1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Mehefin 2021.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru yn ne-ddwyrain Cymru? OQ56667
Diolchaf i'r Aelod, Llywydd, am y cwestiwn yna. Mae cyfyngiadau yn y de-ddwyrain yn parhau i adlewyrchu cyflwr yr her iechyd cyhoeddus yn sgil y coronafeirws. Yr amrywiolyn delta yw'r ffurf amlycaf bellach ar draws y de-ddwyrain. Tasg yr wythnosau i ddod fydd blaenoriaethu rhyddid y misoedd diwethaf yr ydym ni wedi gweithio'n galed i'w gyflawni.
Rwyf i wedi cael cwestiwn trwy Facebook gan Rhian Jay, sy'n codi'r mater ynghylch ap brechu'r GIG, a'r hyn y mae'n ei ddweud yw:
'A oes unrhyw syniad o bryd y bydd ap brechu GIG Cymru yn cael ei lansio os gwelwch yn dda? Rwy'n mynd i ddigwyddiad lle mae angen prawf arna i fy mod i wedi cael y ddau frechiad. Ar ôl codi hyn gyda'r bwrdd iechyd, fe wnaethon nhw ddweud y gallwch chi wneud cais am dystysgrif yn ysgrifenedig neu dros y ffôn, ac fe allwch gael tystysgrif, ond yn Lloegr gallwch chi gael y brechiad drwy'r ap.'
Dywed Rhian ei bod hi wedi ffonio fore heddiw yn gofyn am dystysgrif, ond ei barn hi yw ei bod yn broses hynaflyd ac araf o'i chymharu â'r broses yn Lloegr, a'i chwestiwn hi yw pryd byddwn ni'n gweld yr ap yng Nghymru. Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw ryw pedair wythnos y tu ôl i Loegr cyn ei lansio, ond mae hynny tua nawr. Felly, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny os gwelwch yn dda?
Diolch, Llywydd. Wel, mae'n wir, am resymau technegol sy'n ymwneud yn bennaf ag ad-drefnu'r ateb yn Lloegr i fodloni gofynion Cymru, nad oedd yn bosibl lansio'r ap yng Nghymru ar yr un pryd ag y cafodd ei lansio yn GIG Lloegr. Nid wyf i'n cytuno bod yr ateb sydd wedi bod ar waith yng Nghymru yn ystod y pedair wythnos diwethaf yn hynaflyd. Mae dros 10,000 o bobl wedi cael tystysgrifau drwy'r ffordd honno o wneud pethau, ac o ganlyniad i waith caled iawn y tîm ym mwrdd iechyd bae Abertawe y mae hynny wedi bod yn bosibl. Pan fydd system Lloegr yn llwyddo i wneud ei gwaith, ac i sicrhau y gall pobl Cymru ei defnyddio, mae arnaf i ofn, Llywydd, na fydd ar gael yn Gymraeg. Er gwaethaf ceisiadau mynych i Lywodraeth y DU barchu'r gyfraith yma yng Nghymru, maen nhw'n dweud wrthym na fyddan nhw'n gallu gwneud hynny am sawl mis arall, ond, o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf, rydym ni yn rhagweld y bydd yn bosibl i ddinasyddion Cymru ddefnyddio'r un ateb, er nad yw hynny drwy'r ap ond drwy borth gwefan. Bydd y daith wedi hynny yn union yr un fath â'r ap a bydd pobl Cymru yn gallu ei defnyddio mewn amser real yn y ffordd y mae system Lloegr wedi bod ar gael yn Lloegr ers 17 Mai.
Prif Weinidog, mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru yn datgelu'r gwrthgyferbyniad llwyr rhwng nifer yr achosion mewn gwahanol rannau o'r wlad. Mae'r ffigurau'n amrywio o 91.3 o achosion ym mhob 100,000 o bobl yng Nghonwy, 77.3 yn sir Ddinbych a 73.7 yn sir y Fflint i ddim ond 6.6 ym Merthyr Tudful a 7.2 ym Mlaenau Gwent. O ystyried y gwahaniaethau rhanbarthol hyn, a wnewch chi, Prif Weinidog, egluro ymagwedd eich Llywodraeth tuag at gyfyngiadau symud lleol, ac ai eich polisi o hyd yw codi cyfyngiadau ar sail Cymru gyfan?
Ie, Llywydd. Polisi Llywodraeth Cymru o hyd yw mai atebion i Gymru sy'n berthnasol i bob rhan o Gymru yw'r ffordd orau o ymdrin â chyflwr presennol y feirws. Mae'r Aelod yn gywir, fodd bynnag, i dynnu sylw at y gwahaniaethau rhanbarthol hynny. Mae'n amlwg iawn erbyn hyn fod y gogledd wedi bod yn arbennig o agored i ledaeniad mawr iawn y feirws yng ngogledd-orllewin Lloegr. Serch hynny, er ein bod yn parhau i ddysgu mwy am y ffordd y mae'r amrywiolyn delta yn debygol o ledaenu a'i effaith ar dderbyniadau i'r ysbyty, nid ydym yn gweld yr angen i gael lefel wahanol o gyfyngiadau ar hyn o bryd mewn unrhyw ran o Gymru.
Prif Weinidog, mae'r Groes Goch Brydeinig wedi canfod mai unigrwydd yw un o effeithiau mwyaf arwyddocaol y cyfyngiadau COVID-19. Mae'n destun pryder bod eu hymchwil hefyd wedi canfod na fyddai 37 y cant o bobl yng Nghymru yn ffyddiog o ran gwybod ble i fynd i gael cymorth iechyd meddwl ac emosiynol. A gaf i ofyn beth fydd eich Llywodraeth chi yn ei wneud i fynd i'r afael â hyn, i sicrhau bod gan fyrddau iechyd y gallu a'r sgiliau a'r adnoddau i ddiwallu anghenion iechyd meddwl ac unigrwydd eu poblogaethau, a bod pawb yn gallu cael gafael ar gyngor a gwybodaeth? Ac yn olaf, a gaf i ofyn a wnewch chi ymrwymo i gynyddu'r broses o gyflwyno gweithwyr cyswllt rhagnodi cymdeithasol? Gallan nhw ddarparu cymorth wedi ei deilwra i bobl sy'n dioddef unigrwydd cronig, i'w helpu i ail-fagu eu hyder a'u hannibyniaeth. Wrth i ni ailagor y gymdeithas, bydd angen gwirioneddol am ein cymorth ar y bobl hyn.
Llywydd, mae Delyth Jewell yn iawn wrth ddweud yr adroddir am unigrwydd yn rheolaidd gan boblogaethau ledled y Deyrnas Unedig a bod hynny yn un o effeithiau coronafeirws, nid yn unig yn arolwg y Groes Goch ond yn yr arolygon pythefnos yr ydym ni'n cymryd rhan ynddyn nhw fel Llywodraeth Cymru. Ac nid yw hynny'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn unig, er mor bwysig yw hynny; gall fod yn ddim ond y ffaith bod pobl yn teimlo bod y rhyngweithio cymdeithasol arferol hynny y bydden nhw'n gallu dibynnu arno ar unrhyw adeg arall wedi bod yn llawer anoddach iddyn nhw. Byrddau iechyd yw un o'r ffyrdd y gallwn ni ymateb i hynny, ond rydym ni wedi dibynnu yn fawr iawn ar y trydydd sector i ddarparu'r lefelau sylfaenol hynny o gysylltiad â phobl, cyfleoedd i bobl gael sgyrsiau â bod dynol arall, i gysylltu pobl weithiau gydag ymdrechion gwirfoddol ehangach mewn ardaloedd lle gall pobl sydd wedi canfod bod y profiad hwn yn un mor anodd ar y lefel gymdeithasol honno ac y gellir dod o hyd i ffyrdd newydd a gwahanol o gael y lefel honno o gyswllt dynol o hyd. Ac mae rhagnodi cymdeithasol, fel y dywed yr Aelod, yn sicr yn rhan bwysig o'r ffordd y gellir darparu gwasanaethau gofal sylfaenol yn y dyfodol i bobl â'r mathau hynny o anghenion iechyd meddwl a lles lefel isel, fel y'u gelwir weithiau, yn y gymuned, drwy hwyluso mynediad at yr ystod ehangach honno o bosibiliadau sy'n bodoli eisoes yn y gymuned, ond lle gall eu cyflwyno drwy bresgripsiwn cymdeithasol weithiau chwalu'r rhwystrau y gall pobl eu teimlo rhwng eu hanghenion eu hunain a'r ffyrdd y gellid diwallu'r anghenion hynny yn y gymuned. A bydd mwy o bwyslais ar ragnodi cymdeithasol yn sicr yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i effaith y coronafeirws yn y misoedd nesaf.