr un farwolaeth newydd o'r feirws ei chofnodi, ond yn anffodus fe adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru am un farwolaeth ddoe. Mae'r llwyddiannau hyn yn adlewyrchu gwaith caled pobl ym mhob cwr o Gymru i'w cadw nhw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel.
Dros yr wythnosau diwethaf, rŷm ni wedi gweld datblygiadau sy'n ymwneud â'r amrywiolyn newydd sy'n peri pryder, a nodwyd gyntaf yn India, neu amrywiolyn delta, fel mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ei alw erbyn hyn. Mae'r datblygiadau hyn wir yn achosi gofid. Maen nhw'n brawf pellach nad yw'r coronafeirws wedi diflannu. Rŷm ni wedi bod yn monitro'r amrywiolyn newydd hwn yn ofalus. Mae'n ymddangos ei fod e'n lledaenu mewn sawl rhan o Loegr. Yma yng Nghymru, rŷm ni wedi sylwi ar gynnydd yn nifer yr achosion. Heddiw, mae'n cyrraedd 178 o bobl, gan gynnwys clwstwr o achosion yng Nghonwy—clwstwr sy'n destun ymchwiliad manwl ar hyn o bryd.
Mae potensial gan amrywiolyn delta i ddatblygu i fod y straen amlycaf o'r feirws yn y Deyrnas Unedig, ond rŷm ni'n gobeithio y gallwn ni reoli'r achosion ac atal yr amrywiolyn hwn rhag lledaenu ymhellach. Ond dwi'n meddwl bod rhaid inni fod yn realistig, ac mae disgwyl gweld mwy o gynnydd eto yn nifer yr achosion yng Nghymru.
Felly, er bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn dda yng Nghymru, mae'r amrywiolyn delta yn dod â lefel newydd o ansicrwydd yn ei sgil. Yn y cyd-destun hwn y digwyddodd yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau coronafeirws, ar 3 Mehefin. Ac er bod Cymru yn newid i lefel rhybudd 1, fel y nodwyd eisoes, erbyn hyn, fe fyddwn ni'n gwneud hynny fesul cam. Felly, fe fydd y newidiadau i'r rheoliadau o 7 Mehefin yn canolbwyntio ar lacio'r cyfyngiad ar ddigwyddiadau a gweithgareddau awyr agored. Mae'r perygl o drosglwyddiad yn llawer llai yn yr awyr agored, ac fe fydd y newidiadau hyn yn caniatáu i bobl fanteisio ar dywydd braf yr haf, gyda gobaith.
Fe all hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored erbyn hyn, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored a mannau cyhoeddus. Mae modd cynnal cynulliadau a digwyddiadau mwy a drefnir yn yr awyr agored i hyd at 4,000 o bobl ar eu traed a 10,000 o bobl mewn eisteddleoedd hefyd. Mae hyn yn cynnwys cyngherddau, gemau pêl-droed, a gweithgareddau chwaraeon fel grwpiau rhedeg a drefnir. Mae'n rhaid i bob un sy'n trefnu'r rhain gynnal asesiad risg llawn a rhoi mesurau ar waith i atal ymlediad coronafeirws, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol.
Yn olaf, mae'r ddarpariaeth erbyn hyn yn caniatáu i aelwydydd estynedig gynnwys tair aelwyd sy'n gallu cyfarfod a chael cysylltiad dan do. Mae hynny'n un yn fwy na'r ddwy aelwyd a ganiatawyd yn flaenorol. Fe fyddwn ni'n ystyried newidiadau pellach i'r rheoliadau o ran gweithgareddau dan do yn ddiweddarach yn ystod y mis pe byddai'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny. Yn unol â'r cynllun rheoli coronafeirws yn ôl lefel rhybudd 1, fe fyddai hynny'n golygu y byddai'r rheol o chwech yn gymwys ar gyfer cyfarfod dan do mewn cartrefi preifat ac mewn llety gwyliau. Fe fyddwn ni'n ystyried niferoedd cynyddol hefyd ar gyfer cynulliadau dan do ac ailgychwyn digwyddiadau dan do. Fe fydd y dull graddol hwn yn rhoi amser i fwy o ddata fod ar gael am effaith yr amrywiolyn delta. Fe fydd yn rhoi mwy o amser i ragor o bobl gael eu brechu hefyd, sy'n parhau i fod y llwybr gorau allan o'r pandemig.
Rwy'n ddiolchgar dros ben i dimau brechu'r byrddau iechyd, partneriaid lleol a'r llu o wirfoddolwyr ledled y wlad am y cynnydd anhygoel yn ein rhaglen frechu. Mae mwy nag 85 y cant o'r boblogaeth oedolion wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn hyn ac mae bron hanner wedi cael eu cwrs llawn o ddau ddos.
Ddoe, fe gyhoeddais i'r wybodaeth ddiweddaraf am ein strategaeth frechu COVID-19. Mae'n nodi ein disgwyliad ni o fod wedi cyrraedd erbyn diwedd mis Mehefin—felly, fis yn gynharach na'r disgwyl—garreg filltir 3, sef cynnig y dos cyntaf i bob oedolyn gydag o leiaf 75 y cant yn manteisio ar y cynnig hwnnw. Mae'r strategaeth a gafodd ei diweddaru yn nodi paratoadau ar gyfer yr hyn a allai ddod nesaf, gan gynnwys pigiad atgyfnerthu i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed a brechlyn i blant o bosibl, ac wrth gwrs mae hynny'n ddibynnol ar gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a phenderfyniad gan y Cabinet. Rydym yn bwriadu cynnig y brechlyn unwaith eto hefyd i'r rhai na fanteisiodd ar y cynnig gwreiddiol. Fe fydd gweinyddu'r ail ddosau yn parhau hefyd. I atgyfnerthu'r ddarpariaeth hon, fe fydd system ar-lein yn cael ei sefydlu yn yr hydref i ganiatáu i bobl drefnu apwyntiadau ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw.
Cafodd gwasanaeth profi, olrhain a diogelu llwyddiannus ei sefydlu yng Nghymru flwyddyn yn ôl. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £32 miliwn ychwanegol i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ymestyn y gwaith o olrhain cysylltiadau hyd ddiwedd mis Mawrth 2022. Mae hyn yn cynyddu cyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn olrhain cysylltiadau yn ystod y flwyddyn ariannol hon hyd at £92 miliwn. Ar 2 Mehefin, cyhoeddwyd strategaeth profi, olrhain a diogelu wedi'i hadnewyddu yn nodi sut y bydd y gwasanaeth yn addasu ac yn ymateb i'r pandemig yn y misoedd i ddod. Mae hyn yn cynnwys olrhain amrywiolion sy'n peri pryder yn fwy gofalus a chadarn, yn ogystal â rheoli a gosod dan gwarantîn y bobl sy'n dychwelyd i Gymru o wledydd yn y rhestr goch ac ambr.
Ar 20 Mai, fe nodais gynlluniau ar gyfer £100 miliwn o fuddsoddiad i roi hwb cychwynnol i adferiad y system iechyd a gofal o bandemig COVID-19. Fe fydd yr arian hwn yn darparu ar gyfer offer, staff a thechnoleg newydd ac yn ymgorffori'r ffyrdd newydd o weithio i helpu byrddau iechyd i gynyddu capasiti a lleihau amseroedd aros. Wrth inni ailgychwyn gofal nad yw'n ofal brys yn dilyn y pandemig, mae gennym y cyfle i greu system iechyd a gofal sy'n addas i'r dyfodol. Heddiw, rwyf i wedi disgrifio rhai o'r datblygiadau diweddaraf yn ein hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â phandemig y coronafeirws. Ac mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i weithio gyda'n gilydd i gadw ein gilydd yn ddiogel a chadw Cymru yn ddiogel. Diolch, Llywydd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma, a dweud bod nifer y bobl yn yr ysbyty sydd â'r coronafeirws ar ei lefel isaf ers dechrau'r pandemig? Ac fel y nododd y Gweinidog hefyd, rydym wedi gweld y cyfnod hwnnw o 10 diwrnod pan na chafwyd unrhyw farwolaethau o gwbl yn cael eu cofnodi oherwydd y feirws ar wahân i'r un farwolaeth yr adroddwyd amdani ddoe gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwaetha'r modd. Rwy'n credu bod y rhain yn gyflawniadau aruthrol. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog mai gwaith caled pobl ledled Cymru yn ogystal â'r gweithwyr iechyd proffesiynol rhagorol sydd wedi cyflawni hyn. A newyddion cadarnhaol eto, yn fy marn i hefyd, yw y byddwn ni o bosibl yn gweld 100 y cant o'r boblogaeth oedolion yng Nghymru wedi cael cynnig apwyntiad ar gyfer eu brechu erbyn dydd Llun.
Fe nododd datganiad Ysgrifennydd Iechyd Gwladol Llywodraeth y DU ddoe mai dim ond 2 y cant o gleifion COVID mewn ysbytai yn Lloegr oedd wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Tri o unigolion yn unig yw hynny. Felly, rwyf i am dorri hynny i lawr, y data hynny, i helpu gyda chyd-destun fy nghwestiwn nesaf i. Roedd data hyd at 3 Mehefin yn dangos, o'r 12,383 o achosion yn Lloegr o'r amrywiolyn delta, fod yna 126 o bobl wedi gorfod cael triniaeth ysbyty, ac o'r 126 o bobl hyn, dim ond tri oedd wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Felly, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno mai data cadarnhaol iawn yw'r rhain ac mae hynny'n rhoi optimistiaeth inni, rwy'n credu, yn hyn o beth. Yn y cyd-destun hwn, Gweinidog, a ydych chi wedi ymchwilio i'r un data ar gyfer Cymru, neu a yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i hynny? Faint o bobl sydd wedi bod mewn ysbyty o ganlyniad i gael amrywiolyn delta? O'r bobl hynny, faint o bobl sydd wedi cael dau ddos? Mae hwn yn ddarn pwysig o wybodaeth yng nghyd-destun naill ai lacio cyfyngiadau neu gryfhau cyfyngiadau, fel bo hynny'n addas. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar am unrhyw wybodaeth ynglŷn â hynny, Gweinidog.
Efallai y gwnewch chi ymhelaethu ychydig mwy ar eich asesiad chi o ran a fydd angen cyfyngiadau pellach arnom dros fisoedd yr haf neu, yn wir, a fyddwch chi'n llacio cyfyngiadau ymhellach. Fe fyddai cael unrhyw amlinelliad pellach o hynny yn fuddiol iawn heddiw. Rwy'n sylwi hefyd o'ch sylwadau chi ddoe, Gweinidog, y byddai'r cwestiynau am yr amrywiolyn delta yn ymwneud â pha mor fawr fydd y drydedd don. Fe fyddwn i'n awgrymu, efallai, mai'r cwestiwn yw pa mor ddifrifol fydd y don nesaf. Felly, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi eich barn chi am hynny.
Yng Nghymru, rydym wedi gweld 123 o bobl mewn ysbytai ar 3 a 4 Mehefin. Dyma'r gyfradd isaf, wrth gwrs, a welsom ni ers dechrau'r pandemig. A ydych chi'n fwy hyderus nawr na fydd y drydedd don, er yn fwy, mor ddifrifol â'r don gyntaf? Roeddech chi'n sôn ddoe yn eich sylwadau am yr amrywiolyn yn ymledu o Loegr i Gymru. Yn y cyd-destun hwn, efallai y gallech ddweud hefyd a ydych chi'n ystyried unrhyw waharddiadau pellach o ran teithio o rai ardaloedd awdurdodau lleol mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.
Roedd eich datganiad heddiw yn cyfeirio at eich cynlluniau chi ar gyfer £100 miliwn o fuddsoddiad i roi hwb i'r system gofal iechyd. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu yn fawr hefyd. Rydym mewn sefyllfa lle mae GIG Cymru yn dechrau ailgychwyn ei wasanaethau i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau enfawr sydd wedi bod o ran aros am driniaethau, er ei bod yn syfrdanol meddwl o hyd bod un o bob tri llwybr i gleifion yn aros dros flwyddyn am driniaeth yng Nghymru. Mae hynny'n cymharu ag un o bob 11 yn Lloegr. Felly, mae ein man cychwyn ni'n un heriol.
Ond, rwyf i yn croesawu'r cyhoeddiad hwn o £100 miliwn ar gyfer datblygiadau technolegol i helpu i leihau'r ôl-groniad sydd wedi digwydd. Rwy'n pryderu am ofid cynyddol ymysg gweithwyr proffesiynol. Maen nhw'n dweud nad oes yna ddigon o staff i ymdopi â'r gwaith. Er enghraifft, yng Nghymru, roeddem ni'n wynebu prinder difrifol eisoes o arbenigwyr canser cyn COVID-19, gyda bylchau mewn radioleg glinigol o fwy na 40 y cant yn y gorllewin a'r gogledd. Roedd gennym lai o radiolegwyr clinigol eisoes yn y DU fesul 100,000. Y pwynt rwy'n ei wneud yma yw mai newyddion da yw bod gennym y buddsoddiad hwn ond mae'n siŵr fod yna ofid ynglŷn â diffyg staff a gweithwyr iechyd proffesiynol i ddefnyddio'r dechnoleg newydd hon.
Felly, yn rhan o'ch blaenoriaethau newydd chi, pa ymdrechion a wnewch i sicrhau y bydd gan y GIG weithlu digonol i ymdopi â'r ôl-groniadau? Pa fframweithiau y byddwch chi'n eu defnyddio fel rhan o strategaeth y gweithlu i recriwtio a chadw gweithwyr meddygol proffesiynol? Hefyd, pa fesurau yr ydych chi'n eu trosglwyddo ymlaen ar unwaith o'r fframwaith ar gyfer adferiad o'r COVID i gefnogi gweithluoedd y GIG a gofal sylfaenol i sicrhau nad ydyn nhw'n wynebu lludded—sy'n fater pwysig arall hefyd? Sut ydych chi am gryfhau'r cymorth llesiant presennol sydd ar gael i'r gweithlu, fel yr amlinellir yn y fframwaith, ac a yw'r cymorth yn cael ei anelu yn y tymor byr eisoes? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Russell, a diolch i chi yn gyntaf oll am gydnabod ymdrechion anhygoel pob un sydd wedi bod â rhan yn y broses o gyflwyno'r brechlyn. Rwy'n credu bod angen inni roi teyrnged i'r bobl hynny sydd wedi cyfarwyddo'r digwyddiadau yn briodol drwy gydol y broses honno. Fe wn iddi hi fod yn ddigon i godi gwallt pen fy rhagflaenydd i yn yr wythnosau cyntaf, ond credaf mai'r ffaith inni allu cyfarwyddo'n briodol ar y dechrau sydd wedi ein harwain ni i'r sefyllfa gyfredol, ac fe hoffwn i roi teyrnged i'r cyhoedd yng Nghymru hefyd am ei ymateb parod. Mae'r ffaith bod pobl mor awyddus i ddod ymlaen a chael eu brechu yn rhywbeth y dylem ni fod yn falch iawn ohono, yn fy marn i.
Rydych chi yn llygad eich lle: un o'r pethau y mae angen inni ei ddadansoddi nawr yw a yw'r rhaglen frechu hon wedi llwyddo i dorri'r cysylltiad rhwng amlder achosion y feirws a nifer y cleifion mewn ysbytai. Nawr, mae yna ddadansoddiad cynnar ac mae'r dadansoddiad cynnar hwnnw o'r data yn edrych yn gadarnhaol iawn, ond rydym ni'n parhau i fod mewn cyfnod cynnar iawn o ran dadansoddi niferoedd y bobl. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o achosion o'r amrywiolyn delta hwn sydd yna, mewn gwirionedd, ond mae'n cynyddu'n gynt ac yn gynt, ac felly rwyf i o'r farn mai'r peth priodol i'r Cabinet ei wneud wrth gyflwyno'r cyfyngiadau hyn oedd rhoi pythefnos ychwanegol i ni gael dadansoddi'r data, a dyna a wnaethom ni yr wythnos diwethaf.
Yn sicr, ar hyn o bryd, rwy'n credu mai dim ond un achos o'r amrywiolyn delta sydd mewn ysbyty yng Nghymru. Mae dau wedi bod yn yr ysbyty cyn hyn ac wedi cael mynd adref. Rydym yn disgwyl trydedd don ac, rydych chi'n hollol iawn, os yw'r amrywiolyn delta hwn mor heintus ag a gredir—o bosibl 40 y cant i 50 y cant yn fwy felly na'r amrywiolyn alpha, sy'n gynnydd sylweddol—yna rydym ni'n debygol o weld llawer mwy o achosion. Felly, mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni gadw llygad barcud arno. Y cwestiwn, fel y dywedwch chi, yw hwn: a fydd hynny'n arwain at gleifion mewn ysbytai? Felly, mae'n rhaid inni fod yn ofalus tu hwnt ac nid ydym wedi cyrraedd y lan eto yn hyn o beth, a dyna pam y byddwn ni'n bwyllog a gofalus gan geisio dadansoddi'r data mewn amser real.
Roeddech chi'n holi am ymlediad yr amrywiolyn o Loegr i Gymru, ac rydych chi'n ymwybodol o natur fandyllog ein ffin ni â Lloegr. Rydym ni wedi gwneud hynny yn y gorffennol, ond yr hyn a welsom mewn gwirionedd oedd bod cymaint o bobl yn byw ar y ffin sydd â rhesymau dilys iawn dros groesi'r ffin fel bod ceisio cau'r ffin, mewn gwirionedd, yn anodd tu hwnt, mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Felly rydym ni o'r farn y byddai materion ymarferol anodd iawn o ran cau'r ffin honno.
Mae yna her aruthrol—heb os nac oni bai—o ran rhestrau aros yng Nghymru. Rydych chi wedi gweld fy mod i nid yn unig wedi cyhoeddi £100 miliwn o gyllid ychwanegol, ond wedi cyhoeddi cyllid o £25 miliwn ar gyfer sganwyr tomograffeg cyfrifiadurol hefyd, ar gyfer gwell offer delweddu. Pan ymwelais i â'r ysbyty yn Abertawe wythnos diwethaf, dyna un o'r cwestiynau a oedd yn bwysig iawn i mi: a oes yna unrhyw bwrpas gwario ar gyfalaf os nad yw'r bobl gennym i allu dadansoddi'r wybodaeth? Rwy'n credu bod angen inni fod yn greadigol. Rwy'n credu bod ffyrdd o allu defnyddio pobl o bell, hyd yn oed, i ddadansoddi'r data, dadansoddi'r delweddu, ac felly rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu pethau. Ond hefyd, efallai eich bod chi'n ymwybodol bod gennym ni system hyfforddi benodol iawn ar gyfer delweddu yng Nghymru, ar gyfer hyfforddi'r bobl hynny yng Nghymru, i geisio adfer sefyllfa anodd o ran niferoedd y rhai sy'n alluog i weithio ym maes radioleg fel hyn. Nid mater sy'n unigryw i Gymru mohono; mae hyn yn wir yn sicr ledled gweddill y Deyrnas Unedig o ran dod o hyd i'r arbenigwyr hyn.
Ac o ran gofal sylfaenol, rydym ni'n ymwybodol iawn fod yna bobl ar y rheng flaen ym maes gofal sylfaenol sydd wedi bod yn gweithio'n ddibaid drwy gydol y pandemig. Mae'n ymddangos bod dwyster y gwaith yn cynyddu nawr i bob golwg, er eu bod nhw wedi bod yn gweithio drwy gydol y pandemig. Rydym wedi rhoi llawer o gefnogaeth i bobl o fewn y GIG, yn enwedig i'w cefnogi nhw gyda chymorth iechyd meddwl a lles, yn arbennig felly. Rydym wedi cyfrannu £1 miliwn yn benodol ar gyfer cymorth i weithwyr iechyd proffesiynol. Felly, mae hynny'n gweithio'n dda iawn, ac mae'r adborth a gawsom gan y sector yn rhagorol.
Diolch, Weinidog, am y datganiad. Yn amlwg, mae'r twf yn yr amrywiolyn delta’n fater o bryder, felly rhyw dri, efallai bedwar o gwestiynau yn benodol yn ymateb i hynny. Mae yna dystiolaeth bod un dos o’r brechlyn yn llai effeithiol wrth amddiffyn yn erbyn yr amrywiolyn yna. Felly, er mor wych mae’r broses yn mynd, efo llai na hanner y boblogaeth dros 16 wedi derbyn dwy ddos, a gawn ni nid yn unig cadarnhad y bydd yna gyflymu y broses o frechu mewn ardaloedd lle mae’r haint delta yn tyfu, ond hefyd, a gawn ni fesuryddion clir fel ein bod ni’n gwybod faint yn rhagor o frechu rydym ni’n ei ddisgwyl i ddigwydd, ac o fewn pa fath o amserlen?
I wthio ymhellach ar rai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu codi yn barod o ran symudedd pobl o fewn yr ynysoedd yma, yn ei gynhadledd i’r wasg ddydd Gwener diwethaf, mi ddywedodd y Prif Weinidog nad oedd yna dystiolaeth fod yr amrywiolyn delta yn dod i mewn i Gymru o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n gwybod bellach ei fod o. All y Gweinidog gadarnhau hynny yn gyntaf, ac, yn allweddol, ddweud beth fydd yn cael ei wneud a pha bryd? Beth fydd y triggers i geisio atal lledaeniad o un ardal i’r llall? Ac nid rhywbeth Cymru-Lloegr ydy hyn, wrth gwrs; mi allai fod yn atal lledaeniad o un rhan o Gymru i ran arall neu rhwng gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig.
Rydyn ni’n gwybod bod yna gyfyngiadau newydd, o heddiw ymlaen, ar deithio o Bortiwgal i’r gwledydd yma oherwydd pryder am yr amrywiolyn. Ond nid dim ond teithio rhyngwladol ydy’r broblem. Mae Llywodraeth Prydain heddiw wedi annog pobl i beidio â theithio i mewn ac allan o ardaloedd fel Greater Manchester a Lancashire. Felly, onid ydy profiad Conwy yn dweud wrthym ni fod angen gweithredu a rhoi camau mewn lle? Mi ddywedoch chi fod y porous border yn ei gwneud hi’n anodd iawn i gau y ffin. Mae yna lawer o bethau y gallech chi fod yn eu gwneud sy’n brin iawn o gau ffin: gofyn am ganlyniadau profion cyn bod rhywun yn gallu mynd i lefydd gwyliau a’r math yna o beth. Os ydym ni am allu gwarchod iechyd a chyfyngu ar impact ar yr economi a thwristiaeth ac ati, rydyn ni angen gwybod bod y Llywodraeth yn barod i weithredu yn gyflym ac mewn ffordd sydd mor focused â phosib er mwyn inni allu, gobeithio, dod â phethau nôl i drefn mor fuan â phosib wedyn.
Diolch yn fawr. Rŷch chi’n iawn bod un dos i’w gweld yn lot llai effeithiol na dwy ddos o ran ein diogelu ni rhag amrywiolyn delta. Rŷn ni yn ymwybodol iawn, felly, yn arbennig mewn rhai ardaloedd lle mae’r amrywiolyn yna’n dod i’r amlwg, fod angen inni gyflymu’r broses. Dwi wedi bod yn siarad â phrif weithredwr Betsi Cadwaladr ychydig o oriau yn ôl, jest i ofyn, yn yr ardal yna, os bydd hi’n bosib gwneud hynny. Wrth gwrs, rŷn ni’n dod tuag at ddiwedd y pwynt nawr lle ŷn ni wedi cynnig y dos gyntaf beth bynnag. Mae yna ddisgwyl i’r dos gyntaf gael ei chynnig i bob un yn y gogledd erbyn diwedd yr wythnos yma, ac felly, wrth gwrs, wedyn bydd hi’n bosibl canolbwyntio ar yr ail ddos wedyn. Mae hefyd yn dibynnu, wrth gwrs, ar y cyflenwad ŷn ni’n ei gael o Loegr. Rŷn ni wedi dweud yn glir nawr ein bod ni’n gobeithio brechu pawb dros 18 gyda’r ddwy ddos erbyn diwedd mis Medi. Felly, mae yna darged newydd gyda ni, a dwi’n obeithiol iawn y byddwn ni yn gallu cyrraedd hynna.
O ran gofyn i bobl i beidio â symud, roeddwn i’n falch iawn o weld bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gofyn i bobl, yn yr ardaloedd yna lle oedd yr haint a’r amrywiolyn delta yn fwy amlwg—eu bod nhw wedi gofyn iddyn nhw i beidio â symud. Roedden ni wedi bod yn galw ar y Prif Weinidog i wneud hynny ers sbel. Ac rŷn ni hefyd wedi gofyn i bobl, os byddan nhw’n dod mewn i Gymru, i gymryd prawf cyn iddyn nhw ddod. Felly, ŷn ni wedi, eisoes, gwneud y datganiad yna. Nawr, sut ŷn ni’n profi hwnna? Mae’n eithaf job i ofyn i bobl blismona hynny cyn eu bod nhw’n dod, ond ŷn ni wedi gofyn i bobl wneud hynny fel ein bod ni’n gallu diogelu pobl, yn arbennig yn yr ardaloedd yna lle mae yna lot o dwristiaeth.
A gaf i roi croeso cynnes i'ch penodiad chi yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gyntaf oll, ar ran pobl Islwyn? Mae eich datganiad chi heddiw yn llawn gwybodaeth am sefyllfa Cymru yn y pandemig hwn, a chydnabyddir mai Cymru yw'r wlad â thros 1 filiwn o drigolion sydd fwyaf blaenllaw drwy'r byd o ran ei rhaglen frechu. Un addewid a wneuthum i bobl Islwyn yn yr etholiad oedd y byddai pob oedolyn yn Islwyn yn cael cynnig dos o'r brechlyn erbyn 31 Gorffennaf. Gweinidog, mae eich datganiad chi'n cadarnhau y bydd Cymru wedi cyrraedd y nod hwnnw yn gynnar wythnos nesaf, chwe wythnos cyn y dyddiad arfaethedig, ac roeddech chi'n iawn i ailddatgan bod yn rhaid inni fonitro'r data i weld yr effaith a gaiff yr amrywiolyn delta, sydd 40 y cant yn fwy trosglwyddadwy, o ran angen mynediad i ysbytai a marwolaethau. Mae pobl Islwyn yn gwerthfawrogi dull Llywodraeth Lafur Cymru a'n Prif Weinidog ni o gadw Cymru yn ddiogel yn fawr iawn. Felly, Gweinidog, pa sicrwydd a rowch chi i ddinasyddion Islwyn y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau â'i dull strategol a gofalus o ymateb i'r feirws angheuol hwn?
Diolch yn fawr, Rhianon. Nid yn unig y byddwn yn cyrraedd y targed, fe fyddwn ni'n dryllio'r targed yn chwilfriw, ac felly mae'r sefyllfa honno'n achos balchder mawr i ni. Erbyn yr wythnos nesaf, fe fyddwn ni wedi cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i bob oedolyn dros 18 oed. Fe fyddwn ni'n parhau i weithredu yn yr un modd ag y gwnaethom ni drwy gydol y pandemig, sef gweithredu ar sail tystiolaeth a data, gan gymryd cyngor gan wyddonwyr ac arbenigwyr ac ymateb i hynny, wrth gydbwyso ac ystyried y gwahanol niweidiau i gyd. Rydym yn sylweddoli bod niwed yn sgil y feirws ei hun, ond mae llawer o niweidiau eraill y mae angen inni eu hystyried hefyd, gan gynnwys niwed economaidd, niwed llesiant, a niwed i iechyd meddwl. Mae'r holl bethau hynny'n faterion yr ydym ni'n eu hystyried ar bob achlysur pan fyddwn yn penderfynu a ddylid llacio'r cyfyngiadau neu beidio. Fe fyddwn ni'n dal ati yn yr un modd. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni. Rydym wedi clywed yn y Siambr heddiw ac wedi darllen straeon torcalonnus yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol am bobl o bob oed yn aros am atgyfeiriadau, diagnosteg a thriniaeth oherwydd yr oedi a fu yn sgil COVID-19. Mewn llawer o achosion, mae'r anhwylderau hyn yn hawdd eu trin pan wneir hynny'n ddigon cynnar, ond wrth i amser fynd heibio, mae'n mynd yn fwy ac yn fwy anodd eu trin yn effeithiol. Oherwydd COVID-19, mae'r rhestrau aros am driniaethau yn hwy nag erioed o'r blaen, ac mae unigolion mewn llawer man yn dioddef poen ac yn llyncu poenladdwyr cryf byth a beunydd. Mae ansawdd bywyd sylfaenol pobl yn dirywio wrth iddyn nhw aros am eu triniaethau, gyda rhai afiechydon yn gwaethygu cyflyrau fel nad oes modd eu trin. Gweinidog, ni ellir parhau fel hyn. Ni allwn adael i'r bobl hyn, yn enwedig yr ifanc, â'u bywydau o'u blaen, farw oherwydd clefydau a chanserau y byddai modd eu trin pe byddent wedi cael diagnosis cynnar. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthyf i, wrth inni gyflwyno'r rhaglen frechu, pryd fydd modd mynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn cyn iddo fynd yn argyfwng cenedlaethol arall eto ac y gall pobl ddechrau cael eu trin yn ein hysbytai ni? Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr, James, a chroeso i'r Senedd.
Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith ddiymwad fod gennym gannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru sy'n aros am driniaeth ar y GIG. Rydym ni, yn anffodus, yn y sefyllfa anodd iawn hon lle mae pobl, rwy'n credu, yn gyffredinol yn barod i ddeall ein bod wedi bod mewn argyfwng, a'n bod wedi gorfod ymateb i'r argyfwng hwnnw, ac mae'r argyfwng hwnnw'n parhau. Nid ydym mewn sefyllfa eto i fynd yn ôl i'r drefn arferol. Mae'n rhaid inni ddeall pe byddem yn gweld achos o'r amrywiolyn delta yn ymsefydlu mewn ysbyty, y gallai hynny fod â chanlyniadau trasig iawn. Felly, ni allwn fynd yn ôl at sefyllfa normal eto, ond rydym yn ceisio gweld beth allwn ni ei wneud i gyflymu'r broses o geisio dychwelyd i sefyllfa o allu dechrau clirio'r triniaethau sydd wedi ôl-gronni. Rydym wedi ymrwymo eisoes i'r ffaith y byddwn ni'n gwario £1 biliwn o gyllid ychwanegol yn ystod y blynyddoedd nesaf i geisio gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r gwaith hwn sydd eto i'w wneud. Rydym wedi cyhoeddi £100 miliwn ychwanegol eisoes fel y gallwn ni ddechrau ar y broses hon; ac mae'r £25 miliwn hwnnw ar gyfer offer, ar gyfer diagnosis, ac yn rhywbeth y gobeithiwn fydd hefyd yn ceisio cyflymu'r broses. Ond fe fydd hyn yn cymryd amser maith, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n rheoli disgwyliadau'r cyhoedd yng Nghymru o ran triniaethau. Ond mae'r boen a'r anghysur y mae pobl yn eu dioddef ledled Cymru yn achos gofid mawr i mi.
Dwi'n falch clywed eich bod chi wedi dweud eich bod chi'n awgrymu ac yn argymell i bobl sy'n teithio i Gymru y dylen nhw gael eu testio, ond dwi ddim yn gwybod am lawer o bobl ym Manceinion sydd yn edrych ar newyddion BBC Cymru, felly dwi ddim yn gwybod sut maen nhw fod i gael yr argymhellion yna. Ond y ffaith ydy, yn wahanol i'r hyn oedd y Prif Weinidog wedi dweud ddydd Gwener diwethaf, sef bod yr amrywiolyn delta wedi hedfan i mewn i Gymru, neu i Landudno yn benodol, mi ydyn ni'n gwybod fel ffaith bellach nad ydy hynny yn sicr yn wir cyn belled ag y mae fy etholaeth i yn y cwestiwn. Mae yna achosion wedi cael eu darganfod ym Mhorthmadog, a dyma'r ateb ces i gan warchod y cyhoedd Gwynedd wythnos diwethaf: 'Medraf gadarnhau nad yw gwasanaeth gwarchod y cyhoedd wedi adnabod unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng y clwstwr o achosion COVID yn ardal Porthmadog a theithio tramor.' Hynny ydy, mae e wedi teithio yn fewnol yn yr ynysoedd yma.
Mi ddaru chi sôn am gau'r ffiniau. Does neb arall wedi sôn am gau ffiniau, ond mae angen inni weld mesurau o reoli hyn. Pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd i sicrhau nad ydy'r amrywiolyn yn teithio ymhellach? Rydyn ni'n gwybod bod Llywodraeth yr Alban yn argymell i bobl beidio â theithio i'r ardaloedd yma sy'n cael eu henwi'n hotspots. Mae teithio'n fewnol yn y gwledydd yma—dyw e ddim yn unffordd i ogledd Cymru; mae yna nifer o bobl o ogledd Cymru yn teithio i weithio yn Stockport, yn Bolton a'r ardaloedd hynny. Felly mae angen inni gael rheolaeth. Rydych chi wedi rheoli Portiwgal, lle mae'r achosion yn ychydig o dan 40 i bob 100,000 o'r boblogaeth. Yn Bolton, mae'n 355 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth, ac yn Blackburn, mae'n 487. Mae'n rhaid cael rheolaeth ar hynny. Mae'n rhaid sicrhau bod pobl sy'n gweithio yno yn cael eu digolledu achos eu bod nhw ddim yn mynd i weithio yno, gobeithio, a thrio rheoli'r llif o bobl yno er mwyn sicrhau nad ydy'r amrywiolyn yma yn teithio ymhellach.
Diolch yn fawr, a chroeso i'r Senedd i ti hefyd, Mabon. Yn sicr, dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n deall pa mor anymarferol yw hi i gau ein ffiniau ni, ond wedi dweud hynny, dwi eisoes wedi ceisio dangos beth rŷn ni'n ei wneud yn ymarferol i ofyn i bobl i gymryd y camau rŷn ni eisiau iddyn nhw eu gwneud cyn eu bod nhw'n dod i'n gwlad ni: i gymryd prawf cyn dod, ond hefyd i gydymffurfio â'r rheolau sydd gyda ni yma. Mae lot o waith wedi cael ei wneud gan ein gwestai ni a phobl sy'n gweithio yn ein tafarndai ni ac ati i ofyn i bobl i—mae peth gyda ni o'r enw Addo, a'r syniad yw ein bod ni yn rhoi gwybod i bobl beth yw'r disgwyl ganddyn nhw os maen nhw'n dod i Gymru, beth ŷn ni'n disgwyl iddyn nhw gydymffurfio ag ef unwaith y maen nhw'n cyrraedd Cymru. Felly mae yna lot o waith wedi mynd i mewn i hynny. Mae'r marchnata yna wedi digwydd, dim jest yng Nghymru ond tu hwnt i'n ffiniau ni hefyd. Wrth gwrs, mae’n anodd inni gyrraedd pob un, ond dyna beth ŷn ni'n ceisio ei wneud.
Yn sicr, o ran Portiwgal, roedd Llywodraeth Cymru yn gefnogol o roi Portiwgal ar y rhestr melyn, ac un o'r rhesymau am hynny oedd achos bod yna amrywiolyn newydd ym Mhortiwgal sy'n dod o Nepal a dŷn ni ddim yn siŵr os bydd yr amrywiolyn yna yn ymateb i'r vaccine. Felly nid jest cwestiwn o'r niferoedd oedd e, ond roedden ni'n poeni ym yr amrywiolyn newydd yma hefyd.
Roeddwn i'n awyddus i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a gofyn cwestiwn iddi ynglŷn ag apwyntiadau meddygon teulu. Ar hyn o bryd, mae apwyntiadau meddygon teulu yn digwydd dros y ffôn neu drwy gyfarpar fideo oni bai bod angen clinigol am ymgynghoriad wyneb yn wyneb, ac mae ffigurau diweddar gan BMA Cymru wedi dangos bod meddygon teulu yn wynebu cyfraddau apwyntiadau sydd 18 y cant yn uwch na'r cyfraddau cyn COVID. Fe fydd rhai o'r ymgynghoriadau o bell yn cymryd llawer mwy o amser nag ymgynghoriad wyneb yn wyneb. Efallai y bydd angen i feddygon ofyn llawer mwy o gwestiynau i gleifion na phe bydden nhw yn yr un ystafell, ac yn aml mae'n anodd iawn i rai pobl allu trefnu ymgynghoriadau o bell hefyd—pobl heb fand eang na signal ffôn, er enghraifft. Eto i gyd, mae hynny yn gweithio i rai pobl. Felly, a gaf i ofyn beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu'r ddau ddull hyn o gynnal apwyntiadau a chynyddu argaeledd y ddau, wrth symud ymlaen?
Diolch yn fawr, Tom, a chroeso i ti i'r Senedd hefyd.
Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn fod yna lawer o bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael apwyntiadau i weld eu meddygon teulu ar hyn o bryd, o leiaf yn y ffordd draddodiadol, a chredaf mai rhan o'r hyn sydd angen ei wneud, wrth ymateb i'r pandemig, yw cymryd y pethau gorau a ddysgwyd o'r pandemig. A dweud y gwir, rwyf i o'r farn fod yna lawer i'w ddweud o blaid ymgynghori o bell. Yn sicr, cynrychioli'r canolbarth a'r gorllewin ydw i; ac rwyf wrth fy modd y gallaf gysylltu â'm hetholwyr mewn ffordd wahanol iawn, ac mewn gwirionedd, eu gweld nhw'n amlach na phe byddwn i mewn sefyllfa o orfod gweld pobl wyneb yn wyneb a dim ond hynny. Felly, rwy'n credu ein bod ni ar ein hennill mewn rhai ffyrdd o ganlyniad i'r pandemig ac mae angen inni ymgorffori hynny, ac yn sicr, mae defnyddio technoleg yn rhywbeth y dylem ei groesawu. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, fe fydd yna amseroedd pan fydd angen i bobl weld eu meddyg teulu wyneb yn wyneb. Rhan o'r hyn y mae angen ei wneud, wrth gwrs, yw sicrhau bod y brysbennu a wneir y tu mewn i'r feddygfa yn cael ei wneud yn effeithiol, a bod pobl yn cael eu tywys i'r lle priodol er mwyn cael rhyw gymaint o gymorth.
Rwy'n credu bod yn rhaid inni geisio rhoi ar ddeall i bobl y gallan nhw, mewn gwirionedd, gael llawer o gefnogaeth a hynny nid o reidrwydd gan y meddyg teulu. Ac rwy'n credu, os ydych chi'n sâl, siawns mai'r peth pwysig yw eich bod chi'n cael y gefnogaeth a'ch bod chi'n cael triniaeth, nid at bwy yr ydych chi'n mynd i gael eich trin. Rwy'n credu bod angen inni geisio cael trafodaeth am hyn a gweld newid yn y diwylliant a'r ffordd y caiff disgwyliadau eu rheoli wrth symud ymlaen, o ran defnyddio ein gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
Rwy'n hoff iawn, er enghraifft, o system eConsult, a'r ffaith y gallwch fynd trwy restr gyfan o gwestiynau a chael ateb a chael presgripsiwn yn eithaf cyflym heb dreulio llawer o amser yn cael ymgynghoriad wyneb yn wyneb. Felly, rwyf i o'r farn fod yna bethau cadarnhaol wedi digwydd, ond mae angen sicrhau bod yna ryw fath o warant gwasanaeth gofynnol, sef yr hyn y bûm yn ei ystyried a'i drafod y bore yma gyda'r cyfarwyddwr cyffredinol, ynghylch y peth lleiaf y gall y cyhoedd ei ddisgwyl yma, oherwydd, yn amlwg, mae yna achosion lle mae angen gwella'r gwasanaeth sy'n cael ei roi a'i gynnig.
Fe hoffwn i longyfarch y Gweinidog yn ei swydd newydd, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi yn gadarnhaol dros y blynyddoedd nesaf. Nawr, mae llawer wedi cael ei ddweud heddiw am ein sefyllfa ni sy'n llawer gwell erbyn hyn nag yr oedd 12 mis yn ôl, dyweder, ac rydyn ni wedi priodoli hynny i waith Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ein staff iechyd rhagorol, ac yn wir, y cyhoedd yng Nghymru; wel, y rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae rhai pobl yn fy etholaeth i fy hun yn dal i anfon e-byst ataf i'n rheolaidd iawn yn mynegi nad ydyn nhw'n gweld yr angen am frechiadau, nac o'r farn fod y pandemig hwn yn un dilys, ac mae hynny'n peri pryder mawr.
Rwy'n poeni llawer iawn hefyd am niferoedd cynyddol yr amrywiolyn delta yn fy etholaeth i. Felly, rwyf i wedi ymuno gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i annog pobl i fynd am brofion, yn arbennig yn yr ardaloedd hynny fel Cyffordd Llandudno, Llandudno a Bae Penrhyn, a bod yn wyliadwrus o symptomau coronafeirws a chael prawf cyn gynted â phosibl hyd yn oed os nad ydyn nhw'n arddangos symptomau.
Ond fe fyddwn i'n falch o glywed gennych chi heddiw, Gweinidog, yr wybodaeth ddiweddaraf am y niferoedd sydd wedi cael eu cadarnhau. Fe siaradais i gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru wythnos yn ôl, ac rwy'n bryderus iawn o ran cael darlun gwirioneddol o'r hyn sy'n digwydd yn fy etholaeth i. Rwyf wedi bod yn ceisio darganfod a yw'r amrywiolyn yn ymledu mewn lleoliadau arbennig. Fe fyddai'r wybodaeth honno'n fanteisiol iawn, oherwydd, yn ôl y bwrdd iechyd, parhau mae'r ymchwiliadau ac mae nifer o wahanol leoliadau yn cael eu hystyried. Rwy'n ofni mai diffygiol iawn yw'r strategaeth o brofi sydd wedi'i thargedu at ardal tref Llandudno yn unig. Mae tua 22 mil o bobl yn byw yn Llandudno; er hynny, fe all hynny chwyddo i tua 60,000 yr adeg hon o'r flwyddyn. Felly, yn barod, rydym yn gweld yr ardal yn ehangu i gynnwys Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn, Hen Golwyn, a Deganwy. Serch hynny, mae Llandudno yn gyrchfan glan môr boblogaidd iawn ac mae'n brif ganolfan siopa sy'n denu pobl o bob cwr o'r gogledd.
Felly, a wnewch chi ystyried cysylltu â'r bwrdd iechyd i geisio annog holl drigolion Aberconwy i gael y prawf nawr, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n arddangos symptomau? Byddwn yn gobeithio'n wir y byddai gweithredu pendant fel hyn yn ein helpu ni i ffrwyno'r ymlediad, yn enwedig, fel y dywedwyd yn y fan hon, gan fod yr amrywiolyn delta 40 y cant yn fwy trosglwyddadwy nag amrywiolyn swydd Caint.
Ac, yn olaf, neithiwr, fel yr oeddwn yn cyrraedd Caerdydd, cysylltodd gwestywr lleol â mi a oedd wedi cael gwybod gan westai a aethai adref ei fod wedi cael prawf cadarnhaol 24 awr ar ôl dychwelyd adref. Felly, roedden nhw mewn panig go iawn; roedd ganddyn nhw westeion yn aros yn eu gwesty. Felly, fe roddais iddo gymaint ag y gallwn o rifau ac asiantaethau posibl ar gyfer cysylltu â nhw, dim ond iddo ddod yn ôl ataf i ddweud 'Y cyfan a ddywedwyd wrthym ni nawr yw y bydd rhywun yn cysylltu â ni am 8 o'r gloch y bore.' Tybed a allech chi ystyried cyngor gwell i'r rheini yn y diwydiant lletygarwch yn benodol? Fe fu cynnydd o 84 y cant yn yr achosion o'r delta. Felly, tybed a fyddai modd ichi ystyried gweithio gyda Betsi Cadwaladr i sicrhau'r wybodaeth sy'n ofynnol, weithiau yn hwyr iawn yn y dydd,—tua 9 o'r gloch oedd hi neithiwr, rwy'n credu, ac fe wn fy mod i'n dal yn siarad gyda'm hetholwr i, sy'n westywr, am 10.45 neithiwr, ac roedd mewn panig llwyr oherwydd y gwesteion a oedd yn aros yno ac yn wir oherwydd ei deulu ef ei hunan. Diolch.
Diolch, Janet. Ac yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i chi am bopeth yr ydych chi'n ei wneud, oherwydd yn wir rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Aelodau'r Senedd yn cymryd rhan arweiniol wrth ofyn i bobl gamu ymlaen yn yr achosion hyn? Felly, diolch yn fawr am hynny, ac os gallech chi barhau i annog pobl yn yr ardal honno, p'un a ydyn nhw'n dangos symptomau ai peidio, i gamu ymlaen, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Rydym yn ymwybodol nad yw tua 30 y cant o achosion yn dangos unrhyw symptomau o gwbl, felly mae'n bwysig bod pobl yn cael eu profi, ac fe fyddwch chi'n gwybod lle y gallan nhw fynd i gael y prawf. Felly, os gallech ein helpu ni gyda hynny, byddai hynny'n ddefnyddiol.
Erbyn hyn mae tua 178 o achosion wedi'u cadarnhau ledled Cymru. Yn sicr, ar y penwythnos, roedd tua 58 o achosion yn ardal Llandudno, ac roeddem yn aros i gael eglurhad ynghylch faint o'r rheini oedd yn 'bendant', oherwydd roedd angen inni wneud y dilyniannu genomig. Felly, bydd hynny'n cael ei wneud yn fuan iawn, ac roedd llawer yn 'bosibl' a llawer yn 'debygol', a bydd hynny'n cael ei gadarnhau yn yr oriau nesaf, fwy na thebyg.
Yn sicr, rwy'n gwybod bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos ar hyn, felly hefyd y tîm profi, olrhain, amddiffyn. Os gwelwch nad yw hynny'n wir, yna byddwn i'n hapus iawn pe gallech ysgrifennu ataf, gadael imi wybod y manylion, ac yna gallwn weld. Rydych yn hollol gywir—ni allaf ddychmygu'r trawma y mae'n rhaid bod perchennog y gwesty hwnnw wedi bod yn mynd trwyddo, ac mae angen inni sicrhau o leiaf fod system glir iawn i fynd trwyddi, fel eu bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl a beth i'w wneud.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yna.