1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 16 Mehefin 2021.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer datblygiadau tai yng Nghymru? OQ56606
Mater i awdurdodau cynllunio lleol fel rhan o'u cynllun datblygu lleol yw pennu faint o dai newydd sy’n cael eu hadeiladu ac ymhle, gan adlewyrchu'r materion y maent wedi'u nodi yn unol â gofynion y polisi cynllunio cenedlaethol a 'Cymru’r Dyfodol'.
Diolch. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb a'i llongyfarch ar ei phenodiad? Gan fod tai a chynllunio wedi symud i mewn i'r portffolio newid hinsawdd, rwy’n cymryd felly y bydd hyn yn arwain at ddiogelu mannau gwyrdd a'n hamgylchedd naturiol yn well mewn polisi cynllunio. Ond wrth i gynghorau weithio drwy eu cynlluniau datblygu lleol ledled Cymru, nodaf fod llawer o gynigion—. Ceir llawer o gynigion ar gyfer gwaith adeiladu sylweddol mewn mannau gwyrdd, er bod rhai ohonynt yn cael eu defnyddio a'u trysori yn ein cymunedau. Ond nodaf hefyd fod gan Lywodraeth Cymru dargedau tai newydd rydych yn gobeithio eu cyflawni. Felly, a gaf fi ofyn am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'r trothwy ar gyfer ymyrryd yn y meysydd hyn? Felly, lle mae'r ddau amcan yn gwrthdaro, a fyddwch yn blaenoriaethu prosiectau adeiladu tai ar draul ein mannau gwyrdd neu’n defnyddio'r pwerau sydd gennych i atal prosiectau o'r fath a gwarchod ein hamgylchedd naturiol?
Rwy'n ymrwymedig iawn i ddull datblygu wedi'i arwain gan gynllun ledled Cymru. Mae cynnal CDLl cyfredol yn hanfodol er mwyn cael sicrwydd wrth wneud penderfyniadau a darparu cartrefi, swyddi a seilwaith ar gyfer cymunedau lleol. Mae cynllun mabwysiedig yr ymgynghorwyd arno’n drylwyr yn golygu y gall awdurdodau cynllunio a chymunedau lleol lywio a dylanwadu’n gadarnhaol ar y dyfodol, a dyna union bwynt y cynllun, i ateb y cwestiwn a ofynnodd Tom Giffard i mi. Ac a gaf fi ei groesawu i'r Senedd hefyd? Nid wyf wedi siarad â chi'n uniongyrchol eto, Tom, ond llongyfarchiadau ar gael eich ethol hefyd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, wedi penderfynu cynnal CDLl cyfredol ar gyfer eu hardal, ac aethant ati i adolygu'r CDLl mabwysiedig ym mis Mehefin 2018. Rydym yn annog cynghorau ledled Cymru i sicrhau bod eu CDLl yn gyfredol fel y gallant ystyried 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd a 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' a basiwyd gan y Senedd hon yn y Senedd ddiwethaf yn gynnar eleni. Bydd y rheini’n rhoi’r offer cywir i gynghorau allu llunio eu cynllun datblygu lleol yn y fath fodd fel eu bod yn gwarchod y lleoedd y mae eu cymunedau lleol yn dymuno eu diogelu a hefyd yn cyflwyno’r mathau cywir o dir gyda’r mathau cywir o ddatblygiadau i sicrhau bod gennym dai cynaliadwy, a phrosiectau seilwaith eraill yn wir, yn y dyfodol. Mae proses y CDLlau, wrth gwrs, yn dryloyw ac mae'n cynnwys cryn dipyn o ymgysylltiad cyhoeddus â chymunedau lleol, datblygwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys ein cynghorau cymuned, i sicrhau bod yr holl ddyheadau a phryderon yn cael eu hystyried pan gaiff y cynllun ei gyflwyno.
Llongyfarchiadau i chi, Weinidog, ar eich apwyntiad, ac i'r is-Weinidog—Dirprwy Weinidog, dylwn i ddweud—ar yr apwyntiad hefyd.
Un o'r pethau roedd yn rhaid i awdurdodau lleol eu cynnwys fel ystyriaeth graidd wrth ddatblygu'r cynlluniau datblygu lleol oedd rhagamcanion twf poblogaeth y Llywodraeth. Mae pob un o'r cynlluniau datblygu, felly, yn seiliedig ar y data yma, gan adlewyrchu y rhagamcanion hynny. Ers hynny, mae wedi dod yn amlwg fod y rhagamcanion yma yn gwbl anghywir; mewn rhai achosion, mae poblogaethau wedi disgyn yn hytrach na chynyddu. Golyga hyn, felly, fod y cynlluniau datblygu yn fethedig oherwydd eu bod nhw'n seiliedig ar ddata anghywir. Er hynny, mae'r cynlluniau datblygu, er yn seiliedig ar wybodaeth anghywir, yn parhau i fod yn ddogfennau statudol ac mewn grym. Onid yw hi'n bryd derbyn bod y cynlluniau datblygu yma, felly, yn anghywir, ac ailddechrau'r broses yn llwyr? Diolch.
Diolch am eich cyfarchion, a chroeso i chithau hefyd i'r Senedd ac i'ch rôl newydd. Felly, rydym yn annog—. Fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn cyntaf, rydym yn annog awdurdodau lleol ledled Cymru i gynnal adolygiad o'u CDLl, yn dibynnu ar ei oedran a'i gwmpas. Mae llawer ohonynt eisoes wedi dechrau'r broses honno. Bellach, mae gennym broses ar waith hefyd sy'n caniatáu iddynt ddod at ei gilydd mewn cyd-bwyllgorau corfforaethol i lunio cynllun datblygu strategol ar gyfer y rhanbarth. Rydym eisoes wedi rhoi ‘Cymru’r Dyfodol' ar waith, felly bydd gennym system a arweinir yn gyfan gwbl gan gynlluniau, a fydd yn gweithio’n dda pan fydd yr elfennau hynny'n weithredol.
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddeall argaeledd tai yn yr ardal drwy'r hyn a elwir yn asesiad o'r farchnad dai leol, a maddeuwch i mi os ydych yn gwybod hyn yn barod, ond dyna maent i fod i'w wneud. Maent yn rhan allweddol o'r cynllun datblygu lleol ei hun. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda chyfres o arbenigwyr awdurdod lleol ar ddatblygu a gwella'r asesiadau rheoli tai lleol, gan gynnwys cyhoeddi offeryn newydd i gynorthwyo awdurdodau lleol i gynhyrchu'r asesiadau. Byddwn yn rhoi canllawiau, hyfforddiant a chymorth parhaus i'r awdurdodau lleol allu gwneud hynny. Yr awdurdodau lleol, wrth gwrs, sydd yn y sefyllfa orau i ddeall eu marchnad dai leol yn dda, a sicrhau bod ganddynt asesiad cadarn o'r farchnad dai leol ar waith i lywio'r penderfyniadau. Felly, mae'n debyg fy mod yn cytuno â chi i raddau. Rydym yn annog awdurdodau lleol i sicrhau bod eu CDLl yn gyfredol. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda hwy ar offeryn newydd i asesu rheolaeth dai leol. Rydym yn disgwyl i'r awdurdodau lleol ail-wneud eu hasesiadau tai yn seiliedig ar y tir yng ngoleuni'r offeryn newydd hwnnw, ac yna, pan fydd y cynlluniau datblygu strategol yn cael eu rhoi ar waith yn rhanbarthol, rydym yn disgwyl i'r cynlluniau adlewyrchu hynny ar lawr gwlad. Felly, byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda’r awdurdodau lleol er mwyn gwneud hynny.
Mae rhywfaint o gamddealltwriaeth ynghylch y targedau yn y rhagfynegiadau blaenorol: nid oeddent erioed yn dargedau; rhagfynegiadau oeddent o'r cychwyn. Dyna pam ein bod yn gweithio ar yr offeryn, ac edrychaf ymlaen at berthynas dda â’r awdurdodau lleol ledled Cymru wrth ddod at ein gilydd ar agenda y mae pob un ohonom yn cytuno arni, sef sicrhau bod gennym y tai iawn yn y lle iawn ar gyfer y cymunedau iawn.
Yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rwy'n falch iawn ein bod wedi gweld awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddiogelu datblygiadau tai a busnesau ym Mhorthcawl rhag effaith newid hinsawdd. Fel rhan o'r rhaglen rheoli risgiau arfordirol, mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi buddsoddi £6.4 miliwn ar y cyd mewn amddiffynfeydd môr a fydd yn diogelu mwy na 500 o gartrefi a dros 170 o fusnesau ar unwaith rhag perygl llifogydd. Wrth edrych tua’r dyfodol, a all y Gweinidog ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau tai ac adfywio ym Mhorthcawl yn y dyfodol yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn cyflawni ein nodau ar gyfer tai carbon isel?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Sarah. Mae'n hyfryd eich gweld yn y cnawd yma yn y Senedd. Ie, cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, fel y dywedais, oedd un o’r rhai cyntaf i adolygu proses y CDLl, ac mae datblygu cynaliadwy yn ganolog iawn i broses y cynllun datblygu hwnnw. Mae’n rhaid i'r holl gynlluniau datblygu gydymffurfio â gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac mae’n rhaid iddynt gyfrannu at gyflawni'r nodau llesiant diwylliannol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Felly, mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi materion sy'n ymwneud â newid hinsawdd. Mae'n nodi egwyddorion datblygu cynaliadwy, ansawdd aer, cynhyrchu cymaint â phosibl o ynni adnewyddadwy a faint o gartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu ac ymhle, ac yna caiff y CDLlau eu profi yn erbyn y polisïau hynny drwy broses archwilio gyhoeddus. Felly, fel y dywedais wrth ateb cwestiwn arall, mae'r asesiadau o'r farchnad dai leol yn chwarae rhan yn hynny hefyd.
Ar yr un pryd, rydym hefyd yn cyflwyno adolygiad o'n rheoliadau adeiladu. Mae’r rheoliadau adeiladu newydd—cyhoeddwyd yr ymateb i’n cynllun effeithlonrwydd ynni ym mis Mawrth y llynedd—yn nodi penderfyniad i gyflwyno gostyngiad o 37 y cant mewn allyriadau carbon ar gyfer anheddau newydd ar draws pob sector, nid tai cymdeithasol yn unig, o gymharu â’r safonau cyfredol. Bydd y safonau newydd mewn grym o 2022, felly y flwyddyn nesaf, a chredwn y byddant yn arbed oddeutu £180 y flwyddyn ar gyfartaledd ar filiau ynni i berchnogion tai. Felly, maent yn gweithio tuag at dlodi tanwydd yn ogystal â gwarchod y blaned. Bydd angen i bob cartref newydd gael ei ddiogelu at y dyfodol gyda rheiddiaduron tymheredd isel a gwell safonau ffabrig i'w gwneud yn haws i ôl-osod systemau gwresogi carbon isel yn y dyfodol wrth iddynt ddod yn fwy cyffredin ac yn haws i’w gweithredu. Mae'r gostyngiad o 37 y cant, serch hynny, yn gam tuag at y newid nesaf mewn effeithlonrwydd ynni mewn rheoliadau adeiladu yn 2025, i gyfateb i'n targedau carbon, lle bydd angen i gartrefi newydd gynhyrchu o leiaf 75 y cant yn llai o allyriadau carbon deuocsid na'r rhai a adeiladwyd yn unol â’r gofynion cyfredol.
Felly, gallwch weld ein bod yn gwneud cynnydd cynyddrannol tuag at adeiladu'r cartrefi iawn yn y lle iawn, felly mae proses y CDLlau yn adlewyrchu hynny, a'u hadeiladu hefyd yn unol â’r safonau y mae cenedlaethau'r dyfodol yn eu haeddu ac yn eu disgwyl, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi mabwysiadu'r ddwy broses honno’n gynnar.
Cwestiwn 2—Altaf Hussain.