1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 9 Mehefin 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r addunedau amlinellwyd yn y maniffesto diwylliannol ar gyfer adferiad gan What Next? Cymru? OQ56564
A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am fy nghwestiwn cyntaf fel Gweinidog? Diolch yn fawr iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu strategaeth ddiwylliannol sy'n nodi ein blaenoriaethau a'n huchelgeisiau ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r datganiadau o flaenoriaethau a grëwyd eisoes ar gyfer Cymru Greadigol, Croeso Cymru a'r amgylchedd hanesyddol.
Diolch o galon i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb, a hoffwn gymryd y cyfle i'ch llongyfarch ar eich rôl newydd, a dwi'n edrych ymlaen i gydweithio'n adeiladol efo chi fel llefarydd y blaid ar ddiwylliant.
Yn ganolog i ymgyrch What Next? Cymru oedd yr angen i gryfhau y dimensiwn diwylliannol ar draws Llywodraeth Cymru, a dwi'n croesawu'n fawr y bydd yna strategaeth ddiwylliannol. Ond roedden nhw eisiau gweld cyfrifoldeb am ddiwylliant a chreadigrwydd i aelod llawn o’r Cabinet a sicrhau bod holl adrannau’r Llywodraeth yn cefnogi, yn ariannu ac yn galw am elfen ddiwylliannol gref yn eu gwaith. A chithau, yn anffodus, yn Ddirprwy Weinidog yn hytrach na Gweinidog, sut ydych yn bwriadu sicrhau lle mwy canolog i’r celfyddydau a diwylliant yn Llywodraeth y chweched Senedd, o’i chymharu â'r bumed a'r bedwaredd Senedd, a thaclo’r tanfuddsoddi sydd wedi bod ers dros ddegawd? Fyddwch chi a’r Gweinidog dros yr Economi yn cydweithio’n agos i sicrhau hynny?
Diolch unwaith eto am eich cwestiwn atodol. Byddwn yn dweud o ran swydd y Gweinidog sy’n gyfrifol am ddiwylliant fy mod yn credu ei bod yn bwysicach fod y Gweinidog yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol yn hytrach na'r rôl o fewn hierarchaeth y Llywodraeth. Ac rwy'n deall yn glir beth yw fy rôl yn hynny a fy rôl gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod y sector diwylliannol yn chwarae rhan allweddol yn yr adferiad economaidd. Ac fel rhan o’r gwaith o ddatblygu'r strategaeth ddiwylliannol, bydd Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys Beth Nesaf? Cymru. Mae gennym gyfarfod wedi'i drefnu gyda hwy cyn bo hir. Mewn gwirionedd, cyfarfûm â chynrychiolydd o Beth Nesaf? Cymru yn fy etholaeth ychydig cyn yr etholiad, ac aeth drwy'r maniffesto diwylliannol gyda mi. Mae gennych chi a minnau gyfarfod wedi'i drefnu ar ddiwedd y mis, ac rwyf hefyd yn cyfarfod â llefarydd y Ceidwadwyr ar ddiwylliant a chwaraeon, a gobeithiaf y bydd pawb yn cyfrannu at y gwaith y byddwn yn ei wneud o gwmpas hynny.
A chredaf ei bod yn bwysig nodi bod y sector diwylliannol, drwy gydol y pandemig, wedi gweithio'n galed i gynhyrchu cyfleoedd i bobl ymgysylltu â diwylliant a threftadaeth, yn enwedig drwy wasanaethau digidol, a hoffwn sicrhau bod hynny'n parhau a bod gennym ddatblygiad cynaliadwy ar gyfer y sector. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau i ddarparu sefydliadau diwylliannol newydd a gwell, gan gynyddu mynediad at ein casgliadau a'n hasedau diwylliannol o bob rhan o Gymru, gan gynnwys digideiddio casgliadau celf gyfoes Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chreu amgueddfa bêl-droed newydd a datblygu Theatr Clwyd. Rydym hefyd yn awyddus i greu memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, i sicrhau bod y sectorau creadigol a’r sector celfyddydau wedi’u halinio. Drwy’r addunedau gweithwyr llawrydd a sector cyhoeddus, rydym yn gweithio gyda'r sector i sicrhau dull mwy cydgysylltiedig wrth symud ymlaen. Mae digwyddiadau hefyd yn rhan hanfodol o'r economi ymwelwyr, ac rydym yn llwyr gydnabod eu pwysigrwydd i'r sector.
Felly, i ateb eich cwestiwn yn uniongyrchol, rhan allweddol o fy ngwaith yw gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod y sector diwylliannol yn cael ei ariannu'n ddigonol a'i fod yn rhan o elfennau allweddol yr adferiad economaidd yng Nghymru, a byddant yn chwarae rhan allweddol yn hynny o beth.
Weinidog, ni ellir gwadu bod y mesurau i atal lledaeniad COVID-19 wedi amharu'n fawr ar sector diwylliannol Cymru. Caeodd y llen mewn nifer o theatrau am y tro olaf 15 mis yn ôl, ac yn anffodus, mae'r goleuadau wedi diffodd am byth mewn gormod lawer ohonynt. Mae lleoliadau cerddoriaeth a chlybiau comedi hefyd yn wynebu dyfodol ansicr. Rwy’n croesawu llacio’r cyfyngiadau, ond i lawer o leoliadau, efallai fod y niwed a wnaed yn ormod.
Weinidog, mae angen adfywiad celfyddydol arnom i gryfhau'r sector. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Theatr Fach y Rhyl yn fy etholaeth i, Dyffryn Clwyd, a gododd arian drwy gynllun cyllido torfol i wella eu cyfleusterau fel y gallant barhau i ddarparu lleoliad o'r radd flaenaf i artistiaid newydd? A ydych hefyd yn cytuno bod lleoliadau fel Theatr Fach y Rhyl yn hanfodol nid yn unig i sicrhau llwyddiant perfformwyr yn y dyfodol, ond hefyd i adfywio economi celfyddydau diwylliannol Cymru?
Ydw, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn hefyd, a chytuno ag ef? Ac rwy’n sicr yn llongyfarch y cyfleuster yn ei etholaeth a'i ranbarth yn Nyffryn Clwyd. Mae'r sefydliadau bach hyn yn elfen allweddol o'r sector diwylliannol ac mae angen inni eu cefnogi ac rydym am iddynt ffynnu yn y byd ôl-bandemig hefyd. Mae'r gronfa adferiad diwylliannol, wrth gwrs, wedi bod o gymorth sylweddol i nifer o'r sefydliadau yn y sector hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau. Ac fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn Heledd Fychan, bydd y sefydliadau hyn yn rhan annatod o'r broses o adfer ar ôl COVID.
Heb os, mae'r sectorau creadigol ledled Cymru a'r DU wedi cael eu llesteirio a'u trawmateiddio gan bandemig parhaus COVID, fel y nodwyd eisoes. Dylid canmol Llywodraeth Lafur Cymru am ei haddewid etholiadol i sefydlu gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol i sicrhau nad yw diffyg arian yn rhwystr i bobl ifanc yng Nghymru rhag dysgu chwarae offeryn neu gael gwersi llais. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fy mod wedi ymgyrchu drwy gydol y bumed Senedd am ymrwymiad o’r fath. Felly, ni fu erioed yn fwy hanfodol i Gymru a’n bobl greadigol, ac er parhad Cymru greadigol, fod hyn yn digwydd ochr yn ochr â strategaeth ddiwylliannol fywiog. Ddirprwy Weinidog, a allwch egluro pwysigrwydd gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn strategaeth ddiwylliannol Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, a sut y byddwch yn symud hynny yn ei flaen?
Wel, a gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore am ei chwestiwn atodol? Ac ar y pwynt hwn, credaf ei bod yn werth sôn ychydig am y gwaith a wnaeth y Llywodraeth ddiwethaf ar y strategaeth ddiwylliannol. Comisiynodd fy rhagflaenydd, Dafydd Elis-Thomas, strategaethau ar draws ei bortffolio, ac roedd hynny’n cynnwys y strategaeth blaenoriaethau diwylliannol, a gwnaed cryn dipyn o gynnydd ar y gwaith hwnnw gyda grŵp llywio o randdeiliaid allweddol, a chredaf fod Heledd Fychan yn aelod o'r grŵp hwnnw o randdeiliaid allweddol. Ond mae'r addewid penodol yn y maniffesto ynglŷn â sefydlu'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn ymrwymiad allweddol sy'n cael ei brosesu drwy waith ar y cyd rhyngof fi a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar ddatblygu ystod o opsiynau i greu llwybr cynaliadwy ar gyfer addysg cerddoriaeth yng Nghymru, gan weithio gydag ystod o randdeiliaid.
Y ffocws yw datblygu ffordd ymlaen sy'n adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud ar draws sefydliadau addysg cerddoriaeth, a sicrhau bod llesiant plant a phobl ifanc yn gwella drwy fynediad at gerddoriaeth. Mae cyfarwyddiaeth addysg Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid o £1.5 miliwn ar gael ar gyfer 2021-22 i gefnogi addysg cerddoriaeth a gwasanaethau cerddoriaeth, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelod yn arbennig am ei gwaith yn y maes hwn? Mae hi wedi bod yn hyrwyddwr gwych ar ran y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, ac mae ei chefnogaeth i'r fenter hon wedi cael cryn dipyn o groeso, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda hi, ac Aelodau eraill ar draws y Siambr, a rhanddeiliaid, i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn cael ei ddatblygu a'i ddarparu.