– Senedd Cymru am 6:01 pm ar 9 Mehefin 2021.
Symudwn ymlaen yn awr.
Y ddadl fer.
Symudaf ymlaen at y ddadl fer heddiw, a galwaf ar Delyth Jewell i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Newid hinsawdd yw'r argyfwng unigol mwyaf dybryd sy'n wynebu ein gwareiddiad a'n planed. Mae honno'n ffaith anochel, fel y mae effeithiau newid hinsawdd sydd eisoes yn effeithio'n niweidiol ar iechyd meddwl pobl ym mhobman, o donnau gwres sy'n cynyddu cyfraddau hunanladdiad i lifogydd a thanau gwyllt sy'n creu trawma i'r bobl yr effeithir arnynt, gan adael straen, pryder ac iselder yn eu sgil. Ond mater yr hoffwn ganolbwyntio arno yn y ddadl fer hon yw canlyniad y ffordd rydym yn fframio newid hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, sut rydym yn siarad amdano, yn enwedig gyda phlant a phobl ifanc, a'r ffyrdd y gall canolbwyntio ar ddinistr arwain at anobaith ynddo'i hun.
Yn 2019, ymwelais â chlwb ar ôl ysgol i bobl ifanc yn sir Fynwy, ac wrth inni sôn am wahanol faterion gwleidyddol, dywedodd un plentyn ifanc iawn ei fod yn teimlo ofn bob tro y gwelai adroddiadau am newid hinsawdd ar y newyddion. Ac roedd y lleill yn nodio'u pennau i gytuno—roedd llawer ohonynt wedi teimlo'r un ofn. Felly, buom yn siarad am y pethau y gallwn eu gwneud i ymdopi â phryder, i rannu ein teimladau, a buom hefyd yn siarad am rai o'r pethau ymarferol y gallwn eu gwneud i fynd i'r afael â newid hinsawdd—roeddent eisoes wedi bod yn gweithio ar brosiect yn ymwneud ag ailgylchu.
Ond fe gafodd y sgwrs honno effaith fawr arnaf, oherwydd rwy'n credu ein bod i gyd wedi dod mor gyfarwydd â'r math o luniau brawychus sy'n tueddu i fynd gyda'r adroddiadau hyn: y graffiau, y ffeithiau a'r ffigurau cynyddol sy'n fflachio ar y sgrin, lluniau o bentrefi wedi'u boddi, cnydau wedi'u dinistrio, anifeiliaid yn marw. Nawr, ni fyddwn am eiliad yn dymuno inni fychanu difrifoldeb yr argyfwng sy'n ein hwynebu, ond yn hytrach, byddwn yn dadlau y dylem ail-fframio'r ffordd rydym yn siarad am newid hinsawdd i ganolbwyntio ar roi ymdeimlad o allu i bobl wrth iddynt ymateb i'r argyfwng. Oherwydd os ydym yn grymuso pobl, os rhoddwn arfau iddynt fod yn weithgar yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, i gyfrannu at weithgareddau ar lefel leol, i alluogi cyfranogiad democrataidd mewn penderfyniadau amgylcheddol, ac ie, os gallwn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael addysg gynhwysfawr ar newid hinsawdd, gallwn liniaru'r risgiau rwy'n eu nodi.
Pam? Wel, dyma graidd fy nadl, y paradocs sy'n ganolog i'r ddadl hon: os na roddwn y camau hyn ar waith, gall pobl boeni cymaint nes eu bod yn llai tebygol o wneud rhywbeth yn ei gylch. Hynny yw, os meddyliwn am newid hinsawdd mewn ffyrdd sy'n llethol, byddwn yn caniatáu iddo ein llethu. Bydd pobl naill ai'n cael eu dadsensiteiddio i'r dinistr fel eu bod yn ei gau allan o'u meddyliau, neu byddant yn cael eu parlysu i'r fath raddau gan bryder nes eu bod yn credu na ellir gwneud dim i'w atal. Gall anobaith arwain at betruso, ac felly gallai teimlad o ddadrymuso arwain at wireddu ein hunllefau gwaethaf.
Nawr, nid yw pryder am yr hinsawdd neu eco-bryder yn ddiagnosis clinigol eto, ond mae'n derm cydnabyddedig sy'n cael ei ddefnyddio i siarad am emosiynau negyddol sy'n gysylltiedig â'r canfyddiad o newid hinsawdd. Gall hyn amlygu ei hun drwy byliau o banig, methu cysgu a meddwl obsesiynol. Gall waethygu anhwylderau gorbryder ac iselder eraill. Ond mae ymchwil yn brin ac mae ei hangen yn fawr yn y maes hwn, oherwydd mae'n effeithio'n fwyaf difrifol ar bobl ifanc—y genhedlaeth a fydd yn ysgwyddo baich yr argyfwng hwn. Ac i lawer, mae fel rhyw fath o alar.
Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn awr i fynd i'r afael â hyn? Hoffwn weld gweithredu mewn rhai meysydd. Yn gyntaf, hoffwn weld cyllid a chefnogaeth ar gyfer rhaglenni sy'n canolbwyntio ar weithredu uniongyrchol a chyfunol yn erbyn newid hinsawdd, oherwydd mae gweithredu'n rhagweithiol yn caniatáu i bobl ddod yn gyfryngau newid a lleihau'r dreth emosiynol a'r ymdeimlad o fod yn ddi-rym. Gall helpu pobl i gyflawni newidiadau pendant yn eu cymunedau eu hunain, o blannu coed i gasglu sbwriel, ac o lanhau afonydd i ddarparu asedau cymunedol fel mannau gwyrdd y gellir eu rheoli a'u defnyddio ar gyfer rhandiroedd a chynlluniau rhannu bwyd. Mae'r mathau hyn o brosiectau yn creu manteision i'r gymuned ac i'r amgylchedd. Ond mae astudiaethau hefyd yn dangos bod gweithredu ar y cyd ar newid hinsawdd yn lleihau teimladau o unigrwydd; mae'n caniatáu i bobl rannu'r baich, mae'n cyfeirio pobl tuag at ymdeimlad o gydsafiad, undod a gobaith.
Dylem gynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau am yr amgylchedd drwy gyllidebu cyfranogol a chynulliadau dinasyddion sy'n rhoi rhan i bobl ei chwarae a syniad o'r hyn sy'n cael ei wneud, ond hoffwn hefyd weld newidiadau yn y cwricwlwm. Yn y Senedd ddiwethaf, cyflwynodd fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd welliannau i Fil y cwricwlwm y bu'n gweithio arnynt gydag ymgyrch Dysgu'r Dyfodol. Roeddent yn ymgais i sicrhau bod addysg gadarn ar newid hinsawdd yn y cwricwlwm newydd, ac nid mewn gwyddoniaeth a mathemateg yn unig, ond yn y gwyddorau cymdeithasol, dinasyddiaeth, y celfyddydau perfformio, llenyddiaeth, ieithoedd, iechyd a lles.
Nawr, rwyf am barhau i bwyso am y newidiadau hyn, ac mae prosiectau cyffrous iawn eisoes ar y gweill i geisio mynd i'r afael â'r ail-fframio a grybwyllais—prosiectau fel Cynnal Cymru, sydd wedi ffurfio partneriaeth â'r Prosiect Llythrennedd Carbon, ac maent yn ceisio mynd i'r afael â heriau'r pwnc, sy'n ymddangos yn llethol. Mae eu hyfforddwr, Rhodri Thomas, wedi ysgrifennu am hyn fel methodoleg ddysgu sy'n caniatáu i bobl ymgysylltu â realiti enfawr, cymhleth a brawychus newid hinsawdd, a rhannu'r her yn ymatebion personol a sefydliadol y gellir eu rheoli. Mae'n dweud bod hyn yn dysgu ymwybyddiaeth o gostau ac effeithiau carbon deuocsid gweithgareddau bob dydd, ac yn hollbwysig, y gallu i leihau allyriadau fel unigolion, cymunedau a sefydliadau.
At hynny, gwn fod Comisiynydd Plant Cymru yn rhannu fy angerdd ynglŷn â'r maes hwn, a chyflwynodd ei maniffesto ym mis Mai syniadau ar gyfer cynnwys pobl ifanc ym mhroses y Llywodraeth ar gyfer gwneud penderfyniadau amgylcheddol drwy baneli dinasyddion a chynllun eco-ysgolion sy'n cael busnesau lleol i gydweithio â dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae ei swyddfa hefyd wedi cyhoeddi adnoddau ymgyrchu sy'n caniatáu i blant ysgol drefnu eu hymgyrchoedd eu hunain ar gyfer newid.
Ddirprwy Lywydd, mae angen cyffredinol inni rymuso plant a phobl ifanc, yn ogystal â'r boblogaeth yn gyffredinol i ddeall maint y broblem, ond i ddysgu amdani a'i chysyniadu mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud—i gysylltu siarad am effeithiau newid hinsawdd gyda'r camau pendant y gallant hwy ac eraill eu defnyddio i fynd i'r afael â newid hinsawdd a dirywiad byd natur. Os ydym o ddifrif ynghylch sicrhau adferiad gwyrdd yng Nghymru, rhaid inni ddechrau gweithredu ar y cyd ac yn gadarnhaol i sicrhau y gall pawb chwarae eu rhan, fod gan bawb gyfran yn yr hyn a wnawn sy'n ddiriaethol, ac yn lle pryder, fod yna allu i weithredu.
Weinidog, rwyf am ddefnyddio'r llwyfan sydd gennyf fel llefarydd fy mhlaid ar newid hinsawdd i bwyso am y newidiadau hyn, i ddod o hyd i ffyrdd o rymuso pobl ifanc a phobl o bob oed yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac i ddadlau dros fwy o gymorth i athrawon a myfyrwyr ar sut i gydnabod ac i ymdrin â phryder ynglŷn â'r hinsawdd, oherwydd yr her hon yw'r her fwyaf y byddwn yn ei hwynebu byth.
Ddirprwy Lywydd, dechreuais yr araith hon drwy sôn am yr anochel. Yr hyn sy'n hanfodol inni ei wneud yw sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn credu bod y sefyllfa'n anorchfygol. Gobeithio y gall y ddadl hon ddechrau sgyrsiau, y gallwn helpu'r weinyddiaeth newydd hon i ganolbwyntio ar gynnwys dinasyddion yn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â newid hinsawdd, oherwydd gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pobl eraill i'r ddadl hon. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Delyth, am godi'r pwnc hynod o bwysig yma.
Yn 2020, gwelais yn uniongyrchol effaith ddinistriol newid hinsawdd a llifogydd ar fy nghymuned fy hun ym Mhontypridd. Un rheswm yr ymgyrchais mor angerddol dros ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yw na cheir adroddiad statudol yn edrych ar yr effaith ar iechyd a llesiant. Hoffwn ddefnyddio'r amser sy'n weddill i rannu geiriau un o ddioddefwyr y llifogydd gyda chi, geiriau sy'n crynhoi pam y mae hwn yn fater y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef, a sicrhau mwy o gefnogaeth i gymunedau sydd mewn perygl:
'Rwy'n teimlo'n onest fod y profiad hwn wedi fy ngwthio at yr erchwyn. Mae wedi bod yn un o'r pethau gwaethaf i mi eu profi erioed ac mae'n dal i effeithio arnaf bob dydd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd...rwyf wedi crio wrth feddwl yn ôl am y cyfan. Cefais 6 wythnos i ffwrdd o'r gwaith oherwydd straen, ni allaf gysgu nac ymlacio pan fydd hi'n bwrw glaw yn drwm. Nid wyf yn gwybod a fyddaf byth yr un fath eto, rwyf wedi siarad â llawer o gymdogion sydd i gyd yn cytuno ei fod fel pe baem yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma. Mae straen meddyliol ac emosiynol yr holl sefyllfa wedi fy synnu'n fawr, rwyf bob amser wedi ystyried fy hun yn berson cryf iawn ond fe ddaeth hyn yn agos at fy nhorri.... Mae angen iddynt ein diogelu cyn iddynt gymryd mwy ohonom a mwy oddi wrthym nag y maent wedi'i wneud eisoes, ni allwn oroesi digwyddiad arall fel hwn.'
Rwy'n credu mai un peth pwysig i'w grybwyll pan soniwn am iechyd meddwl a'r argyfwng hinsawdd—ac wrth gwrs, rwy'n ddiolchgar iawn i Delyth am gyflwyno'r ddadl fer hon—yw diogelwch swyddi, wrth gwrs. Rhaid i fynd i'r afael â newid hinsawdd fod yn flaenoriaeth, ac i mi, dyna ble y daw'r syniad o bontio teg i mewn. Mae'n golygu symud ein heconomi i un fwy cynaliadwy mewn ffordd sy'n deg i bob gweithiwr, ni waeth ym mha ddiwydiant y maent yn gweithio. Mae bywoliaeth llawer o bobl a chymunedau ehangach wedi'u clymu wrth ddiwydiannau sy'n llygru fel dur, olew a ffatrïoedd yn fwy cyffredinol, a bydd yn rhaid i rai o'r diwydiannau hyn newid yn sylweddol—gyda rhai'n crebachu ac eraill o bosibl yn diflannu'n llwyr—gan newid bywydau gweithwyr a'u cymunedau yn y pen draw am genedlaethau i ddod. A gadewch inni gofio wrth gwrs ein bod wedi gweld effaith pontio annheg gyda chau'r pyllau glo gan Thatcher, er enghraifft, gweithredoedd rydym yn dal i ymrafael â'u heffeithiau hyd heddiw. Felly, un peth y credaf y bydd yn gwneud llawer yw sefydlu comisiwn pontio teg, yn debyg i'r Alban, i oruchwylio'r newidiadau y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud mewn perthynas â newid i sero net er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, ni waeth ym mha ddiwydiant y maent yn gweithio. Byddwn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn cytuno â mi ar hyn.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl—Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Delyth Jewell am dynnu sylw at fater mor bwysig mor gynnar yn nhymor y Senedd. Rwy'n amlwg wrth fy modd; dyma'r tro cyntaf i mi siarad yn y Senedd hon, ac yn sicr y tro cyntaf i mi siarad fel y Gweinidog Newid Hinsawdd newydd, a hoffwn ddiolch iddi am roi'r cyfle cynnar hwn inni gael trafodaeth gyntaf deilwng ar thema a fydd, rwy'n siŵr, yn un sy'n codi dro ar ôl tro drwy gydol y Senedd hon.
Cefais y fraint wirioneddol o siarad mewn uwchgynhadledd ieuenctid ar y cefnfor a hinsawdd ddoe. Roedd yn braf iawn gwrando ar y bobl ifanc yno. Gwnaethant adrodd am yr holl bethau y mae pobl wedi tynnu sylw atynt yn eu cyfraniadau heddiw: teimlad o anobaith bron, a difrifoldeb y dasg ac yn y blaen. Ond yr hyn a oedd yn wirioneddol braf yn y grŵp o bobl ifanc—roeddent i gyd rhwng 16 a 30 oed; roedd y rhan fwyaf ohonynt yn agosach at 16 oed, a rhai ychydig yn hŷn—oedd eu gwir ymdeimlad o obaith a gallu cyn belled â'u bod yn cael yr offer i wneud y gwaith a bod y Llywodraethau sy'n dal liferi pŵer yn gwrando arnynt. Roedd yn fraint wirioneddol siarad â hwy a deall y ddeuoliaeth, mae'n debyg, rhwng y ddau deimlad o, 'Mae'n llethol, mae'n rhy fawr i mi', ond hefyd, 'Gallaf wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn fy ffordd fach yn fy nghymuned ac mewn ffordd fwy yn fy ngwlad', ac yn y blaen. Felly, roedd hynny'n wych.
Y peth mwyaf roeddent yn ei ddweud wrthym oedd eu bod am i wneuthurwyr penderfyniadau wrando arnynt, ac felly rwy'n falch iawn o ddweud mai un o'r pethau cyntaf rydym yn ei wneud yma yng Nghymru yw gwrando, gyda phenderfyniad i weithredu. Felly, mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn fod yn rhaid inni ganolbwyntio yn awr ar adferiad o'r pandemig, ond hefyd adferiad o ddinistr newid hinsawdd, ac adeiladu Cymru fwy cryf, gwyrdd a theg—Cymru lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r weledigaeth honno ac yn enwedig wrth fynd i'r afael â'r sefyllfa gyda newid hinsawdd ac iechyd meddwl yng Nghymru.
Felly, mae iechyd meddwl, yn y Llywodraeth newydd, bellach yn cael ei hyrwyddo gan fy nghyd-Aelod a'm cyfaill Lynne Neagle, y gallaf ei gweld yn gwrando'n astud ar y ddadl. Mae ei chyfrifoldebau yn gyfannol hefyd, felly maent yn uno'r ddarpariaeth o wasanaethau ar draws materion iechyd meddwl, ochr yn ochr ag edrych ar ffactorau cyfrannol megis problemau gamblo, camddefnyddio sylweddau, profiadau cyn-filwyr y lluoedd arfog a digartrefedd ac yn y blaen. Ac mae'r dull cyfannol hwnnw'n dangos y pwyslais a roddwn ar les meddyliol pobl yng Nghymru. Eisoes mae Lynne a fi wedi cael cyfle i gydweithio ar rai o'r materion hynny ac fe fyddwch i gyd yn gwybod bod Lynne wedi hyrwyddo'r materion hynny yn y pumed Senedd, lle cadeiriodd y pwyllgor a fu'n edrych ar hyn. Felly, rwy'n falch iawn o'r cyfle i weithio gyda hi ar amrywiaeth o'r materion hyn hefyd. Rydym wedi buddsoddi £42 miliwn pellach mewn gwasanaethau iechyd meddwl eleni, gan ehangu'r gefnogaeth ar gyfer gorbryder ac iselder drwy fwy o gymorth ar-lein a dros y ffôn.
Felly, mae llawer o ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl yn fy mhortffolio newydd. Mae llawer o ffactorau hefyd a fydd yn ein galluogi i leddfu rhai o'r pryderon sydd gan bobl. Nid wyf am allu ymdrin â phob un ohonynt yn fy nghyfraniad heddiw, ond edrychaf ymlaen at eu harchwilio gyda phob un ohonoch yn fanylach wrth inni symud hyn yn ei flaen. Bydd llawer ohonoch y gallaf eu gweld yn cymryd rhan yn y ddadl yn gyfarwydd â'r sgyrsiau a gawsom yn y maes tai ynghylch digartrefedd, yr angen am gartref digonol, yr angen i adeiladu lle a chymuned er mwyn gwella llesiant pobl a'u hymdeimlad o gysylltedd gweithredol ledled Cymru. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth rydym eisiau ei wneud. Rydym hefyd, wrth gwrs, am alluogi pobl i gyfrannu at y broblem fwyaf rydym wedi'i hwynebu—hyd yn oed yn y pandemig dyma'r broblem fwyaf rydym wedi'i hwynebu—sef gwrthdroi dinistr yr hinsawdd ar ein planed a gwella ei bioamrywiaeth.
Felly, rwyf am sicrhau pawb yng Nghymru ein bod yn deall yr holl bethau hynny; rydym yn deall eu pryderon. Dyma yw ein pryderon ni, a dyna pam rwy'n gwneud y gwaith hwn mewn gwirionedd, a'r swyddi roeddwn yn eu gwneud cyn i mi gael y fraint o gael fy ethol. Felly, rydym yn awyddus iawn i gefnogi'r gweithgareddau niferus sy'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn enwedig gyfrannu at fynd i'r afael â newid hinsawdd a gofod i leisio'u barn. Rydym yn darparu grantiau ar gyfer rhaglenni addysg yr amgylchedd—Eco-Ysgolion, Maint Cymru, i roi ambell enghraifft—i barhau i weithio gyda phlant a phobl ifanc i annog trafodaeth a dilysu teimladau a phryderon sy'n gysylltiedig â'r pryderon amgylcheddol, yn ogystal â'r camau angenrheidiol y gallant eu rhoi ar waith i gymryd rhan a theimlo eu bod yn gwneud rhywbeth i gyfrannu at faint y broblem sy'n ein hwynebu. Gadewch inni fod yn glir: mae gennym dasg fawr o'n blaenau—tasg gyraeddadwy os ydym i gyd yn cyd-dynnu i'w chyflawni, ond tasg fawr. Felly, fel arwydd bach o faint y dasg, ar gyfer datgarboneiddio'n unig—heb sôn am fioamrywiaeth a'r holl broblemau eraill—rhaid inni wneud yn y 10 mlynedd nesaf yr hyn a wnaethom yn y 30 mlynedd diwethaf i gyrraedd ein targed nesaf. Felly, mae'n dasg fawr. Gallwn ei gwneud, ond mae'n dasg fawr. A rhaid inni fynd â phobl Cymru gyda ni wrth inni ei gwneud. Felly, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi a gwrando ar ofnau a phryderon pawb, ond hefyd eu cyfraniadau ar gyfer sut i'w wneud—sut y gallant wneud y newidiadau bach, newidiadau mawr yn eu bywydau a fydd yn gwella eu bywydau ac sy'n edrych, efallai, fel anfanteision i ddechrau, ond mewn gwirionedd byddant yn gwella eu bywydau yn y pen draw?
Felly, un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i dynnu sylw pobl ato yw'r newid ymddygiad a brofodd pob un ohonom yn ystod y pandemig. Roedd rhywfaint ohono'n ofnadwy a chafodd effeithiau ofnadwy ar bobl, ond yn bendant roedd pethau da hefyd. Mae'r ffordd yr aethom i'r afael â digartrefedd yng Nghymru yn ystod y pandemig yn destun balchder mawr i bawb yn y sector a phob un ohonom yma yn y Senedd a helpodd. Ond er enghraifft, gwelsom blant yn chwarae'n ôl ar ein strydoedd—wyddoch chi, aeth yr aer yn lanach, nid oedd pobl allan yn eu ceir, a chawsant ymdeimlad o gymuned a lle. Gwelsom hefyd rai o'r anghyfiawnderau cymdeithasol lle nad oedd gan bobl rai o'r amwynderau hynny, ac mae'n cynyddu ein penderfyniad i sicrhau eu bod yn eu cael.
Ond mae wedi'i ddangos i ni fod teithio llesol, y gallu i ddefnyddio ein strydoedd fel mwy na dim ond lle i roi eich car, yn gwella iechyd corfforol a meddyliol mewn gwirionedd. Mae cynyddu coetiroedd, bioamrywiaeth a mynediad at yr amgylchedd naturiol yn cael effaith fuddiol ar iechyd meddwl, ac os teimlwch eich bod yn gallu gwella eich amgylchedd naturiol, mae'n cael mwy fyth o effaith ar wella iechyd meddwl.
Un o'r pethau rwy'n mynd i'w sleifio i mewn fel profiad personol yma yw: bydd rhai ohonoch yn gwybod fy mod wedi cael canser y fron yn gynnar yn fy ngyrfa wleidyddol, a byddwn yn mynd i ganolfan Maggie yn Abertawe gryn dipyn; bu o gymorth mawr i mi. Yr hyn sydd ganddynt wrth gwrs yw gardd goetir y tu allan, a gallwch weithio yn yr ardd a'r coetir a'i wella, ac mae o ddifrif yn gwneud i chi deimlo'n well; nid oes dwywaith amdani. Gall wneud i chi deimlo'n well hyd yn oed pan fyddwch yn wynebu heriau personol mawr. Mae hefyd yn helpu dynion i siarad â'i gilydd pan fyddant yn garddio, rhywbeth a oedd yn fantais ychwanegol yn fy marn i; roedd y mudiad Siediau Dynion yn rhan o hynny. Felly, mae'r holl bethau hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Bydd gennym fanteision lluosog o'r pethau hynny. Mae'n gwella iechyd meddwl a llesiant pobl, ond hefyd, mae cael pobl allan o'u ceir ar gyfer teithiau byr, a theithio mewn ffordd sy'n gwella eu hiechyd, yn uchelgeisiol. Rydym i gyd wedi disgyn mewn cariad gyda'r car dros ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain, ond gwyddom i gyd ei fod yn creu manteision lluosog—aer glanach, ffyrdd llai prysur, gwell lles meddyliol, siopau lleol prysurach. Felly, bydd ein hagenda uchelgeisiol i sicrhau bod gennym 30 y cant o bobl yn gweithio o bell—ac nid yw hynny'n golygu gartref yn unig; mae'n golygu yn eu cymunedau lleol, mewn hybiau ac yn y blaen—yn helpu cyfres gyfan o agendâu.
Rydym wedi gweld prosiectau'n darparu modelau cynaliadwy ar gyfer iechyd a llesiant. Ceir grwpiau cerdded, er enghraifft ym menter Dewch i Gerdded gorllewin Cymru Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Gwn fod rhai ohonoch wedi bod yn gysylltiedig â hynny ac yn cymryd rhan yn y ddadl. Ceir gwaith gyda phractisau meddygon teulu a lleoliadau cymunedol eraill ledled Cymru, gan sicrhau bod gan y practis meddygol—rwy'n amharod i ddefnyddio'r term 'presgripsiynu cymdeithasol', ond mae'n ymwneud â chysylltu pobl â'u cymunedau lleol a mynediad at gefn gwlad fel rhan o'r fenter llesiant. Mae prosiect Agor Drysau i'r Awyr Agored y Bartneriaeth Awyr Agored, er enghraifft, yn dod â gweithwyr iechyd proffesiynol ac arbenigwyr gweithgareddau awyr agored at ei gilydd i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol, cysylltu clybiau cymunedol lleol â thimau iechyd meddwl, gan alluogi cleifion i fyw bywydau annibynnol yn hirdymor oherwydd eu cysylltiad cynyddol â'u cymuned a'r byd naturiol o'u cwmpas.
Rhaid inni gael adferiad gwirioneddol wyrdd a glas. Rhaid inni wella ein bioamrywiaeth, cynnal ein heconomi, gwella ein hamgylchedd a helpu ein hiechyd a'n llesiant. Soniodd Heledd yn bennaf, rwy'n credu, am y llifogydd. Rydym yn ymwybodol iawn o'r mathau hynny o broblemau hinsawdd sydd gennym i ddod. Rhaid inni wneud ein hunain yn fwy gwydn i wrthsefyll hynny. Rhaid inni wneud ein ffyrdd o fyw yn fwy gwydn. Rhaid inni sicrhau nad yw ein hinsawdd yn gwaethygu, a rhaid inni sicrhau bod gennym yr holl strategaethau ar waith i sicrhau bod pobl yn ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi eu hunain ac yn gallu manteisio ar hynny. Nid wyf yn credu y byddai'n beth da i mi esgus, wrth siarad â chi yn awr, ein bod yn annhebygol o gael llifogydd dramatig dros y gaeaf nesaf yma yng Nghymru. Yn anffodus, rwy'n credu ei bod hi'n debygol iawn y byddwn yn eu cael. Rydym wedi dod allan o'r 14 mis diwethaf gyda'r mis Chwefror gwlypaf y llynedd, a'r mis Mai poethaf; eleni, y mis Chwefror oeraf a'r mis Mai gwlypaf. Mae'r hinsawdd wedi cael effaith ddofn ar y ffordd rydym ni'n byw ein bywydau dros y 14 mis diwethaf, heb sôn am weddill y byd.
Yn ystod yr uwchgynhadledd ieuenctid ar yr hinsawdd ddoe, galwodd un o'r cyfranwyr y gwledydd bach sy'n ynysoedd yr effeithir arnynt fwyaf gan newid hinsawdd yn fyd-eang—nid ydynt yn hoffi cael eu galw'n hynny, mae'n debyg, dywedwyd wrthym neithiwr; maent yn hoffi cael eu galw'n 'wledydd y cefnfor mawr' nid 'gwledydd bach sy'n ynysoedd'. Roeddwn yn meddwl bod honno'n ffordd hyfryd o feddwl amdano, oherwydd mae'n gwneud ichi sylweddoli pa mor eithriadol o bwysig yw'r cefnfor i gymunedau ym mhob rhan o'r byd, ac nid yw Cymru yn eithriad wrth gwrs. Felly, mae edrych eto ar ein parthau cadwraeth morol, y ffordd rydym yn helpu ein pysgodfeydd bach cynaliadwy, ein pysgodfeydd ar y glannau ac yn y blaen, yn ffordd wych o annog pobl i gymryd rhan yn y gwaith o wella ein bioamrywiaeth a'n nodau datgarboneiddio.
Rwy'n credu fy mod wedi rhuthro braidd drwy'r holl faterion sy'n codi. Yn fyr, rydym eisiau diogelu ein hamgylchedd, adeiladu economi werdd, darparu cartrefi cynaliadwy, a chreu'r cymunedau creu lleoedd llesiant cenedlaethau'r dyfodol sy'n gwella ein hiechyd meddwl a'n llesiant, ond hefyd ein cydlyniant cymunedol—ein hymdeimlad ohonom ein hunain a'n gwlad a'n cenedl. Ac yn bendant, gallwn wneud hynny.
Wrth sefydlu'r portffolio newydd hwn, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn imi roi'r amgylchedd, colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd wrth wraidd popeth a wnawn fel Llywodraeth—nid fy mhortffolio fy hun yn unig. Drwy ddod â chyfrifoldebau tai, trafnidiaeth, cynllunio, ynni a'r amgylchedd at ei gilydd, gallwn fynd i'r afael â pheryglon newid hinsawdd a gwella ein hasedau naturiol i'r eithaf, gallwn adeiladu'r dyfodol gwyrdd a chynaliadwy y mae pawb ohonom yn gobeithio ei weld ar gyfer Cymru. Ond ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain fel Llywodraeth; rhaid inni fynd â phobl Cymru gyda ni, rhaid inni fynd â phob un ohonoch chi gyda ni, rhaid inni fynd â chymaint o bobl â phosibl gyda ni, a bod o ddifrif ynglŷn â'n busnesau, ein corfforaethau a'n cyfrifoldeb byd-eang.
Rwy'n mynd i fynd yn ôl a neilltuo dwy funud olaf fy nghyfraniad i ddweud y byddwch i gyd yn gwybod hefyd fy mod wedi sôn ers tro am wella, diogelu a chreu coetiroedd fel un o fy ymgyrchoedd mawr—creu cartrefi cynaliadwy o bren Cymru, gan sicrhau bod y cadwyni cyflenwi'n gynaliadwy, y gall ein ffermwyr a'n diwydiannau amaethyddol gyfrannu atynt, ac wrth wneud hynny, gwella bioamrywiaeth a harddwch naturiol Cymru. Felly, bydd gennym raglen y goedwig genedlaethol i greu'r rhwydwaith o goetiroedd ar hyd y wlad o un pen i'r llall, ond byddwn hefyd yn creu diwydiant pren cynaliadwy i gyd-fynd â hynny.
Mae fy nghyd-Aelod Lee Waters yn gwrando ar y ddadl hon hefyd. Fe fydd yn arwain y ffordd i edrych ar unwaith ar yr hyn y mae angen inni ei wneud i ddileu'r rhwystrau i allu gwireddu rhai o'r uchelgeisiau hynny, a dod â'r hyn y byddwn am ofyn i bob un ohonoch gymryd rhan ynddo yn ôl i lawr y Senedd er mwyn gwireddu'r pethau hynny. Bydd rhai ohonoch yn gwybod am rai o'r rhwystrau ar lawr gwlad eisoes. Felly, byddwn yn ceisio gweithio ar draws y pleidiau, gyda phob un ohonoch, i sicrhau ein bod yn gallu dileu'r rhwystrau hynny ac adeiladu'r coetiroedd rydym eu heisiau yng Nghymru, a gwn eich bod chi i gyd eu heisiau hefyd.
Byddwn yn gallu diogelu ein rhwydwaith o ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, safleoedd natur gwarchodedig, ardaloedd cadwraeth arbennig afonol, a'r holl fathau hynny o bethau. Ond rwyf am fynd ymhellach na hynny. Rydym am roi rhaglenni adfer ar waith. Rydym am adfer ein dyffrynnoedd afon. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod prosiectau fel prosiect Pumlumon, i fyny uwchben Machynlleth, y bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â hwy, rwy'n siŵr—adfer y migwyn ar ben uchaf Afon Hafren i'n helpu i atal y llifogydd ofnadwy a welsom yn ein hafonydd, fel ein bod yn adfer dalgylchoedd afonydd yn dda yr holl ffordd drwy Gymru.
Mae llawer iawn i'w wneud i wella ein hamgylchedd, diogelu ein rhywogaethau sydd mewn perygl, a darparu mannau ar gyfer cyfoethogi emosiynol wrth inni wneud hynny. Nid oes dim yn well i'ch iechyd meddwl na gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn bersonol ac yn eich cymuned i'r amgylchedd sydd gennych, a'ch bod wedi gallu cymryd rhan a chyfranogi yn y ffordd honno. Felly, gallaf eich sicrhau, Delyth, ein bod yn ddiolchgar iawn i chi am ddwyn hyn i'n sylw, wedi rhoi cyfle inni ei drafod, a dechrau'r sgwrs, am mai dyna'r cyfan y gallwn ei wneud heno. Gobeithio y gallwch weld ein bod yn ymrwymedig i hyn eisoes, y bydd Lynne a minnau yn arbennig yn edrych ymlaen at weithio gyda chi, ac ar draws y pleidiau, i sicrhau bod yr agendâu hyn yn gweithio i bob un ohonom. Rydym yn genedl fach, mae gennym ymrwymiad hirsefydlog a balch i arwain yn y maes hwn, gartref ac ar lwyfan rhyngwladol. Felly, rydym yn falch iawn o ddatblygu hynny.
Un peth olaf yr hoffwn ei grybwyll yw ein prosiect coed Uganda. Un o'r pethau rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ei wneud yw plannu mwy nag 1 filiwn o goed allan yn Uganda. Mae wedi bod yn brosiect arbennig o lwyddiannus. Un o'r ffyrdd y gwnaethom hynny'n syml iawn oedd gofyn i bawb blannu coeden, ac yna gwnaethom yn siŵr y gallent gael gafael ar y coed brodorol cywir i wneud hynny. Felly, syniadau diddorol fel hynny, sydd wedi gweithio mewn mannau eraill—a fyddent yn gweithio i ni? Y mathau hynny o bethau—dyna rydym am edrych arno, camau bach iawn: yr hyn y mae angen inni ei wneud i wella ein meithrinfeydd coed; yr hyn y mae angen inni ei wneud i wneud ein swyddi'n gynaliadwy o ganlyniad i hynny; yr hyn y mae angen inni ei wneud i sicrhau bod Cymru fel rydym eisiau iddi fod.
Rwy'n falch iawn o allu dechrau'r sgwrs honno o leiaf, Delyth, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ei chyflwyno mor gynnar yn y chweched Senedd. Diolch yn fawr.
Diolch, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn.